
2019 Rhif 295 (Cy. 73)
Trydan, Cymru
Rheoliadau Trydan (Gorsafoedd Cynhyrchu Alltraeth) (Ceisiadau am Gydsyniad) (Cymru) 2019
Gwnaed 18 Chwefror 2019
Gosodwyd gerbron Cynulliad Cenedlaethol Cymru 20 Chwefror 2019
Yn dod i rym 1 Ebrill 2019
Mae Gweinidogion Cymru, drwy arfer y pwerau a roddir iddynt gan adrannau 36(8A) a 60 o Ddeddf Trydan 1989, yn gwneud y Rheoliadau a ganlyn:
Enwi a chychwyn
1 
Enw’r Rheoliadau hyn yw Rheoliadau Trydan (Gorsafoedd Cynhyrchu Alltraeth) (Ceisiadau am Gydsyniad) (Cymru) 2019 a deuant i rym ar 1 Ebrill 2019.
Dehongli
2 

(1) Yn y Rheoliadau hyn—
 mae i “awdurdod cynllunio lleol” yr un ystyr ag a roddir i “local planning authority” yn Rhan 1 o Ddeddf 1990;
 ystyr “awdurdod cynllunio perthnasol” (“relevant planning authority”), mewn perthynas â thir yng Nghymru, yw awdurdod cynllunio lleol;
 ystyr “cais” (“application”) yw cais i Weinidogion Cymru am gydsyniad o dan adran 36 i adeiladu, estyn neu weithredu gorsaf gynhyrchu, ynghyd ag unrhyw gais o dan adran 36A am ddatganiad sy’n ymwneud â hawliau mordwyo a wneir gyda’r cais o dan adran 36;
 ystyr “datblygiad adran 90” (“section 90 development”) yw unrhyw ddatblygiad y mae’r ceisydd, wrth wneud cais, yn gofyn i Weinidogion Cymru roi cyfarwyddyd o dan adran 90(2) neu (2ZA) o Ddeddf 1990 (caniatâd cynllunio tybiedig ar gyfer datblygu gydag awdurdodiad llywodraeth) mewn cysylltiad ag ef;
 ystyr “Deddf 1990” (“the 1990 Act”) yw Deddf Cynllunio Gwlad a Thref 1990.
(2) Oni nodir fel arall, mae unrhyw gyfeiriad yn y Rheoliadau hyn at adran â rhif yn gyfeiriad at yr adran honno o Ddeddf Trydan 1989.
Cynnwys ceisiadau
3 
Rhaid gwneud cais yn ysgrifenedig a rhaid iddo ddisgrifio drwy gyfeiriad at fap y lle y mae’r cais yn ymwneud ag ef, hynny yw, y lle—
(a) y bwriedir adeiladu’r orsaf gynhyrchu, y lle y bydd yr estyniad arfaethedig neu’r lle y mae’r orsaf y bwriedir ei gweithredu wedi ei lleoli; a
(b) y bydd unrhyw ddatblygiad adran 90 wedi ei leoli.
Cyflwyno hysbysiad am gais i awdurdod cynllunio perthnasol
4 
Pan wneir cais i Weinidogion Cymru a bod rhan o’r lle y mae’r cais yn ymwneud ag ef o fewn ardal awdurdod cynllunio perthnasol, rhaid cyflwyno hysbysiad am y cais i’r awdurdod cynllunio perthnasol.
Cyflwyno hysbysiad am gais pan na fo awdurdod cynllunio perthnasol
5 

(1) Mae’r rheoliad hwn yn gymwys pan na fo unrhyw ran o’r lle y mae cais yn ymwneud ag ef o fewn ardal awdurdod cynllunio perthnasol.
(2) Pan fo unrhyw awdurdod cynllunio lleol yng Nghymru a Lloegr neu Adran yr Amgylchedd yng Ngogledd Iwerddon, ym marn y ceisydd, yn debygol o fod â buddiant yn y cais, rhaid i’r ceisydd gyflwyno hysbysiad am y cais i’r corff hwnnw, ac o fewn saith niwrnod o’i gyflwyno felly, rhoi gwybod i Weinidogion Cymru yn ysgrifenedig beth yw enw’r corff hwnnw a rhoi copi o’r hysbysiad iddynt.
(3) Pan na fo corff o’r math a grybwyllir ym mharagraff (2), ym marn y ceisydd, yn debygol o fod â buddiant yn y cais, rhaid i’r ceisydd roi gwybod i Weinidogion Cymru am y ffaith honno.
(4) Pan fo unrhyw awdurdod cynllunio lleol yng Nghymru a Lloegr neu Adran yr Amgylchedd yng Ngogledd Iwerddon, ym marn Gweinidogion Cymru, yn debygol o fod â buddiant yn y cais, caiff Gweinidogion Cymru, oni bai eu bod wedi cael hysbysiad o dan baragraff (2) i’r perwyl bod hysbysiad am gais wedi ei gyflwyno i’r corff hwnnw, gyfarwyddo bod rhaid i’r ceisydd gyflwyno hysbysiad am gais i’r corff hwnnw.
Cyflwyno hysbysiad am gais i bersonau eraill
6 

(1) Rhaid i’r ceisydd gyflwyno hysbysiad am gais i—
(a) y Cyd-bwyllgor Cadwraeth Natur;
(b) Corff Adnoddau Naturiol Cymru;
(c) Asiantaeth y Môr a Gwylwyr y Glannau;
(d) awdurdod harbwr, yn achos datblygiad mewn harbwr, neu gerllaw harbwr, sydd o dan reolaeth yr awdurdod hwnnw;
(e) unrhyw bersonau eraill yn ôl cyfarwyddyd Gweinidogion Cymru.
(2) Yn y rheoliad hwn, mae i “harbwr” ac “awdurdod harbwr” yr un ystyron ag a roddir i “harbour” a “harbour authority” yn adran 57 o Ddeddf Harbyrau 1964 (dehongli).
Cyhoeddi hysbysiad am gais
7 

(1) Rhaid i’r ceisydd gyhoeddi hysbysiad am gais—
(a) dwy wythnos yn olynol mewn un neu ragor o bapurau newydd lleol sy’n debygol o ddod i sylw’r rheini y mae’r datblygiad arfaethedig yn debygol o effeithio arnynt;
(b) yn Lloyd’s List ac mewn un neu ragor o bapurau newydd cenedlaethol;
(c) os oes un neu ragor o gyfnodolion masnach pysgota priodol yn cylchredeg a gyhoeddir fesul ysbaid nad yw’n fwy nag un mis, mewn o leiaf un cyfnodolyn masnach o’r fath; a
(d) yn y London Gazette.
(2) Rhaid i’r hysbysiad ddisgrifio, drwy gyfeiriad at fap, y lle y mae’r cais yn berthnasol iddo, a rhaid iddo ddarparu y gall aelodau o’r cyhoedd edrych ar y map, yn ystod oriau swyddfa arferol, naill ai—
(a) yn swyddfeydd—
(i) unrhyw awdurdod cynllunio perthnasol y mae’r ceisydd yn cyflwyno hysbysiad am y cais iddo o dan reoliad 4; neu
(ii) pob awdurdod cynllunio lleol yng Nghymru y mae’r ceisydd yn cyflwyno hysbysiad am y cais iddo o dan reoliad 5(2) neu yn unol â chyfarwyddyd Gweinidogion Cymru o dan reoliad 5(4); neu
(b) mewn cyfeiriad sy’n rhesymol hygyrch i’r rheini y mae’r cydsyniad y gwneir cais amdano yn debygol o effeithio arnynt os caiff ei roi.
(3) Nid yw paragraffau (1) a (2) yn gymwys i gais am estyniad neu newid i’r dull gweithredu pan fo Gweinidogion Cymru—
(a) yn ystyried bod yr estyniad neu’r newid yn un mân ei natur; a
(b) yn rhoi cyfarwyddyd sy’n hepgor gofynion y paragraffau hynny.
Gwrthwynebiadau gan dderbynyddion hysbysiad am gais
8 

(1) Rhaid i unrhyw hysbysiad a gyflwynir neu a gyhoeddir yn unol â rheoliadau 5, 6 neu 7(1) nodi’r cyfnod (na chaiff fod yn llai na 28 o ddiwrnodau o ddyddiad cyflwyno’r hysbysiad, neu’n llai na 28 o ddiwrnodau o ddyddiad neu ddyddiad diweddaraf cyhoeddi’r hysbysiad) y caniateir gwneud gwrthwynebiadau i’r cais i Weinidogion Cymru o’i fewn, a’r dull y caniateir gwneud hynny, gan bersonau ac eithrio unrhyw awdurdod cynllunio perthnasol.
(2) Rhaid i awdurdod cynllunio perthnasol gyflwyno hysbysiad am unrhyw wrthwynebiad ganddo i gais i Weinidogion Cymru o fewn pedwar mis o ddyddiad y cais, neu o fewn unrhyw gyfnod hwy y mae’r awdurdod yn cytuno arno yn ysgrifenedig gyda Gweinidogion Cymru a’r ceisydd.
Ymchwiliadau cyhoeddus pan fo gwrthwynebiadau gan yr awdurdod cynllunio perthnasol
9 

(1) Pan fo’r awdurdod cynllunio perthnasol yn hysbysu Gweinidogion Cymru ei fod yn gwrthwynebu’r cais ac nad yw ei wrthwynebiad yn cael ei dynnu’n ôl, rhaid i Weinidogion Cymru—
(a) peri i ymchwiliad cyhoeddus gael ei gynnal;
(b) cyn penderfynu pa un ai i roi eu cydsyniad, ystyried y gwrthwynebiad ac adroddiad y person a gynhaliodd yr ymchwiliad.
(2) Nid yw paragraff (1) yn gymwys pan fo Gweinidogion Cymru yn bwriadu caniatáu’r cais yn ddarostyngedig i unrhyw addasiadau neu amodau a fydd yn rhoi effaith i wrthwynebiad yr awdurdod cynllunio perthnasol.
(3) Caiff Gweinidogion Cymru, at ddibenion paragraff (1), ddiystyru unrhyw wrthwynebiad na chafwyd hysbysiad ar ei gyfer gan awdurdod cynllunio perthnasol yn unol â rheoliad 8(2).
Ymchwiliadau cyhoeddus pan fo gwrthwynebiadau gan bersonau eraill
10 

(1) Mae’r rheoliad hwn yn gymwys—
(a) pan na fo’n ofynnol i Weinidogion Cymru yn rhinwedd rheoliad 9(1) beri i ymchwiliad cyhoeddus gael ei gynnal; ond
(b) pan fo gwrthwynebiadau neu gopïau o wrthwynebiadau wedi eu hanfon at Weinidogion Cymru yn unol â’r Rheoliadau hyn.
(2) Rhaid i Weinidogion Cymru—
(a) ystyried gwrthwynebiadau neu gopïau o wrthwynebiadau a anfonir atynt yn unol â’r Rheoliadau hyn, ynghyd â phob ystyriaeth berthnasol arall, gyda golwg ar benderfynu a ddylid cynnal ymchwiliad cyhoeddus mewn cysylltiad â’r cais; a
(b) peri i ymchwiliad cyhoeddus gael ei gynnal os ydynt yn credu ei bod yn briodol gwneud hynny, naill ai yn ychwanegol at unrhyw wrandawiad arall neu gyfle i ddatgan gwrthwynebiadau i’r cais neu yn lle hynny.
Cwmpas ymchwiliadau cyhoeddus pan fo un neu ragor o awdurdodau cynllunio perthnasol
11 

(1) Mae’r rheoliad hwn yn gymwys pan fo—
(a) ymchwiliad cyhoeddus i’w gynnal yn unol â rheoliad 9(1) neu 10; a
(b) y cais yn ymwneud â lle y mae rhan ohono yn ardal un neu ragor o awdurdodau cynllunio perthnasol.
(2) Ac eithrio i’r graddau y mae Gweinidogion Cymru yn cyfarwyddo fel arall, rhaid cyfyngu ymchwiliad a gynhelir o dan reoliad 9(1) i hynny o’r cais sy’n ymwneud â thir o fewn ardal yr awdurdod sydd wedi gwneud gwrthwynebiad.
(3) Rhaid i Weinidogion Cymru roi sylw i wrthwynebiadau a wneir ac eithrio gan yr awdurdod o dan sylw wrth benderfynu pa un ai i roi cyfarwyddyd o dan baragraff (2) ac wrth benderfynu (pan fônt yn rhoi un) pa gyfarwyddyd i’w roi.
(4) Caiff Gweinidogion Cymru gyfarwyddo y caniateir cynnal ymchwiliadau ar wahân mewn perthynas ag unrhyw un neu bob un o’r canlynol—
(a) hynny o’r cais sy’n ymwneud â thir o fewn ardal awdurdod cynllunio perthnasol penodol;
(b) hynny o’r cais sy’n ymwneud â rhywle nad yw o fewn ardal awdurdod cynllunio perthnasol.
(5) At ddibenion paragraff (2) mae awdurdod cynllunio sydd wedi gwneud gwrthwynebiad i’w drin fel pe na bai wedi gwneud hynny os yw Gweinidogion Cymru yn bwriadu caniatáu’r cais yn ddarostyngedig i unrhyw addasiadau neu amodau sy’n bodloni’r gwrthwynebiad hwnnw.
Hysbysiad cyfun
12 
Caniateir i hysbysiad sy’n ofynnol gan y Rheoliadau hyn gael ei gyfuno â hysbysiad sy’n ofynnol gan neu o dan Atodlen 16 i Ddeddf Ynni 2004 (ceisiadau a chynigion am hysbysiadau o dan adran 95) mewn unrhyw achos sy’n ymwneud â’r un orsaf gynhyrchu.
Diwygiad canlyniadol
13 

(1) Mae rheoliad 90(3) o Reoliadau Cadwraeth Cynefinoedd a Rhywogaethau 2017 (cydsyniadau o dan Ddeddf Trydan 1989: y weithdrefn adolygu) wedi ei ddiwygio fel a ganlyn.
(2) Cyn is-baragraff (a) mewnosoder—“
(za) in a case where the Welsh Ministers are the competent authority, the relevant planning authority within the meaning of regulation 2(1) of the Electricity (Offshore Generating Stations) (Applications for Consent) (Wales) Regulations 2019 (interpretation),”.
(3) Ar ddechrau is-baragraff (a) mewnosoder “in any other case,”.
Julie James
Y Gweinidog Tai a Llywodraeth Leol, un o Weinidogion Cymru
18 Chwefror 2019