
2019 Rhif 132 (Cy. 33)
Iechyd Planhigion, Cymru
Gorchymyn Iechyd Planhigion (Cymru) (Diwygio) 2019
Gwnaed 29 Ionawr 2019
Gosodwyd gerbron Cynulliad Cenedlaethol Cymru 30 Ionawr 2019
Yn dod i rym 6 Mawrth 2019
Mae Gweinidogion Cymru yn gwneud y Gorchymyn hwn drwy arfer y pwerau a roddir iddynt gan adrannau 2 a 3(1) o Ddeddf Iechyd Planhigion 1967.
Enwi, cychwyn a chymhwyso
1 

(1) Enw’r Gorchymyn hwn yw Gorchymyn Iechyd Planhigion (Cymru) (Diwygio) 2019.
(2) Mae’r Gorchymyn hwn yn gymwys o ran Cymru ac yn dod i rym ar 6 Mawrth 2019.
Diwygio Gorchymyn Iechyd Planhigion (Cymru) 2018
2 
Mae Gorchymyn Iechyd Planhigion (Cymru) 2018wedi ei ddiwygio fel a ganlyn.
Erthygl 19
3 
Yn erthygl 19(1), yn is-baragraffau (a) a (b), ar ôl “Fraxinus L.,” mewnosoder “Olea europaea L.,”.
Lesley Griffiths
Gweinidog yr Amgylchedd, Ynni a Materion Gwledig, un o Weinidogion Cymru
29 Ionawr 2019