
2019 Rhif 344 (Cy. 82)
Llywodraeth Leol, Cymru
Gorchymyn Llywodraeth Leol (Cynorthwywyr i Grwpiau Gwleidyddol) (Tâl) (Cymru) (Diwygio) 2019
Gwnaed 21 Chwefror 2019
Gosodwyd gerbron Cynulliad Cenedlaethol Cymru 22 Chwefror 2019
Yn dod i rym 1 Ebrill 2019
Mae Gweinidogion Cymru, drwy arfer y pwerau a roddir i’r Ysgrifennydd Gwladol gan adran 9(4) a (4A) o Ddeddf Llywodraeth Leol a Thai 1989 ac a freiniwyd bellach ynddynt hwy, yn gwneud y Gorchymyn a ganlyn:
Enwi a chychwyn
1 
Enw’r Gorchymyn hwn yw Gorchymyn Llywodraeth Leol (Cynorthwywyr i Grwpiau Gwleidyddol) (Tâl) (Cymru) (Diwygio) 2019 a daw i rym ar 1 Ebrill 2019.
Diwygio Gorchymyn Llywodraeth Leol (Cynorthwywyr i Grwpiau Gwleidyddol) (Tâl) (Cymru) 2009
2 
Yn erthygl 3(1) o Orchymyn Llywodraeth Leol (Cynorthwywyr i Grwpiau Gwleidyddol) (Tâl) (Cymru) 2009 yn lle “44” rhodder “38”.
Hannah Blythyn
Y Dirprwy Weinidog Tai a Llywodraeth Leol, o dan awdurdod y Gweinidog Tai a Llywodraeth Leol, un o Weinidogion Cymru
21 Chwefror 2019