
2019 Rhif 444 (Cy. 107)
Ymadael Â’r Undeb Ewropeaidd, Cymru
Addysg, Cymru
Rheoliadau Cymwysterau Athrawon (Diwygio) (Cymru) (Ymadael â’r UE) 2019Gofynion sifftio wedi eu bodloni18 Chwefror 2019
Gwnaed 4 Mawrth 2019
Gosodwyd gerbron Cynulliad Cenedlaethol Cymru 5 Mawrth 2019
Yn dod i rym yn unol â rheoliad 1(2)

Mae Gweinidogion Cymru, drwy arfer y pwerau a roddir gan adrannau 132(1) a (2) a 135 o Ddeddf Addysg 2002, ac ar ôl ymgynghori â Chyngor y Gweithlu Addysg fel sy’n ofynnol gan adran 132(4) o’r Ddeddf honno, a thrwy arfer y pwerau ym mharagraff 1 o Atodlen 2 a pharagraff 21 o Atodlen 7 i Ddeddf yr Undeb Ewropeaidd (Ymadael) 2018 , yn gwneud y Rheoliadau a ganlyn.

Mae gofynion paragraff 4(2) o Atodlen 7 i Ddeddf yr Undeb Ewropeaidd (Ymadael) 2018 (sy’n ymwneud â gweithdrefn briodol y Cynulliad ar gyfer y Rheoliadau hyn) wedi eu bodloni.
RHAN 1 Cyflwyniad
Enwi, cychwyn, cymhwyso a dirymu
1 

(1) Enw’r Rheoliadau hyn yw Rheoliadau Cymwysterau Athrawon (Diwygio) (Cymru) (Ymadael â’r UE) 2019.
(2) Daw’r Rheoliadau hyn i rym ar y diwrnod ymadael.
(3) Mae’r Rheoliadau hyn yn gymwys o ran Cymru.
(4) Mae Rheoliadau Cyngor Addysgu Cyffredinol (Cofrestru Athrawon Dros Dro o Wladwriaethau Ewropeaidd Perthnasol) (Cymru a Lloegr) 2009 wedi eu dirymu.
RHAN 2 Diwygio is-ddeddfwriaeth
Diwygio Rheoliadau Cymwysterau a Chofrestru Prifathrawon (Cymru) 2005
2 

(1) Mae Rheoliadau Cymwysterau a Chofrestru Prifathrawon (Cymru) 2005 wedi eu diwygio fel a ganlyn.
(2) Yn rheoliad 2, yn lle’r diffiniad o “Rheoliadau 2005”, rhodder—“
 ystyr “Rheoliadau 2015” (“the 2015 Regulations”) yw Rheoliadau’r Undeb Ewropeaidd (Cydnabod Cymwysterau Proffesiynol) 2015”.
(3) Yn rheoliad 3(1)(d), yn lle “Rheoliadau 2005”, rhodder “Rheoliadau 2015”.
Diwygio Rheoliadau Cymwysterau Athrawon Ysgol (Cymru) 2012
3 

(1) Mae Rheoliadau Cymwysterau Athrawon Ysgol (Cymru) 2012 wedi eu diwygio fel a ganlyn.
(2) Yn lle paragraff 4 o Atodlen 2, rhodder—“
4. 

(1) Personau sydd â’r hawlogaeth, mewn perthynas â phroffesiwn athro neu athrawes ysgol, i ymarfer yn unol â Rheoliadau 2007 neu Reoliadau’r Undeb Ewropeaidd 2015, gan gynnwys yn unol ag—
(a) penderfyniad a wneir neu hawl a gronnir o dan Reoliadau 2007 neu Reoliadau’r Undeb Ewropeaidd 2015 cyn y diwrnod ymadael yn unol â pharagraff 40 o Atodlen 1 i Reoliadau Cydnabod Cymwysterau Proffesiynol (Diwygio etc.) (Ymadael â’r UE) 2019;
(b) penderfyniad neu ddyfarniad a wneir o dan Reoliadau’r Undeb Ewropeaidd 2015 yn unol â pharagraff 44 o Atodlen 1 i Reoliadau Cydnabod Cymwysterau Proffesiynol (Diwygio etc.) (Ymadael â’r UE) 2019; neu
(c) penderfyniad neu ddyfarniad a wneir o dan Reoliadau 2007 yn unol â pharagraff 48 o Atodlen 1 i Reoliadau Cydnabod Cymwysterau Proffesiynol (Diwygio etc.) (Ymadael â’r UE) 2019.
(2) Yn y paragraff hwn—
 ystyr “Rheoliadau 2007” (“the 2007 Regulations”) yw Rheoliadau’r Cymunedau Ewropeaidd (Cydnabod Cymwysterau Proffesiynol) 2007;
 ystyr “Rheoliadau’r Undeb Ewropeaidd 2015” (“the 2015 European Union Regulations”) yw Rheoliadau’r Undeb Ewropeaidd (Cydnabod Cymwysterau Proffesiynol) 2015.”
(3) Ar ôl paragraff 4 o Atodlen 2, mewnosoder—“
4A. 

(1) Yn ddarostyngedig i is-baragraffau (2) a (3), personau nas crybwyllir yn unrhyw baragraff arall o’r Atodlen hon ac sy’n meddu ar gymwysterau neu hyfforddiant proffesiynol ffurfiol sy’n caniatáu iddynt gael mynediad i broffesiwn athro neu athrawes ysgol, neu ddilyn y proffesiwn hwnnw, mewn ysgol a gyllidir yn gyfan gwbl neu’n bennaf gan y llywodraeth yn y wladwriaeth y dyfarnwyd y cymhwyster ynddi neu yr ymgymerwyd â’r hyfforddiant ynddi.
(2) Nid yw’r cymwysterau neu’r hyfforddiant proffesiynol a grybwyllir yn is-baragraff (1), ym marn Gweinidogion Cymru, yn sylweddol wahanol i’r cymwysterau neu’r hyfforddiant proffesiynol penodol sy’n ofynnol i gael mynediad i broffesiwn athro neu athrawes ysgol yng Nghymru neu i ddilyn y proffesiwn hwnnw.
(3) Nid yw personau yn destun unrhyw benderfyniad gan gorff, neu achosion gerbron corff sy’n cyfyngu neu a all gyfyngu ar allu person i addysgu mewn unrhyw wladwriaeth neu sydd wedi eu gwahardd fel arall rhag cael mynediad i broffesiwn athro neu athrawes ysgol neu rhag dilyn y proffesiwn hwnnw.”
Diwygio Rheoliadau Cyngor y Gweithlu Addysg (Prif Swyddogaethau) (Cymru) 2015
4 

(1) Mae Rheoliadau Cyngor y Gweithlu Addysg (Prif Swyddogaethau) (Cymru) 2015 wedi eu diwygio fel a ganlyn.
(2) Yn rheoliad 7(1), yn lle “bodloni un neu fwy o’r amodau”, rhodder “bodloni’r amod a ganlyn”.
(3) Yn rheoliad 7(2), hepgorer “cyntaf”.
(4) Mae rheoliad 7(3) wedi ei ddirymu.
Diwygio Gorchymyn Cyngor y Gweithlu Addysg (Swyddogaethau Ychwanegol a Dirymu) (Cymru) 2015
5 

(1) Mae Gorchymyn Cyngor y Gweithlu Addysg (Swyddogaethau Ychwanegol a Dirymu) (Cymru) 2015 wedi ei ddiwygio fel a ganlyn.
(2) Yn erthygl 2—
(a) hepgorer y diffiniad o “y Gyfarwyddeb”;
(b) yn lle’r diffiniad o “y Rheoliadau”, rhodder—“
 ystyr “y Rheoliadau” (“the Regulations”) yw Rheoliadau’r Undeb Ewropeaidd (Cydnabod Cymwysterau Proffesiynol) 2015”;”.
(3) Yn erthygl 3(1) hepgorer “at ddiben y Gyfarwyddeb”.
Diwygio Rheoliadau Addysg (Trefniadau Sefydlu ar gyfer Athrawon Ysgol) (Cymru) 2015
6 

(1) Mae Rheoliadau Addysg (Trefniadau Sefydlu ar gyfer Athrawon Ysgol) (Cymru) 2015 wedi eu diwygio fel a ganlyn.
(2) Yn lle paragraff 8 o Atodlen 2, rhodder—“
8. 
Person sy’n athro neu athrawes gymwysedig a ddaeth yn gymwysedig felly yn rhinwedd rheoliad 5 o Reoliadau Cymwysterau Athrawon Ysgol a chan baragraff 4 neu 4A o Atodlen 2 iddynt.”
Kirsty Williams
Y Gweinidog Addysg, un o Weinidogion Cymru
4 Mawrth 2019