
2019 Rhif 366 (Cy. 88)
Anifeiliaid, CymruIechyd Anifeiliaid
Rheoliadau Enseffalopathïau Sbyngffurf Trosglwyddadwy (Cymru) (Diwygio) 2019
Gwnaed 25 Chwefror 2019
Gosodwyd gerbron Cynulliad Cenedlaethol Cymru 26 Chwefror 2019
Yn dod i rym 28 Mawrth 2019

Mae Gweinidogion Cymru wedi eu dynodi at ddibenion adran 2(2) o Ddeddf y Cymunedau Ewropeaidd 1972 mewn perthynas â mesurau yn y meysydd milfeddygol a ffytoiechydol ar gyfer diogelu iechyd y cyhoedd.

Mae Gweinidogion Cymru yn gwneud y Rheoliadau hyn o dan y pwerau a roddir gan adran 2(2) o Ddeddf y Cymunedau Ewropeaidd 1972 a pharagraff 1A o Atodlen 2 iddi.
Enwi a chychwyn
1 

(1) Enw’r Rheoliadau hyn yw Rheoliadau Enseffalopathïau Sbyngffurf Trosglwyddadwy (Cymru) (Diwygio) 2019.
(2) Daw’r Rheoliadau hyn i rym ar 28 Mawrth 2019.
Diwygio Rheoliadau Enseffalopathïau Sbyngffurf Trosglwyddadwy (Cymru) 2018
2 
Ym mharagraff 9(3)(a) o Atodlen 7 i Reoliadau Enseffalopathïau Sbyngffurf Trosglwyddadwy (Cymru) 2018, yn lle “yn dilyn” rhodder “cyn”.
Lesley Griffiths
Gweinidog yr Amgylchedd, Ynni a Materion Gwledig, un o Weinidogion Cymru
25 Chwefror 2019