
2019 Rhif 234 (Cy. 53)
Gofal Cymdeithasol, Cymru
Rheoliadau Gofal a Chymorth (Gosod Ffioedd) ac (Asesiad Ariannol) (Cymru) (Diwygiadau Amrywiol) 2019
Gwnaed 12 Chwefror 2019
Gosodwyd gerbron Cynulliad Cenedlaethol Cymru 13 Chwefror 2019
Yn dod i rym 8 Ebrill 2019
Mae Gweinidogion Cymru, drwy arfer y pwerau a roddir gan adrannau 50, 52, 53(3), 61, 64(1), 64(2)(b), 66, 69 a 196(2) o Ddeddf Gwasanaethau Cymdeithasol a Llesiant (Cymru) 2014, yn gwneud y Rheoliadau a ganlyn:
Enwi, cychwyn a chymhwyso
1 

(1) Enw’r Rheoliadau hyn yw Rheoliadau Gofal a Chymorth (Gosod Ffioedd) ac (Asesiad Ariannol) (Cymru) (Diwygiadau Amrywiol) 2019.
(2) Daw’r Rheoliadau hyn i rym ar 8 Ebrill 2019.
Diwygio Rheoliadau Gofal a Chymorth (Gosod Ffioedd) (Cymru) 2015
2 
Mae Rheoliadau Gofal a Chymorth (Gosod Ffioedd) (Cymru) 2015 wedi eu diwygio fel a ganlyn—
(a) yn rheoliad 7 (uchafswm ffi wythnosol am ofal a chymorth amhreswyl), ym mharagraff (1), yn lle “£80” rhodder “£90”;
(b) yn rheoliad 11 (terfyn cyfalaf perthnasol), ym mharagraff (2)(a), yn lle “£40,000” rhodder “£50,000”;
(c) yn rheoliad 13 (isafswm incwm ar gyfer person y darperir llety iddo mewn cartref gofal), yn lle “£28.50” rhodder “£29.50”;
(d) yn rheoliad 22 (uchafswm cyfraniad neu ad-daliad wythnosol am ofal a chymorth amhreswyl), ym mharagraff (1), yn lle “£80” rhodder “£90”; ac
(e) yn rheoliad 28 (isafswm incwm ar gyfer person y darperir llety iddo mewn cartref gofal), yn lle “£28.50” rhodder “£29.50”.
Diwygio Rheoliadau Gofal a Chymorth (Asesiad Ariannol) (Cymru) 2015
3 
Yn Atodlen 2 (cyfalaf sydd i’w ddiystyru) i Reoliadau Gofal a Chymorth (Asesiad Ariannol) (Cymru) 2015, ar ôl paragraff 34 mewnosoder—“
35. 
Unrhyw daliad a fyddai’n cael ei ddiystyru o dan baragraff 73 o Atodlen 10 i’r Rheoliadau Cymhorthdal Incwm (taliadau sy’n ymwneud ag anabledd a achoswyd gan Thalidomid).”
Julie Morgan
Y Dirprwy Weinidog Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol, o dan awdurdod y Gweinidog Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol, un o Weinidogion Cymru
12 Chwefror 2019