
2019 Rhif 1378 (Cy. 244)
Iechyd Planhigion, Cymru
Hadau, Cymru
Rheoliadau Iechyd Planhigion etc. (Ffioedd Amrywiol) (Cymru) (Diwygio) 2019
Gwnaed 22 Hydref 2019
Gosodwyd gerbron Cynulliad Cenedlaethol Cymru 24 Hydref 2019
Yn dod i rym yn unol â rheoliad 1(2)
Mae Gweinidogion Cymru, gyda chydsyniad y Trysorlys, yn gwneud y Rheoliadau hyn drwy arfer y pwerau a roddir—
(a) mewn perthynas â rheoliad 1, gan y darpariaethau y cyfeirir atynt ym mharagraffau (b) ac (c);
(b) mewn perthynas â rheoliad 2, gan adrannau 3(1) a 4A o Ddeddf Iechyd Planhigion 1967;
(c) mewn perthynas â rheoliad 3, gan adran 56(1) a (2) o Ddeddf Cyllid 1973 ac a freiniwyd bellach ynddynt hwy.
Enwi, cychwyn a chymhwyso
1 

(1) Enw’r Rheoliadau hyn yw Rheoliadau Iechyd Planhigion etc. (Ffioedd Amrywiol) (Cymru) (Diwygio) 2019.
(2) Daw’r Rheoliadau hyn i rym 21 o ddiwrnodau ar ôl y dyddiad y’u gosodir.
(3) Maent yn gymwys o ran Cymru.
Diwygio Gorchymyn Iechyd Planhigion (Tystysgrifau Allforio) (Cymru) 2006
2 

(1) Mae Gorchymyn Iechyd Planhigion (Tystysgrifau Allforio) (Cymru) 2006 wedi ei ddiwygio fel a ganlyn.
(2) Yn erthygl 5—
(a) ym mharagraff (2)—
(i) yn is-baragraff (a)—(aa) yn lle “£250” rhodder “£750”;(bb) yn lle’r geiriau o “yng ngholofn 3” hyd at y diwedd rhodder “yng ngholofn 2 y tabl hwnnw”;
(ii) yn is-baragraff (b), yn lle’r geiriau o “yng ngholofn 4” hyd at y diwedd rhodder “yng ngholofn 3 y tabl hwnnw”;
(b) ym mharagraff (3), yn lle “yng ngholofnau 3 a 4” rhodder “yng ngholofnau 2 a 3”;
(c) ym mharagraff (4)—
(i) yn is-baragraff (a)—(aa) yn lle “£250” rhodder “£750”;(bb) yn lle “£7.43” rhodder “£7.88”;
(ii) yn is-baragraff (b), yn lle “£14.86” rhodder “£15.76”.
(3) Yn lle Atodlen 3, rhodder—“
ATODLEN 3
Ffioedd gwasanaethau tystysgrifau allforio a gwasanaethau cyn-allforio
Erthygl 5(1)


(1)Gwasanaeth (2)Ffi (£) (3)Ffi (£)
Arolygiad o lwyth 31.90 am bob cyfnod o 15 munud (neu ran o’r cyfnod hwnnw), yn ddarostyngedig i isafswm ffi o 63.80 63.80 am bob cyfnod o 15 munud (neu ran o’r cyfnod hwnnw), yn ddarostyngedig i isafswm ffi o 127.60
Archwiliad o arolygiad grawn a gynhelir yn unol ag erthygl 3(3) 13.20 am bob cyfnod o 15 munud (neu ran o’r cyfnod hwnnw), yn ddarostyngedig i isafswm ffi o 26.40 26.40 am bob cyfnod o 15 munud (neu ran o’r cyfnod hwnnw), yn ddarostyngedig i isafswm ffi o 52.80
Archwiliad mewn labordy 16.78 am bob sampl a brofir 33.56 am bob sampl a brofir
Dyroddi tystysgrif 12.76 am bob tystysgrif 25.52 am bob tystysgrif
Diwygio tystysgrif ar archiad yr allforiwr 7.88 am bob tystysgrif 15.76 am bob tystysgrif”.
Diwygio Rheoliadau Iechyd Planhigion etc. (Ffioedd) (Cymru) 2018
3 

(1) Mae Rheoliadau Iechyd Planhigion etc. (Ffioedd) (Cymru) 2018 wedi eu diwygio fel a ganlyn.
(2) Yn rheoliad 3—
(a) ym mharagraff (1)—
(i) yn lle “sydd ar ffurf” rhodder “i’r graddau y mae’n cynnwys”;
(ii) ar y diwedd mewnosoder “neu unrhyw beiriannau neu gerbydau sydd wedi eu gweithredu at ddibenion amaethyddol neu goedwigaeth”;
(b) ym mharagraff (2)—
(i) yn is-baragraff (a), yn lle “£9.71” rhodder “£10.51”;
(ii) yn lle is-baragraffau (b) ac (c), rhodder—“
(b) yn achos—
(i) llwyth o flodau wedi eu torri a restrir yn Atodlen 2 sy’n cynnwys—(aa) un lot o flodau wedi eu torri, y ffi a bennir mewn cysylltiad â’r blodau wedi eu torri hynny yng ngholofn 3 o’r tabl yn Atodlen 2;(bb) dwy lot neu ragor o flodau wedi eu torri, ffi sy’n gyfwerth â swm yr uchaf o’r ffioedd a bennir mewn cysylltiad â’r lotiau hynny yng ngholofn 3 o’r tabl hwnnw;
(ii) llwyth o ffrwythau neu lysiau a restrir yn Atodlen 2 sy’n cynnwys—(aa) un lot o ffrwythau neu lysiau, y ffi a bennir mewn cysylltiad â’r ffrwythau neu’r llysiau hynny yng ngholofn 3 o’r tabl yn Atodlen 2;(bb) dwy lot neu ragor o ffrwythau neu lysiau, ffi sy’n gyfwerth â swm yr uchaf o’r ffioedd a bennir mewn cysylltiad â’r lotiau hynny yng ngholofn 3 o’r tabl hwnnw;
(c) yn achos llwyth—
(i) sy’n cynnwys canghennau wedi eu torri o Phoenix spp. sy’n tarddu o Costa Rica ac nad yw’n cynnwys unrhyw ganghennau wedi eu torri eraill y mae’r rheoliad hwn yn gymwys iddynt, y ffi a bennir mewn cysylltiad â’r canghennau wedi eu torri hynny yng ngholofn 3 o’r tabl yn Atodlen 2;
(ii) yn achos unrhyw lwyth arall y mae’r rheoliad hwn yn gymwys iddo—(aa) pan fo’r llwyth yn cynnwys unrhyw beiriannau neu gerbydau sydd wedi eu gweithredu at ddibenion amaethyddol neu goedwigaeth, ffi o £5.98;(bb) pan fo’r llwyth yn cynnwys planhigion, cynhyrchion planhigion neu wrthrychau eraill o ddisgrifiad a bennir yng ngholofn 1 o’r tabl yn Atodlen 1, y ffi neu’r ffioedd a bennir mewn cysylltiad â’r planhigion hynny, y cynhyrchion planhigion hynny neu’r gwrthrychau eraill hynny yng ngholofn 2 o’r tabl hwnnw;”;
(iii) yn is-baragraff (d), yn lle “£157.08” rhodder “£147.35”;
(c) ym mharagraff (3), ar ôl y diffiniad o “pla planhigion a reolir”, mewnosoder—“(aa) mae i “Ewrop” yr ystyr a roddir yn erthygl 2(1) o Orchymyn 2018;(ab) ystyr “lot” yw un uned neu ragor o un nwydd, y gellir ei adnabod drwy gydrywiaeth ei gyfansoddiad a’i darddiad, sy’n ffurfio rhan o lwyth;(ac) ystyr “llwyth o flodau wedi eu torri a restrir yn Atodlen 2” yw llwyth sy’n cynnwys blodau wedi eu torri o ddisgrifiad a bennir yng ngholofn 1 o’r tabl yn Atodlen 2 sy’n tarddu o wlad a bennir yng ngholofn 2 o’r tabl hwnnw ac nad yw’n cynnwys unrhyw flodau wedi eu torri eraill y mae’r rheoliad hwn yn gymwys iddynt;(ad) ystyr “llwyth o ffrwythau neu lysiau a restrir yn Atodlen 2” yw llwyth sy’n cynnwys ffrwythau neu lysiau o ddisgrifiad a bennir yng ngholofn 1 o’r tabl yn Atodlen 2 sy’n tarddu o wlad a bennir yng ngholofn 2 o’r tabl hwnnw ac nad yw’n cynnwys unrhyw ffrwythau na llysiau eraill y mae’r rheoliad hwn yn gymwys iddynt;”.
(3) Yn rheoliad 4—
(a) ym mharagraff (2), yn lle “ffioedd a bennir yn y tabl yn Atodlen 3” rhodder “ffi a bennir ym mharagraff (3)”;
(b) yn lle paragraff (3) rhodder—“
(3) Mae ffi o £61.58 yn daladwy am bob cyfnod o 15 munud (neu ran o’r cyfnod hwnnw) a dreulir yn cynnal yr arolygiad ac unrhyw weithgareddau cysylltiedig yn y fangre berthnasol, yn ddarostyngedig i isafswm ffi o £123.16.”;
(c) ym mharagraff (4), yn lle “£18.78” rhodder “£20.66”.
(4) Yn rheoliad 6(1), yn lle “£60.40” rhodder “£70.83”.
(5) Yn rheoliad 8—
(a) ym mharagraff (4), yn lle “£14.76” rhodder “£15.76”;
(b) ar ôl paragraff (4) mewnosoder—“
(4A) Pan fo person yn cyflwyno cais ar gyfer darparu labelau argraffedig, mae’r ffi ychwanegol a ganlyn yn daladwy—
(a) yn achos cais a gyflwynir ar-lein, £11.45;
(b) yn achos cais a gyflwynir ar bapur, £15.61.”.
(6) Yn lle rheoliad 9(2) rhodder—“
(2) Mae ffi o £26.00 am bob cyfnod o 15 munud (neu ran o’r cyfnod hwnnw) yn daladwy mewn cysylltiad â’r amser a dreulir yn cynnal archwiliad swyddogol ac unrhyw weithgareddau cysylltiedig yn y fangre berthnasol at ddibenion ardystio’r deunydd, yn ddarostyngedig i isafswm ffi o £52.00.”.
(7) Yn lle Atodlen 1 rhodder—“
ATODLEN 1
Ffioedd arolygu mewnforio
Rheoliad 3(1)


Colofn 1Planhigyn, cynnyrch planhigion neu wrthrych arall Colofn 2Ffi (£)
Torion, egin blanhigion (ac eithrio deunydd lluosogi coedwigaeth), planhigion ifanc mefus neu lysiau 173.91
Llwyni, coed (ac eithrio coed Nadolig wedi eu torri), planhigion meithrinfa prennaidd eraill gan gynnwys deunydd lluosogi coedwigaeth (ac eithrio had) 182.38
Bylbiau, cormau, rhisomau, cloron, a fwriedir ar gyfer eu plannu (ac eithrio cloron tatws) 205.04
Hadau, meithriniad meinwe 128.13
Planhigion eraill a fwriedir ar gyfer eu plannu, nas pennir yn unman arall yn y tabl hwn 182.38
Blodau wedi eu torri 42.75
Canghennau gyda deiliant, rhannau o goed conwydd (ac eithrio coed Nadolig wedi eu torri) 33.99
Coed Nadolig wedi eu torri 119.64
Dail planhigion, megis perlysiau, sbeisys a llysiau deiliog 71.68
Ffrwythau, llysiau (ac eithrio llysiau deiliog) 53.10
Cloron tatws 156.69
Pridd a chyfrwng tyfu, rhisgl 119.64
Grawn 142.98
Planhigion eraill neu gynhyrchion planhigion eraill nas pennir yn unman arall yn y tabl hwn, ac eithrio coed fforestydd 22.73”.
(8) Yn lle Atodlen 2 rhodder—“
ATODLEN 2
Ffioedd arolygu mewnforio: cyfraddau gostyngol
Rheoliad 3(2)(c)


Colofn 1Genws Colofn 2Gwlad tarddiad Colofn 3Ffi (£)
Blodau wedi eu torri
Aster Zimbabwe 32.06
Dianthus Colombia 1.28
 Ecuador 6.41
 Kenya 2.14
 Twrci 6.41
Rosa Colombia 1.28
 Ecuador 0.43
 Ethiopia 2.14
 Kenya 4.28
 Tanzania 21.38
 Zambia 4.28
Canghennau gyda Deiliant
Phoenix Costa Rica 17.00
Ffrwythau
Actinidia Unrhyw drydedd wlad 2.66
Carica papaya Unrhyw drydedd wlad 2.66
Citrus Yr Aifft 39.83
 Moroco 1.59
 Periw 5.31
 Twrci 1.59
 UDA 13.28
Citrus limon a citrus aurantifolia Israel 13.28
Cydonia Unrhyw drydedd wlad yn Ewrop 2.66
Fragaria Unrhyw drydedd wlad 2.66
Malus Ariannin 18.59
 Brasil 26.55
 Chile 2.66
 Unrhyw drydedd wlad yn Ewrop 2.66
 Seland Newydd 5.31
 De Affrica 2.66
Mangifera Brasil 26.55
Passiflora Colombia 3.72
 Kenya 13.28
 De Affrica 18.59
 Fiet-nam 13.28
 Zimbabwe 26.55
Persea americana Unrhyw drydedd wlad 2.66
Prunus Ariannin 39.83
 Chile 5.31
 Unrhyw drydedd wlad yn Ewrop 2.66
 Moroco 26.55
 Twrci 18.59
 UDA 26.55
Prunus ac eithrio prunus persica De Affrica 2.66
Pyrus Ariannin 7.97
 Chile 7.97
 Tsieina 26.55
 Unrhyw drydedd wlad yn Ewrop 2.66
 De Affrica 5.31
Ribes Unrhyw drydedd wlad yn Ewrop 2.66
Rubus Unrhyw drydedd wlad 2.66
Vaccinium Ariannin 13.28
 Unrhyw drydedd wlad yn Ewrop 2.66
Vitis Unrhyw drydedd wlad 2.66
Llysiau
Solanum lycopersicon Yr Ynysoedd Dedwydd 2.66
 Moroco 2.66
Solanum melongena Twrci 13.28”.
(9) Hepgorer Atodlen 3.
(10) Yn lle Atodlen 4 rhodder—“
ATODLEN 4
Ffioedd trwydded iechyd planhigion
Rheoliad 5(1)

Yn yr Atodlen hon—
 ystyr “cyfnod 1” yw’r cyfnod sy’n dod i ben ar 31 Mawrth 2020;
 ystyr “cyfnod 2” yw’r cyfnod sy’n dechrau ar 1 Ebrill 2020 ac sy’n dod i ben ar 30 Medi 2020.

Colofn 1Y math o gais neu arolygiad Colofn 2Dyddiad y cais Colofn 3Ffi (£)
Cais am drwydded at ddibenion gwyddonol neu dreialu, ac eithrio—
— trwydded mewn cysylltiad â dadansoddi pridd neu gyfrwng tyfu arall
— trwydded at ddibenion gwyddonol neu dreialu sy’n cwmpasu 5 neu ragor o eitemau  995.36
Cais am drwydded at ddibenion gwyddonol neu dreialu sy’n cwmpasu 5 neu ragor o eitemau  995.36, plws 52.45 am bob eitem dros 5
Cais am drwydded mewn cysylltiad â dadansoddi pridd neu gyfrwng tyfu arall, ac eithrio trwydded mewn cysylltiad â dadansoddi pridd neu gyfrwng tyfu arall sy’n cwmpasu 5 neu ragor o eitemau  745.41
Cais am drwydded mewn cysylltiad â dadansoddi pridd neu gyfrwng tyfu arall sy’n cwmpasu 5 neu ragor o eitemau  745.41, plws 52.45 am bob eitem dros 5
Cais i amrywio trwydded gyda newidiadau y mae asesiad gwyddonol neu dechnegol yn ofynnol ar eu cyfer  380.25
Cais am unrhyw drwydded arall  42.50
Dyroddi llythyr awdurdodi blynyddol  42.50
Monitro a gydymffurfir ag amodau a thelerau trwydded Yn achos monitro a wneir yng nghyfnod 1 69.75 am bob cyfnod o 15 munud (neu ran o’r cyfnod hwnnw), yn ddarostyngedig i isafswm ffi o 139.50
 Yn achos monitro a wneir yng nghyfnod 2 81.25 am bob cyfnod o 15 munud (neu ran o’r cyfnod hwnnw), yn ddarostyngedig i isafswm ffi o 162.50
 Yn achos monitro a wneir ar 1 Hydref 2020 neu ar ôl hynny 92.67 am bob cyfnod o 15 munud (neu ran o’r cyfnod hwnnw), yn ddarostyngedig i isafswm ffi o 185.34
”.
(11) Yn lle Atodlen 5 rhodder—“
ATODLEN 5
Tatws hadyd: ffioedd
Rheoliad 8(1)


Colofn 1Gweithgaredd Colofn 2Ffi (£) Colofn 3Isafswm ffi (£)
Samplu a phrofi pridd ar gyfer Llyngyr Tatws
Samplu a phrofi pridd at ddibenion paragraff 4, 7 neu 9 o Atodlen 1 i Reoliadau Tatws Hadyd (Cymru) 2016 24.75 am bob hectar (neu ran ohono) sy’n cael ei samplu a’i brofi 
Arolygu cnydau sy’n tyfu
Ardystio yn datws hadyd cyn-sylfaenol: Gradd PBTC yr Undeb 30.39 am bob cyfnod o 15 munud (neu ran o’r cyfnod hwnnw) 60.78
Ardystio yn datws hadyd cyn-sylfaenol: Gradd PB yr Undeb 12.16 am bob 0.1 hectar (neu ran ohono) a arolygir 60.75
Ardystio yn datws hadyd sylfaenol: Gradd S yr Undeb 10.57 am bob 0.1 hectar (neu ran ohono) a arolygir 105.70
Ardystio yn datws hadyd sylfaenol: Gradd SE yr Undeb 10.57 am bob 0.1 hectar (neu ran ohono) a arolygir 105.70
Ardystio yn datws hadyd sylfaenol: Gradd E yr Undeb 10.33 am bob 0.1 hectar (neu ran ohono) a arolygir 103.30
Ardystio yn datws hadyd ardystiedig: Gradd A neu B yr Undeb 9.39 am bob 0.1 hectar (neu ran ohono) a arolygir 93.90
Arolygu cloron a gynaeafwyd
Arolygu 40.55 am bob cyfnod o 15 munud (neu ran o’r cyfnod hwnnw) 81.10
Darparu labelau a seliau mewn cysylltiad â cheisiadau
Labelau argraffedig ar gyfer bagiau sy’n dal 50 kg o datws hadyd neu lai 0.05 am bob label 
Labelau a seliau argraffedig ar gyfer bagiau sy’n dal mwy na 50 kg o datws hadyd 0.11 am bob label (gan gynnwys sêl) 
Labelau a seliau gwag 0.16 am bob label (gan gynnwys sêl) ”.
Lesley Griffiths
Gweinidog yr Amgylchedd, Ynni a Materion Gwledig, un o Weinidogion Cymru
22 Hydref 2019