
2019 Rhif 1408 (Cy. 249)
Bwyd, Cymru
Diogelu’r Amgylchedd, Cymru
Rheoliadau Materion Gwledig a’r Amgylchedd (Diwygiadau Amrywiol) (Cymru) 2019
Gwnaed 28 Hydref 2019
Gosodwyd gerbron Cynulliad Cenedlaethol Cymru 30 Hydref 2019
Yn dod i rym yn unol â rheoliad 1(2)

Mae Gweinidogion Cymru wedi eu dynodi at ddibenion adran 2(2) o Ddeddf y Cymunedau Ewropeaidd 1972 mewn perthynas â pholisi amaethyddol cyffredin yr Undeb Ewropeaidd, ac atal ac adfer difrod amgylcheddol.
Mae’r Rheoliadau hyn yn gwneud darpariaeth at ddiben a grybwyllir yn adran 2(2) o Ddeddf y Cymunedau Ewropeaidd 1972.
Ymgynghorwyd yn agored ac yn dryloyw â’r cyhoedd wrth lunio a gwerthuso rheoliadau 3 a 4, fel sy’n ofynnol gan Erthygl 9 o Reoliad (EC) Rhif 178/2002 Senedd Ewrop a’r Cyngor sy’n gosod egwyddorion cyffredinol a gofynion cyfraith bwyd, yn sefydlu Awdurdod Diogelwch Bwyd Ewrop ac yn gosod gweithdrefnau o ran materion diogelwch bwyd.

Mae Gweinidogion Cymru yn gwneud y Rheoliadau hyn drwy arfer y pwerau a roddir gan adran 2(2) o Ddeddf y Cymunedau Ewropeaidd 1972.
Enwi a chychwyn
1 

(1) Enw’r Rheoliadau hyn yw Rheoliadau Materion Gwledig a’r Amgylchedd (Diwygiadau Amrywiol) (Cymru) 2019.
(2) Daw’r Rheoliadau hyn i rym 21 o ddiwrnodau ar ôl y diwrnod y’u gosodir.
Diwygio Rheoliadau Difrod Amgylcheddol (Atal ac Adfer) (Cymru) 2009
2 
Ar ôl rheoliad 18 o Reoliadau Difrod Amgylcheddol (Atal ac Adfer) (Cymru) 2009 mewnosoder—“
Adrodd gan awdurdodau gorfodi
18A. 

(1) Pan fo awdurdod gorfodi wedi cyflwyno hysbysiad i weithredwr cyfrifol o dan reoliad 18(1) ar ôl i’r rheoliad hwn ddod i rym, rhaid i’r awdurdod gorfodi hysbysu Gweinidogion Cymru am y difrod amgylcheddol perthnasol cyn gynted ag y bo’n ymarferol bosibl.
(2) Rhaid i’r hysbysiad a ddarperir i Weinidogion Cymru o dan baragraff (1) gynnwys yr wybodaeth a ganlyn—
(a) y math o ddifrod amgylcheddol, yn unol â’r categorïau a nodir yn rheoliad 4(1)(a) i (d),
(b) y dyddiad y digwyddodd y difrod amgylcheddol neu y cafodd ei ddarganfod, ac
(c) y gweithgaredd a achosodd y difrod amgylcheddol, yn unol â’r rhestr a nodir yn Atodlen 2, ac eithrio mewn achosion pan fo rheoliad 5(2) yn gymwys.
(3) Caiff Gweinidogion Cymru ei gwneud yn ofynnol i awdurdod gorfodi ddarparu unrhyw wybodaeth arall mewn perthynas â’r difrod amgylcheddol y mae’n rhesymol i Weinidogion Cymru ofyn amdani.”
Diwygio Rheoliadau Wyau a Chywion (Cymru) 2010
3 

(1) Mae Rheoliadau Wyau a Chywion (Cymru) 2010 wedi eu diwygio fel a ganlyn.
(2) Yn rheoliad 3(6)(a), ar ôl “unrhyw ddarpariaeth yn y” mewnosoder “Rheoliad Sengl CMO neu”.
(3) Yn Atodlen 1, yn y tabl yn Rhan 1, yn rhes 1—
(a) yn lle’r cofnod yng ngholofn 1 rhodder—“Erthygl 116 o’r Rheoliad Sengl CMO i’r graddau y mae’n ymwneud â marchnata wyau deor a chywion”;
(b) yn y cofnod yng ngholofn 2, yn lle “Erthygl 116 o’r Rheoliad Sengl CMO a Rhan C o Atodiad XIV iddo,” rhodder “Rhan C o Atodiad XIV i’r Rheoliad Sengl CMO”.
(4) Yn Atodlen 2, Rhan 1—
(a) yn lle pennawd y tabl rhodder—“
RHAN 1
DARPARIAETHAU’R RHEOLIAD SENGL CMO NEU REOLIAD (EU) 2013”;
(b) yn y tabl—
(i) yn lle’r pennawd yng ngholofn 1 rhodder—“Y ddarpariaeth berthnasol yn Rheoliad (EU) 2013 neu pan nodir hynny, y Rheoliad Sengl CMO”;
(ii) ym mhennawd colofn 2, yn lle “gyda darpariaethau Rheoliad (EU) 2013” rhodder “gyda’r darpariaethau”;
(iii) yn rhes 1, yn lle’r cofnod yng ngholofn 1 rhodder—“Erthygl 116 o’r Rheoliad Sengl CMO, i’r graddau y mae’n ymwneud â marchnata wyau”.
(5) Yn Atodlen 3, yn lle’r cofnod yng ngholofn 2, rhes 3, rhodder—“Erthygl 1(3) o Reoliad (EC) Rhif 2160/2003 a phwynt 4 o Ran D o Atodiad II iddo, Erthygl 116 o’r Rheoliad Sengl CMO, Rhan VI o Atodiad VII i Reoliad (EU) 2013 a Rheoliad y Comisiwn (EC) Rhif 589/2008, i’r graddau y maent yn ymwneud ag wyau Dosbarth B”.
Diwygio Rheoliadau Cig Dofednod (Cymru) 2011
4 

(1) Mae Rheoliadau Cig Dofednod (Cymru) 2011 wedi eu diwygio fel a ganlyn.
(2) Yn Atodlen 1, yn y tabl yn Rhan 1, yn rhes 1—
(a) yn lle’r cofnod yng ngholofn 1 rhodder—“Erthygl 116 o’r Rheoliad CMO Sengl, i’r graddau y mae’r ddarpariaeth honno yn ymwneud â marchnata cig dofednod”;
(b) yn lle’r cofnod yng ngholofn 2 rhodder—“Rhan B(I)(2) a (3) a (III)(1) o Atodiad XIV i’r Rheoliad CMO Sengl a Rheoliad y Comisiwn”.
Lesley Griffiths
Gweinidog yr Amgylchedd, Ynni a Materion Gwledig, un o Weinidogion Cymru
28 Hydref 2019