
2019 Rhif 422 (Cy. 97)
Y Gwasanaeth Iechyd Gwladol, Cymru
Rheoliadau’r Gwasanaeth Iechyd Gwladol (Cynllun Esgeuluster Clinigol) (Cymru) 2019
Gwnaed 4 Mawrth 2019
Gosodwyd gerbron Cynulliad Cenedlaethol Cymru 5 Mawrth 2019
Yn dod i rym 1 Ebrill 2019
Mae Gweinidogion Cymru yn gwneud y Rheoliadau a ganlyn drwy arfer y pwerau a roddir gan adrannau 30, 47(1) and (2), a 203(9) a (10) o Ddeddf y Gwasanaeth Iechyd Gwladol (Cymru) 2006.
Enwi, cychwyn a chymhwyso
1 

(1) Enw’r Rheoliadau hyn yw Rheoliadau’r Gwasanaeth Iechyd Gwladol (Cynllun Esgeuluster Clinigol) (Cymru) 2019.
(2) Daw’r Rheoliadau hyn i rym ar 1 Ebrill 2019.
(3) Mae’r Rheoliadau hyn yn gymwys o ran Cymru.
Dehongli
2 
Yn y Rheoliadau hyn—
 ystyr “aelod” (“member”) yw corff cymwys sy’n aelod o’r Cynllun;
 ystyr “blwyddyn aelodaeth” (“membership year”), mewn cysylltiad ag unrhyw gorff cymwys, yw unrhyw gyfnod o 12 mis sy’n dechrau ar 1 Ebrill y mae’r corff yn aelod o’r Cynllun ynddo;
 ystyr “Bwrdd Iechyd Lleol” (“Local Health Board”) yw Bwrdd Iechyd Lleol sydd wedi ei sefydlu yn unol ag adran 11(2) o’r Ddeddf;
 ystyr “corff cymwys” (“eligible body”) yw corff a bennir yn rheoliad 4;
 ystyr “y Cynllun” (“the Scheme”) yw’r Cynllun Esgeuluster Clinigol ar gyfer Ymddiriedolaethau’r GIG a’r Byrddau Iechyd Lleol sydd wedi ei sefydlu gan reoliad 3;
 ystyr “darparwr gwasanaethau meddygol sylfaenol” (“primary medical services provider”) yw’r person sydd wedi ymrwymo i gontract i ddarparu gwasanaethau meddygol sylfaenol yn unol ag adran 41(2)(b), 42 neu 50 o’r Ddeddf;
 ystyr “y Ddeddf” (“the Act”) yw Deddf y Gwasanaeth Iechyd Gwladol (Cymru) 2006;
 ystyr “gwasanaethau iechyd perthnasol” (“relevant health services”) yw gwasanaethau iechyd sylfaenol a ddarperir yng Nghymru at ddibenion y gwasanaeth iechyd;
 ystyr “gwasanaethau meddygol sylfaenol” (“primary medical services”) yw gwasanaethau iechyd a ddarperir o dan gontract, trefniant neu gytundeb a wneir o dan neu yn rhinwedd yr adrannau a ganlyn o’r Ddeddf—
(a) adran 41(2) (gwasanaethau meddygol sylfaenol);
(b) adran 42(1) (contractau gwasanaethau meddygol cyffredinol);
(c) adran 50 (trefniadau gan Fyrddau Iechyd Lleol ar gyfer darparu gwasanaethau meddygol sylfaenol);
 ystyr “swyddogaeth berthnasol” (“relevant function”) yw—
(a) trefnu ar gyfer darparu gwasanaethau at ddibenion y gwasanaeth iechyd;
(b) darparu gwasanaethau at ddibenion y gwasanaeth iechyd;
(c) arfer swyddogaethau mewn perthynas â’r gwasanaeth iechyd;
(d) darparu gwasanaethau meddygol sylfaenol;
(e) arfer pwerau o dan neu yn rhinwedd adran 7 o Ddeddf Iechyd a Meddyginiaethau 1988;
(f) arfer pwerau o dan adran 169 o’r Ddeddf neu baragraffau 19 ac 20 o Atodlen 3 iddi;
 ystyr “Ymddiriedolaeth GIG” (“NHS Trust”) yw Ymddiriedolaeth Gwasanaeth Iechyd Gwladol sydd wedi ei sefydlu yn unol ag adran 18(2) o’r Ddeddf.
Cynllun Esgeuluster Clinigol ar gyfer Ymddiriedolaethau’r GIG a’r Byrddau Iechyd Lleol
3 

(1) Mae cynllun wedi ei sefydlu drwy hyn, sydd i’w alw’n Gynllun Esgeuluster Clinigol ar gyfer Ymddiriedolaethau’r GIG a’r Byrddau Iechyd Lleol.
(2) Diben y Cynllun yw galluogi corff cymwys i wneud darpariaeth i fodloni atebolrwyddau y mae’r Cynllun yn gymwys iddynt.
(3) Dim ond os yw corff cymwys yn aelod o’r Cynllun y caiff gymryd rhan yn y Cynllun.
(4) Mae’r Cynllun i’w weinyddu gan Weinidogion Cymru.
Cyrff cymwys
4 
Y cyrff sy’n gymwys i fod yn aelod o’r Cynllun yw—
(a) Ymddiriedolaeth GIG, neu
(b) Bwrdd Iechyd Lleol.
Aelodaeth o’r Cynllun
5 

(1) Caiff corff cymwys wneud cais i Weinidogion Cymru i ddod yn aelod o’r Cynllun.
(2) Rhaid i gais a wneir yn unol â pharagraff (1)—
(a) cael ei wneud yn ysgrifenedig,
(b) cael ei wneud ar unrhyw ffurf a chael ei gyflwyno mewn unrhyw fodd sy’n ofynnol gan Weinidogion Cymru,
(c) pennu dyddiad y mae’r corff cymwys yn cynnig y dylai ei aelodaeth ddechrau, a
(d) cynnwys unrhyw wybodaeth sy’n ofynnol gan Weinidogion Cymru neu gael ei gyflwyno gyda’r wybodaeth honno.
(3) Ar unrhyw adeg ar ôl cael cais a chyn penderfynu arno, caiff Gweinidogion Cymru ysgrifennu er mwyn ei gwneud yn ofynnol i’r ceisydd ddarparu unrhyw wybodaeth bellach y mae Gweinidogion Cymru yn ystyried ei bod yn angenrheidiol at ddibenion penderfynu ar y cais.
(4) Mae’r wybodaeth a all fod yn ofynnol yn unol â pharagraffau (2) a (3) yn cynnwys—
(a) natur swyddogaethau’r ceisydd;
(b) nifer y cyflogeion a’r contractwyr;
(c) cymwysterau a phrofiad y cyflogeion hynny a’r contractwyr hynny;
(d) manylion unrhyw hawliadau blaenorol y mae’r ceisydd wedi bod yn ddiffynnydd ynddynt mewn cysylltiad â hawliadau anaf personol a wnaed o ganlyniad i arfer unrhyw swyddogaeth berthnasol;
(e) unrhyw wybodaeth arall y mae Gweinidogion Cymru yn gofyn amdani at ddibenion penderfynu ar y cais.
(5) Rhaid i Weinidogion Cymru—
(a) o fewn 6 wythnos i gael cais a wnaed yn unol â’r gofynion ym mharagraffau (2) a (3), benderfynu ai i’w ganiatáu ai peidio, a
(b) cyn gynted ag y bo’n rhesymol ymarferol, roi gwybod i’r ceisydd am y penderfyniad drwy hysbysiad ysgrifenedig y mae rhaid iddo, os caniateir y cais, bennu’r dyddiad y mae aelodaeth y ceisydd i ddechrau arno.
(6) Wrth benderfynu ai i ganiatáu cais, rhaid i Weinidogion Cymru roi sylw i—
(a) yr wybodaeth a ddarperir gan y ceisydd, a
(b) unrhyw ffactorau eraill y mae Gweinidogion Cymru yn ystyried eu bod yn berthnasol.
(7) Pan fo cais corff cymwys wedi ei ganiatáu, mae aelodaeth y corff hwnnw o’r Cynllun yn dechrau ar y dyddiad a bennir yn yr hysbysiad a roddir yn unol â pharagraff (5)(b).
(8) At ddibenion paragraff (4)(b) ac (c), mae’r cyfeiriad at “contractwyr” i’w ddehongli yn unol â rheoliad 9(2).
Canslo aelodaeth gan aelod
6 

(1) Nid yw’r rheoliad hwn yn gymwys ond mewn perthynas ag unrhyw aelod sydd wedi bod yn aelod o’r Cynllun am o leiaf 3 blynedd aelodaeth yn olynol.
(2) Caiff aelod o’r Cynllun ganslo ei aelodaeth o’r Cynllun drwy roi hysbysiad ysgrifenedig i Weinidogion Cymru ei fod yn canslo ei aelodaeth.
(3) Pan fo hysbysiad o dan baragraff (2)—
(a) wedi ei roi cyn 1 Medi mewn blwyddyn aelodaeth, mae’r hysbysiad yn cymryd effaith ar ddiwedd y flwyddyn aelodaeth honno;
(b) wedi ei roi ar neu ar ôl 1 Medi mewn blwyddyn aelodaeth, mae’r hysbysiad yn cymryd effaith ar ddiwedd y flwyddyn aelodaeth ganlynol.
Canslo aelodaeth gan Weinidogion Cymru
7 

(1) Caiff Gweinidogion Cymru ganslo aelodaeth aelod o’r Cynllun o dan unrhyw rai o’r amgylchiadau a bennir ym mharagraffau (2) i (4).
(2) Yr amgylchiadau a bennir yn y paragraff hwn yw pan fo’r aelod yn atebol i wneud taliad i Weinidogion Cymru o dan reoliad 11 (dyletswydd aelodau i wneud cyfraniadau at y Cynllun) a bo’r taliad hwnnw yn parhau i fod heb ei dalu am gyfnod o 28 o ddiwrnodau neu ragor sy’n dechrau â’r dyddiad y daeth y taliad yn ddyledus.
(3) Yr amgylchiadau a bennir yn y paragraff hwn yw pan fo’r aelod wedi methu â darparu unrhyw wybodaeth sy’n ofynnol o dan reoliad 19 (dyletswydd aelodau i ddarparu gwybodaeth)—
(a) cyn diwedd y cyfnod o 28 o ddiwrnodau sy’n dechrau â’r dyddiad y mae Gweinidogion Cymru yn gofyn am yr wybodaeth, neu
(b) os yw Gweinidogion Cymru yn caniatáu yn ysgrifenedig gyfnod pellach ar gyfer darparu’r wybodaeth honno, cyn diwedd y cyfnod pellach hwnnw.
(4) Yr amgylchiadau a bennir yn y paragraff hwn yw pan fo Gweinidogion Cymru yn ystyried y byddai’n cael effaith niweidiol ar weinyddu’r Cynllun yn effeithlon neu fuddiannau aelodau eraill i’r aelod barhau’n aelod o’r Cynllun.
(5) Rhaid i Weinidogion Cymru roi gwybod i’r aelod drwy hysbysiad ysgrifenedig fod ei aelodaeth o’r Cynllun i beidio gydag effaith o ddyddiad a bennir yn yr hysbysiad ac—
(a) pan fo’r canslo o dan amgylchiadau a bennir ym mharagraff (2), (3) neu (4)—
(i) ni chaiff y dyddiad sydd i’w bennu fod yn llai nag 28 o ddiwrnodau ar ôl y dyddiad y rhoddir yr hysbysiad, ond
(ii) caiff Gweinidogion Cymru benderfynu peidio â chanslo’r aelodaeth drwy roi i’r aelod hysbysiad ysgrifenedig pellach i’r perwyl hwnnw.
Atebolrwyddau aelodau
8 

(1) Mae’r Cynllun yn gymwys i—
(a) unrhyw atebolrwydd mewn camwedd o dan gyfraith Cymru a Lloegr sydd ar aelod o’r Cynllun i drydydd parti mewn cysylltiad ag anaf personol neu golled, neu o ganlyniad i anaf personol neu golled, a bennir ym mharagraff (2), a
(b) unrhyw atebolrwydd contractiol gan aelod o’r Cynllun—
(i) sy’n codi o ganlyniad i drefniant i ddarparu gwasanaethau iechyd perthnasol y cyfeirir atynt yn rheoliad 9(2), a
(ii) sydd wedi ei bennu’n atebolrwydd cymhwysol contractwr yn rheoliad 9(4).
(2) Yr anaf personol neu’r golled y cyfeirir ato neu ati ym mharagraff (1) yw anaf personol neu golled sy’n codi o unrhyw dor dyletswydd gofal neu mewn cysylltiad â thor dyletswydd gofal—
(a) sydd ar yr aelod i unrhyw berson mewn cysylltiad â gwneud diagnosis o unrhyw salwch neu ofal neu driniaeth unrhyw glaf, a
(b) sydd o ganlyniad i unrhyw weithred neu anweithred a bennir ym mharagraff (3).
(3) Y weithred neu’r anweithred y cyfeirir ati ym mharagraff (2) yw gweithred neu anweithred i weithredu ar ran—
(a) person y mae’r aelod wedi ei gyflogi neu ei gymryd ymlaen mewn cysylltiad ag unrhyw swyddogaeth berthnasol a ddarperir gan yr aelod, neu
(b) cyflogai neu asiant i berson y mae’r aelod wedi ei gymryd ymlaen mewn cysylltiad â darparu unrhyw swyddogaeth berthnasol.
Atebolrwyddau eraill y trinnir aelodau fel pe baent yn atebol amdanynt
9 

(1) Yn y rheoliad hwn, ystyr “darparwr gwasanaethau iechyd” yw Ymddiriedolaeth GIG, Bwrdd Iechyd Lleol neu ddarparwr gwasanaethau meddygol sylfaenol.
(2) Mae’r Cynllun yn gymwys i atebolrwyddau cymhwysol darparwr gwasanaethau iechyd nad yw’n aelod o’r Cynllun (“y contractwr”) pan fo’r gwasanaethau iechyd perthnasol a ddarperir ganddo yn destun trefniant rhyngddo ef a darparwr gwasanaethau iechyd arall sy’n aelod o’r Cynllun.
(3) Mae’r atebolrwyddau cymhwysol y mae’r Cynllun yn gymwys iddynt o dan baragraff (2) i’w trin at ddibenion y Cynllun a’r Rheoliadau hyn fel pe baent yn atebolrwyddau gan y darparwr gwasanaethau iechyd sy’n aelod o’r Cynllun ac a ymrwymodd i’r trefniant.
(4) Atebolrwyddau cymhwysol contractwr yw unrhyw atebolrwydd mewn camwedd o dan gyfraith Cymru a Lloegr—
(a) sydd ar y contractwr i drydydd parti mewn cysylltiad ag anaf personol neu golled, neu o ganlyniad i anaf personol neu golled, fel y’i pennir ym mharagraff (5), a
(b) sydd o ganlyniad i’r trefniant y cyfeirir ato ym mharagraff (2).
(5) Yr anaf personol neu’r golled y cyfeirir ato neu ati ym mharagraff (4)(a) yw anaf personol neu golled sy’n codi o unrhyw dor dyletswydd gofal neu mewn cysylltiad ag unrhyw dor dyletswydd gofal—
(a) sydd ar y contractwr i unrhyw berson mewn cysylltiad â gwneud diagnosis o unrhyw salwch neu ofal neu driniaeth unrhyw glaf, a
(b) sydd o ganlyniad i unrhyw weithred neu anweithred a bennir ym mharagraff (6).
(6) Yr weithred neu’r anweithred y cyfeirir ati ym mharagraff (5)(b) yw gweithred neu anweithred i weithredu mewn cysylltiad â darparu gwasanaethau iechyd perthnasol ar ran—
(a) y contractwr,
(b) person sydd wedi ei gyflogi neu ei gymryd ymlaen gan y contractwr, neu
(c) cyflogai neu asiant i berson sydd wedi ei gymryd ymlaen gan y contractwr.
Penderfynu ar symiau sy’n daladwy gan aelodau
10 

(1) Rhaid i Weinidogion Cymru benderfynu ar y swm y mae rhaid i bob aelod o’r Cynllun ei dalu i Weinidogion Cymru mewn cysylltiad â phob blwyddyn aelodaeth.
(2) Wrth benderfynu ar y swm ym mharagraff (1) mewn cysylltiad ag unrhyw aelod (“A”), caiff Gweinidogion Cymru roi sylw i—
(a) amcangyfrif Gweinidogion Cymru o’r cyfanswm sydd, yn rhinwedd rheoliad 13 (taliadau allan o’r Cynllun), yn debygol o fod yn daladwy yn ystod y flwyddyn aelodaeth honno mewn cysylltiad â’r holl atebolrwyddau y mae’r Cynllun yn gymwys iddynt;
(b) natur swyddogaethau perthnasol A;
(c) nifer cyflogeion a chontractwyr A sydd wedi eu cymryd ymlaen er mwyn i A gyflawni swyddogaeth berthnasol neu unrhyw ran o swyddogaeth berthnasol;
(d) cymwysterau a phrofiad y cyflogeion hynny a’r contractwyr hynny;
(e) unrhyw gytundeb mewn cysylltiad ag A sy’n dod o fewn rheoliad 13(3)(c) (cytundeb bod y Cynllun i gwmpasu hawliad yn y dyfodol mewn cysylltiad ag atebolrwydd a dynnir cyn i aelodaeth ddechrau);
(f) unrhyw gytundeb mewn cysylltiad ag A sy’n dod o fewn rheoliad 13(5)(c) (cytundeb bod y Cynllun i gwmpasu hawliad presennol nad yw wedi ei fodloni cyn i aelodaeth beidio);
(g) unrhyw gytundeb mewn cysylltiad ag A sy’n dod o fewn rheoliad 14(2)(a) (cytundeb wrth dalu cyfraniad ychwanegol fod y Cynllun i gwmpasu hawliad mewn cysylltiad ag atebolrwydd a dynnir cyn i aelodaeth beidio);
(h) asesiad Gweinidogion Cymru o—
(i) effeithiolrwydd tebygol unrhyw gamau sy’n cael eu cymryd, neu sydd i’w cymryd, gan A o ran y modd y mae A yn arfer unrhyw swyddogaeth berthnasol at ddiben lleihau’r achosion o atebolrwydd mewn cysylltiad â’r swyddogaethau hynny y mae’r Cynllun yn gymwys iddynt, a
(ii) effeithiolrwydd unrhyw gamau sydd eisoes wedi eu cymryd at y diben hwnnw;
(i) unrhyw ffactor arall sy’n ymwneud ag A neu unrhyw aelod arall o’r Cynllun y mae Gweinidogion Cymru yn ystyried ei fod yn berthnasol i’r penderfyniad o dan baragraff (1).
(3) Mewn cysylltiad â phob blwyddyn aelodaeth, rhaid i Weinidogion Cymru roi i bob aelod hysbysiad ysgrifenedig sy’n pennu’r swm y penderfynir arno mewn cysylltiad â’r aelod hwnnw yn unol â pharagraff (1).
(4) Ac eithrio fel y’i datgenir ym mharagraff (5), rhaid i hysbysiad a roddir yn unol â pharagraff (3) gael ei roi heb fod yn hwyrach na 31 Rhagfyr yn y flwyddyn aelodaeth cyn y flwyddyn aelodaeth y mae’r hysbysiad yn ymwneud â hi.
(5) Yn achos unrhyw aelod a dderbynnir i’r Cynllun—
(a) rhaid i’r hysbysiad mewn cysylltiad â’r flwyddyn aelodaeth gyntaf gael ei roi heb fod yn hwyrach na 6 mis ar ôl y dyddiad y mae Gweinidogion Cymru yn cael cais yr aelod yn unol â rheoliad 5 (aelodaeth o’r Cynllun), a
(b) rhaid i’r hysbysiad mewn cysylltiad â’r ail flwyddyn aelodaeth gael ei roi heb fod yn hwyrach na 1 Gorffennaf yn y flwyddyn aelodaeth honno.
(6) At ddibenion paragraff (2)(c) a (d), mae cyfeiriad at “contractwyr” i’w ddehongli yn unol â rheoliad 9(2).
(7) At ddibenion paragraff (5), mae’r cyfeiriad at “blwyddyn aelodaeth gyntaf” corff sy’n aelod o’r Cynllun yn gyfeiriad at y cyfan neu ran o unrhyw flwyddyn aelodaeth yn union ar ôl unrhyw gyfnod nad oedd y corff yn aelod ynddo.
Dyletswydd aelodau i wneud cyfraniadau at y Cynllun
11 

(1) Rhaid i bob aelod o’r Cynllun, mewn cysylltiad â phob blwyddyn aelodaeth, dalu i Weinidogion Cymru y swm y penderfynir arno mewn cysylltiad â’r aelod o dan reoliad 10(1) (penderfynu ar symiau sy’n daladwy gan aelodau).
(2) Ac eithrio fel y’i datgenir ym mharagraff (3), rhaid i aelod sy’n cael hysbysiad o dan reoliad 10(3) o’r swm sy’n daladwy mewn cysylltiad â blwyddyn aelodaeth dalu’r swm sy’n ddyledus—
(a) yn unol ag unrhyw drefniant y mae Gweinidogion Cymru a’r aelod yn cytuno arno (a gaiff gynnwys taliad mewn rhandaliadau sydd i’w gwneud ar adegau y cytunir arnynt);
(b) os na ddeuir i gytundeb erbyn 1 Mawrth yn union cyn dechrau’r flwyddyn aelodaeth, erbyn unrhyw amser ac mewn unrhyw fodd y mae Gweinidogion Cymru yn penderfynu arnynt.
(3) Pan fo aelod sydd wedi ei dderbyn i’r Cynllun yn cael hysbysiad o dan reoliad 10(3) mewn cysylltiad â blwyddyn aelodaeth, rhaid i’r aelod dalu—
(a) y swm sy’n ddyledus mewn cysylltiad â’r flwyddyn aelodaeth gyntaf heb fod yn hwyrach nag 8 mis ar ôl y dyddiad y mae Gweinidogion Cymru yn cael cais yr aelod o dan reoliad 5 (aelodaeth o’r Cynllun), a
(b) y swm sy’n ddyledus mewn cysylltiad â’r ail flwyddyn aelodaeth heb fod yn hwyrach na 1 Awst yn y flwyddyn aelodaeth honno.
(4) At ddibenion paragraff (3), mae’r cyfeiriad at “blwyddyn aelodaeth gyntaf” corff sy’n aelod o’r Cynllun i’w ddehongli yn unol â rheoliad 10(7).
Diwygio penderfyniad ar swm taladwy
12 

(1) Mae paragraff (2) yn gymwys pan fo Gweinidogion Cymru yn nodi, cyn diwedd blwyddyn aelodaeth, o ran y swm y penderfynwyd ganddynt yn unol â rheoliad 10(1) ei fod yn daladwy gan yr aelod mewn cysylltiad â’r flwyddyn honno—
(a) ei fod wedi ei gyfrifo’n anghywir,
(b) y penderfynwyd arno drwy gyfeirio at wybodaeth a oedd yn anghywir, neu
(c) y dylid ei ailystyried yng ngoleuni gwybodaeth bellach sydd wedi dod ar gael i Weinidogion Cymru.
(2) O ran Gweinidogion Cymru—
(a) rhaid iddynt ailystyried y swm y penderfynwyd arno, a
(b) ar unrhyw adeg cyn diwedd y flwyddyn aelodaeth o dan sylw, cânt ddiwygio’r swm sy’n daladwy gan yr aelod mewn cysylltiad â’r flwyddyn honno.
(3) Rhaid i Weinidogion Cymru roi i’r aelod hysbysiad ysgrifenedig o unrhyw swm diwygiedig y penderfynir arno yn unol â pharagraff (2)(b) a rhaid i’r aelod dalu unrhyw swm sy’n parhau i fod yn ddyledus mewn cysylltiad â’r flwyddyn aelodaeth—
(a) yn unol ag unrhyw drefniadau y mae Gweinidogion Cymru a’r aelod yn cytuno arnynt (a gaiff gynnwys taliad mewn rhandaliadau sydd i’w gwneud ar adegau y cytunir arnynt), a
(b) os na ddeuir i gytundeb erbyn diwedd y flwyddyn aelodaeth, erbyn unrhyw amser ac mewn unrhyw fodd y mae Gweinidogion Cymru yn penderfynu arnynt.
(4) Mae’r cyfeiriad ym mharagraff (1) at swm y penderfynir arno gan Weinidogion Cymru yn unol â rheoliad 10(1) yn cynnwys unrhyw swm diwygiedig y penderfynir arno yn unol â pharagraff (2)(b).
Taliadau allan o’r Cynllun:atebolrwyddau aelodau
13 

(1) Pan fo taliad yn dod i’w wneud gan aelod o’r Cynllun o ran hawliad mewn cysylltiad ag atebolrwydd y mae’r Cynllun yn gymwys iddo, caiff Gweinidogion Cymru dalu i’r aelod, neu ar ran yr aelod, swm y penderfynir arno yn unol â rheoliad 17.
(2) Ni chaniateir i unrhyw daliad gael ei wneud o dan baragraff (1)—
(a) mewn cysylltiad ag unrhyw atebolrwydd gan yr aelod sydd wedi ei eithrio o’r Cynllun gan unrhyw un neu ragor o baragraffau (3) i (5), neu
(b) mewn cysylltiad ag unrhyw atebolrwydd neu daliad gan yr aelod sydd wedi ei eithrio o’r Cynllun gan reoliad 15 (eithriadau).
(3) Mae unrhyw atebolrwydd a dynnwyd gan gorff cymwys cyn iddo ddod yn aelod o’r Cynllun wedi ei eithrio o’r Cynllun oni bai—
(a) bod yr hawliad yn erbyn y corff cymwys mewn cysylltiad â’r atebolrwydd wedi ei wneud ar ôl dechrau ei aelodaeth o’r Cynllun,
(b) bod Gweinidogion Cymru wedi eu bodloni bod y corff cymwys wedi rhoi gwybod i Weinidogion Cymru cyn diwedd y cyfnod cymhwysol fod yr hawliad wedi ei wneud,
(c) bod Gweinidogion Cymru wedi cytuno cyn dechrau aelodaeth y corff cymwys na ddylid eithrio o’r Cynllun unrhyw atebolrwydd gan y corff sydd o ganlyniad i hawliad y mae is-baragraffau (a) a (b) yn gymwys iddo, a
(d) bod y cytundeb hwnnw wedi parhau mewn grym ar y dyddiad y mae’r hawliad yn erbyn y corff cymwys yn dod i’w fodloni.
(4) Mae unrhyw atebolrwydd gan aelod sy’n dod i’w fodloni ar ôl i’r aelod roi hysbysiad o ganslo o dan reoliad 6(2) (canslo aelodaeth gan aelod) ond cyn i’r aelodaeth beidio wedi ei eithrio o’r Cynllun oni bai bod Gweinidogion Cymru wedi eu bodloni y byddai’r atebolrwydd wedi dod i’w fodloni ar yr adeg honno er gwaethaf penderfyniad yr aelod i roi hysbysiad o’r fath.
(5) Mae unrhyw atebolrwydd gan gorff cymwys sy’n dod i’w fodloni ar ôl i’w aelodaeth o’r Cynllun beidio wedi ei eithrio o’r Cynllun oni bai—
(a) bod yr hawliad yn erbyn y corff cymwys mewn cysylltiad â’r atebolrwydd wedi ei wneud cyn i aelodaeth y corff beidio,
(b) bod Gweinidogion Cymru wedi eu bodloni bod y corff cymwys wedi rhoi gwybod i Weinidogion Cymru cyn diwedd y cyfnod cymhwysol fod yr hawliad wedi ei wneud,
(c) bod Gweinidogion Cymru wedi cytuno cyn i aelodaeth y corff cymwys beidio na ddylid eithrio o’r Cynllun unrhyw atebolrwydd gan y corff sydd o ganlyniad i hawliad y mae is-baragraffau (a) a (b) yn gymwys iddo, a
(d) bod y cytundeb hwnnw wedi parhau mewn grym ar y dyddiad y peidiodd aelodaeth y corff cymwys.
(6) Ym mharagraffau (3)(b) a (5)(b), y “cyfnod cymhwysol” yw’r cyfnod o 14 o ddiwrnodau sy’n dechrau â’r dyddiad y daeth yr aelod yn ymwybodol bod hawliad wedi ei wneud neu, os yw’n gynharach, y dyddiad y mae Gweinidogion Cymru yn ystyried y dylai’r aelod fod wedi dod yn ymwybodol bod hawliad wedi ei wneud.
Taliadau allan o’r Cynllun: atebolrwyddau cyn-aelodau
14 

(1) Pan—
(a) bo taliad yn dod i’w wneud gan gorff cymwys (“C”) sydd, ar unrhyw adeg, wedi bod yn aelod o’r Cynllun mewn cysylltiad â hawliad o ran atebolrwydd y mae’r Cynllun yn gymwys iddo, a
(b) bo’r hawliad yn ymwneud â thor dyletswydd gofal gan C tra oedd yn aelod o’r Cynllun,
caiff Gweinidogion Cymru, os yw’r amodau a bennir ym mharagraff (2) wedi eu bodloni, dalu i C neu ar ran C swm y penderfynir arno gan Weinidogion Cymru yn unol â rheoliad 17.
(2) Yr amodau yw—
(a) cyn i aelodaeth C o’r Cynllun beidio, fod Gweinidogion Cymru yn cytuno ag C, mewn cysylltiad â’r flwyddyn aelodaeth yn union cyn i aelodaeth C beidio, fod y swm sydd i’w dalu gan C o dan reoliad 11 (dyletswydd aelodau i wneud cyfraniadau at y Cynllun) hefyd i gynnwys swm ychwanegol y penderfynir arno at ddibenion y rheoliad hwn,
(b) bod Gweinidogion Cymru yn penderfynu bod y swm hwnnw yn ddigonol i fodloni unrhyw atebolrwyddau gan C sy’n dod o fewn paragraff (1) a dynnwyd tra oedd C yn aelod ond sy’n dod i’w bodloni ar ôl y dyddiad y mae aelodaeth C yn peidio, ac
(c) cyn y dyddiad hwnnw, fod C naill ai’n talu’r swm ychwanegol yn llawn neu’n ymrwymo i gytundeb â Gweinidogion Cymru i’w dalu mewn rhandaliadau.
(3) Ni chaniateir i unrhyw daliad gael ei wneud o dan baragraff (1) mewn cysylltiad ag unrhyw atebolrwydd neu daliad gan C sydd wedi ei eithrio o’r Cynllun gan reoliad 15 (eithriadau).
Eithriadau
15 

(1) Ac eithrio i’r graddau y mae Gweinidogion Cymru yn penderfynu arnynt, mae’r canlynol wedi eu heithrio o’r Cynllun—
(a) unrhyw atebolrwydd a gyfaddefir gan aelod heb gael cydsyniad ysgrifenedig Gweinidogion Cymru yn gyntaf;
(b) unrhyw atebolrwydd y penderfynir arno gan Lys mewn achos a gynhelir gan aelod ac eithrio gan ymgynghori â Gweinidogion Cymru;
(c) unrhyw daliad sy’n dod i’w wneud gan aelod pan na fo’r aelod wedi cydymffurfio ag unrhyw amod a osodir gan Weinidogion Cymru ac sy’n ymwneud â hawliad;
(d) unrhyw daliad sy’n dod i’w wneud gan aelod, pan fo’r aelod, heb gael cydsyniad ysgrifenedig Gweinidogion Cymru yn gyntaf, yn cytuno—
(i) i gael ei rwymo gan benderfyniad gan unrhyw berson neu gorff o ran gwneud taliad gan yr aelod hwnnw mewn cysylltiad ag atebolrwydd, neu
(ii) i wneud unrhyw daliad arall mewn cysylltiad â’r atebolrwydd ac eithrio yng nghwrs achos cyfreithiol neu o ganlyniad i setliad mewn achos cyfreithiol y mae’r aelod yn cytuno arno;
(e) unrhyw atebolrwydd sydd o swm sy’n llai na’r swm y mae aelod a Gweinidogion Cymru yn cytuno, am y tro, mai hwnnw yw isafswm unrhyw atebolrwydd y mae taliad i’w wneud mewn cysylltiad ag ef o dan y Cynllun;
(f) unrhyw atebolrwydd gan ddarparwr gwasanaethau meddygol sylfaenol a dynnwyd, neu sy’n dod i’w fodloni, mewn blwyddyn aelodaeth y cynhwyswyd y darparwr gwasanaethau meddygol sylfaenol hwnnw mewn perthynas â hi mewn hysbysiad i Weinidogion Cymru gan y Bwrdd Iechyd Lleol.
(2) Ym mharagraff (1)—
(a) mae cyfeiriadau at “aelod” yn cynnwys cyn-aelod o’r Cynllun—
(i) y mae gofynion rheoliad 13(5)(c) a (d) wedi eu bodloni mewn cysylltiad ag ef (cytundeb bod y Cynllun i gwmpasu hawliad presennol nad yw wedi ei fodloni cyn i aelodaeth beidio), neu
(ii) y mae rheoliad 14 yn gymwys iddo (atebolrwyddau cyn-aelodau);
(b) yn is-baragraff (f), ystyr “hysbysiad” yw rhestr o ddarparwyr gwasanaethau meddygol sylfaenol nad yw eu hatebolrwyddau cymhwysol i’w cwmpasu gan y Cynllun am y flwyddyn aelodaeth.
Taliadau allan o’r Cynllun:atebolrwyddau y trinnir aelodau fel pe baent yn atebol amdanynt
16 

(1) Mae paragraff (2) yn gymwys i unrhyw daliad o ran hawliad mewn cysylltiad ag atebolrwydd cymhwysol sy’n dod o fewn rheoliad 9 (atebolrwyddau eraill y trinnir aelodau fel pe baent yn atebol amdanynt) pan fo’r taliad yn dod i’w wneud gan aelod o’r Cynllun a drinnir o dan reoliad 9(3) fel pe bai’n atebol mewn cysylltiad â’r hawliad.
(2) Mae rheoliadau 13 i 15 (amgylchiadau y mae taliadau i’w gwneud allan o’r Cynllun odanynt mewn cysylltiad ag atebolrwyddau aelodau a chyn-aelodau) i fod yn gymwys er mwyn galluogi i daliadau gael eu gwneud i unrhyw aelod o’r Cynllun, neu ar ei ran, mewn cysylltiad ag atebolrwyddau cymhwysol fel y mae’r rheoliadau hynny yn gymwys mewn cysylltiad ag atebolrwyddau’r aelod ei hun.
(3) Wrth gymhwyso rheoliad 13, 14 neu 15 at ddibenion paragraff (2), mae cyfeiriadau at unrhyw beth sy’n cael ei wneud gan aelod, i aelod neu yn erbyn aelod mewn cysylltiad ag atebolrwydd y mae’r Cynllun yn gymwys iddo yn cynnwys cyfeiriadau ato’n cael ei wneud mewn cysylltiad ag atebolrwydd cymhwysol y trinnir yr aelod fel pe bai’n atebol amdano.
Penderfynu ar swm unrhyw daliad sydd i’w wneud allan o’r Cynllun
17 

(1) Mewn cysylltiad â phob atebolrwydd y mae’r Cynllun yn gymwys iddo, rhaid i Weinidogion Cymru benderfynu ar swm unrhyw daliad sydd i’w wneud o dan reoliad 13 neu 14 (taliadau allan o’r Cynllun mewn cysylltiad ag atebolrwyddau aelodau a chyn-aelodau).
(2) Wrth benderfynu ar swm y taliad sydd i’w wneud o dan yr amgylchiadau a bennir ym mhob un o baragraffau (3) i (8), rhaid i Weinidogion Cymru roi sylw i’r materion perthnasol a bennir yn y paragraff hwnnw.
(3) Pan fo iawndal wedi ei ddyfarndalu gan Lys yn erbyn aelod, y materion perthnasol yw swm—
(a) y dyfarndal,
(b) y costau cyfreithiol a’r costau cysylltiedig a ddyfarndelir i’r hawlydd, ac
(c) unrhyw gostau cyfreithiol a chostau cysylltiedig yr eir iddynt gan neu ar ran yr aelod.
(4) Pan fo achos cyfreithiol yn destun setliad y mae’r aelod yn cytuno arno, y materion perthnasol yw swm—
(a) unrhyw swm a delir neu sy’n daladwy gan yr aelod mewn perthynas â hawliad yr hawlydd am iawndal,
(b) cyfraniad yr aelod tuag at unrhyw gostau cyfreithiol a chostau cysylltiedig yr eir iddynt gan yr hawlydd, ac
(c) unrhyw gostau cyfreithiol a chostau cysylltiedig yr eir iddynt gan neu ar ran yr aelod.
(5) Pan fo Llys, mewn unrhyw achosion cyfreithiol, wedi gwrthod dyfarndalu iawndal yn erbyn yr aelod, y materion perthnasol yw—
(a) swm unrhyw gostau cyfreithiol a chostau cysylltiedig yr eir iddynt gan neu ar ran yr aelod, a
(b) y graddau nad yw’r costau hynny yn adferadwy naill ai gan yr hawlydd neu gan yr Asiantaeth Cymorth Cyfreithiol o dan reoliadau sydd wedi eu gwneud yn rhinwedd adran 26(5) o Ddeddf Cymorth Cyfreithiol, Dedfrydu a Chosbi Troseddwyr 2012 (costau mewn achosion sifil).
(6) Pan fo aelod, ac eithrio yng nghwrs achos cyfreithiol, wedi cytuno i wneud taliad er mwyn setlo hawliad, y materion perthnasol yw swm—
(a) y taliad y cytunir arno, a
(b) unrhyw gostau cyfreithiol neu gostau cysylltiedig yr eir iddynt gan neu ar ran yr aelod mewn cysylltiad â’r hawliad.
(7) Pan fo aelod, ac eithrio yng nghwrs achos cyfreithiol, wedi cytuno i wneud unrhyw gyfraniad tuag at y costau cyfreithiol neu’r costau cysylltiedig yr eir iddynt gan berson mewn cysylltiad â hawliad y person hwnnw yn erbyn yr aelod mewn cysylltiad ag atebolrwydd y mae’r Cynllun yn gymwys iddo, y materion perthnasol yw swm—
(a) y cyfraniad hwnnw, a
(b) unrhyw gostau cyfreithiol neu gostau cysylltiedig yr eir iddynt gan neu ar ran yr aelod mewn cysylltiad â’r hawliad.
(8) Pan fo aelod wedi cytuno i gael ei rwymo gan benderfyniad gan unrhyw berson neu gorff o ran gwneud taliad gan yr aelod hwnnw mewn cysylltiad ag atebolrwydd y mae’r Cynllun yn gymwys iddo, y materion perthnasol yw swm—
(a) y taliad,
(b) unrhyw gostau cyfreithiol neu gostau cysylltiedig yr eir iddynt gan yr hawlydd mewn cysylltiad â’r hawliad, ac
(c) unrhyw gostau cyfreithiol neu gostau cysylltiedig yr eir iddynt gan neu ar ran yr aelod mewn cysylltiad â’r hawliad.
(9) Yn y rheoliad hwn, mae cyfeiriadau at “aelod” i’w dehongli yn unol â rheoliad 15(2).
Pŵer i wneud taliadau ar gyfrif
18 

(1) Pan fo taliad, mewn unrhyw flwyddyn aelodaeth, yn dod i’w wneud gan aelod mewn cysylltiad â hawliad y gall swm ddod yn daladwy gan Weinidogion Cymru mewn cysylltiad ag ef o dan reoliad 17 (penderfynu ar swm unrhyw daliad sydd i’w wneud allan o’r Cynllun), caiff Gweinidogion Cymru wneud taliad ar gyfrif o unrhyw swm a all ddod yn daladwy.
(2) Caniateir i daliad ar gyfrif gael ei wneud i’r aelod neu ar ei ran.
(3) Pan fo swm unrhyw daliad ar gyfrif yn fwy na’r swm y penderfynir wedi hynny o dan reoliad 17 mai hwnnw yw swm y taliad sydd i’w wneud mewn cysylltiad â’r hawliad, mae’r taliad dros ben yn adferadwy gan yr aelod.
Dyletswydd aelodau i ddarparu gwybodaeth
19 

(1) Yn y rheoliad hwn, ystyr “penodedig” yw wedi ei bennu gan Weinidogion Cymru mewn hysbysiad o dan baragraff (2).
(2) Caiff Gweinidogion Cymru drwy hysbysiad ysgrifenedig ei gwneud yn ofynnol i aelod ddarparu gwybodaeth benodedig i Weinidogion Cymru.
(3) Mae gwybodaeth benodedig yn cynnwys—
(a) natur unrhyw swyddogaeth berthnasol a gynhelir, neu sydd i’w chynnal, gan yr aelod mewn blwyddyn aelodaeth benodedig,
(b) nifer cyflogeion a chontractwyr yr aelod sydd wedi eu cymryd ymlaen er mwyn i’r aelod gyflawni swyddogaeth berthnasol benodedig neu mewn rhan benodedig o unrhyw swyddogaeth o’r fath,
(c) cymwysterau a phrofiad y cyflogeion hynny a’r contractwyr hynny, a
(d) unrhyw ddigwyddiad y mae’r aelod yn ymwybodol ohono y mae’n ystyried y gallai arwain at atebolrwydd y mae’r Cynllun yn gymwys iddo.
(4) Rhaid i’r aelod gydymffurfio â hysbysiad o dan baragraff (2) a rhaid iddo—
(a) darparu’r wybodaeth o fewn 28 o ddiwrnodau i gael yr hysbysiad neu o fewn unrhyw gyfnod pellach y mae Gweinidogion Cymru wedi ei ganiatáu yn ysgrifenedig,
(b) darparu’r wybodaeth ar unrhyw ffurf benodedig, ac
(c) cyflwyno’r wybodaeth mewn unrhyw fodd penodedig.
(5) At ddibenion paragraff (3)(b) ac (c), mae’r cyfeiriad at “contractwyr” i’w ddehongli yn unol â rheoliad 9(2).
Cyfarwyddydau a chanllawiau
20 

(1) Rhaid i Weinidogion Cymru roi ar gael i gyrff cymwys yr wybodaeth a ganlyn ar unrhyw ffurf ac ar unrhyw adegau y mae Gweinidogion Cymru yn ystyried eu bod yn briodol—
(a) unrhyw gyfarwyddydau y mae Gweinidogion Cymru yn eu rhoi i gorff perthnasol mewn cysylltiad ag arfer swyddogaethau’r corff hwnnw ganddo mewn cysylltiad â gweinyddu’r Cynllun, a
(b) unrhyw ganllawiau y mae Gweinidogion Cymru yn eu rhoi i gorff perthnasol o ran y modd y mae’r Cynllun i’w weinyddu.
(2) Ystyr “corff perthnasol” yw corff a gyfarwyddir gan Weinidogion Cymru o dan adran 30(5) o’r Ddeddf i gyflawni swyddogaethau mewn cysylltiad â gweinyddu’r Cynllun.
Diwygio Rheoliadau’r Gwasanaeth Iechyd Gwladol (Contractau Gwasanaethau Meddygol Cyffredinol) (Cymru) 2004
21 

(1) Mae Rheoliadau’r Gwasanaeth Iechyd Gwladol (Contractau Gwasanaethau Meddygol Cyffredinol) (Cymru) 2004 wedi eu diwygio fel a ganlyn.
(2) Yn Atodlen 6, ym mharagraff 120—
(a) ar ôl is-baragraff (2) mewnosoder—“
(2A) The Local Health Board, to the extent it considers reasonable and to the extent it may be reimbursed in accordance with the Clinical Negligence Scheme for NHS Trusts and Local Health Boards established by regulation 3 of the 2019 Regulations, shall indemnify the contractor in respect of that contractor’s qualifying liabilities as specified in regulation 9(4) of the 2019 Regulations, provided the contractor—
(a) complies with the Local Health Board’s claims management protocol for contractors (as amended from time to time); and
(b) does not have any other indemnity arrangement in force in connection with clinical services which the contractor provides under the contract at the time the qualifying liability arose.”;
(b) yn is-baragraff (3)—
(i) ar ddiwedd paragraff (aa) hepgorer “and”;
(ii) yn lle paragraff (b) rhodder—“
(b) a contractor shall be regarded as having in force in relation to it an indemnity arrangement—
(i) if there is an indemnity arrangement in force in relation to a person employed or engaged by it in connection with clinical services which that person provides under the contract or, as the case may be, sub-contract; or
(ii) for its qualifying liabilities specified in regulation 9(4) of the 2019 Regulations, to the extent provided for under paragraph 120(2A);”;
(iii) ar ôl paragraff (b) mewnosoder—“
(c) “the 2019 Regulations” means the National Health Service (Clinical Negligence Scheme) (Wales) Regulations 2019.”
Dirymu
22 
Mae Rheoliadau’r Gwasanaeth Iechyd Gwladol (Cynllun Esgeuluster Clinigol) 1996 wedi eu dirymu.
Vaughan Gething
Y Gweinidog Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol, un o Weinidogion Cymru
4 Mawrth 2019