
2019 Rhif 1477 (Cy. 261)
Ardrethu A Phrisio, Cymru
Rheoliadau Ardrethu Annomestig (Darpariaethau Amrywiol) (Rhif 2) (Diwygio) (Cymru) 2019
Gwnaed 25 Tachwedd 2019
Gosodwyd gerbron Cynulliad Cenedlaethol Cymru 26 Tachwedd 2019
Yn dod i rym 27 Ionawr 2020
Mae Gweinidogion Cymru yn gwneud y Rheoliadau a ganlyn drwy arfer y pwerau a roddwyd i’r Ysgrifennydd Gwladol gan adran 143(1) o Ddeddf Cyllid Llywodraeth Leol 1988, a pharagraff 2(8) o Atodlen 6 iddi, ac a freiniwyd bellach ynddynt hwy.
Enwi, cychwyn a chymhwyso
1 

(1) Enw’r Rheoliadau hyn yw Rheoliadau Ardrethu Annomestig (Darpariaethau Amrywiol) (Rhif 2) (Diwygio) (Cymru) 2019 a deuant i rym ar 27 Ionawr 2020.
(2) Mae’r Rheoliadau hyn yn gymwys o ran Cymru.
Diwygiadau i Reoliadau Ardrethu Annomestig (Darpariaethau Amrywiol) (Rhif 2) 1989
2 

(1) Mae rheoliad 2 o Reoliadau Ardrethu Annomestig (Darpariaethau Amrywiol) (Rhif 2) 1989 (prisio ar sail y contractiwr) wedi ei ddiwygio fel a ganlyn.
(2) Ym mharagraff (1E) hepgorer y geiriau “or after”.
(3) Ar ôl paragraff (1F) mewnosoder—“
(1G) Paragraph (2G) of this regulation applies in relation to a hereditament shown in a non-domestic rating list in Wales compiled on or after 1 April 2021, the rateable value of which is being ascertained using the contractor’s basis of valuation.”
(4) Ar ôl paragraff (2F) mewnosoder—“
(2G) In applying the provisions of the Act referred to in paragraph (2) of this regulation in circumstances where paragraph (1G) of this regulation applies, the appropriate rate is to be assumed to be—
(a) in the case of a defence hereditament, an educational hereditament, a health care hereditament or a hereditament which is wholly a public convenience 1.9 per cent;
(b) in any other case 3.5 per cent.”
Rebecca Evans
Y Gweinidog Cyllid a’r Trefnydd,
un o Weinidogion Cymru
25 Tachwedd 2019