
2019 Rhif 18 (Cy. 7)
Anifeiliaid, CymruAtal Creulondeb
Gorchymyn Cymeradwyo Trapiau Sbring (Cymru) 2019
Gwnaed 8 Ionawr 2019
Yn dod i rym 1 Chwefror 2019
Mae Gweinidogion Cymru, drwy arfer y pwerau a roddir gan adran 8(3) a (7) o Ddeddf Plâu 1954, a freiniwyd bellach ynddynt hwy, yn gwneud y Gorchymyn a ganlyn.
Enwi, cychwyn a chymhwyso
1 

(1) Enw’r Gorchymyn hwn yw Gorchymyn Cymeradwyo Trapiau Sbring (Cymru) 2019.
(2) Mae’r Gorchymyn hwn yn gymwys o ran Cymru.
(3) Daw’r Gorchymyn hwn i rym ar 1 Chwefror 2019.
Cymeradwyo trapiau sbring
2 

(1) At ddibenion adran 8(3) o Ddeddf Plâu 1954, mae’r trapiau sbring a ganlyn wedi eu cymeradwyo—
(a) trap sbring o fath a gwneuthuriad a bennir mewn cofnod yng Ngholofn 1 o’r Atodlen; a
(b) trap sbring sy’n gyfwerth ym mhob modd perthnasol â thrap sbring o fath a gwneuthuriad a bennir mewn cofnod yng Ngholofn 1 o’r Atodlen.
(2) Mae’r cymeradwyaethau a roddir gan baragraff (1) yn ddarostyngedig i’r amodau hyn—
(a) rhaid defnyddio’r trap yn unol â’r cyfarwyddiadau (os oes rhai) a ddarparwyd gan y gweithgynhyrchydd; a
(b) i’r graddau sy’n ymarferol heb gyfaddawdu’n afresymol ei ddefnydd i ladd neu ddal rhywogaethau a dargedwyd, rhaid defnyddio’r trap mewn modd sy’n lleihau’r tebygolrwydd o ladd, dal neu anafu rhywogaethau nas targedwyd;
ac i unrhyw amodau pellach (os o gwbl) o ran yr anifeiliaid y caniateir defnyddio’r trap sbring mewn perthynas â hwy, a’r amgylchiadau y caniateir defnyddio’r trap sbring oddi tanynt, fel a bennir yn y cofnod cyfatebol yng Ngholofn 2 o’r Atodlen (neu, yn achos trap a gymeradwyir o dan baragraff (1)(b), fel a bennir mewn perthynas â’r trap y mae’n gyfwerth iddo at ddibenion y paragraff hwnnw).
(3) At ddibenion paragraff (1)(b), mae trap sbring yn gyfwerth ym mhob modd perthnasol â thrap sbring o fath a gwneuthuriad a bennir yn yr Atodlen os yw’n cyfateb i’r trap sbring a bennir o ran ei adeiladwaith, deunyddiau, grym effaith neu fomentwm, ac ym mhob modd arall sy’n berthnasol i’w effaith neu i’w fodd o weithredu fel trap.
Dirymu
3 
Mae Gorchymyn Cymeradwyo Trapiau Sbring (Cymru) 2012 wedi ei ddirymu.
Leslie Griffiths
Gweinidog yr Amgylchedd, Ynni a Materion Gwledig, un o Weinidogion Cymru
8 Ionawr 2019
YR ATODLEN
Erthygl 2


Colofn 1Y math o drap a’i wneuthuriad Colofn 2Amodau
Aldrich Spring Activated Animal Snare a weithgynhyrchir gan, neu o dan awdurdod, Mr D. Schimetz, P.O. Box 158, Sekiu, Washington 98381, UDA. Ni chaniateir defnyddio’r trap ond at ddiben dal mamaliaid mawr, daearol o urdd y cigyswyr, megis bleiddiaid.
BMI Magnum 55a weithgynhyrchir gan, neu o dan awdurdod, Butera Manufacturing Industries, 1068 E 134th St., Cleveland, OH, 44110-2248, UDA. Ni chaniateir defnyddio’r trap ond at ddiben lladd gwiwerod llwyd, llygod mawr, llygod a fermin daear bach arall (ac eithrio’r rhywogaethau hynny a restrir yn Atodlen 5 neu 6 i Ddeddf Bywyd Gwyllt a Chefn Gwlad 1981).Rhaid gosod y trap mewn twnnel naturiol neu artiffisial sydd, yn y naill achos neu’r llall, yn addas at y diben.
BMI Magnum 110a weithgynhyrchir gan, neu o dan awdurdod, Butera Manufacturing Industries, 1068 E 134th St., Cleveland, OH, 44110-2248, UDA. Ni chaniateir defnyddio’r trap ond at ddiben lladd gwiwerod llwyd, gwencïod, llygod mawr, llygod, fermin daear bach arall (ac eithrio’r rhywogaethau hynny a restrir yn Atodlen 5 neu 6 i Ddeddf Bywyd Gwyllt a Chefn Gwlad 1981) a chyn 1 Ebrill 2020, carlymod.Rhaid gosod y trap mewn twnnel naturiol neu artiffisial sydd, yn y naill achos neu’r llall, yn addas at y diben.
BMI Magnum 116a weithgynhyrchir gan, neu o dan awdurdod, Butera Manufacturing Industries, 1068 E 134th St., Cleveland, OH, 44110-2248, UDA. Ni chaniateir defnyddio’r trap ond at ddiben lladd gwiwerod llwyd, mincod, cwningod, gwencïod, llygod mawr, llygod, fermin daear bach arall (ac eithrio’r rhywogaethau hynny a restrir yn Atodlen 5 neu 6 i Ddeddf Bywyd Gwyllt a Chefn Gwlad 1981) a chyn 1 Ebrill 2020, carlymod.Rhaid gosod y trap mewn twnnel naturiol neu artiffisial sydd, yn y naill achos neu’r llall, yn addas at y diben.
DOC 150a weithgynhyrchir gan, neu o dan awdurdod, Department of Conservation, Wellington, Seland Newydd. Ni chaniateir defnyddio’r trap ond at ddiben lladd gwiwerod llwyd, llygod mawr, carlymod a gwencïod pan ddefnyddir y trap ar ffurf â phen caeedig.Rhaid gosod y trap mewn twnnel artiffisial a adeiladwyd i’r dyluniad a bennwyd gan yr Adran Gadwraeth, drwy ddefnyddio deunyddiau sy’n addas at y diben.Ni chaniateir defnyddio’r trap ond at ddiben lladd llygod mawr, carlymod a gwencïod pan ddefnyddir y trap ar ffurf y gall anifail redeg drwyddo.Rhaid gosod y trap yn unol â chyfarwyddiadau’r gweithgynhyrchydd wrth ei osod ar ffurf y gall anifail redeg drwyddo mewn twnnel naturiol neu artiffisial sydd, yn y naill achos neu’r llall, yn addas at y diben.
DOC 200a weithgynhyrchir gan, neu o dan awdurdod, Department of Conservation, Wellington, Seland Newydd. Ni chaniateir defnyddio’r trap ond at ddiben lladd gwiwerod llwyd, mincod, llygod mawr, carlymod a gwencïod pan ddefnyddir y trap ar ffurf â phen caeedig.Rhaid gosod y trap mewn twnnel artiffisial a adeiladwyd i’r dyluniad a bennwyd gan yr Adran Gadwraeth, drwy ddefnyddio deunyddiau sy’n addas at y diben.Ni chaniateir defnyddio’r trap ond at ddiben lladd llygod mawr, carlymod a gwencïod pan ddefnyddir y trap ar ffurf y gall anifail redeg drwyddo.Rhaid gosod y trap yn unol â chyfarwyddiadau’r gweithgynhyrchydd wrth ei osod ar ffurf y gall anifail redeg drwyddo mewn twnnel naturiol neu artiffisial sydd, yn y naill achos neu’r llall, yn addas at y diben.
DOC 250a weithgynhyrchir gan, neu o dan awdurdod, Department of Conservation, Wellington, Seland Newydd. Ni chaniateir defnyddio’r trap ond at ddiben lladd gwiwerod llwyd, mincod, cwningod, llygod mawr, carlymod a gwencïod pan ddefnyddir y trap ar ffurf â phen caeedig.Rhaid gosod y trap mewn twnnel artiffisial a adeiladwyd i’r dyluniad a bennwyd gan yr Adran Gadwraeth, drwy ddefnyddio deunyddiau sy’n addas at y diben.Ni chaniateir defnyddio’r trap ond at ddiben lladd llygod mawr, carlymod a gwencïod pan ddefnyddir y trap ar ffurf y gall anifail redeg drwyddo.Rhaid gosod y trap yn unol â chyfarwyddiadau’r gweithgynhyrchydd wrth ei osod ar ffurf y gall anifail redeg drwyddo mewn twnnel naturiol neu artiffisial sydd, yn y naill achos neu’r llall, yn addas at y diben.
Duke 116a weithgynhyrchir gan, neu o dan awdurdod, Duke Company, 508 E. Brame Avenue, West Point, MS 39773, UDA. Ni chaniateir defnyddio’r trap ond at ddiben lladd gwiwerod llwyd.Rhaid gosod y trap mewn twnnel artiffisial sy’n addas at y diben.
Fenn Rabbit Trap Mark Ia weithgynhyrchir gan, neu o dan awdurdod, DB Springs, Unit 1, Double Century Works, High Street, Astwood Bank, Redditch, Worcestershire, B96 6AR (yn flaenorol Mr A. A. Fenn o FHT Works, High Street, Astwood Bank, Redditch, Worcestershire). Ni chaniateir defnyddio’r trap ond at ddiben lladd cwningod.Rhaid gosod y trap mewn twnnel naturiol neu artiffisial sydd, yn y naill achos neu’r llall, yn addas at y diben.
Fenn Vermin Trap Mark IV (Heavy Duty) a weithgynhyrchir gan, neu o dan awdurdod, DB Springs, Unit 1, Double Century Works, High Street, Astwood Bank, Redditch, Worcestershire, B96 6AR (yn flaenorol Mr A. A. Fenn o FHT Works, High Street, Astwood Bank, Redditch, Worcestershire). Ni chaniateir defnyddio’r trap ond at ddiben lladd gwiwerod llwyd, gwencïod, llygod mawr, llygod, fermin daear bach arall (ac eithrio’r rhywogaethau hynny a restrir yn Atodlen 5 neu 6 i Ddeddf Bywyd Gwyllt a Chefn Gwlad 1981) a chyn 1 Ebrill 2020, carlymod.Rhaid gosod y trap mewn twnnel naturiol neu artiffisial sydd, yn y naill achos neu’r llall, yn addas at y diben.
Fenn Vermin Trap Mark VI (Dual Purpose) a weithgynhyrchir gan, neu o dan awdurdod, DB Springs, Unit 1, Double Century Works, High Street, Astwood Bank, Redditch, Worcestershire, B96 6AR (yn flaenorol Mr A. A. Fenn o FHT Works, High Street, Astwood Bank, Redditch, Worcestershire). Ni chaniateir defnyddio’r trap ond at ddiben lladd gwiwerod llwyd, mincod, cwningod, gwencïod, llygod mawr, llygod, fermin daear bach arall (ac eithrio’r rhywogaethau hynny a restrir yn Atodlen 5 neu 6 i Ddeddf Bywyd Gwyllt a Chefn Gwlad 1981) a chyn 1 Ebrill 2020, carlymod.Rhaid gosod y trap mewn twnnel naturiol neu artiffisial sydd, yn y naill achos neu’r llall, yn addas at y diben.
Fuller Trapa weithgynhyrchir gan, neu o dan awdurdod, Fuller Industries, Three Trees, Loxwood Road, Bucks Green, Rudgwich, Sussex. Ni chaniateir defnyddio’r trap ond at ddiben lladd gwiwerod llwyd.Rhaid gosod y trap yn y gorchudd a ddarparwyd gan y gweithgynhyrchydd.
Goodnature A18 Grey Squirrel Trapa weithgynhyrchir gan, neu o dan awdurdod, Goodnature Limited, 4-12 Cruickshank Street, Killbirnie 6022, Wellington, Seland Newydd. Ni chaniateir defnyddio’r trap ond at ddiben lladd gwiwerod llwyd a llygod mawr.Rhaid gosod y trap mewn ffordd na ellir mynd i mewn iddo ond drwy dwnnel artiffisial sy’n addas at y diben.
Goodnature A18 Mink Trapa weithgynhyrchir gan, neu o dan awdurdod, Goodnature Limited, 4-12 Cruickshank Street, Killbirnie 6022, Wellington, Seland Newydd. Ni chaniateir defnyddio’r trap ond at ddiben lladd mincod.Rhaid gosod y trap mewn ffordd na ellir mynd i mewn iddo ond drwy dwnnel artiffisial sy’n addas at y diben.
Goodnature A24 Proa weithgynhyrchir gan, neu o dan awdurdod, Goodnature Limited, 4-12 Cruickshank Street, Killbirnie 6022, Wellington, Seland Newydd. Ni chaniateir defnyddio’r trap ond at ddiben lladd llygod mawr a llygod.Rhaid gosod y trap mewn ffordd na ellir mynd i mewn iddo ond drwy dwnnel artiffisial sy’n addas at y diben.
Goodnature A24 Rat and Stoat Trapa weithgynhyrchir gan, neu o dan awdurdod, Goodnature Limited, 4-12 Cruickshank Street, Killbirnie 6022, Wellington, Seland Newydd. Ni chaniateir defnyddio’r trap ond at ddiben lladd carlymod, llygod mawr, gwencïod a llygod.Rhaid gosod y trap mewn ffordd na ellir mynd i mewn iddo ond drwy dwnnel artiffisial sy’n addas at y diben.
Kania Trap 2000a weithgynhyrchir gan, neu o dan awdurdod, Kania Industries Inc., 63 Centennial Road, British Colombia, V9R 6N6, Canada. Ni chaniateir defnyddio’r trap ond at ddiben lladd gwiwerod llwyd, mincod, gwencïod, pathewod bwytadwy (Glis glis), llygod mawr, llygod, fermin daear bach arall (ac eithrio’r rhywogaethau hynny a restrir yn Atodlen 5 neu 6 i Ddeddf Bywyd Gwyllt a Chefn Gwlad 1981) a chyn 1 Ebrill 2020, carlymod.Rhaid gosod y trap yn y gorchudd a ddarparwyd gan y gweithgynhyrchydd.
KaniaTrap 2500a weithgynhyrchir gan, neu o dan awdurdod, Kania Industries Inc., 63 Centennial Road, British Colombia, V9R 6N6, Canada. Ni chaniateir defnyddio’r trap ond at ddiben lladd gwiwerod llwyd, mincod, cwningod, gwencïod, pathewod bwytadwy (Glis glis), llygod mawr, llygod a chyn 1 Ebrill 2020, carlymod.Rhaid gosod y trap mewn twnnel naturiol neu artiffisial sydd, yn y naill achos neu’r llall, yn addas at y diben.
KORO Large Rodent Double Coil Spring Snap Trapa weithgynhyrchir gan, neu o dan awdurdod, Koro Traps, Box 5 Grp.22 RR2, Dugald, Manitoba, R0E 0K0, Canada. Ni chaniateir defnyddio’r trap ond at ddiben lladd gwiwerod llwyd a llygod mawr.Rhaid gosod y trap fel bod modd i anifeiliaid fynd i mewn iddo o’r tu blaen yn unig, a’i osod mewn twnnel dall artiffisial sy’n addas at y diben. (Y blaen yw’r ochr lle gellir darllen y llythrennau KORO gyferbyn â hwy y tu uchaf i fyny.)
KORO Rodent Snap Trapa weithgynhyrchir gan, neu o dan awdurdod, Koro Traps, Box 5 Grp.22 RR2, Dugald, Manitoba, R0E 0K0, Canada. Ni chaniateir defnyddio’r trap ond at ddiben lladd llygod mawr a gwencïod.Rhaid gosod y trap fel bod modd i anifeiliaid fynd i mewn iddo o’r tu blaen yn unig, a’i osod mewn twnnel dall artiffisial sy’n addas at y diben. (Y blaen yw’r ochr lle gellir darllen y llythrennau KORO gyferbyn â hwy y tu uchaf i fyny.)
Nooski Rat Trapa weithgynhyrchir gan, neu o dan awdurdod, Nooski Trap System, 50 White Street, Rotorua, Seland Newydd. Ni chaniateir defnyddio’r trap ond at ddiben lladd llygod mawr.Rhaid gosod y trap yn y gorchudd a’r twnnel artiffisial a ddarparwyd gan y gweithgynhyrchydd.
Nooski Mouse Trapa weithgynhyrchir gan, neu o dan awdurdod, Nooski Trap Systems, 50 White Street, Rotorua, Seland Newydd. Ni chaniateir defnyddio’r trap ond at ddiben lladd llygod.Rhaid gosod y trap yn y gorchudd a’r twnnel artiffisial a ddarparwyd gan y gweithgynhyrchydd.
Procull Trapa weithgynhyrchir gan, neu o dan awdurdod, Elgeeco, 108 Downlands Way, South Wonston, Winchester, Hampshire, SO21 3HS. Ni chaniateir defnyddio’r trap ond at ddiben lladd gwiwerod llwyd.
Skinns Superior Squirrel Trapa weithgynhyrchir gan, neu o dan awdurdod, E. Skinns Ltd., Witham Road, Woodhall Spa, Lincolnshire, LN10 6QX. Ni chaniateir defnyddio’r trap ond at ddiben lladd gwiwerod llwyd.Rhaid gosod y trap mewn twnnel naturiol neu artiffisial sydd, yn y naill achos neu’r llall, yn addas at y diben.
Solway Spring Trap Mk4a weithgynhyrchir gan, neu o dan awdurdod, Solway Feeders Ltd., Main Street, Dundrennan, Kirkcudbright, DG6 4QH. Ni chaniateir defnyddio’r trap ond at ddiben lladd gwiwerod llwyd, gwencïod, pathewod bwytadwy (Glis glis), llygod mawr, llygod a chyn 1 Ebrill 2020, carlymod.Rhaid gosod y trap mewn twnnel naturiol neu artiffisial sydd, yn y naill achos neu’r llall, yn addas at y diben.
Solway Spring Trap Mk6a weithgynhyrchir gan, neu o dan awdurdod, Solway Feeders Ltd., Main Street, Dundrennan, Kirkcudbright, DG6 4QH. Ni chaniateir defnyddio’r trap ond at ddiben lladd gwiwerod llwyd, mincod, cwningod, gwencïod, pathewod bwytadwy (Glis glis), llygod mawr, llygod a chyn 1 Ebrill 2020, carlymod.Rhaid gosod y trap mewn twnnel naturiol neu artiffisial sydd, yn y naill achos neu’r llall, yn addas at y diben.
Springer No. 4 Multi-purpose (Heavy Duty)a weithgynhyrchir gan, neu o dan awdurdod, AB County Products Ltd., Unit 3, Wellington Works, 15 The High Street, Redditch, Worcestershire. Ni chaniateir defnyddio’r trap ond at ddiben lladd gwiwerod llwyd, gwencïod, llygod mawr, llygod, fermin daear bach arall (ac eithrio’r rhywogaethau hynny a restrir yn Atodlen 5 neu 6 i Ddeddf Bywyd Gwyllt a Chefn Gwlad 1981) a chyn 1 Ebrill 2020, carlymod.Rhaid gosod y trap mewn twnnel naturiol neu artiffisial sydd, yn y naill achos neu’r llall, yn addas at y diben.
Springer No. 6 Multi-purposea weithgynhyrchir gan, neu o dan awdurdod, AB County Products Ltd., Unit 3, Wellington Works, 15 The High Street, Redditch, Worcestershire. Ni chaniateir defnyddio’r trap ond at ddiben lladd gwiwerod llwyd, mincod, cwningod, gwencïod, llygod mawr, llygod, fermin daear bach arall (ac eithrio’r rhywogaethau hynny a restrir yn Atodlen 5 neu 6 i Ddeddf Bywyd Gwyllt a Chefn Gwlad 1981) a chyn 1 Ebrill 2020, carlymod.Rhaid gosod y trap mewn twnnel naturiol neu artiffisial sydd, yn y naill achos neu’r llall, yn addas at y diben.
Tully Trapa weithgynhyrchir gan, neu o dan awdurdod, KM Pressings Ltd, 37B Copenhagen Road, Sutton Fields Industrial Estate, Hull, East Yorkshire, HU7 0XQ. Ni chaniateir defnyddio’r trap ond at ddiben lladd carlymod, gwencïod a llygod mawr.Rhaid gosod y trap mewn twnnel naturiol neu artiffisial sydd, yn y naill achos neu’r llall, yn addas at y diben.
VS squirrel trapa weithgynhyrchir gan, neu o dan awdurdod, Pescon Services, 394 York Road, Stevenage, Hertfordshire, SH1 4EN. Ni chaniateir defnyddio’r trap ond at ddiben lladd gwiwerod llwyd.Rhaid gosod y trap yn y twnnel artiffisial a ddarparwyd gan y gweithgynhyrchydd.
WCS Collarum Stainless UK Fox Model a weithgynhyrchir gan, neu o dan awdurdod, Wildlife Control Supplies, LLC, P.O. Box 538, East Granby, CT 06026, UDA. Ni chaniateir defnyddio’r trap ond at ddiben dal llwynogod.
WCS Tube Trap Internationala weithgynhyrchir gan, neu o dan awdurdod, Wildlife Control Supplies, LLC, P.O. Box 538, East Granby, CT 06026, UDA. Ni chaniateir defnyddio’r trap ond at ddiben lladd gwiwerod llwyd, mincod, gwencïod, llygod mawr a chyn 1 Ebrill 2020, carlymod.Rhaid gosod y trap yn y twnnel artiffisial a ddarparwyd gan y gweithgynhyrchwr i’w ddefnyddio yn y DU.
WiseTrap 110 (eitem rhif 100110 neu 110110), WiseTrap 160 (eitem rhif 100160, 110160, 101160 neu 111160), WiseTrap 200 (eitem rhif 100200, 110200, 101200 neu 111200) a WiseTrap 250 (eitem rhif 101250 neu 111250)a weithgynhyrchir gan WiseCon A/S, Skovgaardsvej 25, DK-3200 Helsinge, Denmarc. Ni chaniateir defnyddio’r trap ond at ddiben lladd llygod mawr.Rhaid gosod y trap mewn carthffos, pibell ddraenio neu strwythur tebyg.