
2019 Rhif 1493 (Cy. 272)
Tai, Cymru
Rheoliadau Rhentu Cartrefi (Ffioedd etc.) (Blaendal Cadw) (Gwybodaeth Benodedig) (Cymru) 2019
Gwnaed 4 Rhagfyr 2019
Gosodwyd gerbron Cynulliad Cenedlaethol Cymru 6 Rhagfyr 2019
Yn dod i rym yn unol â rheoliad 1(2)
Mae Gweinidogion Cymru, drwy arfer y pŵer a roddir iddynt gan baragraff 11(3) a (4) o Atodlen 2 i Ddeddf Rhentu Cartrefi (Ffioedd etc.) (Cymru) 2019, yn gwneud y Rheoliadau a ganlyn.
Enwi a chychwyn
1 

(1) Enw’r Rheoliadau hyn yw Rheoliadau Rhentu Cartrefi (Ffioedd etc.) (Blaendal Cadw) (Gwybodaeth Benodedig) (Cymru) 2019.
(2) Daw’r Rheoliadau hyn i rym ar 10 Rhagfyr 2019 at ddiben rheoliad 2 ac ar 28 Chwefror 2020 at bob diben arall.
Dirymu
2 
Mae Rheoliadau Rhentu Cartrefi (Ffioedd etc.) (Gwybodaeth Benodedig) (Cymru) 2019 wedi eu dirymu.
Gwybodaeth benodedig
3 

(1) Mae’r Rheoliadau hyn yn pennu gwybodaeth y mae rhaid i landlord (neu, os cyfarwyddir felly, ei asiant gosod eiddo) ei darparu i ddarpar ddeiliad contract cyn y telir blaendal cadw i landlord neu asiant gosod eiddo mewn cysylltiad â chontract meddiannaeth safonol a’r ffordd y mae rhaid darparu’r wybodaeth honno.
(2) Rhaid darparu’r wybodaeth a ganlyn i ddarpar ddeiliad contract—
(a) swm y blaendal cadw,
(b) cyfeiriad yr annedd y telir y blaendal mewn cysylltiad â hi,
(c) pan fo blaendal cadw i’w dalu i asiant gosod eiddo, enw a manylion cyswllt yr asiant gosod eiddo hwnnw,
(d) pan fo blaendal cadw i’w dalu i landlord, enw a manylion cyswllt y landlord hwnnw,
(e) hyd y contract,
(f) dyddiad meddiannaeth arfaethedig,
(g) swm y rhent neu gydnabyddiaeth arall,
(h) cyfnod rhentu,
(i) unrhyw delerau contract ychwanegol arfaethedig neu addasiadau arfaethedig i delerau sylfaenol neu atodol neu delerau y bwriedir eu hepgor o’r contract,
(j) swm unrhyw flaendal sicrwydd,
(k) a oes angen gwarantwr ac, os felly, unrhyw amodau perthnasol,
(l) gwiriadau geirda y bydd y landlord (neu’r asiant gosod eiddo) yn eu cynnal, ac
(m) gwybodaeth y mae ar y landlord neu’r asiant gosod eiddo ei hangen gan y darpar ddeiliad contract.
(3) Rhaid darparu’r wybodaeth i ddarpar ddeiliad contract yn ysgrifenedig a chaniateir ei rhoi yn bersonol neu ei darparu drwy ddulliau electronig os yw’r darpar ddeiliad contract yn cydsynio i’w chael yn electronig.
Julie James
Y Gweinidog Tai a Llywodraeth Leol, un o Weinidogion Cymru
4 Rhagfyr 2019