Rheoliadau a wnaed gan Weinidogion Cymru, a osodwyd gerbron Cynulliad Cenedlaethol Cymru o dan baragraff 7(3) o Atodlen 7 i Ddeddf yr Undeb Ewropeaidd (Ymadael) 2018, i’w cymeradwyo drwy benderfyniad gan Gynulliad Cenedlaethol Cymru o fewn 28 diwrnod, gan ddechrau ar y diwrnod y gwnaed y Rheoliadau, yn ddarostyngedig i’w estyn dros gyfnodau o ddiddymu neu pan fo toriad am fwy na phedwar diwrnod.
2019 Rhif 1375 (Cy. 241)
Ymadael Â’r Undeb Ewropeaidd, Cymru
Iechyd Anifeiliaid, Cymru
Rheoliadau Iechyd a Lles Anifeiliaid (Diwygiadau Amrywiol) (Cymru) (Ymadael â’r UE) (Diwygio) 2019
Gwnaed 23 Hydref 2019
Gosodwyd gerbron Cynulliad Cenedlaethol Cymru 25 Hydref 2019
Yn dod i rym yn unol â rheoliad 1(2)

Mae Gweinidogion Cymru, drwy arfer y pŵer a roddir gan baragraff 1(1) o Atodlen 2, a pharagraff 21 o Atodlen 7, i Ddeddf yr Undeb Ewropeaidd (Ymadael) 2018, yn gwneud y Rheoliadau a ganlyn.
Mae Gweinidogion Cymru o’r farn, oherwydd brys, fod angen gwneud y Rheoliadau hyn heb osod drafft o’r offeryn gerbron Cynulliad Cenedlaethol Cymru, na chymeradwyo’r drafft hwnnw drwy benderfyniad ganddo.

Yn unol â pharagraff 4 o Atodlen 2 i’r Ddeddf honno, mae Gweinidogion Cymru wedi ymgynghori â’r Ysgrifennydd Gwladol.
Enwi a chychwyn
1 

(1) Enw’r Rheoliadau hyn yw Rheoliadau Iechyd a Lles Anifeiliaid (Diwygiadau Amrywiol) (Cymru) (Ymadael â’r UE) (Diwygio) 2019.
(2) Daw’r Rheoliadau hyn i rym yn union cyn y diwrnod ymadael.
Rheoliadau Iechyd a Lles Anifeiliaid (Diwygiadau Amrywiol) (Cymru) (Ymadael â’r UE) 2019
2 
Yn rheoliad 5(2) o Reoliadau Iechyd a Lles Anifeiliaid (Diwygiadau Amrywiol) (Cymru) (Ymadael â’r UE) 2019, ar ôl is-baragraff (a) mewnosoder—“
(aa) ym mharagraff (1), yn y diffiniad o “tystiolaeth o hyfforddi ac arholi”, ar ôl paragraff (a) mewnosoder—“
(aa) dogfen sy’n ardystio bod arholiad terfynol annibynnol wedi ei basio, a ddyroddir gan—
(i) corff sydd wedi ei ddynodi gan Weriniaeth Iwerddon i fod yn gyfrifol am draddodi tystysgrifau yn unol ag Erthygl 21(1) o Reoliad yr UE, fel y mae’n cael effaith yng nghyfraith yr UE fel y’i diwygir o bryd i’w gilydd, neu
(ii) corff y mae’r swyddogaeth o gynnal yr arholiad terfynol neu ddyroddi tystysgrifau wedi cael ei dirprwyo iddo yng Ngweriniaeth Iwerddon yn unol ag Erthygl 21(2) o Reoliad yr UE, fel y mae’n cael effaith yng nghyfraith yr UE fel y’i diwygir o bryd i’w gilydd,
(ab) tystysgrif a ddyroddir yng Ngweriniaeth Iwerddon drwy ddibynnu ar Erthygl 29(2) o Reoliad yr UE fel y mae’n cael effaith yng nghyfraith yr UE,”;”.
Lesley Griffiths
Gweinidog yr Amgylchedd, Ynni a Materion Gwledig, un o Weinidogion Cymru

23 Hydref 2019