
2019 Rhif 250 (Cy. 62)
Ymadael Â’r Undeb Ewropeaidd, Cymru
Anifeiliaid, Cymru
Rheoliadau Adnabod Ceffylau (Cymru) (Diwygio) (Ymadael â’r UE) 2019Gofynion sifftio wedi eu bodloni4 Chwefror 2019
Gwnaed 11 Chwefror 2019
Gosodwyd gerbron Cynulliad Cenedlaethol Cymru 13 Chwefror 2019
Yn dod i rym yn unol â rheoliad 1(2))

Mae Gweinidogion Cymru, drwy arfer y pŵer a roddir gan baragraff 1(1) o Atodlen 2 i Ddeddf yr Undeb Ewropeaidd (Ymadael) 2018, yn gwneud y Rheoliadau a ganlyn.

Mae gofynion paragraff 4(2) o Atodlen 7 i’r Ddeddf honno (sy’n ymwneud a gweithdrefn graffu briodol Cynulliad Cenedlaethol Cymru ar gyfer y Rheoliadau hyn) wedi eu bodloni.
Enwi, cychwyn a chymhwyso
1 

(1) Enw’r Rheoliadau hyn yw Rheoliadau Adnabod Ceffylau (Cymru) (Diwygio) (Ymadael â’r UE) 2019.
(2) Daw’r Rheoliadau hyn i rym ar y diwrnod ymadael.
(3) Mae’r Rheoliadau hyn yn gymwys o ran Cymru.
Rheoliadau Adnabod Ceffylau (Cymru) 2019
2 

(1) Diwygir Rheoliadau Adnabod Ceffylau (Cymru) 2019 fel a ganlyn.
(2) Yn rheoliad 6(1), yn lle “a aned yn yr Undeb Ewropeaidd” rhodder “a aned mewn Aelod-wladwriaeth neu yn y Deyrnas Unedig”.
(3) Ym mhennawd rheoliad 7, yn lle “i’r Undeb Ewropeaidd” rhodder “i’r Deyrnas Unedig o wlad heblaw Aelod-wladwriaeth”.
(4) Yn rheoliad 13(3)(b), yn lle “Aelod-wladwriaeth arall” rhodder “Aelod-wladwriaeth”.
(5) Yn rheoliad 33, yn lle paragraff (4) rhodder—“
(4) Caiff yr arolygydd fynd gydag unrhyw bersonau eraill a ystyrir gan yr arolygydd yn angenrheidiol.”.
Lesley Griffiths
Gweinidog yr Amgylchedd, Ynni a Materion Gwledig, un o Weinidogion Cymru
11 Chwefror 2019