
2019 Rhif 1481 (Cy. 265)
Bwyd, Cymru
Rheoliadau Cynhyrchion Pysgodfeydd (Taliadau Rheolaethau Swyddogol) (Cymru) (Diwygio) 2019
Gwnaed 27 Tachwedd 2019
Gosodwyd gerbron Cynulliad Cenedlaethol Cymru 28 Tachwedd 2019
Yn dod i rym 14 Rhagfyr 2019

Mae Gweinidogion Cymru yn gwneud y Rheoliadau a ganlyn drwy arfer y pwerau a roddir iddynt gan adran 2(2) o Ddeddf y Cymunedau Ewropeaidd 1972 a pharagraff 1A o Atodlen 2 iddi.
Mae Gweinidogion Cymru wedi eu dynodi at ddibenion adran 2(2) o Ddeddf y Cymunedau Ewropeaidd 1972 mewn perthynas â mesurau mewn cysylltiad â bwyd (gan gynnwys diod) gan gynnwys cynhyrchu sylfaenol o ran bwyd.
Mae’r Rheoliadau hyn yn gwneud darpariaeth at ddiben a grybwyllir yn adran 2(2) o Ddeddf y Cymunedau Ewropeaidd 1972 ac mae’n ymddangos i Weinidogion Cymru ei bod yn hwylus i unrhyw gyfeiriad yn Rheoliadau Cynhyrchion Pysgodfeydd (Taliadau Rheolaethau Swyddogol) (Cymru) 2007 at offeryn UE a ddiffinnir yn yr Atodlen i’r Rheoliadau hynny, fel y diwygir y Rheoliadau hynny gan y Rheoliadau hyn, gael ei ddehongli fel cyfeiriad at yr offeryn hwnnw fel y’i diwygir o bryd i’w gilydd.

Fel sy’n ofynnol gan Erthygl 9 o Reoliad (EC) Rhif 178/2002 Senedd Ewrop a’r Cyngor sy’n gosod egwyddorion a gofynion cyffredinol cyfraith bwyd, yn sefydlu Awdurdod Diogelwch Bwyd Ewrop ac yn gosod gweithdrefnau o ran materion diogelwch bwyd ymgynghorwyd yn agored ac yn dryloyw â’r cyhoedd wrth lunio’r Rheoliadau hyn.
Enwi a chychwyn
1 

(1) Enw’r Rheoliadau hyn yw Rheoliadau Cynhyrchion Pysgodfeydd (Taliadau Rheolaethau Swyddogol) (Cymru) (Diwygio) 2019.
(2) Daw’r Rheoliadau hyn i rym ar 14 Rhagfyr 2019.
Diwygio Rheoliadau Cynhyrchion Pysgodfeydd (Taliadau Rheolaethau Swyddogol) (Cymru) 2007
2 
Mae Rheoliadau Cynhyrchion Pysgodfeydd (Taliadau Rheolaethau Swyddogol) (Cymru) 2007 wedi eu diwygio fel a ganlyn.
3 
Yn rheoliad 2 (dehongli)—
(a) ym mharagraff (1)—
(i) yn lle’r diffiniad sy’n dechrau “mae i “Cyfarwyddeb 2004/41”” rhodder—“
 mae i “Cyfarwyddeb 2004/41” (“Directive 2004/41”), “Rheoliad 2406/96” (“Regulation 2406/96”), “Rheoliad 852/2004” (“Regulation 852/2004”), “Rheoliad 853/2004” (“Regulation 853/2004”), “Rheoliad 1688/2005” (“Regulation 1688/2005”), “Rheoliad 2073/2005” (“Regulation 2073/2005”), “Rheoliad 2074/2005” (“Regulation 2074/2005”), “Rheoliad 2015/1375” (“Regulation 2015/1375”), “Rheoliad 2017/625” (“Regulation 2017/625”), “Rheoliad 2019/624” (“Regulation 2019/624”) a “Rheoliad 2019/627” (“Regulation 2019/627”) yr ystyron a roddir iddynt yn ôl eu trefn yn yr Atodlen;”;
(ii) yn y diffiniad o “rhoi gyntaf ar y farchnad”, yn lle “Rheoliad 882/2004” rhodder “Rheoliad 2017/625”;
(iii) yn y diffiniad o “gwerthu gyntaf mewn marchnad bysgod”, yn lle “Rheoliad 882/2004” rhodder “Rheoliad 2017/625”;
(iv) yn lle’r diffiniad o “rheolaethau swyddogol” rhodder—“
 mae i “rheolaethau swyddogol” yr ystyr a roddir i “official controls” yn Erthygl 2(1) o Reoliad 2017/625;”;
(v) yn y diffiniad o “prosesu”, yn lle “ym Mhennod V o Adran B o Atodiad IV i Reoliad 852/2004” rhodder “yn Rheoliad 2017/625”;
(vi) yn y diffiniad o “mewnforyn trydedd wlad”, yn lle “y mae tâl yn daladwy mewn cysylltiad ag ef o dan Reoliad 882/2004” rhodder “y mae tâl a nodir yn Atodiad 4 i Reoliad 2017/625 yn daladwy mewn cysylltiad ag ef”;
(b) ar ôl paragraff (2) mewnosoder—“
(3) Yn y Rheoliadau hyn, mae unrhyw gyfeiriad at offeryn UE a ddiffinnir yn yr Atodlen yn gyfeiriad at yr offeryn hwnnw fel y’i diwygir o bryd i’w gilydd.”
4 
Yn rheoliad 3 (gwir gostau)—
(a) yn lle “a restrir yn Atodiad VI i Reoliad 882/2004” rhodder “y cyfeirir atynt yn Erthyglau 81 a 82 o Reoliad 2017/625”;
(b) yn lle “Atodiad III i Reoliad 854/2004” rhodder “Deitl 6 o Reoliad 2019/627 ac Atodiad 6 iddo”.
5 
Yn rheoliad 4 (cyfwerthoedd y bunt â’r Ewro), ym mharagraff (3)—
(a) yn is-baragraff (b), ar ôl “ym mhob blwyddyn ddilynol” mewnosoder “hyd nes y daw Rheoliadau Cynhyrchion Pysgodfeydd (Taliadau Rheolaethau Swyddogol) (Cymru) (Diwygio) 2019 i rym”;
(b) ar ôl is-baragraff (b) mewnosoder—“
(c) ar ôl i Reoliadau Cynhyrchion Pysgodfeydd (Taliadau Rheolaethau Swyddogol) (Cymru) (Diwygio) 2019 ddod i rym, cyfartaledd y cyfraddau a gyhoeddir yng Nghyfres C o Gyfnodolyn Swyddogol yr Undeb Ewropeaidd ar gyfer pob diwrnod yn ystod y cyfnod tâl pan gyhoeddir y gyfradd.”
6 
Yn rheoliad 9 (taliadau sy’n daladwy i fwy nag un awdurdod bwyd), yn lle “Atodiad III i Reoliad 854/2004” rhodder “Deitl 6 o Reoliad 2019/627 ac Atodiad 6 iddo”.
7 
Yn rheoliad 10 (talu tâl glanio), yn lle “Atodiad III i Reoliad 854/2004”, ym mhob lle y mae’n digwydd, rhodder “Deitl 6 o Reoliad 2019/627 ac Atodiad 6 iddo”.
8 
Yn rheoliad 12 (tâl o ran sefydliadau prosesu), yn lle “Atodiad III i Reoliad 854/2004”, yn y ddau le y mae’n digwydd, rhodder “Deitl 6 o Reoliad 2019/627 ac Atodiad 6 iddo”.
9 
Yn lle’r Atodlen (diffiniadau o ddeddfwriaeth yr UE) rhodder yr Atodlen a nodir yn yr Atodlen i’r Rheoliadau hyn.
Vaughan Gething
Y Gweinidog Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol, un o Weinidogion Cymru
27 Tachwedd 2019 
YR ATODLEN
Rheoliad 9
“
YR ATODLEN
DIFFINIADAU O DDEDDFWRIAETH YR UE
Rheoliad 2


 ystyr “Cyfarwyddeb 2004/41” (“Directive 2004/41”) yw Cyfarwyddeb 2004/41/EC Senedd Ewrop a’r Cyngor sy’n diddymu Cyfarwyddebau penodol ynghylch hylendid bwyd ac amodau iechyd ar gyfer cynhyrchu a rhoi ar y farchnad gynhyrchion penodol sy’n dod o anifeiliaid ac a fwriedir i’w bwyta gan bobl ac sy’n diwygio Cyfarwyddebau’r Cyngor 89/662/EEC a 92/118/EEC a Phenderfyniad y Cyngor 95/408/EC;
 ystyr “Rheoliad 2406/96” (“Regulation 2406/96”) yw Rheoliad y Cyngor (EC) Rhif 2406/96 sy’n gosod safonau marchnata cyffredin ar gyfer cynhyrchion pysgodfeydd penodol;
 ystyr “Rheoliad 852/2004” (“Regulation 852/2004”) yw Rheoliad (EC) Rhif 852/2004 Senedd Ewrop a’r Cyngor ar hylendid bwydydd fel y’i darllenir gyda Rheoliad 2073/2005;
 ystyr “Rheoliad 853/2004” (“Regulation 853/2004”) yw Rheoliad (EC) Rhif 853/2004 Senedd Ewrop a’r Cyngor sy’n gosod rheolau hylendid penodol ar gyfer bwyd sy’n dod o anifeiliaid fel y’i darllenir gyda Chyfarwyddeb 2004/41, Rheoliad 1688/2005, Rheoliad 2074/2005 a Rheoliad 2017/185;
 ystyr “Rheoliad 1688/2005” (“Regulation 1688/2005”) yw Rheoliad y Comisiwn (EC) Rhif 1688/2005 sy’n gweithredu Rheoliad (EC) Rhif 853/2004 Senedd Ewrop a’r Cyngor o ran gwarantau arbennig ynghylch salmonela ar gyfer llwythi o gigoedd ac wyau penodol i’r Ffindir a Sweden;
 ystyr “Rheoliad 2073/2005” (“Regulation 2073/2005”) yw Rheoliad y Comisiwn (EC) Rhif 2073/2005 ar feini prawf microbiolegol ar gyfer bwydydd;
 ystyr “Rheoliad 2074/2005” (“Regulation 2074/2005”) yw Rheoliad y Comisiwn (EC) Rhif 2074/2005 sy’n gosod mesurau gweithredu ar gyfer cynhyrchion penodol o dan Reoliad (EC) Rhif 853/2004 Senedd Ewrop a’r Cyngor ac ar gyfer trefnu rheolaethau swyddogol o dan Reoliad (EC) Rhif 854/2004 Senedd Ewrop a’r Cyngor a Rheoliad (EC) Rhif 882/2004 Senedd Ewrop a’r Cyngor sy’n rhanddirymu Rheoliad (EC) Rhif 852/2004 Senedd Ewrop a’r Cyngor ac yn diwygio Rheoliadau (EC) Rhif 853/2004 ac (EC) Rhif 854/2004;
 ystyr “Rheoliad 2015/1375” (“Regulation 2015/1375”) yw Rheoliad Gweithredu’r Comisiwn (EU) 2015/1375 sy’n gosod rheolau penodol ar reolaethau swyddogol ar gyfer Trichinella mewn cig;
 ystyr “Rheoliad 2017/625” (“Regulation 2017/625”) yw Rheoliad (EU) 2017/625 Senedd Ewrop a’r Cyngor ar reolaethau swyddogol a gweithgareddau swyddogol eraill a gyflawnir i sicrhau y cymhwysir y gyfraith o ran bwyd a bwyd anifeiliaid, rheolau ynghylch iechyd a lles anifeiliaid, iechyd planhigion a chynhyrchion diogelu planhigion, sy’n diwygio Rheoliadau (EC) Rhif 999/2001, (EC) Rhif 396/2005, (EC) Rhif 1069/2009, (EC) Rhif 1107/2009, (EU) Rhif 1151/2012, (EU) Rhif 652/2014, (EU) 2016/429 ac (EU) 2016/2031 Senedd Ewrop a’r Cyngor, Rheoliadau’r Cyngor (EC) Rhif 1/2005 ac (EC) Rhif 1099/2009 a Chyfarwyddebau’r Cyngor 98/58/EC, 1999/74/EC, 2007/43/EC, 2008/119/EC a 2008/120/EC, ac sy’n diddymu Rheoliadau (EC) Rhif 854/2004 ac (EC) Rhif 882/2004 Senedd Ewrop a’r Cyngor, Cyfarwyddebau’r Cyngor 89/608/EEC, 89/662/EEC, 90/425/EEC, 91/496/EEC, 96/23/EC, 96/93/EC a 97/78/EC a Phenderfyniad y Cyngor 92/438/EEC fel y’i darllenir gyda Chyfarwyddeb 2004/41, Rheoliad 2074/2005, Rheoliad 2015/1375 a Rheoliad 2017/185;
 ystyr “Rheoliad 2019/624” (“Regulation 2019/624”) yw Rheoliad Dirprwyedig y Comisiwn (EU) 2019/624 ynghylch rheolau penodol ar gyfer cyflawni rheolaethau swyddogol ar gynhyrchu cig ac ar gyfer ardaloedd cynhyrchu ac ailddodi molysgiaid dwygragennog byw yn unol â Rheoliad (EU) 2017/625 Senedd Ewrop a’r Cyngor fel y’i darllenir gyda Chyfarwyddeb 2004/41, Rheoliad 2074/2005, Rheoliad 2015/1375 a Rheoliad 2017/185;
 ystyr “Rheoliad 2019/627” (“Regulation 2019/627”) yw Rheoliad Gweithredu’r Comisiwn (EU) 2019/627 sy’n gosod trefniadau ymarferol unffurf ar gyfer cyflawni rheolaethau swyddogol ar gynhyrchion sy’n dod o anifeiliaid ac a fwriedir i’w bwyta gan bobl yn unol â Rheoliad (EU) 2017/625 Senedd Ewrop a’r Cyngor ac sy’n diwygio Rheoliad y Comisiwn (EC) Rhif 2074/2005 o ran rheolaethau swyddogol fel y’i darllenir gyda Chyfarwyddeb 2004/41, Rheoliad 2074/2005, Rheoliad 2015/1375 a Rheoliad 2017/185.
”