
2019 Rhif 1501 (Cy. 277)
Gofal Cymdeithasol, Cymru
Gorchymyn y Cod Ymarfer Diwygiedig ar arfer swyddogaethau gwasanaethau cymdeithasol mewn perthynas â Rhan 10 (Eirioli) o Ddeddf Gwasanaethau Cymdeithasol a Llesiant (Cymru) 2014 (Diwrnod Penodedig) (Cymru) 2019
Gwnaed 16 Rhagfyr 2019

Mae Gweinidogion Cymru, drwy arfer y pwerau a roddir gan adran 146(4)(b) o Ddeddf Gwasanaethau Cymdeithasol a Llesiant (Cymru) 2014 (“Deddf 2014”), yn gwneud y Gorchymyn a ganlyn.
Mae Gweinidogion Cymru, fel sy’n ofynnol gan adran 146(1) o Ddeddf 2014, wedi ymgynghori ag unrhyw bersonau y maent yn meddwl eu bod yn addas ynghylch drafft o’r cod diwygiedig.

Yn unol ag adran 146(2) o Ddeddf 2014, gosodwyd drafft o’r cod diwygiedig gerbron Cynulliad Cenedlaethol Cymru am 40 niwrnod.
Enwi a dehongli
1 

(1) Enw’r Gorchymyn hwn yw Gorchymyn y Cod Ymarfer Diwygiedig ar arfer swyddogaethau gwasanaethau cymdeithasol mewn perthynas â Rhan 10 (Eirioli) o Ddeddf Gwasanaethau Cymdeithasol a Llesiant (Cymru) 2014 (Diwrnod Penodedig) (Cymru) 2019.
(2) Yn y Gorchymyn hwn, ystyr “Cod Diwygiedig Rhan 10” yw’r Cod Ymarfer ar arfer swyddogaethau gwasanaethau cymdeithasol mewn perthynas â Rhan 10 (Eirioli) o Ddeddf Gwasanaethau Cymdeithasol a Llesiant (Cymru) 2014, y gosodwyd drafft ohono gerbron Cynulliad Cenedlaethol Cymru ar 6 Tachwedd 2019 ac a ddyroddwyd gan Weinidogion Cymru ar 17 Rhagfyr 2019.
Y diwrnod penodedig
2 
Y diwrnod penodedig i God Diwygiedig Rhan 10 ddod i rym yw 1 Ionawr 2020.
Julie Morgan
Y Dirprwy Weinidog Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol o dan awdurdod y Gweinidog Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol, un o Weinidogion Cymru
16 Rhagfyr 2019