
2019 Rhif 1306 (Cy. 227)
Traffig Ffyrdd, Cymru
Rheoliadau Rheoliadau Traffordd yr M4 (Man Casglu Tollau Rogiet, Sir Fynwy) (Terfyn Cyflymder 50 mya) 2010 (Dirymu) 2019
Gwnaed 3 Hydref 2019
Gosodwyd gerbron Cynulliad Cenedlaethol Cymru 7 Hydref 2019
Yn dod i rym 31 Hydref 2019
Mae Gweinidogion Cymru, drwy arfer y pwerau a roddir iddynt gan adran 17(2), (3) a (3ZAA) o Ddeddf Rheoleiddio Traffig Ffyrdd 1984, ac ar ôl ymgynghori ag unrhyw sefydliadau cynrychioliadol y tybiwyd eu bod yn briodol yn unol ag adran 134(10) o’r Ddeddf honno, yn gwneud y Rheoliadau a ganlyn.
Enwi a chychwyn
1 
Enw’r Rheoliadau hyn yw Rheoliadau Rheoliadau Traffordd yr M4 (Man Casglu Tollau Rogiet, Sir Fynwy) (Terfyn Cyflymder 50 mya) 2010 (Dirymu) 2019 a deuant i rym ar 31 Hydref 2019.
Dirymu
2 
Mae Rheoliadau Traffordd yr M4 (Man Casglu Tollau Rogiet, Sir Fynwy) (Terfyn Cyflymder 50 mya) 2010 wedi eu dirymu.
Ken Skates
Gweinidog yr Economi a Thrafnidiaeth, un o Weinidogion Cymru
3 Hydref 2019