
2019 Rhif 1483 (Cy. 267)
Y Gyfraith Gyfansoddiadol
Gorchymyn Deddf Llywodraeth Cymru 2006 (Cynigion Cyllidebol a Chyrff Dynodedig) (Diwygio) 2019
Gwnaed 27  Tachwedd 2019
Gosodwyd gerbron Cynulliad Cenedlaethol Cymru 29 Tachwedd 2019
Yn dod i rym 1 Ionawr 2020

Mae Gweinidogion Cymru yn gwneud y Gorchymyn a ganlyn drwy arfer y pwerau a roddir iddynt gan adran 126A(2) a (3) o Ddeddf Llywodraeth Cymru 2006.

Yn unol ag adran 126A(4) a (6) o’r Ddeddf honno mae Gweinidogion Cymru wedi ymgynghori â’r Trysorlys, pan feddyliant fod hynny’n briodol, ac mae’r Trysorlys wedi cydsynio i’r Gorchymyn hwn gael ei wneud.
Enwi a chychwyn
1 

(1) Enw’r Gorchymyn hwn yw Gorchymyn Deddf Llywodraeth Cymru 2006 (Cynigion Cyllidebol a Chyrff Dynodedig) (Diwygio) 2019.
(2) Daw’r Gorchymyn hwn i rym ar 1 Ionawr 2020.
Diwygiadau i Orchymyn Deddf Llywodraeth Cymru 2006 (Cynigion Cyllidebol a Chyrff Dynodedig) 2018
2 

(1) Mae Gorchymyn Deddf Llywodraeth Cymru 2006 (Cynigion Cyllidebol a Chyrff Dynodedig) 2018 wedi ei ddiwygio fel a ganlyn.
(2) Yn yr Atodlen (Cyrff Dynodedig), yn y lleoedd priodol mewnosoder—“
 Addysg a Gwella Iechyd Cymru (AaGIC)”“
 Comisiwn Brenhinol Henebion Cymru”“
 International Business Wales Limited”.
Rebecca Evans
Y Gweinidog Cyllid a’r Trefnydd, un o Weinidogion Cymru
27 Tachwedd 2019