
2019 Rhif 1382 (Cy. 245)
Ymadael Â’r Undeb Ewropeaidd, Cymru
Hadau, Cymru
Rheoliadau Hadau (Diwygio etc.) (Cymru) (Ymadael â’r UE) 2019
Gwnaed am 6:00 p.m. ar 22 Hydref 2019
Yn dod i rym yn unol â rheoliad 1(2)

Mae Gweinidogion Cymru yn gwneud y Rheoliadau hyn drwy arfer y pwerau a roddir gan—
(a) mewn perthynas â Rhan 1, y pwerau a grybwyllir ym mharagraffau (b) ac (c);
(b) mewn perthynas â Rhan 2, adran 2(2) o Ddeddf y Cymunedau Ewropeaidd 1972;
(c) mewn perthynas â Rhan 3, paragraff 1(1) o Atodlen 2 i Ddeddf yr Undeb Ewropeaidd (Ymadael) 2018.
Mae Gweinidogion Cymru wedi eu dynodi at ddibenion adran 2(2) o Ddeddf y Cymunedau Ewropeaidd 1972 mewn perthynas â’r polisi amaethyddol cyffredin.
Mae’r gofyniad ym mharagraff 4(a) o Atodlen 2 (sy’n ymwneud ag ymgynghori â’r Ysgrifennydd Gwladol) i Ddeddf yr Undeb Ewropeaidd (Ymadael) 2018 wedi ei fodloni.

Yn unol ag adran 59(3) o Ddeddf Llywodraeth Cymru 2006 a pharagraff 1(9) o Atodlen 7 i Ddeddf yr Undeb Ewropeaidd (Ymadael) 2018, gosodwyd drafft o’r offeryn hwn gerbron Cynulliad Cenedlaethol Cymru ac fe’i cymeradwywyd drwy benderfyniad gan Gynulliad Cenedlaethol Cymru.
RHAN 1 Cyflwyniad
Enwi, cychwyn a chymhwyso
1 

(1) Enw’r Rheoliadau hyn yw Rheoliadau Hadau (Diwygio etc.) (Cymru) (Ymadael â’r UE) 2019.
(2) Daw’r Rheoliadau hyn i rym fel a ganlyn—
(a) o ran y Rhan hon a Rhan 2, drannoeth y diwrnod y gwneir y Rheoliadau hyn;
(b) o ran Rhan 3, yn union cyn y diwrnod ymadael.
(3) Mae’r Rheoliadau hyn yn gymwys o ran Cymru.
RHAN 2 Marchnata hadau a deunyddiau lluosogi planhigion: diwygio deddfwriaeth ddomestig
Rheoliadau Marchnata Planhigion Ffrwythau a Deunyddiau Lluosogi (Cymru) 2017
2 
Yn Rheoliadau Marchnata Planhigion Ffrwythau a Deunyddiau Lluosogi (Cymru) 2017, yn rheoliad 5, yn lle paragraffau (3) a (4) rhodder—“
(3) Caiff Gweinidogion Cymru awdurdodi marchnata deunyddiau planhigion o unrhyw wlad y tu allan i’r Undeb Ewropeaidd os ydynt wedi eu bodloni bod y deunyddiau planhigion wedi eu cynhyrchu o dan amodau sy’n cyfateb i’r gofynion yn y Rheoliadau hyn ar gyfer deunyddiau planhigion.”
RHAN 3 Marchnata hadau a deunyddiau lluosogi planhigion: diwygio deddfwriaeth ddomestig o ganlyniad i ymadawiad y Deyrnas Unedig â’r Undeb Ewropeaidd
Rheoliadau Marchnata Hadau a Deunyddiau Lluosogi Planhigion (Diwygio) (Cymru) (Ymadael â’r UE) 2019
3 

(1) Mae Rheoliadau Marchnata Hadau a Deunyddiau Lluosogi Planhigion (Diwygio) (Cymru) (Ymadael â’r UE) 2019 wedi eu diwygio fel a ganlyn.
(2) Yn rheoliad 5(4), yn lle’r geiriau cyn y testun a fewnosodir, rhodder—“
 Yn rheoliad 5—
(a) ym mharagraff (3), yn lle “Undeb Ewropeaidd” rhodder “Deyrnas Unedig”;
(b) ar y diwedd mewnosoder—”.
Lesley Griffiths
Gweinidog yr Amgylchedd, Ynni a Materion Gwledig, un o Weinidogion Cymru

Am 6:00 p.m. ar 22 Hydref 2019