
2019 Rhif 235 (Cy. 54)
Addysg, Cymru
Rheoliadau Addysg (Cyllid Myfyrwyr) (Diwygiadau Amrywiol) (Cymru) 2019
Gwnaed 12 Chwefror 2019
Gosodwyd gerbron Cynulliad Cenedlaethol Cymru 13 Chwefror 2019 
Yn dod i rym 8 Mawrth 2019 
Mae Gweinidogion Cymru, drwy arfer y pwerau a roddir i’r Ysgrifennydd Gwladol gan adrannau 1 a 2 o Ddeddf Addysg (Ffioedd a Dyfarniadau) 1983 ac adrannau 22 a 42(6) o Ddeddf Addysgu ac Addysg Uwch 1998 sydd bellach yn arferadwy ganddynt hwy a phwerau a roddir iddynt o dan adrannau 5(5)(b) o Ddeddf Addysg Uwch (Cymru) 2015 yn gwneud y Rheoliadau a ganlyn:
RHAN 1 ENWI, CYCHWYN A CHYMHWYSO
Enwi, cychwyn a chymhwyso
1 

(1) Enw’r Rheoliadau hyn yw Rheoliadau Addysg (Cyllid Myfyrwyr) (Diwygiadau Amrywiol) (Cymru) 2019.
(2) Mae’r rheoliad hwn a rheoliadau 3, 4, 6(b), 8(b) 12, 13(b), 21, 34(a) a 45 yn dod i rym ar 8 Mawrth 2019.
(3) Mae pob rheoliad arall a’r Atodlenni—
(a) yn dod i rym ar 8 Mawrth 2019; a
(b) yn gymwys i ddarparu cymorth i fyfyrwyr mewn perthynas â blwyddyn academaidd sy’n dechrau ar neu ar ôl 1 Awst 2019, pa un a wneir unrhyw beth a wneir o dan y Rheoliadau hyn cyn, ar neu ar ôl y dyddiad hwnnw.
RHAN 2 DIWYGIADAU I REOLIADAU ADDYSG (FFIOEDD A DYFARNIADAU) (CYMRU) 2007
Diwygiadau i Reoliadau Addysg (Ffioedd a Dyfarniadau) (Cymru) 2007
2 
Mae Rheoliadau Addysg (Ffioedd a Dyfarniadau) (Cymru) 2007 wedi eu diwygio yn unol â rheoliadau 3 i 6.
3 
Yn y testun Saesneg, yn lle “United Kingdom and Islands” ym mhob lle y mae’n digwydd, rhodder “United Kingdom and the Islands”.
Diwygiad i reoliad 4
4 
Yn rheoliad 4 (codi ffioedd) ym mharagraff (4), yn lle “amod a osodir o dan adran 28 o Ddeddf Addysg Uwch 2004” rhodder “adran 10 o Ddeddf Addysg Uwch (Cymru) 2015”.
Diwygiadau i reoliad 5
5 
Yn rheoliad 5 (dyfarniadau gan awdurdodau lleol), ym mharagraff (1)—
(a) yn is-baragraff (b), yn lle “o fewn paragraffau 4A a 5” rhodder “o fewn paragraffau 4A, 5 a 5A”;
(b) yn is-baragraff (c), yn lle “o fewn paragraffau 4A, 5 a 9” rhodder “o fewn paragraffau 4A, 5, 5A a 9”.
Diwygiadau i’r Atodlen
6 
Yn yr Atodlen—
(a) ym mharagraff 1, yn y lle priodol mewnosoder—“
 ystyr “person sydd â chaniatâd i aros o dan adran 67” (“person with section 67 leave to remain”) yw person—
(a) y mae ganddo ganiatâd cyfredol i aros yn y Deyrnas Unedig o dan adran 67 o Ddeddf Mewnfudo 2016 ac yn unol â’r rheolau mewnfudo; a
(b) sydd wedi bod yn preswylio fel arfer yn y Deyrnas Unedig a’r Ynysoedd drwy gydol y cyfnod ers i’r caniatâd hwnnw gael ei roi i’r person;”;
(b) ym mharagraff 4A, yn lle “yng Nghymru” ym mhob lle y mae’n digwydd, rhodder “yn y Deyrnas Unedig”;
(c) ar ôl paragraff 5 (personau â chaniatâd i ddod i mewn neu aros ac aelodau o’u teulu), mewnosoder—“
Personau sydd â chaniatâd i aros o dan adran 67
5A. 

(1) Person—
(a) sydd â chaniatâd i aros o dan adran 67;
(b) sy’n preswylio fel arfer yn y Deyrnas Unedig ar ddiwrnod cyntaf blwyddyn academaidd gyntaf y cwrs; ac
(c) sydd wedi bod yn preswylio fel arfer yn y Deyrnas Unedig a’r Ynysoedd drwy gydol y cyfnod o dair blynedd cyn diwrnod cyntaf blwyddyn academaidd gyntaf y cwrs.
(2) Person—
(a) sy’n blentyn i berson sydd â chaniatâd i aros o dan adran 67;
(b) a oedd, ar ddyddiad y cais i gael caniatâd i aros, o dan 18 oed ac yn blentyn i’r person sydd â chaniatâd i aros o dan adran 67;
(c) sy’n preswylio fel arfer yn y Deyrnas Unedig ar ddiwrnod cyntaf blwyddyn academaidd gyntaf y cwrs; ac
(ch) sydd wedi bod yn preswylio fel arfer yn y Deyrnas Unedig a’r Ynysoedd drwy gydol y cyfnod o dair blynedd cyn diwrnod cyntaf blwyddyn academaidd gyntaf y cwrs.
(3) Yn y paragraff hwn—
 ystyr “dyddiad y cais i gael caniatâd i aros” yw’r dyddiad y gwnaeth y person sydd â chaniatâd i aros o dan adran 67 y cais a arweiniodd at y person hwnnw yn cael caniatâd i aros yn y Deyrnas Unedig.”
RHAN 3 DIWYGIADAU I REOLIADAU ADDYSG (ATHROFA BRIFYSGOL EWROPEAIDD) (CYMRU) 2014
Diwygiadau i Reoliadau Addysg (Athrofa Brifysgol Ewropeaidd) (Cymru) 2014
7 
Mae Rheoliadau Addysg (Athrofa Brifysgol Ewropeaidd) (Cymru) 2014 wedi eu diwygio yn unol â rheoliadau 8 i 10.
Diwygiadau i reoliad 3
8 
Yn rheoliad 3, yn y lleoedd priodol mewnosoder—
(a) “
 ystyr “person sydd â chaniatâd i aros o dan adran 67” (“person with section 67 leave to remain”) yw person—
(a) y mae ganddo ganiatâd cyfredol i aros yn y Deyrnas Unedig o dan adran 67 o Ddeddf Mewnfudo 2016 ac yn unol â’r rheolau mewnfudo; a
(b) sydd wedi bod yn preswylio fel arfer yn y Deyrnas Unedig a’r Ynysoedd drwy gydol y cyfnod ers i’r caniatâd hwnnw gael ei roi i’r person;”;
(b) “
 ystyr “Ynysoedd” (“Islands”) yw Ynysoedd y Sianel ac Ynys Manaw;”.
Diwygiadau i reoliad 6
9 
Yn rheoliad 6 (myfyrwyr cymwys)—
(a) ar ôl paragraff (10) mewnosoder—“
(10A) Pan fo—
(a) Gweinidogion Cymru wedi penderfynu bod person (“A” yn y paragraff hwn), yn rhinwedd y ffaith ei fod yn berson sydd â chaniatâd i aros o dan adran 67, neu’n blentyn i berson o’r fath, yn fyfyriwr cymwys mewn cysylltiad â chais am gymorth ar gyfer un o flynyddoedd cynharach y cwrs cyfredol neu mewn cysylltiad â chais am gymorth ar gyfer cwrs dynodedig yn yr Athrofa y trosglwyddwyd statws A fel myfyriwr cymwys ohono i’r cwrs cyfredol; a
(b) y cyfnod y caniateir i berson sydd â chaniatâd i aros o dan adran 67 aros yn y Deyrnas Unedig i fod i ddod i ben cyn diwrnod cyntaf y flwyddyn academaidd y mae A yn gwneud cais am gymorth mewn cysylltiad â hi ac nad oes, ar y diwrnod cyn bod y flwyddyn academaidd honno’n dechrau, unrhyw ganiatâd pellach i aros wedi ei roi ac nad oes unrhyw apêl yn yr arfaeth (o fewn ystyr adran 104 o Ddeddf Cenedligrwydd, Mewnfudo a Lloches 2002),mae statws A fel myfyriwr cymwys yn terfynu ar y diwrnod cyn diwrnod cyntaf y flwyddyn academaidd y mae A yn gwneud cais am gymorth mewn cysylltiad â hi.”;
(b) ym mharagraff (11), yn lle “paragraffau (9) a (10)” rhodder “paragraffau (9), (9A), (10) a (10A)”.
Diwygiad i Atodlen 1
10 
Yn Atodlen 1, ar ôl paragraff 5 mewnosoder—“
Personau sydd â chaniatâd i aros o dan adran 67
5A. 

(1) Person—
(a) sydd â chaniatâd i aros o dan adran 67;
(b) sy’n preswylio fel arfer yng Nghymru ar ddiwrnod cyntaf blwyddyn academaidd gyntaf y cwrs; ac
(c) sydd wedi bod yn preswylio fel arfer yn y Deyrnas Unedig a’r Ynysoedd drwy gydol y cyfnod o dair blynedd cyn diwrnod cyntaf blwyddyn academaidd gyntaf y cwrs.
(2) Person—
(a) sy’n blentyn i berson sydd â chaniatâd i aros o dan adran 67;
(b) a oedd, ar ddyddiad y cais i gael caniatâd i aros, o dan 18 oed ac yn blentyn i’r person sydd â chaniatâd i aros o dan adran 67;
(c) sy’n preswylio fel arfer yng Nghymru ar ddiwrnod cyntaf blwyddyn academaidd gyntaf y cwrs; a
(d) sydd wedi bod yn preswylio fel arfer yn y Deyrnas Unedig a’r Ynysoedd drwy gydol y cyfnod o dair blynedd cyn diwrnod cyntaf blwyddyn academaidd gyntaf y cwrs.
(3) Yn y paragraff hwn—ystyr “dyddiad y cais i gael caniatâd i aros” yw’r dyddiad y gwnaeth y person sydd â chaniatâd i aros o dan adran 67 y cais a arweiniodd at y person hwnnw yn cael caniatâd i aros yn y Deyrnas Unedig.”
RHAN 4 DIWYGIADAU I REOLIADAU ADDYSG UWCH (CYRSIAU CYMHWYSOL, PERSONAU CYMHWYSOL A DARPARIAETH ATODOL) (CYMRU) 2015
Diwygiadau i Reoliadau Addysg Uwch (Cyrsiau Cymhwysol, Personau Cymhwysol a Darpariaeth Atodol) (Cymru) 2015
11 
Mae Rheoliadau Addysg Uwch (Cyrsiau Cymhwysol, Personau Cymhwysol a Darpariaeth Atodol) (Cymru) 2015 wedi eu diwygio yn unol â rheoliadau 12 a 13.
12 
Yn y testun Saesneg, yn lle “United Kingdom and Islands” ym mhob lle y mae’n digwydd, rhodder “United Kingdom and the Islands”.
Diwygiadau i’r Atodlen
13 
Yn yr Atodlen—
(a) ym mharagraff 1(1), yn y lle priodol mewnosoder—“
 ystyr “person sydd â chaniatâd i aros o dan adran 67” (“person with section 67 leave to remain”) yw person—
(a) y mae ganddo ganiatâd cyfredol i aros yn y Deyrnas Unedig o dan adran 67 o Ddeddf Mewnfudo 2016 ac yn unol â’r rheolau mewnfudo; a
(b) sydd wedi bod yn preswylio fel arfer yn y Deyrnas Unedig a’r Ynysoedd drwy gydol y cyfnod ers i’r caniatâd hwnnw gael ei roi i’r person;”;
(b) ym mharagraff 4A, yn lle “yng Nghymru” ym mhob lle y mae’n digwydd, rhodder “yn y Deyrnas Unedig”;
(c) ar ôl paragraff 5 (personau â chaniatâd i ddod i mewn neu i aros ac aelodau o’u teulu) mewnosoder—“
Personau sydd â chaniatâd i aros o dan adran 67
5A. 

(1) Person—
(a) sydd â chaniatâd i aros o dan adran 67;
(b) sy’n preswylio fel arfer yn y Deyrnas Unedig ar ddiwrnod cyntaf blwyddyn academaidd gyntaf y cwrs; ac
(c) sydd wedi bod yn preswylio fel arfer yn y Deyrnas Unedig a’r Ynysoedd drwy gydol y cyfnod o dair blynedd cyn diwrnod cyntaf blwyddyn academaidd gyntaf y cwrs.
(2) Person—
(a) sy’n blentyn i berson sydd â chaniatâd i aros o dan adran 67;
(b) a oedd, ar ddyddiad y cais i gael caniatâd i aros, o dan 18 oed ac yn blentyn i’r person sydd â chaniatâd i aros o dan adran 67;
(c) sy’n preswylio fel arfer yn y Deyrnas Unedig ar ddiwrnod cyntaf blwyddyn academaidd gyntaf y cwrs; a
(d) sydd wedi bod yn preswylio fel arfer yn y Deyrnas Unedig a’r Ynysoedd drwy gydol y cyfnod o dair blynedd cyn diwrnod cyntaf blwyddyn academaidd gyntaf y cwrs.
(3) Yn y paragraff hwn—ystyr “dyddiad y cais i gael caniatâd i aros” yw’r dyddiad y gwnaeth y person sydd â chaniatâd i aros o dan adran 67 y cais a arweiniodd at y person hwnnw yn cael caniatâd i aros yn y Deyrnas Unedig.”
RHAN 5 DIWYGIADAU I REOLIADAU ADDYSG (CYMORTH I FYFYRWYR) (CYMRU) 2017
Diwygiadau i Reoliadau Addysg (Cymorth i Fyfyrwyr) (Cymru) 2017
14 
Mae Rheoliadau Addysg (Cymorth i Fyfyrwyr) (Cymru) 2017 wedi eu diwygio yn unol â rheoliadau 15 i 40.
Diwygiadau i reoliad 2
15 
Yn rheoliad 2 (dehongli), paragraff (1)—
(a) hepgorer y diffiniad o “sefydliad rheoleiddiedig Seisnig”;
(b) yn y lle priodol mewnosoder—
(i) “
 ystyr “person sydd â chaniatâd i aros o dan adran 67” (“person with section 67 leave to remain”) yw person—
(a) y mae ganddo ganiatâd cyfredol i aros yn y Deyrnas Unedig o dan adran 67 o Ddeddf Mewnfudo 2016 ac yn unol â’r rheolau mewnfudo; a
(b) sydd wedi bod yn preswylio fel arfer yn y Deyrnas Unedig a’r Ynysoedd drwy gydol y cyfnod ers i’r caniatâd hwnnw gael ei roi i’r person;”;
(i) “ystyr “darparwr Seisnig gwarchodedig” (“protected English provider”) yw sefydliad a oedd, ar neu ar ôl 1 Awst 2018 ond cyn 1 Awst 2019, yn cael ei gynnal neu ei gynorthwyo gan grantiau rheolaidd yn unol ag adran 65 o Ddeddf Addysg Bellach ac Uwch 1992 ac eithrio sefydliad a gynhelir neu a gynorthwyir gan grantiau rheolaidd a wneir gan Gyngor Cyllido Addysg Uwch Cymru;”;
(c) yn lle’r diffiniad o “sefydliad addysgol cydnabyddedig” rhodder—“
 ystyr “sefydliad addysgol cydnabyddedig” (“recognised educational institution”) yw—
(a) sefydliad rheoleiddiedig Cymreig;
(b) darparwr Seisnig gwarchodedig; neu
(c) sefydliad sy’n cael ei gynnal neu ei gynorthwyo gan grantiau rheolaidd o gronfeydd cyhoeddus ac sydd yn gyfan gwbl neu’n bennaf yn yr Alban neu yng Ngogledd Iwerddon;”.
Diwygiadau i reoliad 4
16 
Yn rheoliad 4 (myfyrwyr cymwys)—
(a) ar ôl paragraff (10) mewnosoder—“
(10A) Os bydd—
(a) Gweinidogion Cymru wedi penderfynu bod person (“A” yn y paragraff hwn), yn rhinwedd bod yn berson sydd â chaniatâd i aros o dan adran 67 neu yn rhinwedd bod yn blentyn i’r cyfryw berson—
(i) yn fyfyriwr cymwys mewn cysylltiad â chais am gymorth ar gyfer blwyddyn gynt o’r cwrs presennol, mewn cysylltiad â chais am gymorth ar gyfer cwrs y mae’r cwrs presennol yn gwrs penben mewn perthynas ag ef, neu’n gais am gymorth mewn cysylltiad â chwrs rhan-amser dynodedig, cwrs dysgu o bell dynodedig neu gwrs dynodedig arall y mae statws A fel myfyriwr rhan-amser cymwys, myfyriwr dysgu o bell cymwys neu fyfyriwr cymwys wedi ei drosglwyddo o’r cwrs hwnnw i’r cwrs presennol; neu
(ii) yn fyfyriwr cymhwysol mewn cysylltiad â chais am gymorth ar gyfer blwyddyn gynt o’r cwrs cymhwysol neu o gwrs cymhwysol arall y mae statws A fel myfyriwr cymhwysol wedi ei drosglwyddo o’r cwrs hwnnw i’r cwrs cymhwysol y mae’r myfyriwr yn gwneud cais am gymorth mewn perthynas ag ef; a
(b) ar y diwrnod cyn dechrau’r flwyddyn academaidd y mae A yn gwneud cais am gymorth mewn perthynas â hi, y cyfnod y caniateir i berson sydd â chaniatâd i aros o dan adran 67 aros yn y Deyrnas Unedig wedi terfynu ac nad oes unrhyw hawl bellach i aros wedi ei rhoi ac nad oes unrhyw apêl yn yr arfaeth (o fewn ystyr adran 104 o Ddeddf Cenedligrwydd, Mewnfudo a Lloches 2002),bydd statws A fel myfyriwr cymwys neu fyfyriwr cymhwysol yn terfynu yn union cyn diwrnod cyntaf y flwyddyn academaidd y mae A yn gwneud cais am gymorth mewn perthynas â hi.”;
(b) ym mharagraff (11), yn lle “paragraffau (9), (9A) a (10)” rhodder “paragraffau (9), (9A), (10) a (10A)”.
Diwygiadau i reoliad 5
17 
Yn rheoliad 5 (cyrsiau dynodedig)—
(a) yn lle paragraff (1)(e) rhodder—“
(e) ar gyfer cwrs sy’n dechrau cyn 1 Medi 2017, os yw’n cael ei ddarparu gan sefydliad a oedd, cyn y dyddiad hwnnw, yn sefydliad a ariennir yn gyhoeddus (pa un ai ar ei ben ei hun neu ar y cyd â sefydliad sydd y tu allan i’r Deyrnas Unedig);”;
(b) ar ôl paragraff (1)(e) mewnosoder—“
(ea) ar gyfer cwrs sy’n dechrau ar neu ar ôl 1 Medi 2017, os yw’n cael ei ddarparu gan—
(i) sefydliad addysgol cydnabyddedig (pa un ai ar ei ben ei hun neu ar y cyd â sefydliad sydd y tu allan i’r Deyrnas Unedig);
(ii) elusen o fewn yr ystyr a roddir i “charity” gan adran 1 o Ddeddf Elusennau 2011 ar ran sefydliad rheoleiddiedig Cymreig;
(iii) sefydliad a ariannwyd yn gyhoeddus cyn 1 Awst 2019 ar ran darparwr Seisnig gwarchodedig.”;
(c) yn lle paragraff (5)(c) rhodder—“
(c) ni fernir bod sefydliad wedi cael ei ariannu’n gyhoeddus cyn 1 Awst 2019 dim ond am ei fod wedi cael arian o gronfeydd cyhoeddus cyn y dyddiad hwnnw gan gorff llywodraethu sefydliad addysg uwch yn unol ag adran 65(3A) o Ddeddf Addysg Bellach ac Uwch 1992;”.
Diwygiad i reoliad 15
18 
Yn rheoliad 15 (digwyddiadau), ar ôl paragraff (b) mewnosoder—“
(ba) bod y myfyriwr neu riant y myfyriwr yn dod yn berson sydd â chaniatâd i aros o dan adran 67;”.
Diwygiadau i reoliad 16
19 
Yn rheoliad 16 (grant newydd at ffioedd)—
(a) ym mharagraff (3)—
(i) yn is-baragraff (a), yn lle “£4,800” rhodder “£4,665”;
(ii) yn is-baragraff (b), yn lle “£4,200” rhodder “£4,335”;
(b) ym mharagraff (4)—
(i) yn is-baragraff (a), yn lle “£2,480” rhodder “£2,410”;
(ii) yn is-baragraff (b), yn lle “£2,020” rhodder “£2,090”.
Diwygiadau i reoliad 19
20 
Yn rheoliad 19 (benthyciad newydd at ffioedd mewn perthynas â chyrsiau sy’n dechrau ar neu ar ôl 1 Medi 2012)—
(a) ym mharagraff (3)(a), yn lle “£4,200” rhodder £4,335”;
(b) ym mharagraff (4)(a), yn lle “£2,020” rhodder £2,090”.
Diwygiadau i reoliad 20
21 
Yn rheoliad 20 (benthyciad ychwanegol at ffioedd mewn perthynas â chyrsiau sy’n dechrau ar neu ar ôl 1 Medi 2012)—
(a) ym mharagraff (5)(b), yn lle “£900” rhodder “£1,800”;
(b) ym mharagraff (6)(b), yn lle “£675” rhodder “£1,350”.
Diwygiad i reoliad 23
22 
Yn rheoliad 23 (amodau cyffredinol yr hawl i gael grantiau at gostau byw), ar ôl paragraff (12)(b) mewnosoder—“
(ba) bod y myfyriwr neu riant y myfyriwr yn dod yn berson sydd â chaniatâd i aros o dan adran 67;”.
Diwygiadau i reoliad 24
23 
Yn rheoliad 24 (grantiau at gostau byw myfyrwyr anabl), paragraff (3)—
(a) yn is-baragraff (a), yn lle “£21,181” rhodder “£22,472”;
(b) yn is-baragraff (b), yn lle “£5,332” rhodder “£5,657”;
(c) yn is-baragraff (d), yn lle “£1,785” rhodder “£1,894”.
Diwygiadau i reoliad 43
24 
Yn rheoliad 43 (uchafswm benthyciadau i fyfyrwyr cymwys penodol)—
(a) ym mharagraff (2)—
(i) yn is-baragraff (i), yn lle “£5,529” rhodder “£5,684”;
(ii) yn is-baragraff (ii), yn lle “£10,007” rhodder “£10,288”;
(iii) yn is-baragraff (iii), yn lle “£8,517” rhodder “£8,756”;
(iv) yn is-baragraff (iv), yn lle “£8,517” rhodder “£8,756”;
(v) yn is-baragraff (v), yn lle “£7,143” rhodder “£7,344”;
(b) ym mharagraff (3)—
(i) yn is-baragraff (i), yn lle “£5,006” rhodder “£5,147”;
(ii) yn is-baragraff (ii), yn lle “£9,112” rhodder “£9,368”;
(iii) yn is-baragraff (iii), yn lle “£7,408” rhodder “£7,616”;
(iv) yn is-baragraff (iv), yn lle “£7,408” rhodder “£7,616”;
(v) yn is-baragraff (v), yn lle “£6,617” rhodder “£6,803”.
Diwygiadau i reoliad 45
25 
Yn rheoliad 45 (myfyrwyr sydd â hawlogaeth ostyngol)—
(a) ym mharagraff (1)(a)—
(i) ym mharagraff (i), yn lle “£2,625” rhodder “£2,699”;
(ii) ym mharagraff (ii), yn lle “£4,920” rhodder “£5,058”;
(iii) ym mharagraff (iii), yn lle “£3,500” rhodder “£3,598”;
(iv) ym mharagraff (iv), yn lle “£3,500” rhodder “£3,598”;
(v) ym mharagraff (v), yn lle “£3,500” rhodder “£3,598”;
(b) ym mharagraff (1)(b)—
(i) ym mharagraff (i), yn lle “£2,625” rhodder “£2,699”;
(ii) ym mharagraff (ii), yn lle “£4,920” rhodder “£5,058”;
(iii) ym mharagraff (iii), yn lle “£4,186” rhodder “£4,304”;
(iv) ym mharagraff (iv), yn lle “£4,186” rhodder “£4,304”;
(v) ym mharagraff (v), yn lle “£3,500” rhodder “£3,598”;
(c) ym mharagraff (1)(c)—
(i) ym mharagraff (i), yn lle “£4,147” rhodder “£4,263”;
(ii) ym mharagraff (ii), yn lle “£7,505” rhodder “£7,716”;
(iii) ym mharagraff (iii), yn lle “£6,388” rhodder “£6,567”;
(iv) ym mharagraff (iv), yn lle “£6,388” rhodder “£6,567”;
(v) ym mharagraff (v), yn lle “£5,357” rhodder “£5,508”;
(d) ym mharagraff (2)(a)—
(i) ym mharagraff (i), yn lle “£1,996” rhodder “£2,052”;
(ii) ym mharagraff (ii), yn lle “£3,763” rhodder “£3,869”;
(iii) ym mharagraff (iii), yn lle “£2,727” rhodder “£2,804”;
(iv) ym mharagraff (iv), yn lle “£2,727” rhodder “£2,804”;
(v) ym mharagraff (v), yn lle “£2,727” rhodder “£2,804”;
(e) ym mharagraff (2)(b)—
(i) ym mharagraff (i), yn lle “£1,996” rhodder “£2,052”;
(ii) ym mharagraff (ii), yn lle “£3,763” rhodder “£3,869”;
(iii) ym mharagraff (iii), yn lle “£3,060” rhodder “£3,146”;
(iv) ym mharagraff (iv), yn lle “£3,060” rhodder “£3,146”;
(v) ym mharagraff (v), yn lle “£2,727” rhodder “£2,804”;
(f) ym mharagraff (2)(c)—
(i) ym mharagraff (i), yn lle “£3,755” rhodder “£3,860”;
(ii) ym mharagraff (ii), yn lle “£6,834” rhodder “£7,026”;
(iii) ym mharagraff (iii), yn lle “£5,556” rhodder “£5,712”;
(iv) ym mharagraff (iv), yn lle “£5,556” rhodder “£5,712”;
(v) ym mharagraff (v), yn lle “£4,963” rhodder “£5,102”.
Diwygiad i reoliad 49
26 
Yn rheoliad 49 (myfyrwyr sy’n dod yn gymwys yn ystod blwyddyn academaidd), ar ôl paragraff (2)(b) mewnosoder—“
(ba) bod y myfyriwr neu riant y myfyriwr yn dod yn berson sydd â chaniatâd i aros o dan adran 67;”.
Diwygiadau i reoliad 50
27 
Yn rheoliad 50 (codiadau yn yr uchafswm), paragraff (1)—
(a) yn is-baragraff (a), yn lle “£80” rhodder “£84”;
(b) yn is-baragraff (b), yn lle “£153” rhodder “£162”;
(c) yn is-baragraff (c), yn lle “£166” rhodder “£177”;
(d) yn is-baragraff (d), yn lle “£166” rhodder “£177”;
(e) yn is-baragraff (e), yn lle “£120” rhodder “£127”.
Diwygiadau i reoliad 64
28 
Yn rheoliad 64 (myfyrwyr dysgu o bell cymwys)—
(a) ar ôl paragraff (11) mewnosoder—“
(11A) Pan fo—
(a) Gweinidogion Cymru wedi penderfynu bod person (“A” yn y paragraff hwn), yn rhinwedd bod yn berson sydd â chaniatâd i aros o dan adran 67 neu fod yn blentyn i’r cyfryw berson, yn fyfyriwr dysgu o bell cymwys mewn cysylltiad â chais am gymorth ar gyfer blwyddyn gynharach o’r cwrs dysgu o bell presennol, neu mewn cysylltiad â chais am gymorth mewn perthynas â chwrs dynodedig, cwrs rhan-amser dynodedig, neu gwrs dysgu o bell dynodedig arall y mae statws A fel myfyriwr cymwys, myfyriwr rhan-amser cymwys neu fyfyriwr dysgu o bell cymwys wedi ei drosglwyddo oddi wrtho i’r cwrs dysgu o bell presennol; a
(b) ar y diwrnod cyn diwrnod dechrau’r flwyddyn academaidd y mae A yn gwneud cais am gymorth mewn perthynas â hi, y cyfnod y caniateir i berson sydd â chaniatâd i aros o dan adran 67 aros yn y Deyrnas Unedig wedi dod i ben ac nad oes hawl bellach i aros wedi ei rhoi ac nad oes apêl yn yr arfaeth (o fewn yr ystyr yn adran 104 o Ddeddf Cenedligrwydd, Mewnfudo a Lloches 2002),bydd statws A fel myfyriwr dysgu o bell cymwys yn terfynu yn union cyn diwrnod cyntaf y flwyddyn academaidd y mae A yn gwneud cais am gymorth mewn perthynas â hi.”;
(b) ym mharagraff (12), yn lle “paragraffau (10), (10A) ac (11)” rhodder “paragraffau (10), (10A), (11) ac (11A)”.
Diwygiadau i reoliad 65
29 
Yn rheoliad 65 (myfyrwyr sy’n dod yn gymwys yn ystod y flwyddyn academaidd)—
(a) ym mharagraff (2), yn lle “(b), (e)”, rhodder “(b), (ba), (e)”;
(b) ym mharagraff (3), yn lle “(b), (e)” rhodder “(b), (ba), (e)”; ac
(c) ym mharagraff (4), ar ôl is-baragraff (b) mewnosoder—“
(ba) bod y myfyriwr neu riant y myfyriwr yn dod yn berson sydd â chaniatâd i aros o dan adran 67;”.
Diwygiadau i reoliad 81
30 
Yn rheoliad 81 (myfyrwyr rhan-amser cymwys)—
(a) ar ôl paragraff (10) mewnosoder—“
(10A) Os bydd—
(a) Gweinidogion Cymru wedi penderfynu bod person (“A” yn y paragraff hwn), yn rhinwedd bod yn berson sydd â chaniatâd i aros o dan adran 67, neu fod yn blentyn i berson o’r fath, yn fyfyriwr rhan-amser cymwys mewn cysylltiad â chais am gymorth am flwyddyn gynharach o’r cwrs rhan-amser presennol neu mewn cysylltiad â chais am gymorth mewn cysylltiad â chwrs dynodedig, cwrs dysgu o bell dynodedig neu gwrs rhan-amser dynodedig arall y mae statws A fel myfyriwr rhan-amser cymwys, myfyriwr cymwys neu fyfyriwr dysgu o bell cymwys wedi ei drosglwyddo oddi wrtho i’r cwrs rhan-amser presennol; a
(b) ar y diwrnod cyn diwrnod dechrau’r flwyddyn academaidd y mae A yn gwneud cais am gymorth mewn perthynas â hi, y cyfnod y caniateir i berson sydd â chaniatâd i aros o dan adran 67 aros yn y Deyrnas Unedig wedi dod i ben ac nad oes hawl bellach i aros wedi ei rhoi ac nad oes apêl yn yr arfaeth (o fewn yr ystyr yn adran 104 o Ddeddf Cenedligrwydd, Mewnfudo a Lloches 2002),bydd statws A fel myfyriwr rhan-amser cymwys yn terfynu yn union cyn diwrnod cyntaf y flwyddyn academaidd y mae A yn gwneud cais am gymorth mewn perthynas â hi.”;
(b) ym mharagraff (11), yn lle “paragraffau (9), (9A) a (10)” rhodder “paragraffau (9), (9A), (10) a (10A)”; ac
(c) yn lle paragraffau (28) a (29) rhodder—“
(28) Mae cwrs wedi ei bennu at ddiben paragraff (27)—
(a) os yw’n ymwneud ag astudio hanes a gramadeg y Gymraeg a’r defnydd ohoni;
(b) os yw’r cwrs wedi ei restru yn y Dosbarthiad Pynciau Addysg Uwch yn un o’r meysydd pwnc a ganlyn—
(i) pynciau perthynol i feddygaeth (CAH02);
(ii) y gwyddorau biolegol a’r gwyddorau chwaraeon (CAH03);
(iii) seicoleg (CAH04);
(iv) milfeddygaeth (CAH05);
(v) amaethyddiaeth, bwyd ac astudiaethau cysylltiedig (CAH06);
(vi) y gwyddorau ffisegol (CAH07);
(vii) y gwyddorau mathemategol (CAH09);
(viii) peirianneg a thechnoleg (CAH10);
(ix) cyfrifiadura (CAH11); neu
(c) os yw’n gwrs y mae ei god a’i label o dan y Dosbarthiad Pynciau Addysg Uwch wedi eu rhestru yn Atodlen 7.
(29) Yn y rheoliad hwn ac yn Atodlen 7, ystyr “y Dosbarthiad Pynciau Addysg Uwch” yw’r Dosbarthiad Pynciau Addysg Uwch a gynhelir gan Wasanaeth Derbyn y Prifysgolion a’r Colegau ac Asiantaeth Ystadegau Addysg Uwch.”
Diwygiadau i reoliad 82
31 
Yn rheoliad 82 (myfyrwyr sy’n dod yn gymwys yn ystod y flwyddyn academaidd)—
(a) ym mharagraff (2), yn lle “(b), (e)” rhodder “(b), (ba), (e)”;
(b) ym mharagraff (3), yn lle “(b), (e)” rhodder “(b), (ba), (e)”; ac
(c) ym mharagraff (4), ar ôl is-baragraff (b) mewnosoder—“
(ba) bod y myfyriwr neu riant y myfyriwr yn dod yn berson sydd â chaniatâd i aros o dan adran 67;”.
Diwygiadau i reoliad 83
32 
Yn rheoliad 83 (cyrsiau rhan-amser dynodedig)—
(a) yn lle paragraff (1)(d) rhodder—“
(d) os yw’n cael ei ddarparu yn gyfan gwbl gan sefydliad yn y Deyrnas Unedig a oedd cyn 1 Awst 2019 yn sefydliad a ariennid yn gyhoeddus neu’n cael ei ddarparu gan sefydliad o’r fath ar y cyd â sefydliad y tu allan i’r Deyrnas Unedig;”;
(b) yn lle paragraff (4)(c) rhodder—“
(c) ni fernir bod sefydliad wedi cael ei ariannu’n gyhoeddus cyn 1 Awst 2019 dim ond am ei fod wedi cael arian o gronfeydd cyhoeddus cyn y dyddiad hwnnw gan gorff llywodraethu sefydliad addysg uwch yn unol ag adran 65(3A) o Ddeddf Addysg Bellach ac Uwch 1992;”.
Diwygiadau i reoliad 88
33 
Yn rheoliad 88 (grantiau at gostau byw myfyrwyr rhan-amser anabl), paragraff (3)—
(a) yn is-baragraff (a), yn lle “£15,885” rhodder “£16,853”;
(b) yn is-baragraff (b), yn lle “£5,332” rhodder “£5,657”;
(c) yn is-baragraff (d), yn lle “£1,338” rhodder “£1,420”.
Diwygiadau i reoliad 110
34 
Yn rheoliad 110 (myfyrwyr ôl-raddedig cymwys)—
(a) ym mharagraff (11A)(b), yn lle “person sydd â’r hawl i ddod i mewn neu i aros” rhodder “person y rhoddwyd caniatâd iddo aros fel person diwladwriaeth”;
(b) ar ôl paragraff (12) mewnosoder—“
(12A) Os bydd—
(a) Gweinidogion Cymru wedi penderfynu bod person (“A” yn y paragraff hwn), yn rhinwedd bod yn berson sydd â chaniatâd i aros o dan adran 67, neu fod yn blentyn i’r cyfryw berson, yn fyfyriwr ôl-raddedig cymwys mewn cysylltiad â chais am gymorth am flwyddyn gynharach o’r cwrs ôl-radd presennol neu mewn cysylltiad â chais mewn cysylltiad â chwrs ôl-radd dynodedig arall y mae statws A fel myfyriwr ôl-raddedig cymwys wedi ei drosglwyddo oddi wrtho i’r cwrs ôl-radd presennol; a
(b) ar y diwrnod cyn dechrau’r flwyddyn academaidd y mae A yn gwneud cais am gymorth mewn perthynas â hi, y cyfnod y caniateir i’r person sydd â chaniatâd i aros o dan adran 67 aros yn y Deyrnas Unedig wedi dod i ben ac nad oes unrhyw hawl bellach i aros wedi ei rhoi ac nad oes unrhyw apêl yn yr arfaeth (o fewn yr ystyr yn adran 104 o Ddeddf Cenedligrwydd, Mewnfudo a Lloches 2002),bydd statws A fel myfyriwr ôl-raddedig cymwys yn terfynu yn union cyn diwrnod cyntaf y flwyddyn academaidd gyntaf y mae A yn gwneud cais am gymorth mewn perthynas â hi.”;
(c) ym mharagraff (13), yn lle “paragraffau (11) a (12)” rhodder “paragraffau (11), (11A), (12) a (12A)”.
Diwygiad i reoliad 111
35 
Yn rheoliad 111 (myfyrwyr sy’n dod yn gymwys yn ystod y flwyddyn academaidd), ar ôl paragraff (2)(b) mewnosoder—“
(ba) y myfyriwr neu riant y myfyriwr yn dod yn berson sydd â chaniatâd i aros o dan adran 67;”.
Diwygiadau i reoliad 112
36 
Yn rheoliad 112 (cyrsiau ôl-radd dynodedig)—
(a) yn lle paragraff (1)(c) rhodder—“
(c) os yw’n cael ei ddarparu yn gyfan gwbl gan sefydliad yn y Deyrnas Unedig a oedd cyn 1 Awst 2019 yn sefydliad a ariennid yn gyhoeddus neu’n cael ei ddarparu gan sefydliad o’r fath ar y cyd â sefydliad y tu allan i’r Deyrnas Unedig;”;
(b) yn lle paragraff (2)(c) rhodder—“
(c) ni fernir bod sefydliad wedi cael ei ariannu’n gyhoeddus cyn 1 Awst 2019 dim ond am ei fod wedi cael arian o gronfeydd cyhoeddus cyn y dyddiad hwnnw gan gorff llywodraethu sefydliad addysg uwch yn unol ag adran 65(3A) o Ddeddf Addysg Bellach ac Uwch 1992;”.
Diwygiad i reoliad 117
37 
Yn rheoliad 117 (swm y grant), yn lle “£10,590” rhodder “£20,000”.
Diwygiadau i’r Atodlenni
38 
Yn Atodlen 1, ar ôl paragraff 5 (personau sydd â chaniatâd i ddod i mewn neu i aros ac aelodau o’u teuluoedd) mewnosoder—“
Personau sydd â chaniatâd i aros o dan adran 67
5A. 

(1) Person—
(a) sydd â chaniatâd i aros o dan adran 67;
(b) sy’n preswylio’n arferol yng Nghymru ar ddiwrnod cyntaf blwyddyn academaidd gyntaf y cwrs; ac
(c) sydd wedi bod yn preswylio’n arferol yn y Deyrnas Unedig a’r Ynysoedd drwy gydol y cyfnod o dair blynedd cyn diwrnod cyntaf blwyddyn academaidd gyntaf y cwrs.
(2) Person—
(a) sy’n blentyn i berson sydd â chaniatâd i aros o dan adran 67;
(b) a oedd, ar ddyddiad y cais i gael caniatâd i aros, o dan 18 oed ac yn blentyn i’r person sydd â chaniatâd i aros o dan adran 67;
(c) sy’n preswylio’n arferol yng Nghymru ar ddiwrnod cyntaf blwyddyn academaidd gyntaf y cwrs; a
(d) sydd wedi bod yn preswylio’n arferol yn y Deyrnas Unedig a’r Ynysoedd am y cyfnod o dair blynedd cyn diwrnod cyntaf blwyddyn academaidd gyntaf y cwrs.
(3) Yn y paragraff hwn, ystyr “dyddiad y cais i gael caniatâd i aros” yw’r dyddiad y gwnaeth y person sydd â chaniatâd i aros o dan adran 67 y cais a arweiniodd at y person hwnnw yn cael caniatâd i aros yn y Deyrnas Unedig.”
39 
Yn Atodlen 4, ym mharagraff 6, ar ôl is-baragraff (a) mewnosoder—“
(aa) bod y myfyriwr neu riant y myfyriwr yn dod yn berson sydd â chaniatâd i aros o dan adran 67;”.
40 
Ar ôl Atodlen 6, mewnosoder yr atodlen newydd a nodir yn Atodlen 1 i’r Rheoliadau hyn.
RHAN 6 DIWYGIADAU I REOLIADAU ADDYSG (CYMORTH I FYFYRWYR) (CYMRU) 2018
Diwygiadau i Reoliadau Addysg (Cymorth i Fyfyrwyr) (Cymru) 2018
41 
Mae Rheoliadau Addysg (Cymorth i Fyfyrwyr) (Cymru) 2018 wedi eu diwygio yn unol â rheoliadau 42 i 60.
Diwygiadau i reoliad 6
42 
Yn rheoliad 6 (cyrsiau dynodedig – amodau)—
(a) yn lle amod 4 rhodder—“
Amod 4
(a) Pan fo’r cwrs yn gwrs llawnamser sy’n dechrau cyn 1 Awst 2019, mae’n cael ei ddarparu—
(i) gan sefydliad rheoleiddiedig Cymreig, darparwr Seisnig gwarchodedig, sefydliad a gyllidir gan yr Alban neu sefydliad a gyllidir gan Ogledd Iwerddon (pa un ai ar ei ben ei hun neu ar y cyd â sefydliad sydd y tu allan i’r Deyrnas Unedig),
(ii) gan elusen o fewn yr ystyr a roddir i “charity” gan adran 1 o Ddeddf Elusennau 2011 ar ran sefydliad rheoleiddiedig Cymreig, neu
(iii) ar ran darparwr Seisnig gwarchodedig gan sefydliad a oedd cyn 1 Awst 2019 yn sefydliad a gyllidir yn gyhoeddus.
(b) Pan fo’r cwrs yn gwrs rhan-amser sy’n dechrau cyn 1 Awst 2019, mae’n cael ei ddarparu gan sefydliad a oedd cyn 1 Awst 2019 yn sefydliad a gyllidir yn gyhoeddus (pa un ai ar ei ben ei hun neu ar y cyd â sefydliad sydd y tu allan i’r Deyrnas Unedig).
(c) Pan fo’r cwrs yn gwrs llawnamser sy’n dechrau ar neu ar ôl 1 Awst 2019, mae’n cael ei ddarparu gan—
(i) sefydliad rheoleiddiedig Cymreig, sefydliad rheoleiddiedig Seisnig, sefydliad a gyllidir gan yr Alban neu sefydliad a gyllidir gan Ogledd Iwerddon (pa un ai ar ei ben ei hun neu ar y cyd â sefydliad sydd y tu allan i’r Deyrnas Unedig),
(ii) elusen o fewn yr ystyr a roddir i “charity” gan adran 1 o Ddeddf Elusennau 2011 ar ran sefydliad rheoleiddiedig Cymreig, neu
(iii) sefydliad Seisnig cofrestredig ar ran darparwr cynllun Seisnig.
(d) Pan fo’r cwrs yn gwrs rhan-amser sy’n dechrau ar neu ar ôl 1 Awst 2019, mae’n cael ei ddarparu gan—
(i) sefydliad a gyllidir gan Gymru, sefydliad a gyllidir gan yr Alban, sefydliad a gyllidir gan Ogledd Iwerddon neu sefydliad rheoleiddiedig Seisnig (pa un ai ar ei ben ei hun neu ar y cyd â sefydliad sydd y tu allan i’r Deyrnas Unedig), neu
(ii) sefydliad Seisnig cofrestredig ar ran darparwr cynllun Seisnig.”;
(b) yn lle paragraff (2)(c) rhodder—“
(c) ni fernir bod sefydliad yn sefydliad a gyllidir gan Gymru neu sefydliad a gyllidir yn gyhoeddus dim ond oherwydd—
(i) pan fo’r cwrs yn dechrau cyn 1 Awst 2019, ei fod yn sefydliad cysylltiedig a gafodd daliad perthnasol cyn y dyddiad hwnnw, neu
(ii) pan fo’r cwrs yn dechrau ar neu ar ôl 1 Awst 2019, ei fod yn sefydliad cysylltiedig sy’n cael taliad perthnasol.”;
(c) ar ôl paragraff (2) mewnosoder—“
(2A) At ddiben paragraff (2)—
(a) ystyr “sefydliad cysylltiedig” yw sefydliad cysylltiedig o fewn ystyr “connected institution” yn adran 65(3B) o Ddeddf Addysg Bellach ac Uwch 1992, a
(b) ystyr “taliad perthnasol” yw talu’r cyfan neu ran o unrhyw grant, benthyciad neu daliad arall gan gorff llywodraethu sefydliad a ddarperir i’r sefydliad cysylltiedig yn unol ag adran 65(3A) o Ddeddf Addysg Bellach ac Uwch 1992.”
Diwygiad i reoliad 23
43 
Ar ôl rheoliad 23 (personau eraill y mae eu caniatâd i ddod i mewn neu i aros wedi dod i ben) mewnosoder—“
Personau y mae eu caniatâd i aros o dan adran 67 wedi dod i ben
23A. 

(1) Mae’r rheoliad hwn yn gymwys—
(a) pan oedd person (“P”) yn fyfyriwr cymwys Categori 3A (gweler Atodlen 2) mewn cysylltiad â chais am gymorth—
(i) ar gyfer blwyddyn gynharach o’r cwrs presennol,
(ii) ar gyfer cwrs llawnamser y mae’r cwrs presennol yn gwrs penben llawnamser mewn perthynas ag ef, neu
(iii) ar gyfer cwrs y mae statws P fel myfyriwr cymwys wedi cael ei drosglwyddo ohono i’r cwrs presennol o dan reoliad 28 neu baragraff 7 o Atodlen 5, a
(b) pan, ar ddiwedd y diwrnod cyn diwrnod cyntaf y flwyddyn academaidd y mae P yn gwneud cais am gymorth mewn cysylltiad â hi, fo’r cyfnod y caiff—
(i) P, neu
(ii) y person, oherwydd bod ganddo ganiatâd i aros o dan adran 67, a oedd yn peri i P fod yn fyfyriwr cymwys Categori 3A,
aros yn y Deyrnas Unedig wedi dod i ben ac nad yw caniatâd pellach i aros wedi cael ei roi ac nad oes apêl yn yr arfaeth (o fewn ystyr adran 104 o Ddeddf Cenedligrwydd, Mewnfudo a Lloches 2002).
(2) Pan fo’r rheoliad hwn yn gymwys, mae statws P fel myfyriwr cymwys yn terfynu yn union cyn diwrnod cyntaf y flwyddyn academaidd y mae P yn gwneud cais am gymorth mewn cysylltiad â hi.”
Diwygiadau i reoliad 25
44 
Yn rheoliad 25 (myfyrwyr rhan-amser – cyfyngiadau ar gymorth i raddedigion)—
(a) ym mharagraff (2), yn lle Achos 3 rhodder—“
Achos 3Mae’r cwrs presennol yn arwain at radd anrhydedd ac—
(a) yn ymwneud ag astudio hanes a gramadeg y Gymraeg a’r defnydd ohoni,
(b) wedi ei restru yn y Dosbarthiad Pynciau Addysg Uwch yn un o’r meysydd pwnc a ganlyn—
(i) pynciau perthynol i feddygaeth (CAH02);
(ii) y gwyddorau biolegol a’r gwyddorau chwaraeon (CAH03);
(iii) seicoleg (CAH04);
(iv) milfeddygaeth (CAH05);
(v) amaethyddiaeth, bwyd ac astudiaethau cysylltiedig (CAH06);
(vi) y gwyddorau ffisegol (CAH07);
(vii) y gwyddorau mathemategol (CAH09);
(viii) peirianneg a thechnoleg (CAH10);
(ix) cyfrifiadura (CAH11), neu
(c) yn gwrs y mae ei god a’i label o dan y Dosbarthiad Pynciau Addysg Uwch wedi eu rhestru yn Atodlen 5A.”;
(b) yn lle paragraff (3), rhodder—“
 Yn Achos 3 ac yn Atodlen 5A, ystyr “y Dosbarthiad Pynciau Addysg Uwch” yw’r Dosbarthiad Pynciau Addysg Uwch a gynhelir gan Wasanaeth Derbyn y Prifysgolion a’r Colegau a’r Asiantaeth Ystadegau Addysg Uwch.”
Diwygiad i reoliad 40
45 
Yn rheoliad 40(3) (swm benthyciad at ffioedd dysgu), Tabl 2, yn lle “£5,535” rhodder “£5,785”.
Diwygiadau i reoliad 55
46 
Yn rheoliad 55 (swm y benthyciad cynhaliaeth: myfyrwyr llawnamser), Tabl 7, yn lle—
(a) “£6,650” rhodder “£6,840”;
(b) “£10,250” rhodder “£10,530”;
(c) “£8,000” rhodder “£8,225”;
(d) “£3,325” rhodder “£3,420”;
(e) “£5,125” rhodder “£5,265”;
(f) “£4,000” rhodder “£4,110”.
Diwygiadau i reoliad 56
47 
Yn rheoliad 56 (swm y benthyciad cynhaliaeth sy’n daladwy: myfyrwyr llawnamser y mae taliad cymorth arbennig yn daladwy iddynt)—
(a) yn Nhabl 8, yn lle—
(i) “£7,650” rhodder “£7,840”;
(ii) “£11,250” rhodder “£11,530”;
(iii) “£9,000” rhodder “£9,225”;
(b) yn Nhabl 8A, yn lle—
(i) “£3,325” rhodder “£3,420”;
(ii) “£5,125” rhodder “£5,265”;
(iii) “£4,000” rhodder “£4,110”.
Diwygiadau i reoliad 57
48 
Yn rheoliad 57 (benthyciad cynhaliaeth wedi ei gynyddu ar gyfer myfyrwyr llawnamser yn ystod blynyddoedd estynedig), Tabl 9, yn lle—
(a) “£80” rhodder “£84”;
(b) “£153” rhodder “£162”;
(c) “£120” rhodder “£127”.
Diwygiad i reoliad 58
49 
Yn rheoliad 58 (swm y benthyciad cynhaliaeth: myfyrwyr rhan-amser), Tabl 10, yn lle “£5,650” rhodder “£5,815”.
Diwygiad i reoliad 58A
50 
Yn rheoliad 58A (swm y benthyciad cynhaliaeth: myfyrwyr rhan-amser sy’n cymhwyso i gael taliad cymorth arbennig), Tabl 10A, yn lle “£6,650” rhodder “£6,815”.
Diwygiadau i reoliad 63
51 
Yn rheoliad 63 (swm y grant myfyriwr anabl), paragraff (2), yn lle—
(a) “£21,181” rhodder “£22,472”;
(b) “£15,885” rhodder “£16,853”;
(c) “£5,332” rhodder “£5,657”;
(d) “£1,785” rhodder “£1,894”;
(e) “£1,338” rhodder “£1,420”.
Diwygiadau i reoliad 80
52 
Yn rheoliad 80 (cymhwyso i gael benthyciad at ffioedd dysgu yn ystod y flwyddyn academaidd)—
(a) ym mharagraff (2) ar ôl is-baragraff (b)(i) mewnosoder—“
(ia) bod y myfyriwr neu riant y myfyriwr yn dod yn berson sydd â chaniatâd i aros o dan adran 67;”;
(b) ym mharagraff (3), yn y lle priodol mewnosoder—“
 “person sydd â chaniatâd i aros o dan adran 67” (“person with section 67 leave to remain”);”.
Diwygiad i reoliad 81
53 
Yn rheoliad 81 (cymhwyso i gael benthyciad cynhaliaeth neu grantiau yn ystod y flwyddyn academaidd), ar ôl paragraff (3)(b)(i) mewnosoder—“
(ia) bod y myfyriwr neu riant y myfyriwr yn dod yn berson sydd â chaniatâd i aros o dan adran 67;”.
Diwygiadau i’r Atodlenni
54 
Yn Atodlen 1, yn lle paragraff 2 rhodder—“
Sefydliadau addysgol
2. 
Yn y Rheoliadau hyn, ystyr “sefydliad addysgol cydnabyddedig” yw—
(a) mewn perthynas â chwrs llawnamser sy’n dechrau cyn 1 Awst 2019—
(i) sefydliad rheoleiddiedig Cymreig;
(ii) darparwr Seisnig gwarchodedig;
(iii) sefydliad a gyllidir gan yr Alban; neu
(iv) sefydliad a gyllidir gan Ogledd Iwerddon;
(b) mewn perthynas â chwrs rhan-amser sy’n dechrau cyn 1 Awst 2019, sefydliad a gyllidir yn gyhoeddus;
(c) mewn perthynas â chwrs llawnamser sy’n dechrau ar neu ar ôl 1 Awst 2019—
(i) sefydliad rheoleiddiedig Cymreig;
(ii) sefydliad rheoleiddiedig Seisnig;
(iii) sefydliad a gyllidir gan yr Alban;
(iv) sefydliad a gyllidir gan Ogledd Iwerddon;
(d) mewn perthynas â chwrs rhan-amser sy’n dechrau ar neu ar ôl 1 Awst 2019—
(i) sefydliad a gyllidir gan Gymru;
(ii) sefydliad rheoleiddiedig Seisnig;
(iii) sefydliad a gyllidir gan yr Alban;
(iv) sefydliad a gyllidir gan Ogledd Iwerddon.”
55 
Yn Atodlen 1, ar ôl paragraff 2 mewnosoder—“
2A. 

(1) Yn y Rheoliadau hyn—
(a) ystyr “sefydliad a gyllidir gan Gymru” yw sefydliad a gynhelir neu a gynorthwyir gan grantiau rheolaidd o gronfeydd a ddarperir gan Weinidogion Cymru;
(b) ystyr “sefydliad rheoleiddiedig Cymreig” yw sefydliad sydd â chynllun ffioedd a mynediad a gymeradwywyd gan Gyngor Cyllido Addysg Uwch Cymru o dan adran 7 o Ddeddf Addysg Uwch (Cymru) 2015 tra bo’r cynllun hwnnw yn parhau mewn grym;
(c) ystyr “darparwr Seisnig gwarchodedig” yw sefydliad a oedd, ar neu ar ôl 1 Awst 2018 ond cyn 1 Awst 2019, yn cael ei gynnal neu ei gynorthwyo gan grantiau rheolaidd yn unol ag adran 65 o Ddeddf Addysg Bellach ac Uwch 1992 ac eithrio sefydliad a gynhelir neu a gynorthwyir gan grantiau rheolaidd a wneir gan Gyngor Cyllido Addysg Uwch Cymru;
(d) ystyr “sefydliad Seisnig cofrestredig” yw sefydliad sydd wedi ei gofrestru gan y Swyddfa Fyfyrwyr yn y gofrestr;
(e) ystyr “sefydliad rheoleiddiedig Seisnig” yw sefydliad Seisnig cofrestredig sy’n ddarostyngedig i amod terfyn ffioedd o dan adran 10 o Ddeddf Addysg Uwch ac Ymchwil 2017;
(f) ystyr “darparwr cynllun Seisnig” yw sefydliad Seisnig cofrestredig sydd â chynllun mynediad a chyfranogiad a gymeradwywyd gan y Swyddfa Fyfyrwyr o dan adran 29 o Ddeddf Addysg Uwch ac Ymchwil 2017 ac sy’n parhau mewn grym;
(g) ystyr “sefydliad a gyllidir gan yr Alban” yw sefydliad a gynhelir neu a gynorthwyir gan grantiau rheolaidd o gronfeydd a ddarperir gan Weinidogion yr Alban;
(h) ystyr “sefydliad a gyllidir gan Ogledd Iwerddon” yw sefydliad a gynhelir neu a gynorthwyir gan grantiau rheolaidd o gronfeydd a ddarperir gan Weithrediaeth Gogledd Iwerddon.
(2) Yn is-baragraff (1) mae cyfeiriad at y gofrestr yn cyfeirio at y gofrestr a sefydlwyd ac a gynhelir gan y Swyddfa Fyfyrwyr o dan adran 3 o Ddeddf Addysg Uwch ac Ymchwil 2017.”
56 
Yn Atodlen 2, ar ôl paragraff 3 (categori 3 – personau sydd â chaniatâd i ddod i mewn neu i aros ac aelodau o’u teuluoedd) mewnosoder—“
Categori 3A – Personau sydd â chaniatâd i aros o dan adran 67
3A. 

(1) Person—
(a) sydd â chaniatâd i aros o dan adran 67,
(b) sy’n preswylio fel arfer yng Nghymru ar ddiwrnod cyntaf blwyddyn academaidd gyntaf y cwrs, ac
(c) sydd wedi bod yn preswylio fel arfer yn y Deyrnas Unedig a’r Ynysoedd drwy gydol y cyfnod o dair blynedd cyn diwrnod cyntaf blwyddyn academaidd gyntaf y cwrs.
(2) Person—
(a) sy’n blentyn i berson sydd â chaniatâd i aros o dan adran 67,
(b) a oedd, ar ddyddiad y cais i gael caniatâd i aros, o dan 18 oed ac yn blentyn i’r person sydd â chaniatâd i aros o dan adran 67,
(c) sy’n preswylio fel arfer yng Nghymru ar ddiwrnod cyntaf blwyddyn academaidd gyntaf y cwrs, a
(d) sydd wedi bod yn preswylio fel arfer yn y Deyrnas Unedig a’r Ynysoedd drwy gydol y cyfnod o dair blynedd cyn diwrnod cyntaf blwyddyn academaidd gyntaf y cwrs.
(3) Yn y paragraff hwn—
 ystyr “dyddiad y cais i gael caniatâd i aros” (“leave application date”) yw’r dyddiad y gwnaeth y person sydd â chaniatâd i aros o dan adran 67 y cais a arweiniodd at y person hwnnw yn cael caniatâd i aros yn y Deyrnas Unedig.ystyr “person sydd â chaniatâd i aros o dan adran 67” (“person with section 67 leave to remain”) yw person—
(a) y mae ganddo ganiatâd cyfredol i aros yn y Deyrnas Unedig o dan adran 67 o Ddeddf Mewnfudo 2016 ac yn unol â’r rheolau mewnfudo, a
(b) sydd wedi bod yn preswylio fel arfer yn y Deyrnas Unedig a’r Ynysoedd drwy gydol y cyfnod ers i’r caniatâd hwnnw gael ei roi i’r person.”
57 
Yn Atodlen 4—
(a) ym mharagraff 2(1), yn lle amod 4 rhodder—“
Amod 4
(a) pan fo’r cwrs yn dechrau cyn 1 Awst 2019, mae’n cael ei ddarparu gan sefydliad a oedd cyn 1 Awst 2019 yn sefydliad a gyllidir yn gyhoeddus;
(b) pan fo’r cwrs yn dechrau ar neu ar ôl 1 Awst 2019, mae’n cael ei ddarparu gan sefydliad a gyllidir gan Gymru, sefydliad a gyllidir gan yr Alban, sefydliad a gyllidir gan Ogledd Iwerddon neu sefydliad rheoleiddiedig Seisnig;”;
(b) yn lle paragraff (2)(2)(c) rhodder—“
(c) ni fernir bod sefydliad yn sefydliad a gyllidir yn gyhoeddus neu’n sefydliad a gyllidir gan Gymru dim ond oherwydd—
(i) pan fo’r cwrs yn dechrau cyn 1 Awst 2019, ei fod yn sefydliad cysylltiedig a gafodd daliad perthnasol cyn y dyddiad hwnnw, neu
(ii) pan fo’r cwrs yn dechrau ar neu ar ôl 1 Awst 2019, ei fod yn sefydliad cysylltiedig sy’n cael taliad perthnasol.”;
(c) ar ôl paragraff 2(2) mewnosoder—“
(3) At ddibenion is-baragraff (2)—
(a) ystyr “sefydliad cysylltiedig” yw sefydliad cysylltiedig o fewn ystyr “connected institution” yn adran 65(3B) o Ddeddf Addysg Bellach ac Uwch 1992; a
(b) ystyr “taliad perthnasol” yw talu’r cyfan neu ran o unrhyw grant, benthyciad neu daliad arall gan gorff llywodraethu sefydliad a ddarperir i’r sefydliad cysylltiedig yn unol ag adran 65(3A) o Ddeddf Addysg Bellach ac Uwch 1992.”;
(d) ar ôl paragraff 13 mewnosoder—“
Personau y mae eu caniatâd i aros o dan adran 67 wedi dod i ben
13A. 

(1) Mae’r paragraff hwn yn gymwys—
(a) pan oedd person (“P”) yn fyfyriwr ôl-raddedig cymwys categori 3A (gweler Atodlen 2) mewn cysylltiad â chais am grant myfyriwr ôl-raddedig anabl—
(i) ar gyfer blwyddyn gynharach o’r cwrs ôl-radd presennol, neu
(ii) mewn cysylltiad â chwrs y mae statws P fel myfyriwr ôl-raddedig cymwys wedi cael ei drosglwyddo ohono i’r cwrs ôl-radd presennol o dan baragraff 15, a
(b) pan, ar ddiwedd y diwrnod cyn diwrnod cyntaf y flwyddyn academaidd y mae P yn gwneud cais am grant myfyriwr ôl-raddedig anabl mewn cysylltiad â hi, fo’r cyfnod y caiff—
(i) P, neu
(ii) y person, oherwydd ei fod yn berson sydd â chaniatâd i aros o dan adran 67, a oedd yn peri i P fod yn fyfyriwr ôl-raddedig cymwys categori 3A,
aros yn y Deyrnas Unedig wedi dod i ben ac nad yw caniatâd pellach i aros wedi cael ei roi ac nad oes apêl yn yr arfaeth (o fewn ystyr adran 104 o Ddeddf Cenedligrwydd, Mewnfudo a Lloches 2002).
(2) Pan fo’r paragraff hwn yn gymwys, mae statws P fel myfyriwr ôl-raddedig cymwys yn terfynu yn union cyn diwrnod cyntaf y flwyddyn academaidd y mae P yn gwneud cais am grant myfyriwr ôl-raddedig anabl mewn cysylltiad â hi.”;
(e) ym mharagraff 14, ar ôl is-baragraff (3)(b)(i) mewnosoder—“
(ia) bod y myfyriwr neu riant y myfyriwr yn dod yn berson sydd â chaniatâd i aros o dan adran 67;”;
(f) ym mharagraff 14, is-baragraff (4), yn y lle priodol mewnosoder—“
 “person sydd â chaniatâd i aros o dan adran 67” (“person with section 67 leave to remain”);”;
(g) ym mharagraff (20), yn lle “£10,590” rhodder “£20,000”.
58 
Yn Atodlen 5, paragraff 4—
(a) ar ôl is-baragraff (2)(a) mewnosoder—“
(aa) bod y myfyriwr neu riant y myfyriwr yn dod yn berson sydd â chaniatâd i aros o dan adran 67;”;
(b) yn is-baragraff (3), yn y lle priodol mewnosoder—“
 “person sydd â chaniatâd i aros o dan adran 67” (“person with section 67 leave to remain”);”.
59 
Ar ôl Atodlen 5, mewnosoder yr atodlen newydd a nodir yn Atodlen 2 i’r Rheoliadau hyn.
60 
Yn Atodlen 7 (mynegai o dermau wedi eu diffinio), Tabl 16, mewnosoder y cofnodion a ganlyn yn y lleoedd priodol—
“darparwr cynllun Seisnig” Atodlen 1, paragraff 2(1)
“darparwr Seisnig gwarchodedig” Atodlen 1, paragraff 2(1)
“person sydd â chaniatâd i aros o dan adran 67” Atodlen 2, paragraff 3A(3)
“sefydliad a gyllidir gan yr Alban” Atodlen 1, paragraff 2(1)
“sefydliad a gyllidir gan Gymru” Atodlen 1, paragraff 2(1)
“sefydliad a gyllidir gan Ogledd Iwerddon” Atodlen 1, paragraff 2(1)
“sefydliad rheoleiddiedig Cymreig” Atodlen 1, paragraff 2(1)
“sefydliad rheoleiddiedig Seisnig” Atodlen 1, paragraff 2(1)
“sefydliad Seisnig cofrestredig” Atodlen 1, paragraff 2(1)
RHAN 7 DIWYGIADAU I REOLIADAU ADDYSG (BENTHYCIADAU AT RADD DDOETHUROL ÔL-RADDEDIG) (CYMRU) 2018
Diwygiadau i Reoliadau Addysg (Benthyciadau at Radd Ddoethurol Ôl-raddedig) (Cymru) 2018
61 
Mae Rheoliadau Addysg (Benthyciadau at Radd Ddoethurol Ôl-raddedig) (Cymru) 2018 wedi eu diwygio yn unol â rheoliadau 62 i 66.
Diwygiadau i reoliad 2
62 
Yn rheoliad 2 (dehongli), ym mharagraff (1) yn y lleoedd priodol mewnosoder—“
 ystyr “darparwr cynllun Seisnig” (“English plan provider”) yw sefydliad Seisnig cofrestredig sydd â chynllun mynediad a chyfranogiad a gymeradwywyd gan y Swyddfa Fyfyrwyr o dan adran 29 o Ddeddf Addysg Uwch ac Ymchwil 2017 ac sy’n parhau mewn grym;”;“
 ystyr “person sydd â chaniatâd i aros o dan adran 67” (“person with section 67 leave to remain”) yw person—
(a) y mae ganddo ganiatâd cyfredol i aros yn y Deyrnas Unedig o dan adran 67 o Ddeddf Mewnfudo 2016 ac yn unol â’r rheolau mewnfudo; a
(b) sydd wedi bod yn preswylio fel arfer yn y Deyrnas Unedig a’r Ynysoedd drwy gydol y cyfnod ers i’r caniatâd hwnnw gael ei roi i’r person;”;“
 ystyr “sefydliad a gyllidir gan yr Alban” (“Scottish funded institution”) yw sefydliad a gynhelir neu a gynorthwyir gan grantiau rheolaidd o gronfeydd a ddarperir gan Weinidogion yr Alban;”;“
 ystyr “sefydliad a gyllidir gan Gymru” (“Welsh funded institution”) yw sefydliad a gynhelir neu a gynorthwyir gan grantiau rheolaidd o gronfeydd a ddarperir gan Weinidogion Cymru;”;“
 ystyr “sefydliad a gyllidir gan Ogledd Iwerddon” (“Northern Irish funded institution”) yw sefydliad a gynhelir neu a gynorthwyir gan grantiau rheolaidd o gronfeydd a ddarperir gan Weithrediaeth Gogledd Iwerddon;”;“
 ystyr “sefydliad rheoleiddiedig Seisnig” (“English regulated institution”) yw sefydliad Seisnig cofrestredig sy’n ddarostyngedig i amod terfyn ffioedd o dan adran 10 o Ddeddf Addysg Uwch ac Ymchwil 2017;”; ac“
 ystyr “sefydliad Seisnig cofrestredig” (“registered English institution”) yw sefydliad sydd wedi ei gofrestru gan y Swyddfa Fyfyrwyr yn y gofrestr;”.
Diwygiadau i reoliad 4
63 
Yn rheoliad 4 (cyrsiau dynodedig)—
(a) yn lle paragraff (1)(b) rhodder—“
(b) os yw’n un o’r canlynol—
(i) pan fo’r cwrs yn dechrau cyn 1 Awst 2019, mae’n cael ei ddarparu gan sefydliad a oedd cyn 1 Awst 2019 yn sefydliad a gyllidir yn gyhoeddus (pa un ai ar ei ben ei hun neu ar y cyd â sefydliad arall o’r fath a gyllidir yn gyhoeddus neu â sefydliad sydd y tu allan i’r Deyrnas Unedig);
(ii) pan fo’r cwrs yn dechrau ar neu ar ôl 1 Awst 2019, mae’n cael ei ddarparu gan—(aa) sefydliad a gyllidir gan Gymru, sefydliad a gyllidir gan yr Alban, sefydliad a gyllidir gan Ogledd Iwerddon neu sefydliad rheoleiddiedig Seisnig (pa un ai ar ei ben ei hun neu ar y cyd â sefydliad sydd o fewn neu y tu allan i’r Deyrnas Unedig); neu(ab) sefydliad Seisnig cofrestredig ar ran darparwr cynllun Seisnig;”.
(b) yn lle paragraff (2)(d) rhodder—“
(d) ni fernir bod sefydliad yn sefydliad a gyllidir yn gyhoeddus neu’n sefydliad a gyllidir gan Gymru dim ond oherwydd—
(i) pan fo’r cwrs yn dechrau cyn 1 Awst 2019, ei fod yn sefydliad cysylltiedig a gafodd daliad perthnasol cyn y dyddiad hwnnw; neu
(ii) pan fo’r cwrs yn dechrau ar neu ar ôl 1 Awst 2019, ei fod yn sefydliad cysylltiedig sy’n cael taliad perthnasol;”
(c) ar ôl paragraff (2) mewnosoder—“
(2A) At ddiben paragraff (2)—
(a) ystyr “sefydliad cysylltiedig” yw sefydliad cysylltiedig o fewn ystyr “connected institution” yn adran 65(3B) o Ddeddf Addysg Bellach ac Uwch 1992; a
(b) ystyr “taliad perthnasol” yw talu’r cyfan neu ran o unrhyw grant, benthyciad neu daliad arall gan gorff llywodraethu sefydliad a ddarperir i’r sefydliad cysylltiedig yn unol ag adran 65(3A) o Ddeddf Addysg Bellach ac Uwch 1992.”
Diwygiad i reoliad 8
64 
Yn rheoliad 8 (digwyddiadau), ar ôl paragraff (b) mewnosoder—“
(ba) bod y myfyriwr neu riant y myfyriwr yn dod yn berson sydd â chaniatâd i aros o dan adran 67;”.
Diwygiadau i reoliad 13
65 
Yn rheoliad 13 (swm benthyciad at radd ddoethurol ôl-raddedig)—
(a) ym mharagraff (1), yn lle “£25,000” rhodder “£25,700”;
(b) ym mharagraff (2)(b), yn lle “£25,000” rhodder “25,700”.
Diwygiad i Atodlen 1
66 
Yn Atodlen 1, ar ôl paragraff 6 (personau sydd â chaniatâd i ddod i mewn neu i aros ac aelodau o’u teuluoedd) mewnosoder—“
Personau sydd â chaniatâd i aros o dan adran 67
6A. 

(1) Person—
(a) sydd â chaniatâd i aros o dan adran 67;
(b) sy’n preswylio fel arfer yng Nghymru ar ddiwrnod cyntaf blwyddyn academaidd gyntaf y cwrs; ac
(c) sydd wedi bod yn preswylio fel arfer yn y Deyrnas Unedig a’r Ynysoedd drwy gydol y cyfnod o dair blynedd cyn diwrnod cyntaf blwyddyn academaidd gyntaf y cwrs.
(2) Person—
(a) sy’n blentyn i berson sydd â chaniatâd i aros o dan adran 67;
(b) a oedd, ar ddyddiad y cais i gael caniatâd i aros, o dan 18 oed ac yn blentyn i’r person sydd â chaniatâd i aros o dan adran 67;
(c) sy’n preswylio fel arfer yng Nghymru ar ddiwrnod cyntaf blwyddyn academaidd gyntaf y cwrs; a
(d) sydd wedi bod yn preswylio fel arfer yn y Deyrnas Unedig a’r Ynysoedd drwy gydol y cyfnod o dair blynedd cyn diwrnod cyntaf blwyddyn academaidd gyntaf y cwrs.
(3) Yn y paragraff hwn—
 ystyr “dyddiad y cais i gael caniatâd i aros” yw’r dyddiad y gwnaeth y person sydd â chaniatâd i aros o dan adran 67 y cais a arweiniodd at y person hwnnw yn cael caniatâd i aros yn y Deyrnas Unedig.”
Kirsty Williams
Y Gweinidog Addysg, un o Weinidogion Cymru
12 Chwefror 2019
YR ATODLENNI
ATODLEN 1
Rheoliad 40
“
Atodlen 7
7Codau a Labeli Cwrs y Dosbarthiad Pynciau Addysg Uwch
(Rheoliad 81(28))


 (Rheoliad 81(28))
Mae Tabl 1 yn nodi codau a labeli cwrs y Dosbarthiad Pynciau Addysg Uwch (DPAU) at ddibenion paragraff (28)(c) o reoliad 81.


Tabl 1
Cod DPAU Label DPAU
100706 Gwallt a cholur
101374 Gwasanaethau trin gwallt
100131 Radioleg
100456 Astudiaethau plentyndod
100302 Hanes
100337 Athroniaeth
100621 Astudiaethau rhywedd
101233 Astudiaethau diwylliannol
100986 Rheoli adnoddau dŵr
100807 Rheoli treftadaeth
101091 Astudiaethau cwaternaidd
101078 Y gwyddorau amgylcheddol cymhwysol
101079 Hydroleg
101072 Rheoli llygredd
100381 Y gwyddorau amgylcheddol
101070 Newid hinsawdd
101067 Priddeg
101394 Rhewlifeg a systemau cryosfferig
100408 Daearyddiaeth amgylcheddol
101352 Bioddaearyddiaeth
101065 Daearyddiaeth arforol
101064 Geomorffoleg
100410 Daearyddiaeth ffisegol
101058 Y gwyddorau mapio
101056 Synhwyro o bell
100369 Systemau gwybodaeth ddaearyddol
100052 Ergonomeg”
ATODLEN 2
Rheoliad 59
“
Atodlen 5A
Codau a Labeli Cwrs y Dosbarthiad Pynciau Addysg Uwch
(Rheoliad 25(2))

Mae Tabl 15 yn nodi codau a labeli cwrs y Dosbarthiad Pynciau Addysg Uwch (DPAU) at ddibenion is-baragraff (c) o Achos 3 yn rheoliad 25(2).


Tabl 15A
Cod DPAU Label DPAU
100706 Gwallt a cholur
101374 Gwasanaethau trin gwallt
100131 Radioleg
100456 Astudiaethau plentyndod
100302 Hanes
100337 Athroniaeth
100621 Astudiaethau rhywedd
101233 Astudiaethau diwylliannol
100986 Rheoli adnoddau dŵr
100807 Rheoli treftadaeth
101091 Astudiaethau cwaternaidd
101078 Y gwyddorau amgylcheddol cymhwysol
101079 Hydroleg
101072 Rheoli llygredd
100381 Y gwyddorau amgylcheddol
101070 Newid hinsawdd
101067 Priddeg
101394 Rhewlifeg a systemau cryosfferig
100408 Daearyddiaeth amgylcheddol
101352 Bioddaearyddiaeth
101065 Daearyddiaeth arforol
101064 Geomorffoleg
100410 Daearyddiaeth ffisegol
101058 Y gwyddorau mapio
101056 Synhwyro o bell
100369 Systemau gwybodaeth ddaearyddol
100052 Ergonomeg”