
2019 Rhif 436 (Cy. 104)
Ymadael Â’r Undeb Ewropeaidd, Cymru
Llywodraeth Leol, Cymru
Rheoliadau Cyllid Llywodraeth Leol (Diwygio) (Cymru) (Ymadael â’r UE) 2019Gofynion sifftio wedi eu bodloni18 Chwefror 2019
Gwnaed 4 Mawrth 2019
Gosodwyd gerbron Cynulliad Cenedlaethol Cymru 5 Mawrth 2019
Yn dod i rym yn unol â rheoliad 1

Mae gofynion paragraff 4(2) o Atodlen 7 i Ddeddf yr Undeb Ewropeaidd (Ymadael) 2018 (sy’n ymwneud â’r weithdrefn graffu briodol ar gyfer y Rheoliadau hyn) wedi eu bodloni.

Mae Gweinidogion Cymru yn gwneud y Rheoliadau hyn drwy arfer y pwerau a roddir gan adran 11 o’r Ddeddf honno a pharagraff 1(1) o Atodlen 2 iddi.
Enwi a chychwyn
1 
Enw’r Rheoliadau hyn yw Rheoliadau Cyllid Llywodraeth Leol (Diwygio) (Cymru) (Ymadael â’r UE) 2019 a deuant i rym ar y diwrnod ymadael.
Diwygio Rheoliadau Cynlluniau Gostyngiadau’r Dreth Gyngor (Darganfod Twyll a Gorfodi) (Cymru) 2013
2 

(1) Mae Rheoliadau Cynlluniau Gostyngiadau’r Dreth Gyngor (Darganfod Twyll a Gorfodi) (Cymru) 2013 wedi eu diwygio fel a ganlyn.
(2) Yn rheoliad 4 (pŵer i wneud darparu gwybodaeth yn ofynnol), ym mharagraff (11)—
(a) yn lle’r diffiniad o “banc” rhodder—“
 ystyr “banc” (“bank”) yw—
(a) person sydd â chaniatâd o dan Ran 4A o Ddeddf Gwasanaethau a Marchnadoedd Ariannol 2000 i dderbyn adneuon; neu
(b) person nad oes arno angen caniatâd o dan y Ddeddf honno i dderbyn adneuon, yng nghwrs busnes y person hwnnw yn y Deyrnas Unedig;”;
(b) yn lle’r diffiniad o “yswiriwr” rhodder—“
 ystyr “yswiriwr” (“insurer”) yw person sydd â chaniatâd o dan Ran 4A o Ddeddf Gwasanaethau a Marchnadoedd Ariannol 2000 i effeithio neu gyflawni contractau yswiriant.”
Diwygio Rheoliadau Rhestr Ardrethu Canolog (Cymru) 2005
3 

(1) Mae Rheoliadau Rhestr Ardrethu Canolog (Cymru) 2005 wedi eu diwygio fel a ganlyn.
(2) Yn rheoliad 7 (hereditamentau rheilffyrdd), ym mharagraff (3), yn lle’r diffiniad o “licence exempt operator” a “licence holder” rhodder—“
 “licence exempt operator” and “licence holder” have the meanings given by sections 10(6) and 83(1) respectively of the Railways Act 1993 except that licence holder also includes a holder of a railway undertaking licence granted pursuant to the Railway (Licensing of Railway Undertakings) Regulations 2005; and”.
Rebecca Evans
Y Gweinidog Cyllid a’r Trefnydd, un o Weinidogion Cymru
4th Mawrth 2019