
2019 Rhif 1404 (Cy. 247)
Landlord A Thenant, Cymru
Gorchymyn Deddf Daliadau Amaethyddol 1986 (Amrywio Atodlen 8) (Cymru) 2019
Gwnaed 28 Hydref 2019
Yn dod i rym 1 Tachwedd 2019

Mae Gweinidogion Cymru yn gwneud y Gorchymyn a ganlyn drwy arfer y pwerau a roddir gan adran 91(1) o Ddeddf Daliadau Amaethyddol 1986.
Yn unol â’r ddarpariaeth honno, mae Gweinidogion Cymru wedi ymgynghori â’r cyrff hynny o bersonau yr ymddengys i Weinidogion Cymru eu bod yn cynrychioli buddiannau landlordiaid a thenantiaid daliadau amaethyddol.

Yn unol ag adran 94(4) o Ddeddf Daliadau Amaethyddol 1986, gosodwyd drafft o’r Gorchymyn hwn gerbron Cynulliad Cenedlaethol Cymru ac fe’i cymeradwywyd ganddo drwy benderfyniad.
Enwi, cymhwyso a chychwyn
1 

(1) Enw’r Gorchymyn hwn yw Gorchymyn Deddf Daliadau Amaethyddol 1986 (Amrywio Atodlen 8) (Cymru) 2019.
(2) Mae’r Gorchymyn hwn yn gymwys o ran Cymru.
(3) Daw’r Gorchymyn hwn i rym ar 1 Tachwedd 2019.
Diwygio Atodlen 8
2 

(1) Mae Rhan 1 o Atodlen 8 i Ddeddf Daliadau Amaethyddol 1986 (gwaith gwella byrdymor y mae digollediad yn daladwy amdano) wedi ei diwygio fel a ganlyn.
(2) Ar ôl paragraff 4A mewnosoder—“
4B. 
Application to land in Wales of manure, fertiliser, soil improvers and digestate.”
(3) Hepgorer paragraff 5.
(4) Ar ôl paragraff 5A mewnosoder—“
5B. 

(1) In relation to Wales, production of manure arising from the consumption on the holding of relevant feedingstuff by livestock and equidae where the manure is held in storage on the holding.
(2) In this paragraph “relevant feedingstuff” means—
(a) corn (whether produced on the holding or not), or
(b) cake or other feedingstuff not produced on the holding.”
(5) Hepgorer paragraff 6.
Lesley Griffiths
Gweinidog yr Amgylchedd, Ynni a Materion Gwledig, un o Weinidogion Cymru
28 Hydref 2019