
2019 Rhif 1492 (Cy. 271)
Ymadael Â’r Undeb Ewropeaidd, Cymru
Diogelu’r Amgylchedd, Cymru
Rheoliadau Organeddau a Addaswyd yn Enetig (Eu Gollwng yn Fwriadol a’u Symud ar draws Ffin) (Diwygiadau Amrywiol) (Cymru) (Ymadael â’r UE) (Rhif 2) 2019
Gwnaed 4 Rhagfyr 2019
Yn dod i rym yn unol â rheoliad 1(2) a (3)

Mae Gweinidogion Cymru yn gwneud y Rheoliadau a ganlyn drwy arfer y pwerau a roddir gan baragraff 1(1) o Atodlen 2 a pharagraff 21 o Atodlen 7 i Ddeddf yr Undeb Ewropeaidd (Ymadael) 2018.
Yn unol â pharagraff 1(9) o Atodlen 7 i’r Ddeddf honno, gosodwyd drafft o’r offeryn hwn gerbron Cynulliad Cenedlaethol Cymru ac fe’i cymeradwywyd ganddo drwy benderfyniad.

Yn unol â pharagraff 4 o Atodlen 2 i’r Ddeddf honno, mae Gweinidogion Cymru wedi ymgynghori â’r Ysgrifennydd Gwladol.
Enwi a chychwyn
1 

(1) Enw’r Rheoliadau hyn yw Rheoliadau Organeddau a Addaswyd yn Enetig (Eu Gollwng yn Fwriadol a’u Symud ar draws Ffin) (Diwygiadau Amrywiol) (Cymru) (Ymadael â’r UE) (Rhif 2) 2019.
(2) Daw rheoliadau 1 a 4 i rym yn union cyn y diwrnod ymadael.
(3) Daw rheoliadau 2 a 3 i rym ar y diwrnod ymadael.
Diwygiadau i Reoliadau Organeddau a Addaswyd yn Enetig (Eu Gollwng yn Fwriadol) (Cymru) 2002
2 

(1) Mae Rheoliadau Organeddau a Addaswyd yn Enetig (Eu Gollwng yn Fwriadol) (Cymru) 2002 wedi eu diwygio fel a ganlyn.
(2) Yn rheoliad 2(1)—
(a) hepgorer y diffiniad o “y Rheoliad Bwyd a Bwyd Anifeiliaid” (“the Food and Feed Regulation”);
(b) yn lle’r diffiniad o “cynnyrch wedi’i gymeradwyo” (“approved product”) rhodder—“
 ystyr “cynnyrch wedi’i gymeradwyo” (“approved product”) yw—
(a) cynnyrch y caniatawyd iddo gael ei farchnata yng Nghymru drwy—
(i) caniatâd a roddwyd gan Weinidogion Cymru o dan adran 111(1) o’r Ddeddf,
(ii) awdurdodiad o dan Reoliad y Cyngor (EC) Rhif 1829/2003 ar fwyd a bwyd anifeiliaid a addaswyd yn enetig, neu
(b) cynnyrch wedi’i gymeradwyo cyn y diwrnod ymadael;”;
(c) hepgorer y diffiniad o “y Comisiwn” (“the Commission”);
(d) hepgorer y diffiniad o “y Gyfarwyddeb Defnydd Amgaeëdig” (“the Contained Use Directive”);
(e) yn y lle priodol mewnosoder—“
 ystyr “cynnyrch wedi’i gymeradwyo cyn y diwrnod ymadael” (“pre-exit approved product”) yw cynnyrch y caniatawyd, yn union cyn y diwrnod ymadael, iddo gael ei farchnata yng Nghymru drwy—
(a) caniatâd a roddwyd yn unol ag Erthygl 15(3), 17(6) neu 18(2) o’r Gyfarwyddeb Gollyngiadau Bwriadol neu Erthygl 13(2) neu (4) o Gyfarwyddeb 1990, neu
(b) awdurdodiad o dan Reoliad y Cyngor (EC) Rhif 1829/2003 ar fwyd a bwyd anifeiliaid a addaswyd yn enetig,ac na thynnwyd y caniatâd neu’r awdurdodiad perthnasol yn ôl, neu nad yw’r caniatâd neu’r awdurdodiad perthnasol wedi peidio â bod yn ddilys fel arall, mewn cysylltiad ag ef;.”.
(3) Yn rheoliad 10, hepgorer y geiriau o “gollwng yn unol â chaniatâd” hyd at “neu lle mae”.
(4) Yn rheoliad 12(1)(ch)—
(a) hepgorer y geiriau o “ar y ffurf” hyd at “Bwriadol,”;
(b) ar y diwedd, mewnosoder “, ar y ffurf berthnasol a nodir yn yr Atodiad i Benderfyniad y Cyngor 2002/813/EC”.
(5) Yn rheoliad 16—
(a) yn lle paragraff (b) rhodder—“
(b) lle mae organeddau a addaswyd yn enetig wedi’u rhoi ar gael ar gyfer gweithgareddau a reoleiddir o dan Reoliadau Organeddau a Addaswyd yn Enetig (Defnydd Amgaeëdig) 2014;”;
(b) hepgorer paragraff (c);
(c) ym mharagraff (ch), yn lle “;” rhodder “; neu” ;
(d) yn lle paragraff (d) rhodder—“
(d) lle mae organedd a addaswyd yn enetig a gynhwysir mewn cynnyrch meddygol a awdurdodir o dan Reoliadau Meddyginiaethau Dynol 2012 neu Reoliadau Meddyginiaethau Milfeddygol 2013 yn cael ei farchnata.”;
(e) hepgorer paragraff (e).
(6) Yn rheoliad 17(2)—
(a) yn is-baragraff (b)—
(i) yn lle “Undeb Ewropeaidd” rhodder “Deyrnas Unedig”;
(ii) hepgorer y geiriau o “neu i awdurdod cymwys arall” hyd at y diwedd;
(b) yn is-baragraff (e), ar ôl “Bwriadol” mewnosoder “, fel y’i darllenir gyda’r nodiadau cyfarwyddyd a nodir ym Mhenderfyniad y Cyngor 2002/811/EC,”;
(c) yn is-baragraff (g), yn lle’r geiriau o “a sefydlwyd gan y Comisiwn” hyd at y diwedd, rhodder “a nodir yn yr Atodiad i Benderfyniad y Cyngor 2002/812/EC”.
(7) Yn rheoliad 21—
(a) hepgorer paragraff (c);
(b) ym mharagraff (dd), hepgorer y geiriau o “ac unrhyw sylwadau a wnaed” hyd at y diwedd.
(8) Yn rheoliad 22—
(a) ym mharagraff (3), hepgorer “a sicrhau bod ei benderfyniad yn cael ei gyfathrebu i’r Comisiwn”;
(b) yn lle paragraff (6) rhodder—“
(6) Rhaid i’r wybodaeth a gyflwynir yn unol â pharagraff (5) gael ei darparu ar y ffurf a nodir yn yr Atodiad i Benderfyniad y Comisiwn 2003/701/EC.”
(9) Yn lle rheoliad 24 rhodder—“
Dyletswyddau Gweinidogion Cymru mewn perthynas â cheisiadau am ganiatâd i farchnata organeddau a addaswyd yn enetig
24. 

(1) Ar ôl cael cais am ganiatâd i farchnata organeddau a addaswyd yn enetig o dan adran 111(1) o’r Ddeddf rhaid i Weinidogion Cymru—
(a) hysbysu’r ceisydd yn ysgrifenedig o’r dyddiad y daeth y cais i law;
(b) archwilio’r cais i weld a yw’n cydymffurfio â gofynion y Ddeddf a’r Rheoliadau hyn ac, os yw hynny’n angenrheidiol, gofyn i’r ceisydd gyflenwi gwybodaeth ychwanegol yn unol ag adran 111(6) o’r Ddeddf;
(c) cyn diwedd y cyfnod o 90 diwrnod gan ddechrau â’r diwrnod y daeth y cais i law naill ai—
(i) anfon at y ceisydd adroddiad asesu a baratowyd yn unol ag Atodlen 4 sy’n nodi y dylid caniatáu i’r organeddau a addaswyd yn enetig gael eu marchnata ac o dan ba amodau, neu
(ii) gwrthod y cais, gan ddatgan y rhesymau dros eu penderfyniad, a hynny wedi’i ategu gan adroddiad asesu a baratowyd yn unol ag Atodlen 4 sy’n nodi na ddylid marchnata’r organeddau a addaswyd yn enetig.
(2) Nid yw’r cyfnod o 90 diwrnod a ragnodir ym mharagraff (1)(c) yn cynnwys unrhyw gyfnod sy’n dechrau â’r diwrnod y mae Gweinidogion Cymru yn rhoi hysbysiad ysgrifenedig o dan adran 111(6) o’r Ddeddf fod angen gwybodaeth bellach mewn perthynas â’r cais a chan ddiweddu ar y diwrnod y daeth yr wybodaeth honno i law Gweinidogion Cymru.
(3) Pan fo’r adroddiad asesu y cyfeirir ato ym mharagraff (1)(c) yn nodi y dylid caniatáu i’r organeddau a addaswyd yn enetig y mae’r cais yn ymwneud â hwy gael eu marchnata, rhaid i Weinidogion Cymru wahodd unrhyw berson, drwy gyfrwng cais sy’n cael ei osod ar y gofrestr, i gyflwyno sylwadau ar yr adroddiad asesu, a rhaid iddynt ddod i law Gweinidogion Cymru o fewn cyfnod o 30 diwrnod gan ddechrau â’r diwrnod y gosodir y cais ar y gofrestr (ac ni chaiff hynny fod yn gynt na’r diwrnod y gosodir yr adroddiad asesu ar y gofrestr o dan reoliad 35(7A).”
(10) Yn lle rheoliad 25 rhodder—“
Penderfyniadau gan Weinidogion Cymru ar geisiadau am ganiatâd i farchnata organeddau a addaswyd yn enetig
25. 

(1) Ni chaiff Gweinidogion Cymru gytuno ar gais am ganiatâd i farchnata organeddau a addaswyd yn enetig o dan adran 111(1) o’r Ddeddf fel y mae’n ymwneud â diogelu iechyd dynol heb gytundeb yr Awdurdod Gweithredol Iechyd a Diogelwch.
(2) Pan fo Gweinidogion Cymru’n gwahodd sylwadau ar adroddiad asesu sy’n ymwneud â chais am ganiatâd i farchnata organeddau a addaswyd yn enetig—
(a) ni chaiff Gweinidogion Cymru benderfynu cytuno ar gais, neu ei wrthod, cyn i’r cyfnod ar gyfer cyflwyno sylwadau o dan reoliad 24(3) ddod i ben a chyn i Weinidogion Cymru ystyried unrhyw sylwadau a gyflwynir yn unol â’r rheoliad hwnnw;
(b) rhaid i Weinidogion Cymru, o fewn 105 o ddiwrnodau ar ôl diwedd y cyfnod ar gyfer cyflwyno sylwadau o dan reoliad 24(3)—
(i) penderfynu ar y cais, a
(ii) hysbysu’r ceisydd yn ysgrifenedig am y penderfyniad i gytuno ar y cais, neu ei wrthod, a’r rhesymau dros y penderfyniad.
(3) Nid yw’r cyfnod y cyfeirir ato ym mharagraff (2)(b) yn cynnwys unrhyw gyfnod sy’n dechrau â’r diwrnod y mae Gweinidogion Cymru yn rhoi hysbysiad ysgrifenedig o dan adran 111(6) o’r Ddeddf bod rhagor o wybodaeth yn ofynnol mewn cysylltiad â’r cais, ac sy’n dod i ben ar y diwrnod y mae’r wybodaeth honno yn dod i law Gweinidogion Cymru.
(4) Yn ddarostyngedig i baragraffau (5) a (6), caiff caniatâd i farchnata organeddau a addaswyd yn enetig gael ei roi am uchafswm cyfnod o ddeng mlynedd gan ddechrau â’r diwrnod pan fo Gweinidogion Cymru yn rhoi caniatâd o dan adran 111 o’r Ddeddf.
(5) Rhaid i gyfnod y caniatâd cyntaf i farchnata—
(a) organedd a addaswyd yn enetig, neu
(b) epil o’r organedd hwnnw a addaswyd yn enetig sydd wedi’i gynnwys mewn amrywiad planhigyn lle mae’r amrywiad planhigyn wedi’i fwriadu ar gyfer marchnata ei hadau yn unig,
ddod i ben fan bellaf ddeng mlynedd ar ôl y dyddiad y cynhwyswyd am y tro cyntaf yr amrywiad planhigyn cyntaf sy’n cynnwys yr organedd a addaswyd yn enetig ar Restr Genedlaethol yn unol â rheoliad 3 o Reoliadau Hadau (Rhestrau Cenedlaethol o Amrywogaethau) 2001.
(6) At y diben o roi caniatâd i farchnata organedd a addaswyd yn enetig sydd wedi’i gynnwys mewn deunydd fforest atgynhyrchiol, bydd cyfnod y caniatâd cyntaf yn dod i ben fan bellaf ddeng mlynedd ar ôl y dyddiad penodedig.
(7) Ym mharagraff (6), ystyr “y dyddiad penodedig” yw’r dyddiad y cynhwyswyd am y tro cyntaf ddeunydd sylfaenol sy’n cynnwys yr organedd a addaswyd yn enetig ar y Gofrestr Genedlaethol yn unol â rheoliadau 6 a 7 o Reoliadau Deunyddiau Atgenhedlol y Goedwig (Prydain Fawr) 2002.”
(11) Yn rheoliad 26, hepgorer paragraffau (1)(ch) a (2).
(12) Yn rheoliad 27—
(a) yn lle paragraff (1) rhodder—“
(1) Ni chaiff Gweinidogion Cymru gytuno ar gais i adnewyddu caniatâd o dan adran 111(1) o’r Ddeddf i farchnata organeddau a addaswyd yn enetig fel y mae’n ymwneud â diogelu iechyd dynol heb gytundeb yr Awdurdod Gweithredol Iechyd a Diogelwch.”;
(b) yn lle paragraff (2) rhodder—“
(2) Rhaid i Weinidogion Cymru roi gwybod i’r ceisydd am benderfyniad ar gais i adnewyddu caniatâd i farchnata organeddau a addaswyd yn enetig cyn gynted â phosibl a rhaid iddynt gynnwys, mewn unrhyw wrthodiad i adnewyddu caniatâd, y rhesymau dros y penderfyniad hwnnw.”
(13) Yn rheoliad 29(dd) yn lle’r geiriau o “i’r Comisiwn” hyd at “Aelod-wladwriaethau” rhodder “ar y ffurf berthnasol a nodir yn yr Atodiadau i Benderfyniad y Comisiwn 2009/770/EC”.
(14) Yn lle rheoliad 32 rhodder—“
Amrywio neu ddirymu caniatâd i farchnata
32. 

(1) Ni chaiff Gweinidogion Cymru ond amrywio neu ddirymu caniatâd i farchnata organeddau a addaswyd yn enetig o dan adran 111(10) o’r Ddeddf heb gytundeb deiliad y caniatâd pan fo gwybodaeth newydd wedi dod ar gael y mae Gweinidogion Cymru yn ystyried y byddai’n effeithio ar yr asesiad o’r risg o beri niwed i’r amgylchedd drwy ollwng yr organeddau.
(2) Ni chaiff Gweinidogion Cymru ddirymu neu amrywio caniatâd i farchnata organeddau a addaswyd yn enetig o dan adran 111(10) o’r Ddeddf fel y mae’n ymwneud â diogelu iechyd dynol heb gytundeb yr Awdurdod Gweithredol Iechyd a Diogelwch.”
(15) Yn rheoliad 33, hepgorer paragraffau (3) i (5).
(16) Yn rheoliad 35, yn lle paragraffau (1) i (9) rhodder—“
(1) Rhaid i’r gofrestr gynnwys y manylion a nodir ym mharagraffau (2) i (10).
(2) Mewn perthynas â hysbysiad gwahardd a gyflwynwyd gan Weinidogion Cymru o dan adran 110 o’r Ddeddf—
(a) enw a chyfeiriad y person y mae’r hysbysiad yn cael ei gyflwyno iddo;
(b) disgrifiad o’r organeddau a addaswyd yn enetig y mae’r hysbysiad yn cael ei gyflwyno mewn perthynas â hwy;
(c) y man lle bwriedir gollwng yr organeddau a addaswyd yn enetig;
(ch) at ba ddiben y bwriedir gollwng neu farchnata’r organeddau a addaswyd yn enetig;
(d) y rheswm dros gyflwyno’r hysbysiad;
(dd) unrhyw ddyddiad a bennwyd yn yr hysbysiad fel y dyddiad y daw’r gwaharddiad i rym.
(3) Yn ddarostyngedig i baragraff (4) ac mewn perthynas â chais am ganiatâd o dan adran 111(1) o’r Ddeddf—
(a) enw a chyfeiriad y ceisydd;
(b) disgrifiad cyffredinol o’r organeddau a addaswyd yn enetig y mae’r cais yn cael ei wneud mewn perthynas â hwy;
(c) y man lle bwriedir gollwng yr organeddau a addaswyd yn enetig, i’r graddau y mae’r wybodaeth hon wedi’i hysbysu i Weinidogion Cymru;
(ch) at ba ddiben y bwriedir gollwng yr organeddau a addaswyd yn enetig (gan gynnwys unrhyw ddefnydd y bwriedir ar eu cyfer yn y dyfodol) neu, mewn perthynas â chaniatâd i farchnata, at ba ddiben y byddant yn cael eu marchnata;
(d) dyddiad arfaethedig eu gollwng;
(dd) yr asesiad risg amgylcheddol;
(e) y dulliau a’r cynlluniau ar gyfer monitro’r organeddau a addaswyd yn enetig ac ar gyfer ymateb i argyfwng;
(f) crynodeb o unrhyw gyngor y mae Gweinidogion Cymru wedi’i gael oddi wrth y Pwyllgor Ymgynghorol ar Ollyngiadau i’r Amgylchedd ynghylch a ddylid caniatáu neu wrthod cais i ollwng, neu farchnata, organeddau a addaswyd yn enetig, a naill ai—
(i) yr amodau neu’r cyfyngiadau y mae’r Pwyllgor hwnnw wedi cynghori y dylid rhoi’r caniatâd yn unol â hwy, neu
(ii) crynodeb o’r rhesymau pam y mae’r Pwyllgor hwnnw wedi cynghori na ddylid rhoi’r caniatâd;
(ff) y crynodeb o’r wybodaeth a gynhwyswyd yn y cais sy’n ofynnol gan reoliad 12(1)(ch) neu, yn ôl y digwydd, o’r cais sy’n ofynnol gan reoliad 17(2)(g).
(3A) Yn ddarostyngedig i baragraff (4) ac i’r ffaith nad yw’r wybodaeth yn gyfrinachol, mewn perthynas â chais am ganiatâd o dan adran 111(1) o’r Ddeddf i farchnata organeddau a addaswyd yn enetig—
(a) enw a chyfeiriad y person sy’n gyfrifol am y marchnata, boed y gweithgynhyrchydd, y mewnforiwr neu’r dosbarthwr;
(b) enw masnachol arfaethedig y cynnyrch;
(c) enwau’r organeddau a addaswyd yn enetig sydd yn y cynnyrch, gan gynnwys enwau gwyddonol a chyffredin, pan fo hynny’n briodol, yr organeddau rhieniol, yr organeddau derbyn a’r organeddau rhoi;
(ch) marciau adnabod unigryw yr organeddau a addaswyd yn enetig sydd yn y cynnyrch;
(d) cod cyfeirnod ar gyfer y cais a neilltuwyd gan Weinidogion Cymru;
(dd) yr wybodaeth a gynhwysir yn y cais fel a bennir ym mharagraffau 3 a 7 o Atodlen 3;
(e) gwybodaeth am samplau o’r organeddau a addaswyd yn enetig sydd wedi’u storio, gan gynnwys y math o ddeunydd, ei nodweddion genetig a’i sefydlogrwydd, swm y deunydd mewn storfa, a’r amodau storio priodol a’r oes silff.
(4) Os yw Gweinidogion Cymru yn ymwybodol neu os deuant yn ymwybodol fod gwybodaeth ynglŷn ag organeddau a addaswyd yn enetig neu ynglŷn â diben eu gollwng neu eu marchnata wedi’i chyhoeddi a bod honno’n fanylach na’r hyn a fyddai’n bodloni gofynion paragraff (3), rhaid iddynt nodi cymaint o’r wybodaeth fanylach honno ar y gofrestr ag y byddant yn ystyried yn briodol.
(5) Mewn perthynas â chaniatadau a roddir o dan adran 111(1) o’r Ddeddf—
(a) copi o’r caniatâd, a chyfeiriad at y cais y cafodd ei roi mewn perthynas ag ef;
(b) unrhyw wybodaeth a gyflenwyd i Weinidogion Cymru yn unol ag amodau a bennwyd ar gyfer y caniatâd;
(c) y ffaith bod y caniatâd wedi cael ei amrywio neu ei ddiddymu, cynnwys yr hysbysiad y cafodd y caniatâd ei amrywio neu ei ddirymu ganddo, a chopi o’r caniatâd wedi’i amrywio;
(ch) crynodeb o unrhyw gyngor y mae Gweinidogion Cymru wedi’i gael oddi wrth y Pwyllgor Ymgynghorol ar Ollyngiadau i’r Amgylchedd ynghylch a ddylid amrywio neu ddirymu caniatâd i ollwng organeddau a addaswyd yn enetig.
(6) Yr wybodaeth ganlynol ynghylch y risg y byddai niwed yn cael ei beri i’r amgylchedd gan organeddau a addaswyd yn enetig—
(a) unrhyw wybodaeth a ddarperir i Weinidogion Cymru yn unol ag adran 111(6A) neu 112(5)(b)(i) o’r Ddeddf;
(b) unrhyw wybodaeth ynglŷn â digwyddiad anrhagweledig sy’n digwydd mewn cysylltiad â gollyngiad organedd a addaswyd yn enetig a allai effeithio ar y risgiau sy’n bodoli o beri niwed i’r amgylchedd a’r wybodaeth honno wedi’i hysbysu i Weinidogion Cymru yn unol ag adran 112(5)(b)(iii) o’r Ddeddf.
(7) Copi o unrhyw ganiatâd i farchnata organeddau a addaswyd yn enetig a roddwyd cyn y diwrnod ymadael gan awdurdod cymwys Aelod-wladwriaeth.
(7A) Copi o unrhyw adroddiad asesu a luniwyd yn unol â rheoliad 24(1)(c) neu 26(1)(c).
(8) Lleoliad unrhyw organeddau a addaswyd yn enetig a dyfwyd yng Nghymru yn unol â chaniatâd i farchnata i’r graddau y mae’r wybodaeth honno yn cael ei chyflenwi i Weinidogion Cymru yn unol â’r gofynion monitro a bennwyd ar gyfer y caniatâd.
(9) Unrhyw benderfyniad a fabwysiadwyd cyn y diwrnod ymadael gan y Comisiwn Ewropeaidd yn unol ag Erthygl 18 o’r Gyfarwyddeb Gollyngiadau Bwriadol.”
(17) Yn lle rheoliad 36 rhodder—“
Cadw’r gofrestr
36. 

(1) Rhaid i’r wybodaeth a ragnodir yn rheoliad 35(2) gael ei gosod ar y gofrestr o fewn deuddeg diwrnod o gyflwyno’r hysbysiad gwahardd.
(2) Rhaid i’r wybodaeth a ragnodir ym mharagraffau (a) i (e) ac (ff) o reoliad 35(3) gael ei gosod ar y gofrestr o fewn deuddeg diwrnod o’r adeg y mae’r cais am ganiatâd i ollwng neu farchnata wedi dod i law Gweinidogion Cymru.
(3) Rhaid i’r wybodaeth a ragnodir yn rheoliad 35(3)(f) gael ei gosod ar y gofrestr o fewn deuddeg diwrnod o adeg rhoi neu wrthod y caniatâd.
(4) Rhaid i’r wybodaeth a ragnodir yn rheoliad 35(3A) gael ei gosod ar y gofrestr o fewn deuddeg diwrnod o’r adeg y mae’r cais am ganiatâd i farchnata wedi dod i law Gweinidogion Cymru.
(5) Rhaid i’r wybodaeth a ragnodir yn rheoliad 35(5)(a) gael ei gosod ar y gofrestr o fewn deuddeg diwrnod o roi’r caniatâd.
(6) Rhaid i’r wybodaeth a ragnodir yn rheoliad 35(5)(b) ac (ch) gael ei gosod ar y gofrestr o fewn deuddeg diwrnod ar ôl iddi ddod i law Gweinidogion Cymru.
(7) Rhaid i’r wybodaeth a ragnodir yn rheoliad 35(5)(c) gael ei gosod ar y gofrestr o fewn pedwar diwrnod ar ddeg o adeg dirymu neu amrywio’r caniatâd.
(8) Rhaid i’r wybodaeth a ragnodir yn rheoliad 35(6) a (10) gael ei gosod ar y gofrestr o fewn pedwar diwrnod ar ddeg o’r adeg y daeth i law Gweinidogion Cymru.
(9) Rhaid i’r wybodaeth a ragnodir yn rheoliad 35(7A) gael ei gosod ar y gofrestr o fewn deuddeg diwrnod o’r adeg y cafodd ei llunio.
(10) Rhaid i’r wybodaeth a ragnodir yn rheoliad 35(8) gael ei gosod ar y gofrestr o fewn pedwar diwrnod ar ddeg o’r adeg y daeth i law Gweinidogion Cymru.”
(18) Yn Atodlen 3—
(a) ym mharagraff 2, hepgorer “yn yr Undeb Ewropeaidd”;
(b) ym mharagraff 5, hepgorer “o fewn yr Undeb Ewropeaidd”;
(c) ym mharagraff 8, hepgorer “sydd wedi’i sefydlu yn yr Undeb Ewropeaidd”;
(d) ym mharagraff 14, yn lle “yn yr Undeb Ewropeaidd” rhodder “yng Nghymru”.
(19) Yn Atodlen 4, ym mharagraff 6, hepgorer y geiriau o “, ac a fwriedir gofyn” hyd at y diwedd.
Diwygiadau i Reoliadau Organeddau a Addaswyd yn Enetig (Eu Symud ar draws Ffin) (Cymru) 2005
3 

(1) Mae Rheoliadau Organeddau a Addaswyd yn Enetig (Eu Symud ar draws Ffin) (Cymru) 2005 wedi eu diwygio fel a ganlyn.
(2) Yn yr Atodlen—
(a) yn Rhan 1, yn nhestun yr ail golofn yn rhes “Erthygl 10(3)”, yn lle’r geiriau o “heb fod cytundeb” hyd at y diwedd rhodder “na chaniateir eu marchnata yn y Deyrnas Unedig, neu heb i awdurdod cymwys y wlad sy’n mewnforio gytuno’n benodol i awdurdodi’r mewnforio.”;
(b) yn Rhan 2, yn nhestun yr ail golofn yn rhes “Erthygl 6”, hepgorer “ac i’r Comisiwn”.
Dirymu
4 

(1) Mae rheoliad 4(2) o Reoliadau yr Amgylchedd, Cynllunio a Materion Gwledig (Diwygiadau Amrywiol) (Cymru) 2018 wedi ei ddirymu.
(2) Mae Rhan 3 o Reoliadau Organeddau a Addaswyd yn Enetig (Eu Gollwng yn Fwriadol a’u Symud ar draws Ffin) (Diwygiadau Amrywiol) (Cymru) (Ymadael â’r UE) 2019 wedi ei dirymu.
(3) Mae rheoliad 17 o Reoliadau Materion Gwledig, yr Amgylchedd, Pysgodfeydd a Bwyd (Diwygiadau a Dirymiadau Amrywiol) (Cymru) 2019 wedi ei ddirymu.
Lesley Griffiths
Gweinidog yr Amgylchedd, Ynni a Materion Gwledig, un o Weinidogion Cymru
4 Rhagfyr 2019