
2019 Rhif 363 (Cy. 86)
Pysgodfeydd Môr, Cymru
Gorchymyn Pysgota Môr (Hysbysiadau Cosb) (Cymru) 2019
Gwnaed 20 Chwefror 2019
Gosodwyd gerbron Cynulliad Cenedlaethol Cymru 26 Chwefror 2019
Yn dod i rym 22 Mawrth 2019
Mae Gweinidogion Cymru, drwy arfer y pwerau a roddir gan adran 30(2) a (2ZA) o Ddeddf Pysgodfeydd 1981 a freiniwyd bellach ynddynt hwy ac adrannau 294 a 316(1)(b) o Ddeddf y Môr a Mynediad i’r Arfordir 2009, yn gwneud y Gorchymyn a ganlyn.
Enwi, cychwyn a chymhwyso
1 

(1) Enw’r Gorchymyn hwn yw Gorchymyn Pysgota Môr (Hysbysiadau Cosb) (Cymru) 2019.
(2) Daw’r Gorchymyn hwn i rym ar 22 Mawrth 2019.
(3) Mae’r Gorchymyn hwn yn gymwys o ran Cymru, parth Cymru, a chychod pysgota Cymru ym mha le bynnag y bônt.
Dehongli
2 
Yn y Gorchymyn hwn—
 ystyr “cosb” (“penalty”) yw’r swm a bennir mewn hysbysiad cosb;
 ystyr “hysbysiad cosb” (“penaltynotice”) yw hysbysiad sy’n cynnig y cyfle, drwy dalu swm penodedig yn unol â’r Gorchymyn hwn, i ymryddhau o fod yn agored i gollfarn am y drosedd cosb y mae’r hysbysiad yn ymwneud â hi;
 ystyr “swyddog” (“officer”) yw swyddog gorfodi morol o fewn ystyr adran 235(1)(b) o Ddeddf y Môr a Mynediad i’r Arfordir 2009;
 ystyr “trosedd cosb” (“penalty offence”) yw trosedd (heblaw trosedd sy’n ymwneud ag ymosod, rhwystro neu fethu cydymffurfio â gofyniad a osodwyd gan berson) a restrir yn yr Atodlen.
Dyroddi hysbysiad cosb
3 

(1) Pan fo gan swyddog reswm dros gredu bod person wedi cyflawni trosedd cosb, caiff y swyddog ddyroddi hysbysiad cosb i’r person hwnnw am swm heb fod yn fwy na £10,000.
(2) Wrth benderfynu ar y gosb, rhaid i swyddog roi sylw i unrhyw ganllawiau a roddir gan Weinidogion Cymru ynghylch materion sydd i’w cymryd i ystyriaeth wrth wneud penderfyniad o’r fath.
(3) Mae hysbysiad cosb wedi ei ddyroddi ar yr adeg yr anfonir ef drwy’r post neu y traddodir ef â llaw i’r person y mae’n ymwneud ag ef.
Cynnwys hysbysiad cosb
4 

(1) Rhaid i hysbysiad cosb a ddyroddir o dan erthygl 3—
(a) rhoi manylion y drosedd cosb;
(b) datgan swm y gosb;
(c) datgan yn ystod pa gyfnod, yn rhinwedd erthygl 5, na chychwynnir achos ynglŷn â’r drosedd;
(d) datgan i ba berson ac ym mha gyfeiriad y gellir talu’r gosb; ac
(e) datgan bod rhaid peidio â thalu ag arian parod.
Cyfyngiad ar ddwyn achos am drosedd cosb
5 

(1) Pan fo hysbysiad cosb wedi ei roi i berson—
(a) ni chaniateir dwyn achos yn erbyn y person hwnnw am y drosedd cosb y mae’r hysbysiad hwnnw’n ymwneud â hi cyn diwedd y cyfnod o 28 niwrnod sy’n dechrau ar y dyddiad y dyroddwyd yr hysbysiad; a
(b) ni chaniateir collfarnu’r person hwnnw am y drosedd os telir y gosb cyn diwedd y cyfnod hwnnw.
(2) O ran paragraff (1)—
(a) mae’n ddarostyngedig i erthygl 10; a
(b) nid yw’n gymwys os tynnir yr hysbysiad cosb yn ôl yn unol ag erthygl 9.
Talu’r gosb
6 

(1) Rhaid talu cosb i’r person a bennir yn yr hysbysiad cosb drwy ei hanfon drwy’r post neu drwy unrhyw ddull a bennir yn yr hysbysiad cosb.
(2) Ni chaniateir ei thalu ag arian parod.
Trin taliad am un gosb fel taliad am gosbau cysylltiedig
7 

(1) Pan fo person (“A”) yn talu’r gosb yn unol ag erthygl 6, rhaid i swyddog roi hysbysiad (“hysbysiad taliad tybiedig”)(“notice of deemed payment”)) i bob person arall y dyroddwyd hysbysiad cosb gysylltiedig iddo.
(2) Mae hysbysiad cosb yn “hysbysiad cosb cysylltiedig” (“connected penalty notice”) os yw’r drosedd cosb y mae’r hysbysiad hwnnw’n ymwneud â hi yr un fath â’r drosedd cosb y mae’r hysbysiad cosb a ddyroddwyd i A ac a dalwyd ganddo yn ymwneud ag ef, ac yn codi o’r un set o amgylchiadau â hi.
(3) Rhaid i hysbysiad taliad tybiedig—
(a) cael ei anfon drwy’r post neu ei draddodi â llaw;
(b) dangos bod A wedi talu’r gosb am hysbysiad cosb cysylltiedig A;
(c) dangos y trinnir yr hysbysiad cosb a ddyroddwyd i dderbynnydd yr hysbysiad taliad tybiedig fel pe bai wedi ei dalu oni bai bod y person hwnnw’n rhoi hysbysiad ysgrifenedig yn dangos na ddylai gael ei drin felly (“hysbysiad gwrthwynebu” (“noticeofobjection”)); a
(d) datgan enw a chyfeiriad y person y mae’n rhaid rhoi unrhyw hysbysiad gwrthwynebu iddo.
(4) Rhaid i hysbysiad gwrthwynebu gael ei anfon drwy’r post neu ei draddodi â llaw i’r person a ddatgenir ym mharagraff (3)(d) o fewn—
(a) 28 niwrnod yn dechrau â’r dyddiad y dyroddwyd yr hysbysiad cosb; neu
(b) os yw’n hwyrach, 5 niwrnod yn dechrau â’r dyddiad y rhoddwyd yr hysbysiad taliad tybiedig.
(5) Os na roddir hysbysiad gwrthwynebu yn unol â’r erthygl hon, mae’r hysbysiad cosb a ddyroddwyd i berson y rhoddwyd hysbysiad taliad tybiedig iddo i’w drin fel pe bai wedi ei dalu.
Tystysgrif bod hysbysiad cosb wedi ei dalu neu heb ei dalu
8 
Mewn unrhyw achos mae tystysgrif yr honnir ei bod wedi ei llofnodi gan Weinidogion Cymru neu ar eu rhan ac sy’n dweud bod taliad ar gyfer hysbysiad cosb wedi dod i law neu heb ddod i law ar neu cyn dyddiad a bennir yn y dystysgrif yn dystiolaeth o’r ffeithiau a ddatgenir.
Tynnu hysbysiad cosb yn ôl
9 

(1) Caniateir i hysbysiad cosb gael ei dynnu’n ôl gan swyddog y mae ganddo reswm dros gredu na ddylai fod wedi ei ddyroddi (ynteu i’r person a enwyd yn yr hysbysiad cosb neu fel arall).
(2) Caniateir i hysbysiad cosb gael ei dynnu’n ôl cyn i’r gosb gael ei thalu neu ar ôl i’r gosb gael ei thalu.
(3) Os tynnir hysbysiad cosb yn ôl rhaid i unrhyw gosb a dalwyd gael ei had-dalu.
Cychwyn achos ar ôl i gosb gael ei thalu mewn perthynas â chychod pysgota o’r tu allan i’r Deyrnas Unedig
10 

(1) Mae’r erthygl hon yn gymwys o ran hysbysiad cosb a ddyroddir i feistr, perchennog neu siartrwr cwch pysgota heblaw cwch pysgota o’r Alban, Cymru, Gogledd Iwerddon neu Loegr.
(2) Pan fo person sydd wedi cael hysbysiad cosb wedi talu’r gosb, caiff y person hwnnw roi hysbysiad ysgrifenedig yn gofyn i achos gael ei ddwyn ynglŷn â’r drosedd cosb y mae’r hysbysiad cosb yn ymwneud â hi.
(3) Rhaid i’r hysbysiad hwn—
(a) nodi bod y person sy’n rhoi’r hysbysiad yn dymuno i achos gael ei ddwyn ynglŷn â’r drosedd cosb y mae’r hysbysiad cosb yn ymwneud â hi; a
(b) cael ei roi heb fod yn hwyrach na diwedd y cyfnod o 28 niwrnod yn dechrau â’r dyddiad y dyroddwyd yr hysbysiad cosb.
(4) Pan fo hysbysiad o’r fath wedi ei roi gan berson, caniateir i achos gael ei ddwyn yn erbyn y person hwnnw.
(5) Pan roddir y gorau i achos o’r fath neu pan ryddfernir y person o’r drosedd, mae’r hysbysiad cosb i’w drin fel pe bai heb gael ei ddyroddi erioed a rhaid i unrhyw gosb a dalwyd gael ei had-dalu.
(6) Pan gollfernir person o’r drosedd, mae’r hysbysiad cosb i’w drin fel pe bai heb gael ei ddyroddi erioed ac mae paragraff (7) neu (8) yn gymwys fel y bo’n briodol.
(7) Os gosodir dirwy ar y person ynglŷn â’r drosedd cosb, rhaid i swyddog—
(a) gymhwyso hynny o’r gosb nad yw’n fwy na swm y ddirwy i dalu’r ddirwy neu tuag at dalu’r ddirwy; a
(b) ad-dalu hynny o’r gosb sy’n fwy na swm y ddirwy.
(8) Os na osodir dirwy ar y person ynglŷn â’r drosedd cosb, rhaid i unrhyw gosb a dalwyd gael ei had-dalu.
Darpariaeth drosiannol
11 

(1) Mae’r erthygl hon yn gymwys—
(a) pan fo hysbysiad cosb wedi ei ddyroddi i berson o dan Orchymyn Pysgota Môr (Gorfodi Mesurau’r Gymuned) (Hysbysiadau Cosb) 2008; a
(b) pan nad yw’r gosb wedi ei thalu yn unol ag erthygl 6, ac nad yw’r hysbysiad cosb wedi ei dynnu’n ôl o dan erthygl 9 o’r Gorchymyn hwnnw.
(2) Bernir bod yr hysbysiad cosb wedi ei ddyroddi o dan y Gorchymyn hwn.
Dirymu
12 
Dirymir Gorchymyn Pysgota Môr (Gorfodi Mesurau’r Gymuned) (Hysbysiadau Cosb) 2008.
Lesley Griffiths
Gweinidog yr Amgylchedd, Ynni a Materion Gwledig, un o Weinidogion Cymru
20 Chwefror 2019
YR ATODLEN
Troseddau sy’n ymwneud â physgota môr
Erthygl 2
1 
Yn Neddf Pysgodfeydd Môr (Pysgod Cregyn) 1967, trosedd o dan—
(a) adran 3 (effaith rhoi hawl i reoleiddio pysgodfa);
(b) adran 7 (amddiffyn pysgodfeydd);
(c) adran 14 (darpariaethau atodol o ran gorchmynion o dan adrannau 12 a 13);
(d) adran 16 (peidio â gwerthu wystrys rhwng dyddiadau penodol);
(e) adran 17 (gwahardd cymryd a gwerthu crancod a chimychiaid penodol).
2 
Yn Neddf Pysgod Môr (Cadwraeth) 1967, trosedd o dan—
(a) adran 1 (cyfyngiadau maint, etc i bysgod);
(b) adran 2 (cyfyngiadau maint i bysgod i’w defnyddio yng nghwrs unrhyw fusnes);
(c) adran 3 (rheoleiddio rhwydi ac offer pysgota arall);
(d) adran 4 (trwyddedu cychod pysgota);
(e) adran 4A (trwyddedu llestri sy’n derbyn pysgod wedi’u trawslwytho);
(f) adran 5 (pŵer i gyfyngu pysgota am bysgod môr);
(g) adran 6 (gwahardd glanio pysgod môr a ddaliwyd mewn mannau penodol);
(h) adran 8 (rheoleiddio glanio pysgod môr wedi’u dal gan gychod tramor).
3 
Trosedd o dan adran 5 o Ddeddf Pysgodfeydd Môr 1968 (rheoleiddio cynnal gweithrediadau pysgota).
4 
Trosedd o dan adran 2 o Ddeddf Terfynau Pysgodfeydd 1976 (mynediad i bysgodfeydd Prydain).
5 
Trosedd o dan adran 30 o Ddeddf Pysgodfeydd 1981 (gorfodi rheolau’r Gymuned).
6 
Trosedd o dan adran 190 o Ddeddf y Môr a Mynediad i’r Arfordir 2009 (troseddau).
7 
Trosedd o dan reoliadau 3 i 11 o Reoliadau Cofrestru Prynwyr a Gwerthwyr Pysgod a Dynodi Safleoedd Arwerthu Pysgod (Cymru) 2006.
8 
Trosedd o dan erthygl 9 o Orchymyn Pysgota Môr (Pysgota Anghyfreithlon, Heb Roi Gwybod Amdano a Heb ei Reoleiddio) 2009.
9 
Yn yr Atodlen hon, mae cyfeiriad at adran yn cynnwys is-ddeddfwriaeth a wneir o dan yr adran honno.