
2019 Rhif 372 (Cy. 93)
Ymadael Â’r Undeb Ewropeaidd, Cymru
Anifeiliaid, Cymru
Rheoliadau Dileu a Rheoli Afiechydon Milheintiol (Diwygiadau Amrywiol) (Cymru) (Ymadael â’r UE) 2019Gofynion sifftio wedi eu bodloni28 Ionawr 2019
Gwnaed 25 Chwefror 2019
Gosodwyd gerbron Cynulliad Cenedlaethol Cymru 27 Chwefror 2019
Yn dod i rym yn unol â rheoliad 1(2)

Mae Gweinidogion Cymru, drwy arfer y pwerau a roddir gan baragraff 1(1) o Atodlen 2 a pharagraff 21 o Atodlen 7 i Ddeddf yr Undeb Ewropeaidd (Ymadael) 2018, yn gwneud y Rheoliadau a ganlyn.

Mae gofynion paragraff 4(2) o Atodlen 7 i’r Ddeddf honno (sy’n ymwneud â gweithdrefn graffu briodol Cynulliad Cenedlaethol Cymru ar gyfer y Rheoliadau hyn) wedi eu bodloni.
Enwi, cychwyn a chymhwyso
1 

(1) Enw’r Rheoliadau hyn yw Rheoliadau Dileu a Rheoli Afiechydon Milheintiol (Diwygiadau Amrywiol) (Cymru) (Ymadael â’r UE) 2019.
(2) Daw’r Rheoliadau hyn i rym ar y diwrnod ymadael.
(3) Mae’r Rheoliadau hyn yn gymwys o ran Cymru.
Diwygio Rheoliadau Milheintiau (Monitro) (Cymru) 2007
2 

(1) Mae Rheoliadau Milheintiau (Monitro) (Cymru) 2007 wedi eu diwygio fel a ganlyn.
(2) Yn rheoliad 2—
(a) ym mharagraff (1), hepgorer y diffiniad o “y Gyfarwyddeb”;
(b) ar ôl paragraff (2) mewnosoder—“
(3) Ym mharagraff (2), ystyr “y Gyfarwyddeb” yw Cyfarwyddeb 2003/99/EC Senedd Ewrop a’r Cyngor ar fonitro milheintiau a chyfryngau milheintiol.”
(3) Hepgorer rheoliad 3.
(4) Yn rheoliad 5—
(a) ar ddiwedd paragraff (d), mewnosoder “ac”;
(b) hepgorer paragraff (e) a’r “ac” o’i flaen.
Diwygio Gorchymyn Twbercwlosis (Cymru) 2010
3 

(1) Mae Gorchymyn Twbercwlosis (Cymru) 2010 wedi ei ddiwygio fel a ganlyn.
(2) Yn erthygl 2, hepgorer y diffiniad o “statws rhydd rhag twbercwlosis”.
(3) Yn erthygl 11(3), yn lle “pa un a oes gan y fuches sy’n cynnwys yr anifail hwnnw statws rhydd rhag twbercwlosis neu beidio” rhodder “pa un a yw’r fuches sy’n cynnwys yr anifail hwnnw yn fuches dan gyfyngiadau ai peidio”.
(4) Yn erthygl 12(3A)(d), yn lle “bod y fuches odro wedi colli ei statws rhydd rhag twbercwlosis” rhodder “ei bod yn fuches dan gyfyngiadau”.
(5) Yn erthygl 14(4), yn lle “yn colli neu’n adennill ei statws rhydd rhag twbercwlosis” rhodder “yn dod neu’n peidio â bod yn fuches dan gyfyngiadau”.
(6) Yn Atodlen 2, ym mharagraff 8, yn lle is-baragraff (c) rhodder—“
(c) buches sydd wedi bod yn fuches dan gyfyngiadau ar unrhyw adeg yn ystod y 18 mis sy’n dod i ben ar ddyddiad y symud; neu”.
Lesley Griffiths
Gweinidog yr Amgylchedd, Ynni a Materion Gwledig, un o Weinidogion Cymru
25 Chwefror 2019