
2019 Rhif 1363 (Cy. 236)
Addysg, Cymru
Gorchymyn Cyflog ac Amodau Athrawon Ysgol (Cymru) 2019
Gwnaed 18 Hydref 2019
Gosodwyd gerbron Cynulliad Cenedlaethol Cymru 22 Hydref 2019
Yn dod i rym 12 Tachwedd 2019

Mae Gweinidogion Cymru, drwy arfer y pwerau a roddir i’r Ysgrifennydd Gwladol gan adrannau 122(1), 123 a 124 o Ddeddf Addysg 2002, ac a freiniwyd bellach ynddynt hwy, yn gwneud y Gorchymyn a ganlyn.

Mae Gweinidogion Cymru yn unol ag adran 126 o’r Ddeddf honno wedi ymgynghori â’r personau hynny a’r cyrff hynny y cyfeirir atynt yn yr adran honno yr oedd yn ymddangos i Weinidogion Cymru eu bod yn briodol.
Enwi, cychwyn, cymhwyso a dehongli
1 

(1) Enw’r Gorchymyn hwn yw Gorchymyn Cyflog ac Amodau Athrawon Ysgol (Cymru) 2019 a daw i rym ar 12 Tachwedd 2019.
(2) Mae’r Gorchymyn hwn yn gymwys i athrawon ysgol yng Nghymru.
(3) Yn y Gorchymyn hwn, ystyr “y Ddogfen” yw’r ddogfen o’r enw “Dogfen Cyflog ac Amodau Athrawon Ysgol (Cymru) 2019 a chanllawiau ar gyflog ac amodau athrawon ysgol” dyddiedig Medi 2019.
Y Ddogfen
2 
Mae’r darpariaethau a nodir yn adran 2 o’r Ddogfen yn cael effaith ar ac ar ôl 1 Medi 2019 at ddibenion penderfynu—
(a) y tâl ar gyfer athrawon ysgol, a
(b) amodau cyflogaeth eraill ar gyfer athrawon ysgol sy’n ymwneud â’u dyletswyddau proffesiynol a’u hamser gweithio.
Dirymu
3 
Mae Gorchymyn Cyflog ac Amodau Athrawon Ysgol 2018 wedi ei ddirymu i’r graddau y mae’n gymwys mewn perthynas ag athrawon ysgol yng Nghymru.
Kirsty Williams
Y Gweinidog Addysg, un o Weinidogion Cymru
18 Hydref 2019