
2019 Rhif 237 (Cy. 56)
Gofal Cymdeithasol, Cymru A Lloegr
Rheoliadau Deddf Rheoleiddio ac Arolygu Gofal Cymdeithasol (Cymru) 2016 (Diwygiadau Canlyniadol i Is-ddeddfwriaeth) 2019
Gwnaed 12 Chwefror 2019
Gosodwyd gerbron Cynulliad Cenedlaethol Cymru 13 Chwefror 2019
Yn dod i rym 29 Ebrill 2019
Mae Gweinidogion Cymru, drwy arfer y pŵer a roddir gan adran 186 o Ddeddf Rheoleiddio ac Arolygu Gofal Cymdeithasol (Cymru) 2016, yn gwneud y Rheoliadau a ganlyn:
Enwi a chychwyn
1 

(1) Enw’r Rheoliadau hyn yw Rheoliadau Deddf Rheoleiddio ac Arolygu Gofal Cymdeithasol (Cymru) 2016 (Diwygiadau Canlyniadol i Is-ddeddfwriaeth) 2019.
(2) Daw’r Rheoliadau hyn i rym ar 29 Ebrill 2019.
Diwygiadau
2 
Mae Atodlen 1 (diwygiadau o ganlyniad i gychwyn Rhan 1 o Ddeddf Rheoleiddio ac Arolygu Gofal Cymdeithasol (Cymru) 2016) yn cael effaith.
Dirymiadau
3 
Mae Atodlen 2 (dirymiadau) yn cael effaith.
Julie Morgan
Y Dirprwy Weinidog Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol, o dan awdurdod y Gweinidog Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol, un o Weinidogion Cymru
12 Chwefror 2019
ATODLEN 1
Diwygiadau o ganlyniad i gychwyn Rhan 1 o Ddeddf Rheoleiddio ac Arolygu Gofal Cymdeithasol (Cymru) 2016
Rheoliad 2
Gorchymyn Deddf Adsefydlu Troseddwyr 1974 (Eithriadau) 1975
1 

(1) Mae Gorchymyn Deddf Adsefydlu Troseddwyr 1974 (Eithriadau) 1975 wedi ei ddiwygio fel a ganlyn.
(2) Yn erthygl 2(1)—
(a) yn y lle priodol mewnosoder—“
 “the 2016 Act” means the Regulation and Inspection of Social Care (Wales) Act 2016;”;
(b) yn lle’r diffiniad o “adoption service” rhodder—“
 “adoption service”—
(a) in relation to England, means the discharge by a local authority in England of relevant adoption functions within the meaning of section 43(3)(a) of the Care Standards Act 2000, and
(b) in relation to Wales, means the discharge by a local authority in Wales of functions under the Adoption and Children Act 2002 of making or participating in arrangements for the adoption of children or the provision of adoption support services as defined in section 2(6) of that Act;”;
(c) yn y diffiniad o “children’s home”, yn lle paragraff (b) rhodder—“
(a) in relation to Wales, means premises at which—
(i) a care home service is provided wholly or mainly to persons under the age of 18, or
(ii) a secure accommodation service is provided,and in this paragraph “care home service” and “secure accommodation service” have the meaning given in Part 1 of the 2016 Act;”;
(d) yn lle’r diffiniad o “fostering agency” rhodder—“
 “fostering agency”—
(a) in relation to England, has the meaning given by section 4(4) of the Care Standards Act 2000, and
(b) in relation to Wales, means a provider of a fostering service within the meaning of paragraph 5 of Schedule 1 to the 2016 Act;”;
(e) yn lle’r diffiniad o “fostering service” rhodder—“
 “fostering service” means—
(a) in relation to England, the discharge by a local authority in England of relevant fostering functions within the meaning of section 43(3)(b)(i) of the Care Standards Act 2000, and
(b) in relation to Wales, the discharge by a local authority in Wales of functions under section 81 of the Social Services and Well-being (Wales) Act 2014 (in connection with placements with local authority foster parents) or regulations made under or by virtue of any of sections 87, 92(1)(a), (b), (d) or 93 of that Act;”;
(f) yn lle’r diffiniad o “voluntary adoption agency” rhodder—“
 “voluntary adoption agency”—
(a) in relation to England, has the meaning given by section 4(7) of the Care Standards Act 2000, and
(b) in relation to Wales, means a provider of an adoption service within the meaning of paragraph 4(a) of Schedule 1 to the 2016 Act;”.
(3) Yn erthygl 4(1), ar ôl is-baragraff (ja) mewnosoder—“
(jb) any decision by the Welsh Ministers—
(i) to refuse an application for registration under section 7 of the 2016 Act,
(ii) to refuse (under section 12 of the 2016 Act) an application made by a person under section 11(1)(a)(i) or (ii) of the 2016 Act to vary their registration,
(iii) to cancel a person’s registration under section 15(1)(b) to (f) or 23(1) of the 2016 Act,
(iv) to vary a person’s registration under section 13(3)(b) or (4)(b) or 23(1) of the 2016 Act;”.
Rheoliadau Asiantaethau Mabwysiadu 1983
2 

(1) Mae Rheoliadau Asiantaethau Mabwysiadu 1983 wedi eu diwygio fel a ganlyn.
(2) Yn rheoliad 1(3) (enwi, cychwyn, rhychwantu a dehongli), yn lle’r diffiniad o “registration authority” rhodder—“
 “registration authority”—
(a) in relation to England, has the same meaning as in section 5 of the 2000 Act, and
(b) in relation to Wales, means the Welsh Ministers;”.
Rheoliadau Anghymhwyso rhag Gofalu am Blant (Lloegr) 2002
3 

(1) Mae Rheoliadau Anghymhwyso rhag Gofalu am Blant (Lloegr) 2002 wedi eu diwygio fel a ganlyn.
(2) Yn rheoliad 2(7A) (y seiliau dros anghymhwyso)—
(a) yn lle’r geiriau agoriadol rhodder—“In relation to the registration of a care home service, which is provided wholly or mainly for children, or a secure accommodation service (each have the meaning given in Part 1 of the Regulation and Inspection of Social Care (Wales) Act 2016 (“the 2016 Act”))— ”;
(b) ym mharagraff (d), ar ôl “children” mewnosoder “, or a secure accommodation service,”.
(3) Yn yr Atodlen (troseddau penodedig), ym mharagraff 1(3), ar ôl “children” mewnosoder “or a secure accommodation service”.
Rheoliadau Cofrestru Gofal Cymdeithasol a Gofal Iechyd Annibynnol (Cymru) 2002
4 

(1) Mae Rheoliadau Cofrestru Gofal Cymdeithasol a Gofal Iechyd Annibynnol (Cymru) 2002 wedi eu diwygio fel a ganlyn.
(2) Yn rheoliad 2 (dehongli)—
(a) ym mharagraff (1)—
(i) yn y diffiniad o “the Act”, hepgorer y geiriau o “or” hyd at y diwedd;
(ii) yn y diffiniad o “appropriate office of the National Assembly”, hepgorer paragraffau (e), (f), (i) a (j);
(iii) yn y diffiniad o “statement of purpose”, hepgorer paragraffau (e), (f), (g), (j) a (k);
(iv) hepgorer y diffiniadau a ganlyn—(aa) “the 1976 Act”;(bb) “adoption service”;(cc) “Adoption Support Agency”;(dd) “adult placement scheme”;(ee) “fostering service”;(ff) “local authority fostering service”;(gg) “voluntary adoption service”;
(b) ym mharagraff (3), hepgorer is-baragraff (d).
(3) Yn rheoliad 9 (cynnwys tystysgrif), ym mharagraff (e), yn lle’r geiriau o “section 4(8)(a)(iii)” hyd at y diwedd rhodder “section 4(8)(a)(iii), (iv) and (v) or 9(a)(i) of the Act”.
(4) Yn Atodlen 1 (gwybodaeth sydd i’w chyflenwi mewn cais am gofrestriad fel person sy’n cynnal sefydliad neu asiantaeth), yn Rhan 2 (gwybodaeth am y sefydliad)—
(a) yn lle paragraff 5 rhodder—“
5. 
The description of the establishment or agency specified in section 4(8)(a)(iii), (iv) or (v) or (9)(a)(i) of the Act.”;
(b) ym mharagraff 13, yn lle’r geiriau o “section 4(8)(a)(iii)” i “the Act” rhodder “section 4(8)(a)(iii), (iv) and (v) or (9)(a)(i) of the Act”.
Rheoliadau Asiantaethau Mabwysiadu Gwirfoddol ac Asiantaethau Mabwysiadu (Diwygiadau Amrywiol) 2003
5 

(1) Mae Rheoliadau Asiantaethau Mabwysiadu Gwirfoddol ac Asiantaethau Mabwysiadu (Diwygiadau Amrywiol) 2003 wedi eu diwygio fel a ganlyn.
(2) Yn rheoliad 1(2) (enwi, cychwyn a dehongli)—
(a) yn y diffiniad o “adoption support services”, yn lle’r geiriau o “of that Act” hyd at y diwedd rhodder “of that Act by the Secretary of State;”;
(b) yn lle’r diffiniad o “registration authority” rhodder—“
 “registration authority” means the Chief Inspector;”.
(3) Yn rheoliad 3(2) (datganiad o ddiben), hepgorer y geiriau o “and” yn yr ail le y mae’n digwydd hyd at y diwedd.
(4) Yn rheoliad 4 (adolygu’r datganiad o ddiben), yn lle paragraff (b) rhodder—
“
(b) notify the registration authority,”.
(5) Yn lle rheoliad 24G(3) (cofnodion mewn cysylltiad â gwasanaethau) rhodder—“
(3) In this regulation “adoptive child” has the same meaning as in the Adoption Support Agencies (England) and Adoption Agencies (Miscellaneous Amendments) Regulations 2005.”
Rheoliadau Datgymhwyso rhag Gofalu am Blant (Cymru) 2004
6 

(1) Mae Rheoliadau Datgymhwyso rhag Gofalu am Blant (Cymru) 2004 wedi eu diwygio fel a ganlyn.
(2) Yn yr Atodlen—
(a) ym mharagraff 4A, ar ôl “18 oed” mewnosoder “neu wasanaeth llety diogel”;
(b) ym mharagraff 25A—
(i) yn lle’r geiriau agoriadol rhodder—“Mewn perthynas â chofrestru gwasanaeth cartref gofal, a ddarperir yn gyfan gwbl neu’n bennaf i bersonau o dan 18 oed, neu wasanaeth llety diogel (mae i bob un yr ystyr a roddir yn Rhan 1 o Ddeddf Rheoleiddio ac Arolygu Gofal Cymdeithasol (Cymru) 2016 (“Deddf 2016”))—”;
(ii) yn is-baragraff (ch), ar ôl “18 oed,” mewnosoder “neu wasanaeth llety diogel,”.
Rheoliadau Gwasanaethau Cymorth Mabwysiadu 2005
7 

(1) Mae Rheoliadau Gwasanaethau Cymorth Mabwysiadu 2005 wedi eu diwygio fel a ganlyn.
(2) Yn rheoliad 5 (trefniadau ar gyfer sicrhau y darperir gwasanaethau), yn lle paragraff (2) rhodder—“
(2) In paragraph (1) “registered adoption support agency” means an adoption support agency which is—
(a) in relation to England, an adoption support agency in respect of which a person is registered under Part 2 of the Care Standards Act 2000, or
(b) registered as a provider in Wales of an adoption service under Part 1 of the Regulation and Inspection of Social Care (Wales) Act 2016.”
Rheoliadau Datgelu Gwybodaeth Mabwysiadu (Mabwysiadau Ôl-gychwyn) 2005
8 

(1) Mae Rheoliadau Datgelu Gwybodaeth Mabwysiadu (Mabwysiadau Ôl-gychwyn) 2005 wedi eu diwygio fel a ganlyn.
(2) Yn rheoliad 2 (dehongli), yn lle’r diffiniad o “registered adoption support agency” rhodder—“
 “registered adoption support agency” means an adoption support agency which is—
(a) in relation to England, an adoption support agency in respect of which a person is registered under Part 2 of the Care Standards Act 2000, or
(b) registered as a provider in Wales of an adoption service under Part 1 of the Regulation and Inspection of Social Care (Wales) Act 2016;”.
Rheoliadau Gwybodaeth Mabwysiadu a Gwasanaethau Cyfryngol (Mabwysiadau Cyn-gychwyn) 2005
9 

(1) Mae Rheoliadau Gwybodaeth Mabwysiadu a Gwasanaethau Cyfryngol (Mabwysiadau Cyn-gychwyn) 2005 wedi eu diwygio fel a ganlyn.
(2) Yn rheoliad 10 (cwnsela), ar ôl paragraff (5) mewnosoder—“
(6) In this regulation “registered adoption support agency” means—
(a) in relation to England, an adoption support agency in respect of which a person is registered under Part 2 of the Care Standards Act 2000, or
(b) in relation to Wales, an adoption support agency registered as an adoption service under Part 1 of the Regulation and Inspection of Social Care (Wales) Act 2016.”
Rheoliadau Gwarcheidiaeth Arbennig 2005
10 

(1) Mae Rheoliadau Gwarcheidiaeth Arbennig 2005 wedi eu diwygio fel a ganlyn.
(2) Yn rheoliad 4(2) (trefniadau ar gyfer sicrhau y darperir gwasanaethau), yn lle paragraff (b) rhodder—“
(b) “adoption support agency” has the same meaning as in the Adoption and Children Act 2002;
(c) “fostering agency”—
(a) in relation to England, means a fostering agency within the meaning of section 4(4) of the Care Standards Act 2000, and
(b) in relation to Wales, means a fostering service within the meaning of paragraph 5 of Schedule 1 to the Regulation and Inspection of Social Care (Wales) Act 2016;
(d) “registered” in relation to any such agency means that a person is registered in respect of it under Part 2 of the Care Standards Act 2000 or Part 1 of the Regulation and Inspection of Social Care (Wales) Act 2016.”
Rheoliadau Gwasanaethau Cymorth Mabwysiadu (Awdurdodau Lleol) (Cymru) 2005
11 

(1) Mae Rheoliadau Gwasanaethau Cymorth Mabwysiadu (Awdurdodau Lleol) (Cymru) 2005 wedi eu diwygio fel a ganlyn.
(2) Yn rheoliad 2(1) (dehongli), yn lle’r diffiniad o “rhiant maeth” rhodder—“
 ystyr “rhiant maeth” (“foster parent”) yw—
(a) person sydd wedi ei gymeradwyo’n rhiant maeth o dan Reoliadau Paneli Maethu (Sefydlu a Swyddogaethau) (Cymru) 2018, a
(b) mae’n cynnwys person y mae plentyn wedi ei leoli gydag ef o dan reoliad 26 o Reoliadau Cynllunio Gofal, Lleoli ac Adolygu Achosion (Cymru) 2015 (cymeradwyo dros dro berthynas, cyfaill neu berson arall sydd â chysylltiad â’r plentyn) neu reoliad 28 o’r Rheoliadau hynny (cymeradwyo dros dro ddarpar fabwysiadydd penodol);”.
(3) Yn rheoliad 5 (darparu gwasanaethau), yn lle paragraff (2) rhodder—“
(2) Ym mharagraff (1) ystyr “asiantaeth cymorth mabwysiadu gofrestredig” yw asiantaeth cymorth mabwysiadu sydd—
(a) o ran Lloegr, yn asiantaeth cymorth mabwysiadu y mae person wedi ei gofrestru mewn cysylltiad â hi o dan Ran 2 o Ddeddf Safonau Gofal 2000, neu
(b) wedi ei chofrestru’n ddarparwr gwasanaeth mabwysiadu yng Nghymru o dan Ran 1 o Ddeddf Rheoleiddio ac Arolygu Gofal Cymdeithasol (Cymru) 2016,
ond mewn perthynas â darparu unrhyw wasanaeth cymorth mabwysiadu, nid yw’n cynnwys asiantaeth cymorth mabwysiadu nad yw wedi ei chofrestru mewn cysylltiad â’r gwasanaeth penodol hwnnw.”
Rheoliadau Gwarcheidiaeth Arbennig (Cymru) 2005
12 

(1) Mae Rheoliadau Gwarcheidiaeth Arbennig (Cymru) 2005 wedi eu diwygio fel a ganlyn.
(2) Yn rheoliad 1(3) (enwi, cychwyn, cymhwyso a dehongli)—
(a) yn lle’r diffiniad o “asiantaethau cymorth mabwysiadu” rhodder—“
 o ran “asiantaethau cymorth mabwysiadu” (“adoption support agencies”)—
(a) o ran Cymru, ei ystyr yw darparwr gwasanaethau mabwysiadu o fewn ystyr paragraff 4(b) o Atodlen 1 i Ddeddf Rheoleiddio ac Arolygu Gofal Cymdeithasol (Cymru) 2016, a
(b) o ran Lloegr, mae iddo yr un ystyr ag “adoption support agency” yn adran 4(7A) o Ddeddf Safonau Gofal 2000;”;
(b) yn lle’r diffiniad o “asiantaethau maethu annibynnol” rhodder—“
 o ran “asiantaethau maethu annibynnol” (“independent fostering agencies”)—
(a) o ran Cymru, ei ystyr yw gwasanaeth maethu o fewn ystyr paragraff 5 o Atodlen 1 i Ddeddf Rheoleiddio ac Arolygu Gofal Cymdeithasol (Cymru) 2016, a
(b) o ran Lloegr, ei ystyr yw asiantaeth faethu o fewn ystyr “fostering agency” yn adran 4(4)(a) o Ddeddf Safonau Gofal 2000;”;
(c) yn lle’r diffiniad o “asiantaethau mabwysiadu gwirfoddol” rhodder—“
 o ran “asiantaethau mabwysiadu gwirfoddol” (“voluntary adoption agencies”)—
(a) o ran Cymru, ei ystyr yw darparwr gwasanaeth mabwysiadu o fewn ystyr paragraff 4(a) o Atodlen 1 i Ddeddf Rheoleiddio ac Arolygu Gofal Cymdeithasol (Cymru) 2016, a
(b) o ran Lloegr, mae iddo yr un ystyr â “voluntary adoption agency” yn adran 4(7) o Ddeddf Safonau Gofal 2000;”.
Rheoliadau Mynediad i Wybodaeth (Mabwysiadu Ôl-gychwyn) (Cymru) 2005
13 

(1) Mae Rheoliadau Mynediad i Wybodaeth (Mabwysiadu Ôl-gychwyn) (Cymru) 2005 wedi eu diwygio fel a ganlyn.
(2) Yn rheoliad 2 (dehongli), yn lle’r diffiniad o “asiantaeth cefnogi mabwysiadu gofrestredig” rhodder—“
 ystyr “asiantaeth cefnogi mabwysiadu gofrestredig” (“registered adoption support agency”) yw—
(a) o ran Cymru, asiantaeth cefnogi mabwysiadu sydd wedi’i chofrestru’n wasanaeth mabwysiadu o dan Ran 1 o Ddeddf Rheoleiddio ac Arolygu Gofal Cymdeithasol (Cymru) 2016, neu
(b) o ran Lloegr, asiantaeth cefnogi mabwysiadu y mae person wedi’i gofrestru mewn cysylltiad â hi o dan Ran 2 o Ddeddf Safonau Gofal 2000;”.
(3) Yn rheoliad 15(3) (dyletswydd i sicrhau cwnsela), hepgorer y diffiniad o “asiantaeth cefnogi mabwysiadu gofrestredig”.
Rheoliadau Gwybodaeth Mabwysiadu a Gwasanaethau Cyfryngol (Mabwysiadau Cyn-gychwyn) (Cymru) 2005
14 

(1) Mae Rheoliadau Gwybodaeth Mabwysiadu a Gwasanaethau Cyfryngol (Mabwysiadau Cyn-gychwyn) (Cymru) 2005 wedi eu diwygio fel a ganlyn.
(2) Yn rheoliad 2 (dehongli), yn lle’r diffiniad o “asiantaeth cymorth mabwysiadu cofrestredig” rhodder—“
 ystyr “asiantaeth cymorth mabwysiadu gofrestredig” (“registered adoption support agency”) yw—
(a) o ran Cymru, asiantaeth cymorth mabwysiadu sydd wedi’i chofrestru’n wasanaeth mabwysiadu o dan Ran 1 o Ddeddf Rheoleiddio ac Arolygu Gofal Cymdeithasol (Cymru) 2016, neu
(b) o ran Lloegr, asiantaeth cymorth mabwysiadu y mae person wedi’i gofrestru mewn cysylltiad â hi o dan Ran 2 o Ddeddf Safonau Gofal 2000;”.
Rheoliadau Trwyddedu a Rheoli Tai Amlfeddiannaeth a Thai Eraill (Darpariaethau Amrywiol) (Cymru) 2006
15 

(1) Mae Rheoliadau Trwyddedu a Rheoli Tai Amlfeddiannaeth a Thai Eraill (Darpariaethau Amrywiol) (Cymru) 2006 wedi eu diwygio fel a ganlyn.
(2) Yn rheoliad 4 (personau eraill yr ystyrir eu bod yn ffurfio aelwyd unigol at ddibenion adran 254 o’r Ddeddf)—
(a) ym mharagraff (1), yn lle’r geiriau o “gofal o dan gytundeb lleoli oedolion” hyd at y diwedd rhodder “gofal a chymorth o dan gytundeb lleoli unigolyn yn unol â Rheoliadau Gwasanaethau Lleoli Oedolion (Darparwyr Gwasanaethau ac Unigolion Cyfrifol) (Cymru) 2019, a bod y person sy’n derbyn gwasanaethau gofal a chymorth yn cael y gofal hwnnw a’r cymorth hwnnw.”;
(b) ym mharagraff (2), yn lle’r geiriau o “y Rheoliadau Gwasanaethau Maethu (Cymru) 2003” hyd at y diwedd rhodder “Reoliadau Cynllunio Gofal, Lleoli ac Adolygu Achosion (Cymru) 2015.”;
(c) yn lle paragraff (3) rhodder—“
(3) Yn y rheoliad hwn mae i “cynllun lleoli unigolyn” yr ystyr a roddir yn rheoliad 1(2) o Reoliadau Gwasanaethau Lleoli Oedolion (Darparwyr Gwasanaethau ac Unigolion Cyfrifol) (Cymru) 2019.”
Rheoliadau Gofal Plant (Cyflenwi a Datgelu Gwybodaeth) (Lloegr) 2007
16 

(1) Mae Rheoliadau Gofal Plant (Cyflenwi a Datgelu Gwybodaeth) (Lloegr) 2007 wedi eu diwygio fel a ganlyn.
(2) Yn rheoliad 9(2) (gofyniad i ddarparu gwybodaeth i bersonau rhagnodedig amrywiol)—
(a) ar ôl is-baragraff (a) mewnosoder—“
(aa) a provider of a fostering service within the meaning of paragraph 5 of Schedule 1 to the Regulation and Inspection of Social Care (Wales) Act 2016;”;
(b) yn is-baragraff (b), yn lle “that Act” rhodder “the Care Standards Act 2000”;
(c) ar ôl is-baragraff (b) mewnosoder—“
(ba) a provider of an adoption service within the meaning of paragraph 4(a) of Schedule 1 to the Regulation and Inspection of Social Care (Wales) Act 2016;”.
Rheoliadau Adolygu Penderfyniadauʼn Annibynnol (Mabwysiadu a Maethu) (Cymru) 2010
17 

(1) Mae Rheoliadau Adolygu Penderfyniadauʼn Annibynnol (Mabwysiadu a Maethu) (Cymru) 2010 wedi eu diwygio fel a ganlyn.
(2) Yn rheoliad 2 (dehongli)—
(a) yn y diffiniad o “ceisydd”, ym mharagraff (c), yn lle “28(6)(a)” rhodder “8(6)(a)”;
(b) yn y diffiniad o “rhiant maeth”, yn lle “2(1)” rhodder “2”;
(c) yn y diffiniad o “panel maethu”, yn lle “24” rhodder “4”;
(d) yn lle’r diffiniad o “darparydd gwasanaeth maethu” rhodder—“
 mae i “darparydd gwasanaethau maethu” (“fostering services provider”) yr ystyr a roddir i “darparwr gwasanaethau maethu” yn rheoliad 2 o’r Rheoliadau Maethu;”;
(e) yn y diffiniad o “y Rheoliadau Maethu”, yn lle “Rheoliadau Gwasanaethau Maethu (Cymru) 2003” rhodder “Rheoliadau Paneli Maethu (Sefydlu a Swyddogaethau) (Cymru) 2018;
(f) yn y diffiniad o “sefydliad”, yn lle “ddarparydd gwasanaeth maethu” rhodder “ddarparydd gwasanaethau maethu”.
(3) Yn rheoliad 4 (penderfyniad cymhwysol – disgrifiadau rhagnodedig at ddibenion adran 93(2)(b) o Ddeddf Gwasanaethau Cymdeithasol a Llesiant (Cymru) 2014)—
(a) ym mharagraff (a)—
(i) yn lle “27(6)” rhodder “7(11)”;
(ii) yn lle “28(6)” rhodder “8(6)”;
(b) ym mharagraff (b)—
(i) yn lle “27(6)” rhodder “7(11)”;
(ii) yn lle “29(7)” rhodder “9(7)(a)”.
(4) Yn rheoliad 14(3)(a) (swyddogaethau panel a gyfansoddwyd i adolygu penderfyniad ar faethu), yn lle “29A” rhodder “10”.
(5) Ym mhob un o’r darpariaethau a grybwyllir ym mharagraff (6), yn lle “darparydd gwasanaeth maethu” rhodder “darparydd gwasanaethau maethu”.
(6) Y darpariaethau yw—
(a) rheoliad 4(a) a (b);
(b) rheoliad 14(2), (2)(b), (3)(b) a (4).
Rheoliadau Gwarchod Plant a Gofal Dydd (Anghymhwyso) (Cymru) 2010
18 

(1) Mae Rheoliadau Gwarchod Plant a Gofal Dydd (Anghymhwyso) (Cymru) 2010 wedi eu diwygio fel a ganlyn.
(2) Yn Atodlen 1 (gorchmynion etc sy’n ymwneud â gofalu am blant), ym mharagraff 16A—
(a) yn lle’r geiriau agoriadol rhodder—“Mewn perthynas â chofrestru gwasanaeth cartref gofal, a ddarperir yn gyfan gwbl neu’n bennaf i bersonau sydd o dan 18 oed, neu wasanaeth llety diogel (mae i bob un yr ystyr a roddir yn Rhan 1 o Ddeddf Rheoleiddio ac Arolygu Gofal Cymdeithasol (Cymru) 2016 (“Deddf 2016”))—”;
(b) yn is-baragraff (ch), ar ôl “18 oed” mewnosoder “, neu wasanaeth llety diogel,”.
(3) Yn Atodlen 3 (tramgwyddau penodedig), ym mharagraff 1 (tramgwyddau yng Nghymru a Lloegr), yn lle geiriau agoriadol is-baragraff (5) rhodder—“Tramgwydd mewn perthynas â gwasanaeth llety diogel neu wasanaeth cartref gofal, a ddarperir yn gyfan gwbl neu’n bennaf i bersonau sydd o dan 18 oed (mae i bob un yr ystyr a roddir yn Rhan 1 o Ddeddf Rheoleiddio ac Arolygu Gofal Cymdeithasol (Cymru) 2016 (“Deddf 2016”)) o dan neu yn rhinwedd unrhyw un o ddarpariaethau canlynol Deddf 2016—”.
Gorchymyn Eithriadau Gwarchod Plant a Gofal Dydd (Cymru) 2010
19 

(1) Mae Gorchymyn Eithriadau Gwarchod Plant a Gofal Dydd (Cymru) 2010 wedi ei ddiwygio fel a ganlyn.
(2) Ar ôl erthygl 11 mewnosoder—“
11A. 
Nid yw person yn darparu gofal dydd pan ddarperir y gofal i blentyn sy’n cael gwasanaeth llety diogel (o fewn ystyr Deddf Rheoleiddio ac Arolygu Gofal Cymdeithasol (Cymru) 2016) mewn man lle y darperir gwasanaethau o’r fath ac y mae person wedi ei gofrestru mewn cysylltiad ag ef o dan Ran 1 o’r Ddeddf.”
Rheoliadau Iechyd Meddwl (Cydgysylltu Gofal a Chynllunio Gofal a Thriniaeth) (Cymru) 2011
20 

(1) Mae Rheoliadau Iechyd Meddwl (Cydgysylltu Gofal a Chynllunio Gofal a Thriniaeth) (Cymru) 2011 wedi eu diwygio fel a ganlyn.
(2) Yn rheoliad 2(1) (dehongli), yn y diffiniad o “gofalwr lleoliad oedolyn”, yn lle’r geiriau o “gytundeb lleoliad oedolyn” hyd at y diwedd rhodder “gytundeb lleoli unigolyn y mae’r gofalwr wedi ymrwymo iddo yn unol â rheoliad 12 o Reoliadau Gwasanaethau Lleoli Oedolion (Darparwyr Gwasanaethau ac Unigolion Cyfrifol) (Cymru) 2019”.

Rheoliadau Cynlluniau Gostyngiadau’r Dreth Gyngor (Gofynion Rhagnodedig) (Lloegr) 2012
21 

(1) Mae Rheoliadau Cynlluniau Gostyngiadau’r Dreth Gyngor (Gofynion Rhagnodedig) (Lloegr) 2012 wedi eu diwygio fel a ganlyn.
(2) Yn Atodlen 1, ym mharagraff 25(8)—
(a) ym mharagraff (k), hepgorer “Fostering Services (Wales) Regulations 2003”;
(b) ar ôl paragraff (k) mewnosoder—“
(ka) by a foster parent under the Fostering Panels (Establishment and Functions) (Wales) Regulations 2018 or a person with whom a child is placed under regulation 26 of the Care Planning, Placement and Case Review (Wales) Regulations 2015 (temporary approval of a relative, friend or other person connected with the child) or regulation 28 of those Regulations (temporary approval of a particular prospective adopter) in relation to a child other than one whom the foster parent is fostering or the person is looking after; or”.
Rheoliadau Sgorio Hylendid Bwyd (Cymru) 2013
22 

(1) Mae Rheoliadau Sgorio Hylendid Bwyd (Cymru) 2013 wedi eu diwygio fel a ganlyn.
(2) Yn rheoliad 5(1)(b) (sefydliadau busnes bwyd esempt), yn lle paragraff (ii) rhodder—“
(ii) personau sy’n ofalwyr lleoli oedolion o fewn ystyr rheoliad 1(3) o Reoliadau Gwasanaethau Lleoli Oedolion (Darparwyr Gwasanaethau ac Unigolion Cyfrifol) (Cymru) 2019;”.
Rheoliadau Gweithdrefn Sylwadau (Cymru) 2014
23 

(1) Mae Rheoliadau Gweithdrefn Sylwadau (Cymru) 2014 wedi eu diwygio fel a ganlyn.
(2) Hepgorer rheoliad 22 (trin sylwadau ynghylch safonau gofal).
Rheoliadau Gofal Plant (Asiantaethau Gwarchodwyr Plant) (Cofrestru, Arolygu a Chyflenwi a Datgelu Gwybodaeth) 2014
24 

(1) Mae Rheoliadau Gofal Plant (Asiantaethau Gwarchodwyr Plant) (Cofrestru, Arolygu a Chyflenwi a Datgelu Gwybodaeth) 2014 wedi eu diwygio fel a ganlyn.
(2) Yn rheoliad 19(2) (gofyniad i ddarparu gwybodaeth i bersonau rhagnodedig amrywiol)—
(a) ar ôl is-baragraff (a) mewnosoder—“
(aa) a provider of a fostering service (within the meaning of paragraph 5 of Schedule 1 to the Regulation and Inspection of Social Care (Wales) Act 2016);”;
(b) yn is-baragraff (b), yn lle “that Act” rhodder “the Care Standards Act 2000”;
(c) ar ôl is-baragraff (b) mewnosoder—“
(ba) a provider of an adoption service (within the meaning of paragraph 4(a) of Schedule 1 to the Regulation and Inspection of Social Care (Wales) Act 2016;”.
Rheoliadau Cynllunio Gofal, Lleoli ac Adolygu Achosion (Cymru) 2015
25 

(1) Mae Rheoliadau Cynllunio Gofal, Lleoli ac Adolygu Achosion (Cymru) 2015 wedi eu diwygio fel a ganlyn.
(2) Yn rheoliad 2(1) (dehongli)—
(a) yn y diffiniad o “y Rheoliadau Maethu”, yn lle “Rheoliadau Gwasanaethau Maethu (Cymru) 2003” rhodder “Rheoliadau Paneli Maethu (Sefydlu a Swyddogaethau) (Cymru) 2018”;
(b) yn y diffiniad o “darparwr gwasanaeth maethu”, ym mharagraff (a)—
(i) yn lle “darparwr gwasanaeth maethu” rhodder “darparwr gwasanaethau maethu”;
(ii) yn lle “2(1)” rhodder “2”.
(3) Yn rheoliad 22(1) (dehongli)—
(a) hepgorer y diffiniad o “person cofrestredig” a’r “ac” yn union o flaen hynny;
(b) yn y lleoedd priodol mewnosoder—“
 ystyr “darparwr cofrestredig” (“registered provider”) yw—
(a) darparwr gwasanaethau maethu rheoleiddiedig o fewn yr ystyr yn rheoliad 2 o’r Rheoliadau Maethu, a
(b) person cofrestredig o fewn yr ystyr a roddir i “registered person” yn rheoliad 2(1) o Reoliadau Gwasanaethau Maethu (Lloegr) 2011;”;“
 ystyr “gwasanaeth maethu annibynnol” (“independent fostering service”) yw—
(a) gwasanaeth maethu o fewn yr ystyr ym mharagraff 5 o Atodlen 1 i Ddeddf Rheoleiddio ac Arolygu Gofal Cymdeithasol (Cymru) 2016, a
(b) asiantaeth faethu o fewn yr ystyr a roddir i “fostering agency” yn adran 4(4)(a) o Ddeddf Safonau Gofal 2000.”
(4) Yn rheoliad 23(2)(c) (amodau y mae’n rhaid eu bodloni cyn lleoli plentyn gyda rhiant maeth awdurdod lleol), yn lle “28(5)(b)” rhodder “8(5)(b)”.
(5) Ym mhob un o’r darpariaethau a grybwyllir ym mharagraff (6), yn lle “berson cofrestredig” rhodder “ddarparwr cofrestredig” ac yn lle “person cofrestredig” rhodder “darparwr cofrestredig”.
(6) Y darpariaethau yw—
(a) rheoliad 29(1), (2) a (3);
(b) Atodlen 6—
(i) paragraff 1(a), (b) ac (c);
(ii) paragraff 2(b) ac (e).
(7) Yn rheoliad 29 (asiantaethau maethu annibynnol – cyflawni swyddogaethau awdurdod cyfrifol), yn y pennawd, yn lle “Asiantaethau maethu” rhodder “Gwasanaethau maethu”.
(8) Yn rheoliad 63 (cofnodion – sefydlu cofnodion), ym mharagraff (2)(e), yn lle “gydag asiantaeth faethu” rhodder “gyda gwasanaeth maethu” ac yn lle “asiantaeth faethu annibynnol honno” rhodder “gwasanaeth maethu annibynnol hwnnw”.
(9) Yn y pennawd i Atodlen 6, yn lle “gydag asiantaeth faethu” rhodder “gyda gwasanaeth maethu”.
Rheoliadau Gofal a Chymorth (Methiant Busnes) (Cymru) 2015
26 

(1) Mae Rheoliadau Gofal a Chymorth (Methiant Busnes) (Cymru) 2015 wedi eu diwygio fel a ganlyn.
(2) Yn rheoliad 1(3) (enwi, cychwyn, cymhwyso a dehongli), yn y diffiniad o “darparwr”, hepgorer y geiriau o “neu” yn y lle cyntaf y mae’n digwydd hyd at y diwedd.
Rheoliadau Gofal Plant (Anghymhwyso) a Gofal Plant (Y Blynyddoedd Cynnar yn Ddi-dâl) (Hawlogaeth Estynedig) (Diwygio) 2018
27 

(1) Mae Rheoliadau Gofal Plant (Anghymhwyso) a Gofal Plant (Y Blynyddoedd Cynnar yn Ddi-dâl) (Hawlogaeth Estynedig) (Diwygio) 2018 wedi eu diwygio fel a ganlyn.
(2) Yn Atodlen 1 (gorchmynion etc sy’n ymwneud â gofalu am blant), ym mharagraff 18—
(a) yn lle’r geiriau agoriadol rhodder—“In relation to the registration of a care home service, which is provided wholly or mainly to persons under the age of 18, or a secure accommodation service (each has the meaning given in Part 1 of the Regulation and Inspection of Social Care (Wales) Act 2016 (“the 2016 Act”))—”;
(b) yn is-baragraff (d), ar ôl “age of 18” mewnosoder “, or a secure accommodation service,”.
(3) Yn Atodlen 3 (troseddau penodedig), ym mharagraff 1, yn is-baragraff (14), yn lle’r geiriau agoriadol rhodder—“An offence in relation a care home service, which is provided wholly or mainly to persons under the age of 18, or a secure accommodation service (each has the meaning given in Part 1 of the Regulation and Inspection of Social Care (Wales) Act 2016 (“the 2016 Act”)) under or by virtue of any of the following provisions of the 2016 Act—”.
ATODLEN 2
Dirymiadau
Rheoliad 3

Mae’r offerynnau a ganlyn wedi eu dirymu.

Y Rheoliadau sydd wedi eu dirymu Y Cyfeirnod
Rheoliadau Gwasanaethau Maethu (Cymru) 2003 O.S. 2003/237 (Cy. 35)
Rheoliadau Gwasanaethau Maethu (Cymru) (Diwygio) 2003 O.S. 2003/896 (Cy. 116)
Rheoliadau Asiantaethau Nyrsys (Cymru) 2003 O.S. 2003/2527 (Cy. 242)
Rheoliadau Asiantaethau Nyrsys (Cymru) (Diwygio) 2003 O.S. 2003/3054 (Cy. 292)
Rheoliadau Cynlluniau Lleoli Oedolion (Cymru) 2004 O.S. 2004/1756 (Cy. 188)
Rheoliadau Asiantaethau Cymorth Mabwysiadu (Cymru) 2005 O.S. 2005/1514 (Cy. 118)
Rheoliadau Gwasanaeth Mabwysiadu Awdurdodau Lleol (Cymru) 2007 O.S. 2007/1357 (Cy. 128)
Rheoliadau Cynlluniau Lleoli Oedolion (Cymru) (Diwygiadau Amrywiol) 2010 O.S. 2010/2585 (Cy. 217)
Rheoliadau Deddf Safonau Gofal 2000 (Hysbysu) (Cymru) 2011 O.S. 2011/105 (Cy. 24)
