Rheoliadau a wnaed gan Weinidogion Cymru, a osodwyd gerbron Cynulliad Cenedlaethol Cymru o dan baragraff 7(3) o Atodlen 7 i Ddeddf yr Undeb Ewropeaidd (Ymadael) 2018, i’w cymeradwyo drwy benderfyniad gan Gynulliad Cenedlaethol Cymru o fewn 28 diwrnod, gan ddechrau ar y diwrnod y gwnaed y Rheoliadau, yn ddarostyngedig i’w estyn dros gyfnodau o ddiddymu neu pan fo toriad am fwy na phedwar diwrnod.
2019 Rhif 1376 (Cy. 242)
Ymadael Â’r Undeb Ewropeaidd, Cymru
Bwyd, Cymru
Garddwriaeth, Cymru
Rheoliadau Materion Gwledig (Diwygiadau Amrywiol) (Cymru) (Ymadael â’r UE) (Rhif 3) 2019
Gwnaed 23 Hydref 2019
Gosodwyd gerbron Cynulliad Cenedlaethol Cymru 25 Hydref 2019
Yn dod i rym yn unol â rheoliad 1(2)

Mae Gweinidogion Cymru, drwy arfer y pŵer a roddir gan baragraff 1(1) o Atodlen 2 a pharagraff 21 o Atodlen 7 i Ddeddf yr Undeb Ewropeaidd (Ymadael) 2018, yn gwneud y Rheoliadau a ganlyn.
Mae Gweinidogion Cymru o’r farn, oherwydd brys, fod angen gwneud y Rheoliadau hyn heb osod drafft o’r offeryn gerbron Cynulliad Cenedlaethol Cymru, na chymeradwyo’r drafft hwnnw drwy benderfyniad ganddo.
Yn unol â pharagraff 4(a) o Atodlen 2 i Ddeddf yr Undeb Ewropeaidd (Ymadael) 2018, mae Gweinidogion Cymru wedi ymgynghori â’r Ysgrifennydd Gwladol ynghylch diwygio Rheoliadau Bwyd (Diwygiadau Amrywiol) (Cymru) (Ymadael â’r UE) 2019 a diwygio Rheoliadau Gwybodaeth am Fwyd (Cymru) (Diwygio) (Ymadael â’r UE) 2019.

Fel sy’n ofynnol gan Erthygl 9 o Reoliad (EC) Rhif 178/2002 Senedd Ewrop a’r Cyngor sy’n gosod egwyddorion a gofynion cyffredinol cyfraith bwyd, yn sefydlu Awdurdod Diogelwch Bwyd Ewrop ac yn gosod gweithdrefnau o ran materion diogelwch bwyd, ymgynghorwyd yn agored ac yn dryloyw â’r cyhoedd wrth lunio’r Rheoliadau hyn o ran diwygio Rheoliadau Marchnata Cynnyrch Garddwriaethol Ffres (Cymru) 2009, Rheoliadau Wyau a Chywion (Cymru) 2010, Rheoliadau Cig Dofednod (Cymru) 2011, Rheoliadau Gwybodaeth am Fwyd (Cymru) (Diwygio) (Ymadael â’r UE) 2019 a Rheoliadau Bwyd (Diwygiadau Amrywiol) (Cymru) (Ymadael â’r UE) 2019.
Enwi a chychwyn
1 

(1) Enw’r Rheoliadau hyn yw Rheoliadau Materion Gwledig (Diwygiadau Amrywiol) (Cymru) (Ymadael â’r UE) (Rhif 3) 2019.
(2) Ac eithrio rheoliadau 5 a 6, a ddaw i rym yn union cyn y diwrnod ymadael, daw’r Rheoliadau hyn i rym ar y diwrnod ymadael.
Diwygio Rheoliadau Marchnata Cynnyrch Garddwriaethol Ffres (Cymru) 2009
2 
Yn Rheoliadau Marchnata Cynnyrch Garddwriaethol Ffres (Cymru) 2009, ar ôl rheoliad 22 mewnosoder—“
Darpariaethau trosiannol: ymadael â’r UE
23. 

(1) Nid yw rheoliad 4 yn gymwys mewn perthynas â methiant i gydymffurfio ag Erthygl 7 o Reoliad Gweithredu’r Comisiwn 543/2011—
(a) os yw’r mater sy’n ffurfio’r toriad honedig yn ymwneud â chynnyrch a osodwyd ar y farchnad cyn diwedd y cyfnod o 21 o fisoedd sy’n dechrau ar y diwrnod y mae’r diwrnod ymadael yn digwydd, a
(b) pe na bai’r mater sy’n ffurfio’r toriad honedig wedi ffurfio toriad o’r Rheoliad hwnnw fel yr oedd yn gymwys yn union cyn y diwrnod ymadael.
(2) Ni chaiff swyddog awdurdodedig arfer y pwerau o dan reoliad 11(1) mewn perthynas â methiant i gydymffurfio ag Erthygl 7 o Reoliad Gweithredu’r Comisiwn 543/2011—
(a) os yw’r mater sy’n ffurfio’r toriad honedig yn ymwneud â chynnyrch a osodwyd ar y farchnad cyn diwedd y cyfnod o 21 o fisoedd sy’n dechrau ar y diwrnod y mae’r diwrnod ymadael yn digwydd, a
(b) pe na bai’r mater sy’n ffurfio’r toriad honedig wedi ffurfio toriad o’r Rheoliad hwnnw fel yr oedd yn gymwys yn union cyn y diwrnod ymadael.”
Diwygio Rheoliadau Wyau a Chywion (Cymru) 2010
3 

(1) Mae Rheoliadau Wyau a Chywion (Cymru) 2010 wedi eu diwygio fel a ganlyn.
(2) Yn rheoliad 3(1), yn y lle priodol, mewnosoder y diffiniad a ganlyn—“
 ystyr “trydedd wlad” (“third country”) yw unrhyw wlad neu diriogaeth heblaw—
(a) y Deyrnas Unedig;
(b) Beilïaeth Guernsey;
(c) Beilïaeth Jersey;
(d) Ynys Manaw;”.
(3) Yn Atodlen 1, yn Rhan 2, yn y tabl, hepgorer rhes 6.
(4) Yn Atodlen 2, yn Rhan 2, yn y tabl—
(a) yn rhes 2, yng ngholofn 2, hepgorer “Erthygl 3 o Reoliad y Comisiwn (EC) Rhif 589/2008”, a
(b) hepgorer rhesi 18 i 20.
(5) Yn Atodlen 3, yn y tabl, yn rhes 1, yng ngholofn 3, hepgorer “cenedlaethol”.
Diwygio Rheoliadau Cig Dofednod (Cymru) 2011
4 
Yn Rheoliadau Cig Dofednod (Cymru) 2011, yn rheoliad 2(1), yn y lle priodol, mewnosoder y diffiniad a ganlyn—“
 ystyr “trydedd wlad” (“third country”) yw unrhyw wlad neu diriogaeth heblaw—
(a) y Deyrnas Unedig;
(b) Beilïaeth Guernsey;
(c) Beilïaeth Jersey;
(d) Ynys Manaw.”
Diwygio Rheoliadau Bwyd (Diwygiadau Amrywiol) (Cymru) (Ymadael â’r UE) 2019
5 
Yn Rheoliadau Bwyd (Diwygiadau Amrywiol) (Cymru) (Ymadael â’r UE) 2019, yn rheoliad 4(2), yn lle is-baragraff (b) rhodder—“
(b) ar ôl paragraff (3) mewnosoder—“
(4) Nid yw paragraff (1)(b)(ii) yn gymwys mewn perthynas â methiant i gydymffurfio ag Erthygl 2(2)(b) o Reoliad (EC) Rhif 1825/2000 Senedd Ewrop a’r Cyngor—
(a) os yw’r mater sy’n ffurfio’r toriad honedig yn ymwneud â chynnyrch a osodwyd ar y farchnad cyn diwedd y cyfnod o 21 o fisoedd sy’n dechrau ar y diwrnod y mae’r diwrnod ymadael yn digwydd, a
(b) pe na bai’r mater sy’n ffurfio’r toriad honedig wedi ffurfio toriad o’r Rheoliad hwnnw fel yr oedd yn gymwys yn union cyn y diwrnod ymadael.””
Diwygio Rheoliadau Gwybodaeth am Fwyd (Cymru) (Diwygio) (Ymadael â’r UE) 2019
6 

(1) Mae rheoliad 2 o Reoliadau Gwybodaeth am Fwyd (Cymru) (Diwygio) (Ymadael â’r UE) 2019 wedi ei ddiwygio fel a ganlyn.
(2) Yn lle’r geiriau sydd i’w mewnosod yn Rheoliadau Gwybodaeth am Fwyd (Cymru) 2014 fel rheoliad 15(2) rhodder—“
(2) Caniateir marchnata cynhyrchion y mae paragraff (1) yn gymwys iddynt nes i’r stociau gael eu disbyddu.”
(3) Yn lle’r geiriau sydd i’w mewnosod yn Rheoliadau Gwybodaeth am Fwyd (Cymru) 2014 fel rheoliad 15(4) rhodder—“
(4) Caniateir marchnata cynhyrchion gwin y mae paragraff (3) yn gymwys iddynt nes i’r stociau gael eu disbyddu.
(4A) Caniateir marchnata cynhyrchion eraill y mae paragraff (3) yn gymwys iddynt hyd nes diwedd y cyfnod perthnasol.”
Lesley Griffiths
Gweinidog yr Amgylchedd, Ynni a Materion Gwledig, un o Weinidogion Cymru

23 Hydref 2019