
2019 Rhif 390 (Cy. 95)
Ymadael Â’r Undeb Ewropeaidd, Cymru
Diogelu’r Amgylchedd, Cymru
Rheoliadau Safonau Ansawdd Aer (Cymru) (Diwygio) (Ymadael â’r UE) 2019Gofynion sifftio wedi eu bodloni18 Chwefror 2019
Gwnaed 26 Chwefror 2019
Gosodwyd gerbron Cynulliad Cenedlaethol Cymru 28 Chwefror 2019
Yn dod i rym yn unol â rheoliad 1(1)

Mae Gweinidogion Cymru yn gwneud y Rheoliadau hyn drwy arfer y pwerau a roddir gan baragraff 1(1) o Atodlen 2 a pharagraff 21(b) o Atodlen 7 i, Ddeddf yr Undeb Ewropeaidd (Ymadael) 2018.

Mae gofynion paragraff 4(2) o Atodlen 7 i’r Ddeddf honno (sy’n ymwneud â gweithdrefn graffu briodol Cynulliad Cenedlaethol Cymru ar gyfer y Rheoliadau hyn) wedi eu bodloni.
Enwi, cychwyn a dehongli
1 

(1) Enw’r Rheoliadau hyn yw Rheoliadau Safonau Ansawdd Aer (Cymru) (Diwygio) (Ymadael â’r UE) 2019 a deuant i rym ar y diwrnod ymadael.
(2) Yn y Rheoliadau hyn ystyr “Rheoliadau 2010” (“the 2010 Regulations”) yw Rheoliadau Safonau Ansawdd Aer (Cymru) 2010.
Diwygio Rheoliadau 2010
2 

(1) Mae Rheoliadau 2010 wedi eu diwygio fel a ganlyn.
(2) Yn rheoliad 2, hepgorer paragraff (2).
(3) Ar ôl rheoliad 2 mewnosoder—“
Dehongli
2A. 

(1) Wrth ddehongli Cyfarwyddeb 2008/50/EC at ddibenion y Rheoliadau hyn—
(a) mae Erthygl 3(f) i’w darllen fel pe bai “Member States” wedi ei roi yn lle “other Member States”;
(b) yn Atodiad 1—
(i) yn adran A, mae troednodyn (1) i’w ddarllen fel pe bai—(aa) “the Welsh Ministers” wedi ei roi yn lle “Member States”;(bb) y geiriau “to the Commission” wedi eu hepgor;
(ii) mae adran C i’w darllen fel pe bai—(aa) “designated” wedi ei roi yn lle “harmonised” ym mhob lle y mae’r gair hwnnw digwydd;(bb) ym mhwynt (i), y mae’r geiriau “pursuant to Article 6 and 9” wedi eu hepgor;(cc) ym mhwynt (iii), y mae’r geiriau o “and that institutions” hyd at y diwedd wedi eu hepgor;(dd) ym mhwynt (iv), yn y frawddeg gyntaf, y mae’r geiriau o “by the appropriate” hyd at “Article 3” wedi eu hepgor;(ee) ym mhwynt (iv), yn y frawddeg gyntaf, y mae’r geiriau o “the reference to” hyd at “the European Union” wedi eu hepgor;(ff) ym mhwynt (iv), yn yr ail frawddeg, y mae’r geiriau o “for the coordination” hyd at “be responsible” wedi eu hepgor;(gg) pwyntiau (v) a (vi) wedi eu hepgor;(hh) ym mharagraff 2, bod “All data” wedi ei roi yn lle “All reported data under Article 27”;
(c) yn Atodiad 2, yn adran B, mae’r ail is-baragraff i’w ddarllen fel pe bai “the Welsh Ministers” wedi ei roi yn lle “Member States”;
(d) yn Atodiad 3, yn adran A, mae paragraff (2)(b) i’w ddarllen fel pe bai’r geiriau “in accordance with Article 2(1)” wedi eu hepgor;
(e) yn Atodiad 5, yn adran A, mae troednodiadau (1) a (2) i’r tabl i’w darllen fel pe bai “the United Kingdom” wedi ei roi yn lle “a Member State” ym mhob lle y mae’r geiriau hynny’n digwydd;
(f) yn Atodiad 6, mae adran B i’w darllen fel pe bai—
(i) ym mhwynt 1—(aa) “The Welsh Ministers” wedi ei roi yn lle “A Member State”;(bb) “they” wedi ei roi yn lle “it”;(cc) “the Welsh Ministers” wedi ei roi yn lle “the Member State concerned”;
(ii) pwyntiau 2, 3 a 4 wedi eu hepgor;
(g) yn Atodiad 8, yn adran A, mae’r paragraff ar ôl y tabl i’w ddarllen fel pe bai “in so far as it forms part of retained EU law” wedi ei fewnosod ar ôl y geiriau “in the Community”.
(2) Wrth ddehongli Cyfarwyddeb 2004/107/EC at ddibenion y Rheoliadau hyn—
(a) yn Atodiad 2, yn adran 2, mae’r ail baragraff i’w ddarllen fel pe bai “the Welsh Ministers” wedi ei roi yn lle “Member States”;
(b) yn Atodiad 3, yn adran 4, mae pwynt (b) i’w ddarllen fel pe bai’r geiriau “as defined by Article 2(11) of Directive 96/61/EC” wedi eu hepgor; ac
(c) yn Atodiad 4, mae adran 1 i’w darllen fel pe bai “the Welsh Ministers” wedi ei roi yn lle “Member State” ym mhob lle y mae’r geiriau hynny’n digwydd;
(d) mae Atodiad 5 i’w ddarllen fel pe bai—
(i) yn adran 1, yn yr ail baragraff, “The Welsh Ministers” wedi ei roi yn lle “A Member State”;
(ii) yn adran 2—(aa) yn y paragraff cyntaf, “the Welsh Ministers may” wedi ei roi yn lle “Member States are allowed to”;(bb) yn yr ail baragraff, “The Welsh Ministers” wedi ei roi yn lle “A Member State”;
(iii) yn adran 3, yn yr ail baragraff, “The Welsh Ministers” wedi ei roi yn lle “A Member State”;
(iv) Adran 5 wedi ei hepgor.”
(4) Yn lle rheoliad 13(4) rhodder —“
(4) Pan fo Gweinidogion Cymru yn ystyried bod gwerth terfyn wedi ei groesi am reswm sydd i’w briodoli i ffynonellau naturiol, ni ystyrir bod y gwerth terfyn hwnnw wedi ei groesi at ddibenion y Rheoliadau hyn.
(5) Pan fo Gweinidogion Cymru yn ystyried bod gwerth terfyn wedi ei groesi am reswm sydd i’w briodoli i ffynonellau naturiol yn unol â pharagraff (4), rhaid i Weinidogion Cymru gyhoeddi gwybodaeth, ar gyfer y parthau a’r crynoadau perthnasol, sy’n dangos y gellir priodoli’r gormodiannau i ffynonellau naturiol.”
(5) Yn rheoliad 14—
(a) ym mharagraff (5)(b) yn lle “Chyfarwyddeb 2008/1/EC” rhodder “Rheoliadau Trwyddedu Amgylcheddol (Cymru a Lloegr) 2016”;
(b) ym mharagraff (6), yn lle “ag Erthygl 6 o Gyfarwyddeb 2001/81/EC” rhodder “â rheoliad 9 o Reoliadau Terfynau Uchaf Allyriadau Cenedlaethol 2018”;
(c) hepgorer paragraff (7).
(6) Yn rheoliad 15, mae paragraff (2) wedi ei hepgor.
(7) Yn rheoliad 20—
(a) ym mharagraff (2), hepgorer “yn unol ag Erthygl 21 o Gyfarwyddeb 2008/50/EC,”;
(b) yn lle paragraff (7) rhodder—“
(7) Pa bryd bynnag y bo’n bosibl, rhaid i gynlluniau ansawdd aer fod yn gyson ag—
(a) y Cynllun Cenedlaethol Trosiannol, y mae iddo’r ystyr a roddir i “Transitional National Plan” yn rheoliad 2(1) o Reoliadau Peiriannau Mewndanio Mawr (Cynllun Cenedlaethol Trosiannol) 2015;
(b) rhaglen rheoli llygredd aer genedlaethol a lunnir yn unol â rheoliad 9 o Reoliadau Terfynau Uchaf Allyriadau Cenedlaethol 2018;
(c) cynllun gweithredu a lunnir yn unol â Rhan 4 o Reoliadau Sŵn Amgylcheddol (Cymru) 2006.”
(8) Yn rheoliad 23(3), ar ôl “y Gymuned Ewropeaidd” mewnosoder “i’r graddau y mae wedi ei throsi i’r gyfraith sy’n gymwys yng Nghymru”.
Lesley Griffiths
Gweinidog yr Amgylchedd, Ynni a Materion Gwledig, un o Weinidogion Cymru
26 Chwefror 2019