
2019 Rhif 1334 (Cy. 232)
Ymadael Â’r Undeb Ewropeaidd, Cymru
Anifeiliaid, Cymru
Iechyd Planhigion, Cymru
Rheoliadau Materion Gwledig (Diwygiadau Amrywiol) (Cymru) (Ymadael â’r UE) (Rhif 2) 2019
Gwnaed 9 Hydref 2019
Yn dod i rym yn unol â rheoliad 1(2)

Mae Gweinidogion Cymru, drwy arfer y pŵer a roddir gan baragraff 1(1) o Atodlen 2 a pharagraff 21 o Atodlen 7 i Ddeddf yr Undeb Ewropeaidd (Ymadael) 2018, yn gwneud y Rheoliadau a ganlyn.
Yn unol â pharagraff 1(9) o Atodlen 7 i’r Ddeddf honno, gosodwyd drafft o’r offeryn hwn gerbron Cynulliad Cenedlaethol Cymru ac fe’i cymeradwywyd ganddo drwy benderfyniad.

Yn unol â pharagraff 4(a) o Atodlen 2 i’r Ddeddf honno, mae Gweinidogion Cymru wedi ymgynghori â’r Ysgrifennydd Gwladol ynghylch diwygio Rheoliadau Iechyd Planhigion (Diwygio) (Cymru) (Ymadael â’r UE) 2019 a Rheoliadau Materion Gwledig, yr Amgylchedd, Pysgodfeydd a Bwyd (Diwygiadau a Dirymiadau Amrywiol) (Cymru) 2019.
Enwi a chychwyn
1 

(1) Enw’r Rheoliadau hyn yw Rheoliadau Materion Gwledig (Diwygiadau Amrywiol) (Cymru) (Ymadael â’r UE) (Rhif 2) 2019.
(2) Ac eithrio rheoliad 2, a ddaw i rym ar y diwrnod ymadael, daw’r Rheoliadau hyn i rym yn union cyn y diwrnod ymadael.
Diwygio Rheoliadau’r Fasnach mewn Anifeiliaid a Chynhyrchion Perthynol (Cymru) 2011
2 

(1) Mae Rheoliadau’r Fasnach mewn Anifeiliaid a Chynhyrchion Perthynol (Cymru) 2011 wedi eu diwygio fel a ganlyn.
(2) Yn rheoliad 2—
(a) ym mharagraff (1)—
(i) hepgorer y diffiniad o “cynnyrch” (“product”);
(ii) yn y lle priodol, mewnosoder y diffiniad a ganlyn—“
 ystyr “y rhestr cyfundrefn enwi gyhoeddedig” (“the published nomenclature list”) yw’r rhestr o gynhyrchion a gyhoeddir ac a ddiwygir o bryd i’w gilydd gan yr Ysgrifennydd Gwladol, sy’n pennu cynhyrchion drwy gyfeirio at y gyfundrefn enwi berthnasol at ddibenion penderfynu ar y detholiad o lwythi y mae rhaid eu cyflwyno ar gyfer gwiriadau milfeddygol wrth arolygfa ffin.”;
(b) ar ôl paragraff (2) mewnosoder—“
(3) At ddibenion unrhyw gyfeiriad at Gyfarwyddeb yn y Rheoliadau hyn, mae unrhyw offeryn gan yr UE y mae’r Gyfarwyddeb honno yn cyfeirio ato, neu y mae unrhyw offeryn gan yr UE y cyfeirir ato gan y Gyfarwyddeb honno yn cyfeirio ato, ac sy’n gyfeiriad at yr offeryn hwnnw fel y mae’n cael effaith o bryd i’w gilydd, i’w ddarllen fel pe bai’n gyfeiriad at yr offeryn fel y mae’n cael effaith yn union cyn y diwrnod ymadael.”
(3) Yn rheoliad 4, yn lle “masnach â” rhodder “masnach ag Ynysoedd Faröe, Kalaallit Nunaat (Greenland),”.
(4) Yn rheoliad 9, yn lle “ym Mhenderfyniad y Comisiwn 2007/275/EC, fel y’i diwygiwyd ddiwethaf gan Benderfyniad Gweithredu’r Comisiwn (EU) 2016/1196” rhodder “yn y rhestr cyfundrefn enwi gyhoeddedig”.
(5) Yn rheoliad 12(4), yn lle “ym Mhennod 3 o Atodiad I i Benderfyniad y Comisiwn 2007/275/EC, fel y’i diwygiwyd ddiwethaf gan Benderfyniad Gweithredu’r Comisiwn (EU) 2016/1196” rhodder “ym Mhennod 3 (pysgod a chramenogion, molysgiaid ac infertebratau dyfrol eraill) o’r rhestr cyfundrefn enwi gyhoeddedig,”.
(6) Yn rheoliad 15—
(a) ym mharagraff (1), yn y geiriau o flaen is-baragraff (a), yn lle’r geiriau o “ddogfennaeth” hyd at “Atodlen 1” rhodder “dystysgrif iechyd berthnasol a gyhoeddir gan Weinidogion Cymru neu (yn ôl y digwydd) yr Ysgrifennydd Gwladol”;
(b) ym mharagraff (3)(a), yn lle “gofynion sy’n ymwneud ag ef yn yr offeryn perthnasol” rhodder “amodau masnach sy’n berthnasol iddo mewn unrhyw gyfraith yr UE a ddargedwir neu offeryn arall gan yr Undeb Ewropeaidd”.
(7) Yn Atodlen 3, ym mharagraff 6(1), yn lle “Atodiad II i Benderfyniad y Comisiwn 2007/275/EC” rhodder “y rhestr o gynhyrchion cyfansawdd a deunyddiau bwyd sydd wedi eu heithrio rhag gwiriadau mewnforio milfeddygol a gyhoeddir gan yr Ysgrifennydd Gwladol”.
Diwygio Rheoliadau Iechyd Planhigion (Diwygio) (Cymru) (Ymadael â’r UE) 2019
3 
Yn Rheoliadau Iechyd Planhigion (Diwygio) (Cymru) (Ymadael â’r UE) 2019, yn rheoliad 28(c), yn lle “paragraffau (7) ac (8)” rhodder “paragraff (8)”.
Diwygio Rheoliadau Materion Gwledig, yr Amgylchedd, Pysgodfeydd a Bwyd (Diwygiadau a Dirymiadau Amrywiol) (Cymru) 2019
4 
Yn Rheoliadau Materion Gwledig, yr Amgylchedd, Pysgodfeydd a Bwyd (Diwygiadau a Dirymiadau Amrywiol) (Cymru) 2019, hepgorer rheoliad 13.
Lesley Griffiths
Gweinidog yr Amgylchedd, Ynni a Materion Gweldig, un o Weinidogion Cymru
9 Hydref 2019