
2019 Rhif 293 (Cy. 71)
Trydan, Cymru
Rheoliadau Trydan (Gorsafoedd Cynhyrchu Alltraeth) (Parthau Diogelwch) (Gweithdrefnau Gwneud Cais a Rheoli Mynediad) (Diwygio) (Cymru) 2019
Gwnaed 18 Chwefror 2019
Gosodwyd gerbron Cynulliad Cenedlaethol Cymru 20 Chwefror 2019
Yn dod i rym 1 Ebrill 2019
Mae Gweinidogion Cymru, drwy arfer y pwerau a roddir iddynt gan adrannau 96 a 192 o Ddeddf Ynni 2004, a pharagraff 4(1) o Atodlen 16 iddi, yn gwneud y Rheoliadau a ganlyn:
Enwi a chychwyn
1 
Enw’r Rheoliadau hyn yw Rheoliadau Trydan (Gorsafoedd Cynhyrchu Alltraeth) (Parthau Diogelwch) (Gweithdrefnau Gwneud Cais a Rheoli Mynediad) (Diwygio) (Cymru) 2019 a deuant i rym ar 1 Ebrill 2019.
Diwygiadau i Reoliadau Trydan (Gorsafoedd Cynhyrchu Alltraeth) (Parthau Diogelwch) (Gweithdrefnau Gwneud Cais a Rheoli Mynediad) 2007
2 

(1) Mae Rheoliadau Trydan (Gorsafoedd Cynhyrchu Alltraeth) (Parthau Diogelwch) (Gweithdrefnau Gwneud Cais a Rheoli Mynediad) 2007 wedi eu diwygio fel a ganlyn.
(2) Yn rheoliad 5 (cyflwyno hysbysiad o gais am hysbysiad parth diogelwch), yn lle paragraff (c) rhodder—“
(c) the Welsh Ministers, in the case of a safety zone proposed or located wholly or partly in Welsh waters, except where the Welsh Ministers are the appropriate Minister;”.
(3) Yn rheoliad 9 (llestrau a gweithgareddau a ganiateir mewn parthau diogelwch), ar ôl paragraff (1)(a) mewnosoder—“
(aa) (in the case of a safety zone in respect of which the Welsh Ministers are the appropriate Minister) belonging to, or acting under the authority of, a government department, the Environment Agency, the Natural Resources Body for Wales or the Scottish Environment Protection Agency, and engaged in—
(i) the provision of services for,
(ii) the transport of persons or goods to or from, or
(iii) the inspection of,
any existing or proposed renewable energy installation in that safety zone;”.
Julie James
Y Gweinidog Tai a Llywodraeth Leol, un o Weinidogion Cymru
18 Chwefror 2019