
2019 Rhif 1469 (Cy. 259) (C. 52)
Cydraddoldeb, Cymru
Gorchymyn Deddf Cydraddoldeb 2010 (Cychwyn Rhif 14) (Cymru) 2019
Gwnaed 19 Tachwedd 2019
Mae Gweinidogion Cymru yn gwneud y Gorchymyn a ganlyn drwy arfer y pwerau a roddir iddynt gan adran 216(6)(b) o Ddeddf Cydraddoldeb 2010.
Enwi
1 
Enw’r Gorchymyn hwn yw Gorchymyn Deddf Cydraddoldeb 2010 (Cychwyn Rhif 14) (Cymru) 2019.
Y ddarpariaeth sy’n dod i rym
2 
Daw adran 2 (pŵer i ddiwygio adran 1) o Ddeddf Cydraddoldeb 2010, i’r graddau y mae’n rhoi pŵer i Weinidogion Cymru, i rym ar 22 Tachwedd 2019.
Jane Hutt
Y Dirprwy Weinidog a’r Prif Chwip, o dan awdurdod Gweinidogion Cymru”.
19 Tachwedd 2019