
2019 Rhif 1399 (Cy. 246)
Ardrethu A Phrisio, Cymru
Rheoliadau Cyfraniadau Ardrethu Annomestig (Cymru) (Diwygio) 2019
Gwnaed 28 Hydref 2019
Gosodwyd gerbron Cynulliad Cenedlaethol Cymru 29 Hydref 2019
Yn dod i rym 31 Rhagfyr 2019
Mae Gweinidogion Cymru yn gwneud y Rheoliadau a ganlyn drwy arfer y pwerau a roddir iddynt gan adran 60 o Ddeddf Cyllid Llywodraeth Leol 1988 a pharagraffau 4 a 6 o Atodlen 8 iddi.
Enwi, cychwyn, cymhwyso a dehongli
1 

(1) Enw’r Rheoliadau hyn yw Rheoliadau Cyfraniadau Ardrethu Annomestig (Cymru) (Diwygio) 2019 a deuant i rym ar 31 Rhagfyr 2019.
(2) Mae’r Rheoliadau hyn yn gymwys o ran Cymru.
(3) Yn y Rheoliadau hyn ystyr “Rheoliadau 1992” (“the 1992 Regulations”) yw Rheoliadau Cyfraniadau Ardrethu Annomestig (Cymru) 1992.
Diwygio Rheoliadau 1992
2 

(1) Mae Rheoliadau 1992 wedi eu diwygio fel a ganlyn mewn perthynas â’r blynyddoedd ariannol sy’n dechrau ar 1 Ebrill 2020 neu ar ôl hynny.
(2) Yn lle Atodlen 4 i Reoliadau 1992 rhodder yr Atodlen i’r Rheoliadau hyn.
Rebecca Evans
Y Gweinidog Cyllid a’r Trefnydd, un o Weinidogion Cymru
28 Hydref 2019
YR ATODLEN
Rheoliad 2
“

SCHEDULE 4

ADULT POPULATION FIGURES
Billing authority area Prescribed figure
Blaenau Gwent 56,110
Bridgend/Pen-y-bont ar Ogwr 115,510
Caerphilly/Caerffili 142,910
Cardiff/Caerdydd 289,610
Carmarthenshire/Sir Gaerfyrddin 150,170
Ceredigion 60,670
Conwy 95,780
Denbighshire/Sir Ddinbych 75,920
Flinthsire/Sir y Fflint 123,400
Gwynedd 100,760
Isle of Anglesey/Ynys Môn 56,520
Merthyr Tydfil/Merthyr Tudful 47,370
Monmouthshire/Sir Fynwy 76,570
Neath Port Talbot/Castell-nedd Port Talbot 114,860
Newport/Casnewydd 118,370
Pembrokeshire/Sir Benfro 101,000
Powys 108,420
Rhondda Cynon Taf 190,140
Swansea/Abertawe 199,280
Torfaen 73,820
Vale of Glamorgan/Bro Morgannwg 104,760
Wrexham/Wrecsam 106,930”