
2019 Rhif 1498 (Cy. 274)
Pysgodfeydd Môr, CymruCadwraeth Pysgod Môr
Gorchymyn Pysgota am Gregyn Moch (Cymru) (Diwygio) 2019
Gwnaed 10 Rhagfyr 2019
Gosodwyd gerbron Cynulliad Cenedlaethol Cymru 12 Rhagfyr 2019
Yn dod i rym 15 Ionawr 2020
Mae Gweinidogion Cymru yn gwneud y Gorchymyn a ganlyn drwy arfer y pwerau a roddir gan adran 1(3) a (6) o Ddeddf Pysgod Môr (Cadwraeth) 1967, sydd bellach wedi eu breinio ynddynt hwy.
Enwi a chychwyn
1 
Enw’r Gorchymyn hwn yw Gorchymyn Pysgota am Gregyn Moch (Cymru) (Diwygio) 2019 a daw i rym ar 15 Ionawr 2020.
Diwygio Gorchymyn Pysgota am Gregyn Moch (Cymru) 2019
2 

(1) Mae Gorchymyn Pysgota am Gregyn Moch (Cymru) 2019 wedi ei ddiwygio fel a ganlyn.
(2) Yn erthygl 4, yn y testun Saesneg, yn lle “purpose” rhodder “purposes”.
(3) Yn lle erthygl 5 rhodder—“
Gwahardd cludo cregyn moch penodedig
5. 

(1) At ddibenion adran 1(3) o’r Ddeddf (sy’n gwahardd cludo ar gychod pysgota penodedig unrhyw bysgodyn môr o unrhyw ddisgrifiad nad yw’n bodloni’r gofynion o ran maint a ragnodir mewn perthynas â physgod môr o’r disgrifiad hwnnw), ni chaniateir i gregyn moch sy’n llai na’r maint lleiaf penodedig gael eu cludo gan gwch pysgota Prydeinig sydd wedi pysgota ym mharth Cymru yn ystod taith bysgota gyfredol y cwch hwnnw.
(2) Yn yr erthygl hon, ystyr “taith bysgota gyfredol” yw’r cyfnod o’r adeg y mae’r cwch pysgota yn gadael porthladd hyd at yr adeg y mae’n dychwelyd i borthladd.”
Lesley Griffiths
Gweinidog yr Amgylchedd, Ynni a Materion Gwledig, un o Weinidogion Cymru
10 Rhagfyr 2019