
2019 Rhif 1281 (Cy. 225)
Ymadael Â’r Undeb Ewropeaidd, Cymru
Addysg, Cymru
Amaethyddiaeth, Cymru
Bwyd, Cymru
Diogelu’r Amgylchedd, Cymru
Gwasanaethau Iechyd, Cymru
Hadau, Cymru
Llywodraeth Leol, Cymru
Trethi, Cymru
Y Gymraeg
Rheoliadau Cyfraith yr UE a Ddargedwir (Diwygiadau Amrywiol) (Cymru) (Ymadael â’r UE) 2019Gofynion sifftio wedi eu bodloni16 Medi 2019
Gwnaed 24 Medi 2019
Gosodwyd gerbron Cynulliad Cenedlaethol Cymru 26 Medi 2019
Yn dod i rym yn unol â rheoliad 1(2) a 1(3)

Mae Gweinidogion Cymru, drwy arfer y pwerau a roddir gan baragraff 1(1) o Atodlen 2 a pharagraff 21 o Atodlen 7 i Ddeddf yr Undeb Ewropeaidd (Ymadael) 2018 ac adran 78(1) o Ddeddf Treth Trafodiadau Tir a Gwrthweithio Osgoi Trethi Datganoledig (Cymru) 2017, yn gwneud y Rheoliadau a ganlyn.
Mae gofynion paragraff 4(2) o Atodlen 7 i Ddeddf yr Undeb Ewropeaidd (Ymadael) 2018 (yn ymwneud â’r weithdrefn graffu briodol yng Nghynulliad Cenedlaethol Cymru ar gyfer y Rheoliadau hyn) wedi eu bodloni.
Fel sy’n ofynnol gan Erthygl 9 o Reoliad (EC) Rhif 178/2002 Senedd Ewrop a’r Cyngor sy’n gosod egwyddorion cyffredinol a gofynion cyfraith bwyd, yn sefydlu Awdurdod Diogelwch Bwyd Ewrop ac yn gosod gweithdrefnau o ran materion diogelwch bwyd, ymgynghorwyd yn agored ac yn dryloyw â’r cyhoedd mewn perthynas â’r diwygiadau a wneir gan Ran 3 o’r Rheoliadau hyn.

Fel sy’n ofynnol gan baragraff 4(a) o Atodlen 2 i Ddeddf yr Undeb Ewropeaidd (Ymadael) 2018, ymgynghorwyd â’r Ysgrifennydd Gwladol wrth i’r Rheoliadau hyn gael eu llunio.
RHAN 1 Rhagarweiniol
Enwi, cychwyn a chymhwyso
1 

(1) Enw’r Rheoliadau hyn yw Rheoliadau Cyfraith yr UE a Ddargedwir (Diwygiadau Amrywiol) (Cymru) (Ymadael â’r UE) 2019.
(2) Yn ddarostyngedig i baragraff (3), daw’r Rheoliadau hyn i rym ar y diwrnod ymadael.
(3) Daw rheoliadau 3, 4, 5 a 9 i rym yn union cyn y diwrnod ymadael.
(4) Mae’r Rheoliadau hyn yn gymwys o ran Cymru.
RHAN 2 Diwygiadau i ddeddfwriaeth sylfaenol sy’n ymwneud â’r Gymraeg
Mesur y Gymraeg (Cymru) 2011
2 

(1) Mae Mesur y Gymraeg (Cymru) 2011 wedi ei ddiwygio fel a ganlyn.
(2) Ym mharagraff 3 o Atodlen 5 (y categorïau o berson y caniateir eu hychwanegu at Atodlen 6), yn y diffiniad o “arian cyhoeddus” hepgorer y geiriau a ganlyn o baragraff (a)—“neu
(v) un neu ragor o sefydliadau’r Undeb Ewropeaidd;”.
(3) Ym mharagraff 2 o Atodlen 7 (y categorïau o berson y caniateir eu hychwanegu at Atodlen 8), yn y diffiniad o “arian cyhoeddus” hepgorer y geiriau a ganlyn o baragraff (a)—“neu
(v) un neu ragor o sefydliadau’r Undeb Ewropeaidd;”.
RHAN 3 Diwygiadau i is-ddeddfwriaeth sy’n ymwneud â bwyd
Rheoliadau Bwyd (Diwygiadau Amrywiol) (Cymru) (Ymadael â’r UE) 2019
3 

(1) Mae Rheoliadau Bwyd (Diwygiadau Amrywiol) (Cymru) (Ymadael â’r UE) 2019 wedi eu diwygio fel a ganlyn.
(2) Yn rheoliad 2(7), yn lle “yr awdurdodau perthnasol” rhodder “yr awdurdodau priodol”.
(3) Yn rheoliad 7(5)(a), yn lle “y Deyrnas Unedig” rhodder “yr Ynysoedd Prydeinig”.
RHAN 4 Diwygiadau i is-ddeddfwriaeth sy’n ymwneud â’r amgylchedd
Rheoliadau Llifogydd a Dŵr (Diwygio) (Cymru a Lloegr) (Ymadael â’r UE) 2019
4 
Yn rheoliad 5(3)(a) o Reoliadau Llifogydd a Dŵr (Diwygio) (Cymru a Lloegr) (Ymadael â’r UE) 2019, yn lle “Cyfarwyddeb y Cyngor 98/83/EC ar ansawdd dŵr a fwriedir ar gyfer ei yfed gan bobl” rhodder “Cyfarwyddeb y Cyngor 98/83/EC ar ansawdd dŵr a fwriedir ar gyfer ei yfed gan bobl, fel y’i diwygiwyd ddiwethaf gan Gyfarwyddeb y Comisiwn (EU) 2015/1787”.
RHAN 5 Diwygiadau i is-ddeddfwriaeth sy’n ymwneud â hadau
Rheoliadau Tatws Hadyd (Cymru) (Diwygio) (Ymadael â’r UE) 2019
5 

(1) Mae rheoliad 2 o Reoliadau Tatws Hadyd (Cymru) (Diwygio) (Ymadael â’r UE) 2019 wedi ei ddiwygio fel a ganlyn.
(2) Yn nhestun Cymraeg paragraff (12), hepgorer “, 8”.
(3) Ar ôl paragraff (12) mewnosoder—“
(12A) Yn nhestun Cymraeg paragraff 8(b) o Ran 3 o Atodlen 1—
(a) ym mharagraff (i), ar ôl “gradd S” mewnosoder “y DU”,
(b) ym mharagraff (ii), ar ôl “gradd SE” mewnosoder “y DU”, ac
(c) ym mharagraff (iii), ar ôl “gradd E” mewnosoder “y DU”.”
(4) Yn y testun Cymraeg, yn lle paragraff (17)(b)(iii) rhodder—“
(iii) yn y rhes sy’n ymwneud â gradd “SE”, yng ngholofn 2, yn lle “radd S yr Undeb neu’n radd SE yr Undeb” rhodder “radd S y DU, gradd SE y DU, gradd S yr Undeb neu radd SE yr Undeb”.”
RHAN 6 Diwygiadau i is-ddeddfwriaeth sy’n ymwneud â chyllid llywodraeth leol
Rheoliadau Rhestr Ardrethu Canolog (Cymru) 2005
6 
Yn rheoliad 7(3) o Reoliadau Rhestr Ardrethu Canolog (Cymru) 2005, hepgorer y diffiniad o “EEA State”.
RHAN 7 Diwygiadau i is-ddeddfwriaeth sy’n ymwneud â goruchwylio rheolaeth a defnydd cyffuriau a reolir a datgelu cofnodion addysgol a diwygiadau canlyniadol i is-ddeddfwriaeth sy’n ymwneud â diogelu data
Rheoliadau Cyffuriau a Reolir (Goruchwylio Rheolaeth a Defnydd) (Cymru) 2008
7 

(1) Mae Rheoliadau Cyffuriau a Reolir (Goruchwylio Rheolaeth a Defnydd) (Cymru) 2008 wedi eu diwygio fel a ganlyn.
(2) Yn rheoliad 2(1) (dehongli)—
(a) hepgorer y diffiniad o “y GDPR”;
(b) yn y lle priodol mewnosoder—“
 mae i “GDPR y DU” yr un ystyr ag a roddir i “the UK GDPR” yn Rhannau 5 i 7 o Ddeddf Diogelu Data 2018 (gweler adran 3(10) a (14) o’r Ddeddf honno);”.
(3) Yn rheoliad 25(7) (dyletswydd i gydweithredu drwy ddatgelu gwybodaeth ynglyn â phersonau perthnasol), yn lle “neu’r GDPR” rhodder “neu GDPR y DU”.
(4) Yn rheoliad 26(6) (cyrff cyfrifol yn gofyn am wybodaeth ychwanegol i gael ei datgelu am bersonau perthnasol), yn lle “neu’r GDPR” rhodder “neu GDPR y DU”.
(5) Yn rheoliad 29(3) (adroddiadau ar ddigwyddiadau), yn lle “neu’r GDPR” rhodder “neu GDPR y DU”.
Rheoliadau Gwybodaeth am Ddisgyblion (Cymru) 2011
8 

(1) Mae rheoliad 5 o Reoliadau Gwybodaeth am Ddisgyblion (Cymru) 2011 wedi ei ddiwygio fel a ganlyn.
(2) Ym mharagraff (5)(a) a (b), yn lle “y GDPR” rhodder “GDPR y DU”.
(3) Yn lle paragraff (6) rhodder—“
(6) Yn y rheoliad hwn, mae i “GDPR y DU” yr un ystyr ag a roddir i “the UK GDPR” yn Rhannau 5 i 7 o Ddeddf Diogelu Data 2018 (gweler adran 3(10) a (14) o’r Ddeddf honno).”
Rheoliadau Diogelu Data, Preifatrwydd a Chyfathrebiadau Electronig (Diwygiadau etc) (Ymadael â’r UE) 2019
9 
Yn Atodlen 3 i Reoliadau Diogelu Data, Preifatrwydd a Chyfathrebiadau Electronig (Diwygiadau etc) (Ymadael â’r UE) 2019, hepgorer paragraffau 71 i 75 a pharagraffau 90 ac 91.
RHAN 8 Diwygiadau i ddeddfwriaeth sylfaenol sy’n ymwneud â threthu trafodiadau tir
Deddf Treth Trafodiadau Tir a Gwrthweithio Osgoi Trethi Datganoledig (Cymru) 2017
10 
Yn adran 36(12) o Ddeddf Treth Trafodiadau Tir a Gwrthweithio Osgoi Trethi Datganoledig (Cymru) 2017, hepgorer y diffiniad o “cynllun buddsoddi torfol”.
Rebecca Evans
Y Gweinidog Cyllid a’r Trefnydd, un o Weinidogion Cymru
24 Medi 2019