
2019 Rhif 1472 (Cy. 260)
Bwyd, Cymru
Iechyd Y Cyhoedd, Cymru
Rheoliadau Iechyd y Cyhoedd (Isafbris am Alcohol) (Isafbris Uned) (Cymru) 2019
Gwnaed 20 Tachwedd 2019
Yn dod i rym 2 Mawrth 2020

Mae Gweinidogion Cymru, drwy arfer y pwerau a roddir gan adrannau 1(1)(a) a 26 o Ddeddf Iechyd y Cyhoedd (Isafbris am Alcohol) (Cymru) 2018, yn gwneud y Rheoliadau a ganlyn.
Cynhaliwyd ymgynghoriad fel sy’n ofynnol gan Erthygl 9 o Reoliad (EC) Rhif 178/2002 Senedd Ewrop a’r Cyngor sy’n gosod egwyddorion cyffredinol a gofynion cyfraith bwyd, yn sefydlu Awdurdod Diogelwch Bwyd Ewrop ac yn gosod gweithdrefnau o ran materion diogelwch bwyd.

Yn unol ag adran 26(2)(a) o Ddeddf Iechyd y Cyhoedd (Isafbris am Alcohol) (Cymru) 2018, gosodwyd drafft o’r offeryn hwn gerbron Cynulliad Cenedlaethol Cymru ac fe’i cymeradwywyd ganddo drwy benderfyniad.
Enwi a chychwyn
1 

(1) Enw’r Rheoliadau hyn yw Rheoliadau Iechyd y Cyhoedd (Isafbris am Alcohol) (Isafbris Uned) (Cymru) 2019.
(2) Daw’r Rheoliadau hyn i rym ar 2 Mawrth 2020.
Yr isafbris uned
2 
Yr isafbris uned at ddibenion adran 1(1)(a) o Ddeddf Iechyd y Cyhoedd (Isafbris am Alcohol) (Cymru) 2018 yw £0.50.
Vaughan Gething
Y Gweinidog Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol, un o Weinidogion Cymru
20 Tachwedd 2019