
2019 Rhif 1407 (Cy. 248)
Diogelu’r Amgylchedd, Cymru
Rheoliadau Organeddau a Addaswyd yn Enetig (Eu Gollwng yn Fwriadol) (Diwygio) (Cymru) (Diwygio) 2019
Gwnaed 28 Hydref 2019
Gosodwyd gerbron Cynulliad Cenedlaethol Cymru 29 Hydref 2019
Yn dod i rym yn unol â rheoliad 1(2)

Mae Gweinidogion Cymru wedi eu dynodi at ddibenion adran 2(2) o Ddeddf y Cymunedau Ewropeaidd 1972 mewn perthynas â mesurau sy’n ymwneud â rheoli a rheoleiddio gollwng organeddau a addaswyd yn enetig yn fwriadol, eu gosod ar y farchnad a’u symud ar draws ffin.

Mae Gweinidogion Cymru yn gwneud y Rheoliadau a ganlyn drwy arfer y pwerau a roddir gan adran 2(2) o Ddeddf y Cymunedau Ewropeaidd 1972 ac adran 111(4) ac (11) o Ddeddf Diogelu’r Amgylchedd 1990, ar ôl ymgynghori â’r Asiantaeth Safonau Bwyd yn unol ag adran 126(5) o Ddeddf Diogelu’r Amgylchedd 1990.
Enwi a chychwyn
1 

(1) Enw’r Rheoliadau hyn yw Rheoliadau Organeddau a Addaswyd yn Enetig (Eu Gollwng yn Fwriadol) (Diwygio) (Cymru) (Diwygio) 2019.
(2) Daw’r Rheoliadau hyn i rym drannoeth y diwrnod y’u gwneir.
Diwygio Rheoliadau Organeddau a Addaswyd yn Enetig (Eu Gollwng yn Fwriadol) (Diwygio) (Cymru) 2019
2 
Mae Rheoliadau Organeddau a Addaswyd yn Enetig (Eu Gollwng yn Fwriadol) (Diwygio) (Cymru) 2019 wedi eu diwygio yn unol â rheoliadau 3 a 4.
Diwygio rheoliad 6
3 
Yn nhestun Cymraeg rheoliad 6 (diwygio Atodlen 1), ym mharagraff (13), ar ôl “chwynnog,” mewnosoder “ neu”.
Diwygio rheoliad 7
4 
Yn rheoliad 7 (mewnosod Atodlen 1A)—
(a) yn nhestun Cymraeg paragraff 3 a fewnosodir, yn lle “(e) enw cyffredin” rhodder “(dd) enw cyffredin”,
(b) yn nhestun paragraff 15(c) a fewnosodir, yn lle “14(dd)” rhodder “14(1)(e)”, ac
(c) yn nhestun Cymraeg paragraffau 22(a) a 24(1)(a) a fewnosodir, hepgorer “amgylcheddol”.
Lesley Griffiths
Gweinidog yr Amgylchedd, Ynni a Materion Gwledig, un o Weinidogion Cymru
28 Hydref 2019