
2019 Rhif 1508 (Cy. 279)
Ardrethu A Phrisio, Cymru
Gorchymyn Ardrethu Annomestig (Rhyddhad Ardrethi i Fusnesau Bach) (Cymru) (Diwygio) 2019
Gwnaed 18 Rhagfyr 2019
Gosodwyd gerbron Cynulliad Cenedlaethol Cymru 20 Rhagfyr 2019
Yn dod i rym 1 Ebrill 2020
Mae Gweinidogion Cymru yn gwneud y Gorchymyn a ganlyn drwy arfer y pwerau a roddir i Gynulliad Cenedlaethol Cymru gan adran 43(4B)(b) o Ddeddf Cyllid Llywodraeth Leol 1988, ac a roddir i’r Ysgrifennydd Gwladol gan adrannau 143(1) a 146(6) o’r Ddeddf honno, ac a freiniwyd bellach ynddynt hwy.
Enwi a chychwyn
1 

(1) Enw’r Gorchymyn hwn yw Gorchymyn Ardrethu Annomestig (Rhyddhad Ardrethi i Fusnesau Bach) (Cymru) (Diwygio) 2019.
(2) Daw’r Gorchymyn hwn i rym ar 1 Ebrill 2020.
Diwygio Gorchymyn Ardrethu Annomestig (Rhyddhad Ardrethi i Fusnesau Bach) (Cymru) 2017
2 

(1) Mae Gorchymyn Ardrethu Annomestig (Rhyddhad Ardrethi i Fusnesau Bach) (Cymru) 2017 wedi ei ddiwygio fel a ganlyn.
(2) Yn erthygl 2—
(a) yn y man priodol mewnosoder y diffiniad a ganlyn—“
 ystyr “peiriant arian awtomatig” (“automatic teller machine”) yw cyfleuster awtomatig sy’n darparu mynediad hunanwasanaeth i ystod o wasanaethau bancio;”;
(b) yn y diffiniad o “hereditament a eithrir” (“excepted hereditament”), ar ôl paragraff (f) mewnosoder—“
(g) a ddefnyddir ar gyfer peiriant arian awtomatig yn unig;”.
Rebecca Evans
Y Gweinidog Cyllid a’r Trefnydd, un o Weinidogion Cymru
18 Rhagfyr 2019