
2019 Rhif 1333 (Cy. 231) (C. 44)
Dehongli Deddfwriaeth, Cymru
Gorchymyn Deddf Deddfwriaeth (Cymru) 2019 (Cychwyn) 2019
Gwnaed 10 Hydref 2019
Yn dod i rym yn unol ag erthygl 1(2)
Mae Gweinidogion Cymru yn gwneud y Gorchymyn a ganlyn drwy arfer y pwerau a roddir iddynt gan adrannau 38 a 44(2) o Ddeddf Deddfwriaeth (Cymru) 2019.
Enwi, dod i rym a dehongli
1 

(1) Enw’r Gorchymyn hwn yw Gorchymyn Deddf Deddfwriaeth (Cymru) 2019 (Cychwyn) 2019.
(2) Daw’r Gorchymyn hwn i rym drannoeth y diwrnod y’i gwneir.
(3) Yn y Gorchymyn hwn, ystyr “Deddf 2019” yw Deddf Deddfwriaeth (Cymru) 2019 .
Y darpariaethau sy’n dod i rym ar 1 Ionawr 2020
2 
Daw Rhan 2 o Ddeddf 2019 i rym at bob diben sy’n weddill ar 1 Ionawr 2020.
Diwygio cyfeiriadau at y diwrnod y daw Rhan 2 o Ddeddf 2019 i rym yn llawn
3 
Yn adran 3(1) o Ddeddf 2019—
(a) ym mharagraff (b), yn lle “y diwrnod y daw’r Rhan hon i rym yn llawn neu ar ôl y diwrnod y daw’r Rhan hon i rym yn llawn” rhodder “1 Ionawr 2020 neu ar ôl y diwrnod hwnnw”;
(b) ym mharagraff (c), yn lle “y diwrnod hwnnw”, yn y lle cyntaf y mae’n digwydd, rhodder “1 Ionawr 2020”.
4 
Yn lle adran 23B o Ddeddf Dehongli 1978—
(a) yn is-adran (1)(b), yn lle “the day on which Part 2 of that Act (interpretation and operation of Welsh legislation) comes fully into force” rhodder “1 January 2020 (the day on which Part 2 of that Act comes fully into force)”;
(b) yn is-adrannau (2)(b) a (3)(a), yn lle “the day on which Part 2 of the Legislation (Wales) Act 2019 comes fully into force” rhodder “1 January 2020”.
Mark Drakeford
Prif Weinidog Cymru
10 Hydref 2019