
2019 Rhif 205 (Cy. 48)
Gofal Cymdeithasol, Cymru
Rheoliadau Trefniadau ar gyfer Cynhorthwy i Bersonau sy’n Cyflwyno Sylwadau (Cymru) 2019
Gwnaed 6 Chwefror 2019
Gosodwyd gerbron Cynulliad Cenedlaethol Cymru 8 Chwefror 2019
Yn dod i rym 1 Ebrill 2019
Mae Gweinidogion Cymru, drwy arfer y pwerau a roddir gan adran 178(4) i (6) o Ddeddf Gwasanaethau Cymdeithasol a Llesiant (Cymru) 2014, yn gwneud y Rheoliadau a ganlyn.
Enwi, cychwyn a dehongli
1 

(1) Enw’r Rheoliadau hyn yw Rheoliadau Trefniadau ar gyfer Cynhorthwy i Bersonau sy’n Cyflwyno Sylwadau (Cymru) 2019.
(2) Daw’r Rheoliadau hyn i rym ar 1 Ebrill 2019.
(3) Yn y Rheoliadau hyn—
 ystyr “y Ddeddf” (“the Act”) yw Deddf Gwasanaethau Cymdeithasol a Llesiant (Cymru) 2014;
 ystyr “person ifanc” (“young person”) yw person a chanddo hawlogaeth i gyflwyno sylwadau o dan adran 176 o’r Ddeddf.
Personau na chaniateir iddynt ddarparu cynhorthwy
2 

(1) Wrth wneud trefniadau ar gyfer darparu cynhorthwy i blentyn neu berson ifanc sy’n cyflwyno sylwadau neu sy’n bwriadu cyflwyno sylwadau o dan adran 174 neu 176 o’r Ddeddf, ni chaiff awdurdod lleol ganiatáu i’r cynhorthwy gael ei ddarparu gan berson—
(a) sy’n destun y sylwadau neu a all fod yn destun y sylwadau;
(b) sy’n gyfrifol am reoli person sy’n destun y sylwadau neu a all fod yn destun y sylwadau;
(c) sy’n rheoli’r gwasanaeth sy’n destun y sylwadau neu a all fod yn destun y sylwadau;
(d) y mae ganddo reolaeth dros yr adnoddau a ddyrennir i’r gwasanaeth sy’n destun y sylwadau neu a all fod yn destun y sylwadau;
(e) sy’n ymwneud ag ystyried y sylwadau neu a all ymwneud â hynny ar ran yr awdurdod lleol.
(2) Ni chaiff awdurdod lleol ganiatáu i’r cynhorthwy gael ei ddarparu gan berson os yw’r plentyn neu’r person ifanc sy’n cyflwyno sylwadau neu sy’n bwriadu cyflwyno sylwadau yn gwrthwynebu cael cynhorthwy oddi wrth y person hwnnw.
Gwybodaeth sydd i’w darparu i bersonau sy’n cyflwyno sylwadau
3 
Pan fo awdurdod lleol yn dod yn ymwybodol bod plentyn neu berson ifanc yn bwriadu cyflwyno sylwadau o dan adran 174 neu 176 o’r Ddeddf, rhaid i’r awdurdod—
(a) darparu gwybodaeth am wasanaethau eirioli i’r plentyn neu’r person ifanc, a
(b) cynnig helpu’r plentyn neu’r person ifanc i gael eiriolwr.
Monitro cydymffurfedd â’r Rheoliadau
4 
Rhaid i awdurdod lleol fonitro’r camau y mae wedi eu cymryd i gydymffurfio â’r Rheoliadau hyn, yn benodol drwy gadw cofnod o bob achlysur pan fo eiriolwr yn darparu cynhorthwy o dan drefniadau a wneir gan yr awdurdod lleol.
Julie Morgan
Y Dirprwy Weinidog Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol, o dan awdurdod y Gweinidog Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol, un o Weinidogion Cymru
6 Chwefror 2019