
2019 Rhif 432 (Cy. 101)
Y Dreth Gyngor, Cymru
Gorchymyn y Dreth Gyngor (Anheddau Esempt) (Diwygio) (Cymru) 2019
Gwnaed 4 Mawrth 2019
Gosodwyd gerbron Cynulliad Cenedlaethol Cymru 6 Mawrth 2019
Yn dod i rym 1 Ebrill 2019
Mae Gweinidogion Cymru yn gwneud y Gorchymyn a ganlyn drwy arfer y pŵer a roddwyd i’r Ysgrifennydd Gwladol gan adran 4 o Ddeddf Cyllid Llywodraeth Leol 1992 ac a freiniwyd bellach ynddynt hwy.
Enwi, cychwyn a chymhwyso
1 

(1) Enw’r Gorchymyn hwn yw Gorchymyn y Dreth Gyngor (Anheddau Esempt) (Diwygio) (Cymru) 2019.
(2) Daw’r Gorchymyn hwn i rym ar 1 Ebrill 2019.
(3) Mae’r Gorchymyn hwn yn gymwys o ran Cymru.
Diwygio Gorchymyn y Dreth Gyngor (Anheddau Esempt) 1992
2 

(1) Mae Gorchymyn y Dreth Gyngor (Anheddau Esempt) 1992 wedi ei ddiwygio fel a ganlyn.
(2) Yn erthygl 3, ar y diwedd mewnosoder—“
Class X: 
(1) a dwelling in Wales
(a) which is occupied by one or more care leavers; and
(b) where every resident is either a care leaver, a relevant person, or a severely mentally impaired person.
(2) For the purposes of paragraph (1)—
(a) “care leaver” means a person who is—
(i) aged 24 or under; and
(ii) a category 3 young person as defined by section 104 of the Social Services and Well-being (Wales) Act 2014;
(b) “relevant person” has the meaning given by paragraph 2(a) of Class N; and
(c) “severely mentally impaired” has the meaning given in paragraph 2 of Schedule 1 to the Act;”
Rebecca Evans
Y Gweinidog Cyllid a’r Trefnydd, un o Weinidogion Cymru
4 Mawrth 2019