
2019 Rhif 435 (Cy. 103)
Ymadael Â’r Undeb Ewropeaidd, Cymru
Bwyd, Cymru
Rheoliadau Safonau a Labelu Bwyd (Diwygiadau Amrywiol) (Cymru) (Ymadael â’r UE) 2019Gofynion sifftio wedi eu bodloni18 Chwefror 2019
Gwnaed 4 Mawrth 2019
Gosodwyd gerbron Cynulliad Cenedlaethol Cymru 5 Mawrth 2019
Yn dod i rym yn unol â rheoliad 1(3)

Mae Gweinidogion Cymru yn gwneud y Rheoliadau hyn drwy arfer y pwerau a roddir gan baragraff 1(1) o Atodlen 2 a pharagraff 21(b) o Atodlen 7 i Ddeddf yr Undeb Ewropeaidd (Ymadael) 2018 a chan adran 16(1)(a) ac (e) o Ddeddf Diogelwch Bwyd 1990.
Mae gofynion paragraff 4(2) o Atodlen 7 i Ddeddf yr Undeb Ewropeaidd (Ymadael) 2018 (sy’n ymwneud â gweithdrefn graffu briodol Cynulliad Cenedlaethol Cymru ar gyfer y Rheoliadau hyn) wedi eu bodloni.

Fel sy’n ofynnol gan Erthygl 9 o Reoliad (EC) Rhif 178/2002 Senedd Ewrop a’r Cyngor sy’n gosod egwyddorion cyffredinol a gofynion cyfraith bwyd, yn sefydlu Awdurdod Diogelwch Bwyd Ewrop ac yn gosod gweithdrefnau o ran materion diogelwch bwyd, ymgynghorwyd yn agored ac yn dryloyw â’r cyhoedd wrth lunio’r Rheoliadau hyn.
Enwi, cymhwyso a chychwyn
1 

(1) Enw’r Rheoliadau hyn yw Rheoliadau Safonau a Labelu Bwyd (Diwygiadau Amrywiol) (Cymru) (Ymadael â’r UE) 2019.
(2) Mae’r Rheoliadau hyn yn gymwys o ran Cymru.
(3) Daw’r Rheoliadau hyn i rym ar y diwrnod ymadael.
Rheoliadau Bwyd (Marcio Lotiau) 1996
2 

(1) Mae Rheoliadau Bwyd (Marcio Lotiau) 1996 wedi eu diwygio fel a ganlyn.
(2) Yn rheoliad 2, hepgorer y diffiniad o “first seller established within the European Union”.
(3) Yn rheoliad 3(2)(a), yn lle “European Union” rhodder “United Kingdom”.
Rheoliadau Brasterau Taenadwy (Safonau Marchnata) a Llaeth a Chynhyrchion Llaeth (Diogelu Dynodiadau) (Cymru) 2008
3 

(1) Mae Rheoliadau Brasterau Taenadwy (Safonau Marchnata) a Llaeth a Chynhyrchion Llaeth (Diogelu Dynodiadau) (Cymru) 2008 wedi eu diwygio fel a ganlyn.
(2) Yn rheoliad 2(1)—
(a) hepgorer y diffiniad o “darpariaeth UE”;
(b) yn y lle priodol, mewnosoder—“
 ystyr “darpariaeth benodedig” (“specified provision”) yw darpariaeth y cyfeirir ati yn rheoliad 6(2);”.
(3) Yn rheoliad 5, yn lle “UE” rhodder “penodedig”.
(4) Yn rheoliad 6—
(a) ym mharagraff (1)(b), yn lle “UE” rhodder “benodedig”;
(b) ym mharagraff (2), yn y geiriau o flaen is-baragraff (a), yn lle “UE” rhodder “penodedig”.
(5) Yn rheoliad 7(2), yn lle “UE” rhodder “penodedig”.
Rheoliadau Labelu Pysgod (Cymru) 2013
4 

(1) Mae Rheoliadau Labelu Pysgod (Cymru) 2013 wedi eu diwygio fel a ganlyn.
(2) Yn rheoliad 2—
(a) hepgorer y diffiniad o “Rheoliadau’r UE”.
(b) yn y lle priodol, mewnosoder—“
 ystyr “y Rheoliadau penodedig” (“thespecified Regulations”) yw Rheoliad 1224/2009, Rheoliad 404/2011 a Rheoliad 1379/2013;”.
(c) ym mharagraff (2)(a), yn lle “o Reoliadau’r UE” rhodder “o’r Rheoliadau penodedig” ac yn lle “at Reoliadau’r UE” rhodder “at y Rheoliadau penodedig” ac ym mharagraff (2)(b), yn lle “o Reoliadau’r UE” rhodder “o’r Rheoliadau penodedig” ac yn lle “yn Rheoliadau’r UE” rhodder “yn y Rheoliadau penodedig”.
(3) Yn rheoliad 4—
(a) ym mharagraff (3), yn lle “a (5)”, yn yr ail le y mae’n digwydd, rhodder “, (5) i (7) a (9)”;
(b) ym mharagraff (7), yn lle “na’r hyn sy’n cyfateb i 50 ewro y diwrnod mewn sterling” rhodder “na £45 y diwrnod”.
(4) Yn rheoliad 5(3), yn y diffiniad o “operator”, yn lle “EU” rhodder “specified”.
Rheoliadau Gwybodaeth am Fwyd (Cymru) 2014
5 
Yn Atodlen 5 i Reoliadau Gwybodaeth am Fwyd (Cymru) 2014, yn Rhan 2, hepgorer y cofnodion sy’n dwyn y rhifau 33 a 34.
Rheoliadau Mêl (Cymru) 2015
6 
Yn Rheoliadau Mêl (Cymru) 2015, ar ôl rheoliad 18 mewnosoder—“
Dulliau dadansoddi
18A. 
Wrth gyflawni ei rwymedigaethau o dan reoliad 18, rhaid i awdurdod bwyd, pryd bynnag y bo’n bosibl, ddefnyddio dull dadansoddi a gymeradwyir gan y Codex Alimentarius, neu ddull dadansoddi arall sydd wedi ei ddilysu ac a gydnabyddir yn rhyngwladol, i wirio cydymffurfedd â darpariaethau’r Rheoliadau hyn.”
Rheoliadau Gwlad Tarddiad Cigoedd Penodol (Cymru) 2015
7 
Yn rheoliad 3(a) o Reoliadau Gwlad Tarddiad Cigoedd Penodol (Cymru) 2015, yn lle “aelod-wladwriaeth neu drydedd wlad” rhodder “wlad unigol”.
Vaughan Gething
Y Gweinidog Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol, un o Weinidogion Cymru
4 Mawrth 2019