
2019 Rhif 1479 (Cy. 263) (C. 53)
Tai, Cymru
Gorchymyn Deddf Tai (Cymru) 2014 (Cychwyn Rhif 10) 2019
Gwnaed 26 Tachwedd 2019
Mae Gweinidogion Cymru yn gwneud y Gorchymyn a ganlyn drwy arfer y pwerau a roddir iddynt gan adran 145(3) o Ddeddf Tai (Cymru) 2014.
Enwi a dehongli
1 

(1) Enw’r Gorchymyn hwn yw Gorchymyn Deddf Tai (Cymru) 2014 (Cychwyn Rhif 10) 2019.
(2) Yn y Gorchymyn hwn, ystyr “y Ddeddf” yw Deddf Tai (Cymru) 2014.
Y ddarpariaeth sy’n dod i rym
2 
Daw adran 75(3) (dyletswydd i sicrhau llety ar gyfer ceiswyr sy’n ddigartref yn fwriadol) o’r Ddeddf i rym ar 2 Rhagfyr 2019.
Julie James
Y Gweinidog Tai a Llywodraeth Leol, un o Weinidogion Cymru
26 Tachwedd 2019