
2019 Rhif 236 (Cy. 55)
Ymadael Â’r Undeb Ewropeaidd, Cymru
Trafnidiaeth, Cymru
Rheoliadau Mesur Teithio gan Ddysgwyr (Cymru) (Diwygio) (Ymadael â’r UE) 2019Gofynion sifftio wedi eu bodloni4 Chwefror 2019
Gwnaed 12 Chwefror 2019
Gosodwyd gerbron Cynulliad Cenedlaethol Cymru 13 Chwefror 2019
Yn dod i rym yn unol â rheoliad 1(2)

Mae Gweinidogion Cymru, drwy arfer y pwerau a roddir gan baragraff 1(1) o Atodlen 2 i Ddeddf yr Undeb Ewropeaidd (Ymadael) 2018, yn gwneud y Rheoliadau a ganlyn.

Mae gofynion paragraff 4(2) o Atodlen 7 i’r Ddeddf honno (sy’n ymwneud â gweithdrefn graffu briodol Cynulliad Cenedlaethol Cymru ar gyfer y Rheoliadau hyn) wedi eu bodloni.
Enwi, cychwyn a chymhwyso
1 

(1) Enw’r Rheoliadau hyn yw Rheoliadau Mesur Teithio gan Ddysgwyr (Cymru) (Diwygio) (Ymadael â’r UE) 2019.
(2) Daw’r Rheoliadau hyn i rym ar y diwrnod ymadael.
(3) Mae’r Rheoliadau hyn yn gymwys o ran Cymru.
Diwygio Mesur Teithio gan Ddysgwyr (Cymru) 2008
2 
Yn adran 14A(5) o Fesur Teithio gan Ddysgwyr (Cymru) 2008, yn lle “unrhyw ofyniad yng nghyfraith yr Undeb Ewropeaidd sy’n uniongyrchol gymwysadwy” rhodder “unrhyw ofyniad yn neddfwriaeth uniongyrchol yr UE a ddargedwir”.
Ken Skates
Gweinidog yr Economi a Thrafnidiaeth, un o Weinidogion Cymru
12 Chwefror 2019