Mae’r Offeryn Statudol hwn wedi ei gyhoeddi yn lle’r OS o’r un rhif nad oedd yn adlewyrchu’r fersiwn a lofnodwyd gan un o Weinidogion Cymru oherwydd camgymeriadau wrth rifo paragraffau yn rheoliadau 5 a 6. Mae hefyd yn cywiro’r ffaith fod yr ail bennawd pwnc ar dudalennau 1 a 2 wedi ei hepgor, ac yn mewnosod y cyfieithiadau Cymraeg a hepgorwyd o’r diffiniadau yn rheoliadau 5(2)(b) a 6(4) o’r testun Saesneg. Mae hefyd yn cynnwys troednodiadau ychwanegol yn rheoliad 5. Caiff ei ddyroddi’n rhad ac am ddim felly i bawb y gwyddys eu bod wedi cael yr Offeryn Statudol hwnnw.
2019 Rhif 456 (Cy. 109)
Ymadael Â’r Undeb Ewropeaidd, Cymru
Cynllunio Gwlad A Thref, Cymru
Rheoliadau Cynllunio Gwlad a Thref (Diwygiadau Amrywiol) (Cymru) (Ymadael â’r UE) 2019Gofynion sifftio wedi eu bodloni18 Chwefror 2019
Gwnaed 4 Mawrth 2019
Gosodwyd gerbron Cynulliad Cenedlaethol Cymru 6 Mawrth 2019
Yn dod i rym yn unol â rheoliad 1

Mae Gweinidogion Cymru yn gwneud y Rheoliadau hyn drwy arfer y pwerau a roddir gan baragraff 1(1) o Atodlen 2 a pharagraff 21 o Atodlen 7 i, Ddeddf yr Undeb Ewropeaidd (Ymadael) 2018.

Mae gofynion paragraff 4(2) o Atodlen 7 i’r Ddeddf honno (mewn perthynas â gweithdrefn graffu briodol Cynulliad Cenedlaethol Cymru ar gyfer y Rheoliadau hyn) wedi eu bodloni.
Enwi a chychwyn
1 
Enw’r Rheoliadau hyn yw Rheoliadau Cynllunio Gwlad a Thref (Diwygiadau Amrywiol) (Cymru) (Ymadael â’r UE) 2019 a deuant i rym ar y diwrnod ymadael.
Rheoliadau Cynllunio Gwlad a Thref (Rheoli Hysbysebion) 1992
2 
Yn rheoliad 2(1) o Reoliadau Cynllunio Gwlad a Thref (Rheoli Hysbysebion) 1992—
(a) hepgorer y diffiniad o “EEA State”;
(b) yn y diffiniad o “statutory undertaker”—
(i) yn lle’r geiriau “European licence” rhodder “railway undertaking licence”;
(ii) hepgorer y geiriau o “or pursuant” hyd at “a single European railway area (recast)”.
Rheoliadau Cynllunio Gwlad a Thref (Cynlluniau Datblygu Lleol) (Cymru) 2005
3 
Yn rheoliad 13(1) o Reoliadau Cynllunio Gwlad a Thref (Cynlluniau Datblygu Lleol) (Cymru) 2005—
(a) yn is-baragraff (c) hepgorer “drwy fynd ar drywydd yr amcanion hynny drwy’r rheolaethau a ddisgrifir yn Erthygl 13 o Gyfarwyddeb 2012/18/EU”;
(b) yn lle is-baragraff (iii) o baragraff (ch) rhodder—“
(iii) yn achos sefydliadau sy’n bodoli eisoes, i hwyluso ac annog gweithredwyr i gymryd pob mesur angenrheidiol i atal damweiniau mawr ac i gyfyngu ar eu canlyniadau ar gyfer iechyd dynol a’r amgylchedd.”
Gorchymyn Cynllunio Gwlad a Thref (Gweithdrefn Rheoli Datblygu) (Cymru) 2012
4 
Yn Atodlen 4 o Orchymyn Cynllunio Gwlad a Thref (Gweithdrefn Rheoli Datblygu) (Cymru) 2012—
(a) yn y tabl, ym mharagraff (w), yn y golofn sy’n dwyn y pennawd “Disgrifiad o’r Datblygiad” yn is-baragraff (ii) yn lle’r geiriau o “sydd o fewn cwmpas” hyd at “2012/18/EU” rhodder “a fyddai’n ei gwneud yn ofynnol hysbysu amdano o dan reoliad 6(6) o Reoliadau Rheoli Peryglon Damweiniau Mawr 2015”;
(b) o dan y pennawd Dehongli’r Tabl, yn lle paragraff (m)(i) rhodder—“
(i) mae i’r ymadroddion “damwain fawr” a “sefydliad” fel y maent yn ymddangos yn y paragraff hwnnw yr un ystyron yn eu trefn â “major accident” ac “establishment” yn rheoliad 2 o Reoliadau Rheoli Peryglon Damweiniau Mawr 2015.”
Rheoliadau Cynllunio (Sylweddau Peryglus) (Cymru) 2015
5 

(1) Mae Rheoliadau Cynllunio (Sylweddau Peryglus) (Cymru) 2015 wedi eu diwygio fel a ganlyn.
(2) Yn rheoliad 2(1)—
(a) yn y diffiniad o “y Gyfarwyddeb” ar ôl “sylweddau peryglus” mewnosoder “fel y cafodd effaith yn union cyn y diwrnod ymadael”;
(b) mewnosoder y diffiniadau canlynol yn y mannau priodol—“
 mae i “damwain fawr” yr ystyr a roddir i “major accident” yn Erthygl 3(13) o’r Gyfarwyddeb fel y cafodd effaith yn union cyn y diwrnod ymadael;”;“
 ystyr “y Gyfarwyddeb AEA” (“the EIA Directive”) yw Cyfarwyddeb 2011/92/EU Senedd Ewrop a’r Cyngor dyddiedig 13 Rhagfyr 2011 ar yr asesiad o effeithiau prosiectau cyhoeddus a phreifat penodol ar yr amgylchedd fel y cafodd effaith yn union cyn y diwrnod ymadael;”.
(3) Yn rheoliad 6(1)(a)—
(a) Ym mharagraff (ii) yn lle’r geiriau o “neu ymgyngoriadau” hyd at ddiwedd y paragraff rhodder “(y mae i “asesiad effaith amgylcheddol cenedlaethol neu drawsffiniol” yr un ystyr â “national or transboundary environmental impact assessment” mewn unrhyw ddarpariaeth yng nghyfraith yr UE a ddargedwir a oedd yn gweithredu’r Gyfarwyddeb AEA)”;
(b) ar ôl paragraff (ii) mewnosoder—“
(iia) pan fo’n gymwys, y ffaith bod y prosiect y mae’r cynnig yn ymwneud ag ef yn un y mae’n ofynnol i’r awdurdod COMAH cymwys ymgynghori ag unrhyw wlad yn unol â Rheoliad 20 o Reoliadau Rheoli Peryglon Damweiniau Difrifol 2015;”.
(4) Yn rheoliad 10(3)(a)—
(a) ym mharagraff (ii) yn lle’r geiriau o “neu ymgyngoriadau” hyd at ddiwedd y paragraff rhodder “(y mae i “asesiad effaith amgylcheddol cenedlaethol neu drawsffiniol” yr un ystyr â “national or transboundary environmental impact assessment” mewn unrhyw ddarpariaeth yng nghyfraith yr UE a ddargedwir a oedd yn gweithredu’r Gyfarwyddeb AEA)”;
(b) ar ôl paragraff (ii) mewnosoder—“
(iia) pan fo’n gymwys, y ffaith bod y prosiect y mae’r cynnig yn ymwneud ag ef yn un y mae’n ofynnol i’r awdurdod COMAH cymwys ymgynghori ag unrhyw wlad yn unol â Rheoliad 20 o Reoliadau Rheoli Peryglon Damweiniau Difrifol 2015;”.
(5) Yn rheoliad 26, ar ddiwedd paragraff (1)(b) mewnosoder “(gan ddarllen y cyfeiriad yn is-baragraff (c) o’r Erthygl honno at Erthygl 5 fel cyfeiriad at reoliad 5 o Reoliadau Rheoli Peryglon Damweiniau Mawr 2015)”.
(6) Yn rheoliad 27(4) yn y diffiniad o “cynllun neu raglen berthnasol” yn y ddau is-baragraff (a) a (b), ar ôl “yn unol ag” mewnosoder “unrhyw ddarpariaeth yng nghyfraith yr UE a ddargedwir a oedd yn gweithredu”.
(7) Yn rheoliad 28(2)(a)—
(a) ym mharagraff (ii) yn lle’r geiriau o “neu ymgyngoriadau” hyd at ddiwedd y paragraff rhodder “(y mae i “asesiad effaith amgylcheddol cenedlaethol neu drawsffiniol” yr un ystyr â “national or transboundary environmental impact assessment” mewn unrhyw ddarpariaeth yng nghyfraith yr UE a ddargedwir a oedd yn gweithredu’r Gyfarwyddeb AEA)”;
(b) ar ôl paragraff (ii) mewnosoder—“
(iia) pan fo’n gymwys, y ffaith bod y prosiect y mae’r cynnig yn ymwneud ag ef yn un y mae’n ofynnol i’r awdurdod COMAH cymwys ymgynghori ag unrhyw wlad yn unol â Rheoliad 20 o Reoliadau Rheoli Peryglon Damweiniau Difrifol 2015;”.
Darpariaeth Drosiannol
6 

(1) Am y cyfnod o 2 flynedd gan ddechrau ar y diwrnod ymadael, mae unrhyw gyfeiriad yn rheoliad 2 o Reoliadau Cynllunio Gwlad a Thref (Rheoli Hysbysebion) 1992 at “railway undertaking licence” (trwydded ymgymeriad rheilffordd) yn unol â Rheoliadau 2005 yn cynnwys cyfeiriad at drwydded Ewropeaidd berthnasol.
(2) Mae unrhyw weithred neu anweithred—
(a) mewn perthynas â thrwydded Ewropeaidd berthnasol, neu drwy ddibynnu arni, a
(b) sy’n cael effaith yn union cyn y diwrnod ymadael,
yn parhau i gael effaith ar neu ar ôl y diwrnod ymadael.
(3) At ddibenion y rheoliad hwn—
 mae i “DDdRhC” yr un ystyr ag “SNRP” yn Rheoliadau 2005;
 ystyr “Rheoliadau 2005” (“the 2005 Regulations”) yw Rheoliadau Rheilffyrdd (Trwyddedu Ymgymeriadau Rheilffyrdd) 2005;
 mae i “trwydded Ewropeaidd” yr un ystyr â “European licence” yn rheoliad 2(1) o Reoliadau 2005 (fel y’u haddaswyd gan reoliad 35 o Reoliadau Rheilffyrdd (Trwyddedu Ymgymeriadau Rheilffyrdd) (Diwygio etc) (Ymadael â’r UE) 2019;
 ystyr “trwydded Ewropeaidd berthnasol” (“relevant European licence”) yw trwydded Ewropeaidd, y mae gan ei deiliad DDdRhC dilys nad yw wedi ei atal dros dro na’i ddirymu.
Julie James
Gweinidog Tai a Llywodraeth Leol, un o Weinidogion Cymru.
4 Mawrth 2019