
2019 Rhif 247 (Cy. 61)
Ymadael Â’r Undeb Ewropeaidd
Diogelu’r Amgylchedd, Cymru
Rheoliadau Sŵn Amgylcheddol (Cymru) (Diwygio) (Ymadael â’r UE) 2019Gofynion sifftio wedi eu bodloni7 Ionawr 2019
Gwnaed 11 Chwefror 2019
Gosodwyd gerbron Cynulliad Cenedlaethol Cymrut 13 Chwefror 2019
Yn dod i rym yn unol â rheoliad 1

Mae Gweinidogion Cymru yn gwneud y Rheoliadau hyn drwy arfer y pwerau a roddir gan baragraff 1(1) o Atodlen 2 i, Ddeddf yr Undeb Ewropeaidd (Ymadael) 2018.

Mae gofynion paragraff 4(2) o Atodlen 7 i’r Ddeddf honno (sy’n ymwneud â gweithdrefn graffu briodol Cynulliad Cenedlaethol Cymru ar gyfer y Rheoliadau hyn) wedi eu bodloni.
Enwi a chychwyn
1 
Enw’r Rheoliadau hyn yw Rheoliadau Sŵn Amgylcheddol (Cymru) (Diwygio) (Ymadael â’r UE) 2019 a deuant i rym ar y diwrnod ymadael.
Diwygio Rheoliadau Sŵn Amgylcheddol (Cymru) 2006
2 

(1) Mae Rheoliadau Sŵn Amgylcheddol (Cymru) 2006 wedi eu diwygio fel a ganlyn.
(2) Yn rheoliad 2—
(a) ym mharagraff (2), yn y diffiniad o “Cyfarwyddeb”, yn lle “ac fel y’i diwygiwyd ddiwethaf gan Gyfarwyddeb y Comisiwn (EU) 2015/996;” rhodder “, fel yr oedd yn cael effaith yn union cyn y diwrnod ymadael”; a
(b) ar ôl paragraff (2) mewnosoder—“
(3) At ddibenion y Rheoliadau hyn, mae’r Gyfarwyddeb i’w ddarllen fel pe bai unrhyw gyfeiriad at un neu ragor o Aelod-wladwriaethau yn gyfeiriad at Weinidogion Cymru.”.
(3) Yn rheoliad 4, ar ôl paragraff (6) mewnosoder—“
(7) At ddibenion paragraff (2)(a), mae cyfeiriad at Atodiad I i’r Gyfarwyddeb i’w ddarllen fel pe bai, ym mharagraff 1, yn y pedwerydd mewnoliad sydd yn cychwyn “the day is 12 hours”, y geiriau o “The Member States” hyd at y diwedd wedi eu hepgor.”.
(4) Yn lle rheoliad 15(1)(a) rhodder—“
(a) amcanu i atal a lleihau sŵn amgylcheddol pan fo’n angenrheidiol ac yn benodol pan fo lefelau bod o fewn clyw sŵn yn gallu achosi effeithiau niweidiol ar iechyd dynol;
(aa) amcanu i ddiogelu ansawdd sŵn amgylcheddol pan fo’n dda;”.
(5) Yn rheoliad 22—
(a) ym mharagraff (2)(b), yn lle “y Gyfarwyddeb” rhodder “gyfraith berthnasol yr UE a ddargedwir”; a
(b) ym mharagraff (3), yn lle “Erthygl 4 o’r Gyfarwyddeb” rhodder “cyfraith berthnasol yr UE a ddargedwir;”.
(6) Yn rheoliad 26(4)(b)—
(a) ym mharagraff (i) hepgorer “neu”; a
(b) hepgorer paragraff (ii).
(7) Yn Atodlen 1—
(a) ym mharagraff 1—
(i) ailrifer y testun presennol yn is-baragraff (1); a
(ii) ar ôl yr is-baragraff (1) newydd mewnosoder—“
(2) At ddibenion is-baragraff (1), mae’r cyfeiriad at baragraffau 1.5, 1.6 a 2.6 o Atodiad VI i’r Gyfarwyddeb i’w ddarllen yn unol â’r addasiadau a ganlyn—
(a) ym mharagraff 1.5, fel pe bai’r cyfeiriad yn y paragraff hwnnw at “major roads”, “major railways” a “major airports” fel y’u diffinnir yn Erthygl 3 o’r Gyfarwyddeb yn gyfeiriad at “major road” (“prif ffordd”), “major railway” (“prif reilffordd”) a “major airport” (“prif faes awyr”) fel y’u diffinnir yn rheoliad 2(2) o’r Rheoliadau hyn; a
(b) ym mharagraffau 1.6 a 2.6, fel pe bai’r geiriau o “These data” hyd at y diwedd wedi eu hepgor.”;
(b) ym mharagraff 2, ar ôl is-baragraff (2) mewnosoder—“
(3) At ddibenion is-baragraff (1)(a), mae cyfeiriad at Atodiad IV i’r Gyfarwyddeb i’w ddarllen fel pe bai’r canlynol wedi eu hepgor—
(a) ym mharagraff 4, y mewnoliad cyntaf;
(b) ym mharagraff 5, y geiriau o “concerning” hyd at “Commission”; ac
(c) paragraff 9”.
Lesley Griffiths
Gweinidog yr Amgylchedd, Ynni a Materion Gwledig, un o Weinidogion Cymru
11 Chwefror 2019 