
2019 Rhif 1280 (Cy. 224)
Iechyd Planhigion, Cymru
Gorchymyn Iechyd Planhigion (Cymru) (Diwygio) (Rhif. 3) 2019
Gwnaed 24 Medi 2019
Gosodwyd gerbron Cynulliad Cenedlaethol Cymru 26 Medi 2019
Yn dod i rym yn unol ag erthygl 1(2)

Mae Gweinidogion Cymru yn gwneud y Gorchymyn hwn drwy arfer:
(a) y pwerau a roddir iddynt gan adrannau 2 a 3(1) o Ddeddf Iechyd Planhigion 1967;
(b) y pwerau a roddir gan baragraff 1A o Atodlen 2 i Ddeddf y Cymunedau Ewropeaidd 1972.

Mae’r Gorchymyn hwn yn gwneud darpariaeth at ddiben a grybwyllir yn adran 2(2) o Ddeddf y Cymunedau Ewropeaidd 1972 ac mae’n ymddangos i Weinidogion Cymru ei bod yn hwylus i gyfeiriadau at yr offeryn gan yr Undeb Ewropeaidd a grybwyllir yn erthygl 3(a)(ii) gael eu dehongli fel cyfeiriadau at yr offeryn hwnnw fel y’i diwygir o bryd i’w gilydd.
Enwi a chychwyn
1 

(1) Enw’r Gorchymyn hwn yw Gorchymyn Iechyd Planhigion (Cymru) (Diwygio) (Rhif. 3) 2019.
(2) Daw i rym 21 o ddiwrnodau ar ôl y diwrnod y gosodir y Gorchymyn hwn.
Diwygio Gorchymyn Iechyd Planhigion (Cymru) 2018
2 
Mae Gorchymyn Iechyd Planhigion (Cymru) 2018 wedi ei ddiwygio fel a ganlyn.
Erthygl 2
3 
Yn erthygl 2—
(a) ym mharagraff (1)—
(i) hepgorer y diffiniad o “Penderfyniad 2007/365/EC”;
(ii) ar ôl y diffiniad o “Penderfyniad (EU) 2017/198” mewnosoder—“
 ystyr “Penderfyniad (EU) 2018/638” (“Decision (EU) 2018/638”) yw Penderfyniad Gweithredu’r Comisiwn (EU) 2018/638 sy’n sefydlu mesurau brys i atal cyflwyno i’r Undeb a lledaenu o fewn yr Undeb yr organedd niweidiol Spodoptera frugiperda (Smith);ystyr “Penderfyniad (EU) 2018/1503” (“Decision (EU) 2018/1503”) yw Penderfyniad Gweithredu’r Comisiwn (EU) 2018/1503 sy’n sefydlu mesurau i atal cyflwyno i’r Undeb a lledaenu o fewn yr Undeb Aromia bungii (Faldermann);;”;
(iii) yn y diffiniad o “deunydd perthnasol”, ar y diwedd mewnosoder “neu unrhyw beiriannau neu gerbydau sydd wedi eu gweithredu at ddibenion amaethyddol neu goedwigaeth;”;
(b) ym mharagraff (5)—
(i) hepgorer is-baragraff (d);
(ii) ar ôl is-baragraff (o), mewnosoder—“
(p) Penderfyniad (EU) 2018/638;
(q) Penderfyniad (EU) 2018/1503.”.
Atodlen 1
4 
Yn Atodlen 1—
(a) Yn y tabl yn Rhan A—
(i) o dan y pennawd “Pryfed, gwiddon a nematodau”—(aa) ar ôl eitem 8 mewnosoder—“
8A. 
Aromia bungii (Faldermann)”;(bb) ar ôl eitem 21 mewnosoder—“
21A. 
Grapholita packardi Zeller”;(cc) ar ôl eitem 30 mewnosoder—“
30A. 
Neoleucinodes elegantalis (Guenée)
30B. 
Oemona hirta (Fabricius)
30C. 
Phyllocoptes fructiphilus (Keifer 1940)”;
(ii) o dan y pennawd “Ffyngau”, ar ôl eitem 3 mewnosoder—“
3A. 
Elsinoë australis Bitanc. a Jenk.
3B. 
Elsinoë citricola X.L. Fan, R.W. Barreto a Crous
3C. 
Elsinoë fawcettii Bitanc. a Jenk.”;
(iii) o dan y pennawd “Firysau ac organeddau sy’n debyg i firysau”, ar ôl eitem 1 mewnosoder—“
1A. 
Firws roséd rhosynnau”;
(b) yn y tabl yn Rhan B—
(i) o dan y pennawd “Pryfed, gwiddon a nematodau”, ar ôl eitem 9 mewnosoder—“
9A. 
Pityophthorus juglandis Blackman”;
(ii) o dan y pennawd “Ffyngau”—(aa) o flaen eitem 1 mewnosoder—“
A1. 
Ceratocystis platani (J.M. Walter) Engelbr. a T.C. Harr.”;(bb) ar ôl eitem 1 mewnosoder—“
1A. 
Fusarium circinatum Nirenberg ac O’Donnell
1B. 
Geosmithia morbida Kolarik, Freeland, Utley a Tisserat”.
Atodlen 2
5 
Yn Atodlen 2—
(a) yn y tabl yn Rhan A—
(i) o dan y pennawd “Pryfed, gwiddon a nematodau”, hepgorer eitem 9;
(ii) o dan y pennawd “Ffyngau”, hepgorer eitem 9;
(b) yn y tabl yn Rhan B—
(i) o dan y pennawd “Pryfed, gwiddon a nematodau”, yn eitem 13, yn y cofnod yn yr ail golofn, ar ôl “hadau,” mewnosoder “Cedrus Trew neu”
(ii) o dan y pennawd, “Firysau ac organeddau sy’n debyg i firysau” ar ôl eitem 6 mewnosoder—“
6A. Hadau Solanum lycopersicum L. Firws amryliw pepino”
Atodlen 3
6 
Yn y tabl yn Atodlen 3—
(a) yn lle eitem 10 rhodder—“
10. Pridd sydd yn rhannol ar ffurf sylweddau organig solet neu gyfrwng tyfu arall sydd ar ffurf, yn gyfan gwbl neu’n rhannol, sylweddau organig solet, ac eithrio unrhyw gyfrwng tyfu sydd ar ffurf mawn neu ffibr Cocos nucifera L. yn gyfan gwbl ac nad yw wedi ei ddefnyddio yn flaenorol i dyfu planhigion nac at unrhyw ddibenion amaethyddol Unrhyw drydedd wlad, ac eithrio’r Swistir”.
(b) hepgorer eitem 17.
Atodlen 4
7 
Yn Atodlen 4—
(a) yn y tabl yn Rhan A—
(i) ar ôl eitem 8 mewnosoder—“
8A. Planhigion, ac eithrio hadau, Juglans L. neu Pterocarya Kunth, a fwriedir ar gyfer eu plannu, sy’n tarddu o UDA Rhaid i’r planhigion ddod gyda datganiad swyddogol:
(a) eu bod wedi eu tyfu drwy gydol eu bywyd mewn ardal a sefydlwyd gan y sefydliad gwarchod planhigion cenedlaethol yn y wlad y mae’r planhigion yn tarddu ohoni yn unol ag ISPM Rhif 4 yn ardal sy’n rhydd rhag Geosmithia morbida Kolarik, Freeland, Utley a Tisserat a’i fector Pityophthorus juglandis Blackman;
(b) eu bod:
(i) yn tarddu o fan cynhyrchu lle na welwyd symptomau Geosmithia morbida Kolarik, Freeland, Utley a Tisserat na’i fector Pityophthorus juglandis Blackman, neu bresenoldeb y fector, yn ystod arolygiadau swyddogol o’r man cynhyrchu a’i gyffiniau (sef, o leiaf, yr ardal o fewn radiws o 5km i’r man cynhyrchu) a gynhelir yn y cyfnod o ddwy flynedd cyn eu hallforio;
(ii) eu bod wedi eu harolygu yn union cyn eu hallforio; a
(iii) eu bod wedi eu trin a’u pecynnu mewn ffyrdd sy’n atal eu heigio ar ôl iddynt adael y man cynhyrchu; neu
(c) eu bod:
(i) yn tarddu o fan cynhyrchu sydd wedi ei ynysu yn ffisegol yn llwyr;
(ii) eu bod wedi eu harolygu yn union cyn eu hallforio; a
(iii) eu bod wedi eu trin a’u pecynnu mewn ffyrdd sy’n atal eu heigio ar ôl iddynt adael y man cynhyrchu.Pan fo’r dystysgrif ffytoiechydol neu’r dystysgrif ffytoiechydol ar gyfer ailallforio yn cynnwys y datganiad swyddogol y cyfeirir ato ym mharagraff (a), rhaid hefyd grybwyll enw’r ardal ar y dystysgrif o dan y pennawd “Additional declaration””;
(ii) yn lle eitem 10 rhodder—“
10. Planhigion, ac eithrio hadau, Platanus L., a fwriedir ar gyfer eu plannu, sy’n tarddu o Albania, Armenia, y Swistir, Twrci neu UDA Rhaid i’r planhigion ddod gyda datganiad swyddogol:
(a) eu bod yn tarddu o ardal a sefydlwyd gan y sefydliad gwarchod planhigion cenedlaethol yn y wlad y maent yn tarddu ohoni yn unol ag ISPM Rhif 4 yn ardal sy’n rhydd rhag Ceratocystis platani (J.M. Walter) Engelbr. a T.C. Harr.; neu
(b) na welwyd unrhyw symptomau Ceratocystis platani (J.M. Walter) Engelbr. a T.C. Harr. yn y man cynhyrchu neu yn ei gyffiniau agos ers dechrau’r cylch llystyfiant cyflawn diweddaraf.Pan fo’r dystysgrif ffytoiechydol neu’r dystysgrif ffytoiechydol ar gyfer ailallforio yn cynnwys y datganiad swyddogol y cyfeirir ato ym mharagraff (a), rhaid hefyd grybwyll enw’r ardal ar y dystysgrif o dan y pennawd “Additional declaration””;
(iii) ar ôl eitem 14 mewnosoder—“
14A. Planhigion, ac eithrio planhigion mewn meithriniad meinwe neu hadau, Crataegus L., Cydonia Mill., Malus Mill., Prunus L., Pyrus L. neu Vaccinium L., a fwriedir ar gyfer eu plannu, sy’n tarddu o Ganada, Mecsico neu UDA Rhaid i’r planhigion ddod gyda datganiad swyddogol:
(a) eu bod wedi eu tyfu drwy gydol eu bywyd mewn ardal a sefydlwyd gan y sefydliad gwarchod planhigion cenedlaethol yn y wlad y mae’r planhigion yn tarddu ohoni yn unol ag ISPM Rhif 4 yn ardal sy’n rhydd rhag Grapholita packardi Zeller;
(b) eu bod:
(i) wedi eu tyfu drwy gydol eu bywyd mewn man cynhyrchu a sefydlwyd yn unol ag ISPM Rhif 10 yn fan cynhyrchu sy’n rhydd rhag Grapholita packardi Zeller, sydd wedi ei gofrestru ac sy’n cael ei oruchwylio gan y sefydliad gwarchod planhigion cenedlaethol yn y wlad y mae’r planhigion yn tarddu ohoni ac sydd wedi bod yn destun arolygiadau blynyddol ar gyfer unrhyw arwyddion Grapholita packardi Zeller a gynhelir ar adegau priodol;
(ii) wedi eu tyfu mewn safle lle defnyddir triniaethau ataliol priodol, pan fo arolygon swyddogol a gynhelir yn flynyddol ar adegau priodol wedi cadarnhau nad yw Grapholita packardi Zeller yn bresennol; a
(iii) wedi bod yn destun arolygiad manwl ar gyfer presenoldeb Grapholita packardi Zeller yn union cyn eu hallforio; neu
(c) eu bod wedi eu tyfu ar safle sydd wedi ei ddiogelu yn ffisegol yn llwyr rhag cyflwyno Grapholita packardi Zeller.Pan fo’r dystysgrif ffytoiechydol neu’r dystysgrif ffytoiechydol ar gyfer ailallforio yn cynnwys y datganiad swyddogol y cyfeirir ato ym mharagraff (a), rhaid hefyd grybwyll enw’r ardal ar y dystysgrif o dan y pennawd “Additional declaration” a rhaid bod y Comisiwn Ewropeaidd wedi ei hysbysu yn ysgrifenedig amdano yn flaenorol gan y sefydliad gwarchod planhigion cenedlaethol perthnasol”;
(iv) yn eitem 19, yn y cofnod yn y drydedd golofn—(aa) hepgorer paragraff (b);(bb) ym mharagraff (d), ar ôl “Ariannin” mewnosoder “neu Frasil”;
(v) yn lle eitemau 21 a 22 rhodder—“
21. Ffrwythau Citrus L., Fortunella Swingle, Poncirus Raf., Mangifera L. neu Prunus L., sy’n tarddu o unrhyw drydedd wlad Rhaid i’r ffrwythau ddod gyda datganiad swyddogol:
(a) eu bod yn tarddu o wlad y cydnabyddir ei bod yn rhydd rhag Tephritidae (heb fod yn rhai Ewropeaidd) yn unol â’r mesurau a bennir yn ISPM Rhif 4;
(b) eu bod yn tarddu o ardal a sefydlwyd gan y sefydliad gwarchod planhigion cenedlaethol yn y wlad y maent yn tarddu ohoni yn unol ag ISPM Rhif 4 yn ardal sy’n rhydd rhag Tephritidae (heb fod yn rhai Ewropeaidd);
(c) na welwyd unrhyw arwyddion Tephritidae (heb fod yn rhai Ewropeaidd) yn y man cynhyrchu neu yn ei gyffiniau agos ers dechrau’r cylch llystyfiant cyflawn diweddaraf, o gynnal arolygiadau swyddogol yn fisol o leiaf yn ystod y tri mis cyn cynaeafu, ac nad oes unrhyw un o’r ffrwythau a gynaeafwyd yn y man cynhyrchu wedi dangos, mewn archwiliadau swyddogol priodol, arwyddion Tephritidae (heb fod yn rhai Ewropeaidd); neu
(d) eu bod wedi bod yn destun triniaeth effeithiol i sicrhau eu bod yn rhydd rhag Tephritidae (heb fod yn rhai Ewropeaidd).Pan fo’r dystysgrif ffytoiechydol neu’r dystysgrif ffytoiechydol ar gyfer ailallforio yn cynnwys y datganiad swyddogol y cyfeirir ato ym mharagraff (a), rhaid i’r Comisiwn Ewropeaidd fod wedi ei hysbysu yn ysgrifenedig yn flaenorol ynghylch statws y wlad o ran bod yn rhydd rhag y pla planhigion hwnnw gan y sefydliad gwarchod planhigion cenedlaethol perthnasol.Pan fo’r dystysgrif ffytoiechydol neu’r dystysgrif ffytoiechydol ar gyfer ailallforio yn cynnwys y datganiad swyddogol y cyfeirir ato ym mharagraff (b), rhaid hefyd grybwyll enw’r ardal ar y dystysgrif o dan y pennawd “Additional declaration” a rhaid bod y Comisiwn Ewropeaidd wedi ei hysbysu yn ysgrifenedig amdano yn flaenorol gan y sefydliad gwarchod planhigion cenedlaethol perthnasol.Pan fo’r dystysgrif ffytoiechydol neu’r dystysgrif ffytoiechydol ar gyfer ailallforio yn cynnwys y datganiad swyddogol y cyfeirir ato ym mharagraff (c), rhaid cynnwys gwybodaeth ynghylch olrheiniadwyedd ar y dystysgrif hefyd.Pan fo’r dystysgrif ffytoiechydol neu’r dystysgrif ffytoiechydol ar gyfer ailallforio yn cynnwys y datganiad swyddogol y cyfeirir ato ym mharagraff (d), rhaid hefyd grybwyll manylion data’r driniaeth ar y dystysgrif, a rhaid bod y Comisiwn Ewropeaidd wedi ei hysbysu yn ysgrifenedig yn flaenorol ynghylch y dull trin gan y sefydliad gwarchod planhigion cenedlaethol perthnasol
22. Ffrwythau Capsicum (L.), Citrus L., ac eithrio Citrus limon (L.) Osbeck. neu Citrus aurantiifolia (Christm.) Swingle, Prunus persica (L.) Batsch neu Punica granatum L., sy’n tarddu o unrhyw wlad ar gyfandir Affrica, Cape Verde, Saint Helena, Madagasgar, La Reunion, Mauritius neu Israel Rhaid i’r ffrwythau ddod gyda datganiad swyddogol:
(a) eu bod yn tarddu o wlad y cydnabyddir ei bod yn rhydd rhag Thaumatotibia leucotreta (Meyrick) yn unol â’r mesurau a bennir yn ISPM Rhif 4;
(b) eu bod yn tarddu o ardal a sefydlwyd gan y sefydliad gwarchod planhigion cenedlaethol yn y wlad y maent yn tarddu ohoni yn unol ag ISPM Rhif 4 yn ardal sy’n rhydd rhag Thaumatotibia leucotreta (Meyrick);
(c) eu bod:
(i) yn tarddu o fan cynhyrchu a sefydlwyd gan y sefydliad gwarchod planhigion cenedlaethol yn y wlad y maent yn tarddu ohoni yn unol ag ISPM Rhif 10 yn fan cynhyrchu sy’n rhydd rhag Thaumatotibia leucotreta (Meyrick); a
(ii) eu bod yn rhydd rhag Thaumatotibia leucotreta (Meyrick) fel y dangosir gan arolygiadau swyddogol a gynhelir yn y man cynhyrchu ar adegau priodol yn ystod y tymor tyfu, a oedd yn cynnwys o leiaf un archwiliad gweledol o samplau cynrychioliadol o’r ffrwythau; neu
(d) eu bod wedi bod yn destun triniaeth oer effeithiol neu driniaeth arall i sicrhau eu bod yn rhydd rhag Thaumatotibia leucotreta (Meyrick).Pan fo’r dystysgrif ffytoiechydol neu’r dystysgrif ffytoiechydol ar gyfer ailallforio yn cynnwys y datganiad swyddogol y cyfeirir ato ym mharagraff (a), rhaid i’r Comisiwn Ewropeaidd fod wedi ei hysbysu yn ysgrifenedig yn flaenorol ynghylch statws y wlad o ran bod yn rhydd rhag y pla planhigion hwnnw gan y sefydliad gwarchod planhigion cenedlaethol perthnasol.Pan fo’r dystysgrif ffytoiechydol neu’r dystysgrif ffytoiechydol ar gyfer ailallforio yn cynnwys y datganiad swyddogol y cyfeirir ato ym mharagraff (b), rhaid hefyd grybwyll enw’r ardal ar y dystysgrif o dan y pennawd “Additional declaration” a rhaid bod y Comisiwn Ewropeaidd wedi ei hysbysu yn ysgrifenedig amdano yn flaenorol gan y sefydliad gwarchod planhigion cenedlaethol perthnasol.Pan fo’r dystysgrif ffytoiechydol neu’r dystysgrif ffytoiechydol ar gyfer ailallforio yn cynnwys y datganiad swyddogol y cyfeirir ato ym mharagraff (c), rhaid cynnwys gwybodaeth ynghylch olrheiniadwyedd ar y dystysgrif hefyd.Pan fo’r dystysgrif ffytoiechydol neu’r dystysgrif ffytoiechydol ar gyfer ailallforio yn cynnwys y datganiad swyddogol y cyfeirir ato ym mharagraff (d), rhaid hefyd grybwyll manylion data’r driniaeth ar y dystysgrif, a rhaid bod y Comisiwn Ewropeaidd wedi ei hysbysu yn ysgrifenedig yn flaenorol ynghylch y dull trin, ynghyd â thystiolaeth ddogfennol o’i effeithiolrwydd, gan y sefydliad gwarchod planhigion cenedlaethol perthnasol”;
(vi) ar ôl eitem 22 mewnosoder—“
22A. Ffrwythau Malus Mill. sy’n tarddu o unrhyw drydedd wlad Rhaid i’r ffrwythau ddod gyda datganiad swyddogol:
(a) eu bod yn tarddu o wlad y cydnabyddir ei bod yn rhydd rhag Enarmonia prunivora Walsh, Grapholita inopinata Heinrich a Rhagoletis pomonella (Walsch) yn unol â’r mesurau a bennir yn ISPM Rhif 4;
(b) eu bod yn tarddu o ardal a sefydlwyd gan y sefydliad gwarchod planhigion cenedlaethol yn y wlad y maent yn tarddu ohoni yn unol ag ISPM Rhif 4 yn ardal sy’n rhydd rhag Enarmonia prunivora Walsh, Grapholita inopinata Heinrich a Rhagoletis pomonella (Walsch);
(c) eu bod yn tarddu o fan cynhyrchu lle y cynhelir arolygiadau ac arolygon swyddogol ar gyfer presenoldeb Enarmonia prunivora Walsh, Grapholita inopinata Heinrich a Rhagoletis pomonella (Walsch) ar adegau priodol yn ystod y tymor tyfu, gan gynnwys o leiaf un archwiliad gweledol o samplau cynrychioliadol o’r ffrwythau, a bod hynny wedi dangos bod y ffrwythau yn rhydd rhag y plâu planhigion hynny; neu
(d) eu bod wedi bod yn destun triniaeth effeithiol i sicrhau eu bod yn rhydd rhag Enarmonia prunivora Walsh, Grapholita inopinata Heinrich a Rhagoletis pomonella (Walsch).Pan fo’r dystysgrif ffytoiechydol neu’r dystysgrif ffytoiechydol ar gyfer ailallforio yn cynnwys y datganiad swyddogol y cyfeirir ato ym mharagraff (a), rhaid i’r Comisiwn Ewropeaidd fod wedi ei hysbysu yn ysgrifenedig yn flaenorol ynghylch statws y wlad o ran bod yn rhydd rhag y plâu planhigion hynny gan y sefydliad gwarchod planhigion cenedlaethol perthnasol.Pan fo’r dystysgrif ffytoiechydol neu’r dystysgrif ffytoiechydol ar gyfer ailallforio yn cynnwys y datganiad swyddogol y cyfeirir ato ym mharagraff (b), rhaid hefyd grybwyll enw’r ardal ar y dystysgrif o dan y pennawd “Additional declaration” a rhaid bod y Comisiwn Ewropeaidd wedi ei hysbysu yn ysgrifenedig amdano yn flaenorol gan y sefydliad gwarchod planhigion cenedlaethol perthnasol.Pan fo’r dystysgrif ffytoiechydol neu’r dystysgrif ffytoiechydol ar gyfer ailallforio yn cynnwys y datganiad swyddogol y cyfeirir ato ym mharagraff (c), rhaid cynnwys gwybodaeth ynghylch olrheiniadwyedd ar y dystysgrif hefyd.Pan fo’r dystysgrif ffytoiechydol neu’r dystysgrif ffytoiechydol ar gyfer ailallforio yn cynnwys y datganiad swyddogol y cyfeirir ato ym mharagraff (d), rhaid hefyd gynnwys manylion data’r driniaeth ar y dystysgrif, a rhaid bod y Comisiwn Ewropeaidd wedi ei hysbysu yn ysgrifenedig yn flaenorol ynghylch y dull trin gan y sefydliad gwarchod planhigion cenedlaethol perthnasol.
22B. Ffrwythau Malus Mill. neu Pyrus L., sy’n tarddu o unrhyw drydedd wlad Rhaid i’r ffrwythau ddod gyda datganiad swyddogol:
(a) eu bod yn tarddu o wlad y cydnabyddir ei bod yn rhydd rhag Guignardia piricola (Nosa) Yamamoto yn unol â’r mesurau a bennir yn ISPM Rhif 4;
(b) eu bod yn tarddu o ardal a sefydlwyd gan y sefydliad gwarchod planhigion cenedlaethol yn y wlad y maent yn tarddu ohoni yn unol ag ISPM Rhif 4 yn ardal sy’n rhydd rhag Guignardia piricola (Nosa) Yamamoto;
(c) eu bod yn tarddu o fan cynhyrchu lle y cynhelir arolygiadau ac arolygon swyddogol ar gyfer presenoldeb Guignardia piricola (Nosa) Yamamoto ar adegau priodol yn ystod y tymor tyfu, gan gynnwys o leiaf un archwiliad gweledol o samplau cynrychioliadol o’r ffrwythau, a bod hynny wedi dangos bod y ffrwythau yn rhydd rhag y pla planhigion hwnnw; neu
(d) eu bod wedi bod yn destun triniaeth effeithiol i sicrhau eu bod yn rhydd rhag Guignardia piricola (Nosa) Yamamoto.Pan fo’r dystysgrif ffytoiechydol neu’r dystysgrif ffytoiechydol ar gyfer ailallforio yn cynnwys y datganiad swyddogol y cyfeirir ato ym mharagraff (a), rhaid i’r Comisiwn Ewropeaidd fod wedi ei hysbysu yn ysgrifenedig yn flaenorol ynghylch statws y wlad o ran bod yn rhydd rhag y pla planhigion hwnnw gan y sefydliad gwarchod planhigion cenedlaethol perthnasol.Pan fo’r dystysgrif ffytoiechydol neu’r dystysgrif ffytoiechydol ar gyfer ailallforio yn cynnwys y datganiad swyddogol y cyfeirir ato ym mharagraff (b), rhaid hefyd grybwyll enw’r ardal ar y dystysgrif o dan y pennawd “Additional declaration” a rhaid bod y Comisiwn Ewropeaidd wedi ei hysbysu yn ysgrifenedig amdano yn flaenorol gan y sefydliad gwarchod planhigion cenedlaethol perthnasol.Pan fo’r dystysgrif ffytoiechydol neu’r dystysgrif ffytoiechydol ar gyfer ailallforio yn cynnwys y datganiad swyddogol y cyfeirir ato ym mharagraff (c), rhaid cynnwys gwybodaeth ynghylch olrheiniadwyedd ar y dystysgrif hefyd.Pan fo’r dystysgrif ffytoiechydol neu’r dystysgrif ffytoiechydol ar gyfer ailallforio yn cynnwys y datganiad swyddogol y cyfeirir ato ym mharagraff (d), rhaid hefyd gynnwys manylion data’r driniaeth ar y dystysgrif, a rhaid bod y Comisiwn Ewropeaidd wedi ei hysbysu yn ysgrifenedig yn flaenorol ynghylch y dull trin gan y sefydliad gwarchod planhigion cenedlaethol perthnasol
22C. Ffrwythau Malus Mill. neu Pyrus L., sy’n tarddu o unrhyw drydedd wlad Rhaid i’r ffrwythau ddod gyda datganiad swyddogol:
(a) eu bod yn tarddu o wlad y cydnabyddir ei bod yn rhydd rhag Tachypterellus quadrigibbus Say yn unol â’r mesurau a bennir yn ISPM Rhif 4;
(b) eu bod yn tarddu o ardal a sefydlwyd gan y sefydliad gwarchod planhigion cenedlaethol yn y wlad y maent yn tarddu ohoni yn unol ag ISPM Rhif 4 yn ardal sy’n rhydd rhag Tachypterellus quadrigibbus Say;
(c) eu bod yn tarddu o fan cynhyrchu lle y cynhelir arolygiadau ac arolygon swyddogol ar gyfer presenoldeb Tachypterellus quadrigibbus Say ar adegau priodol yn ystod y tymor tyfu, gan gynnwys o leiaf un archwiliad gweledol o samplau cynrychioliadol o’r ffrwythau, a bod hynny wedi dangos bod y ffrwythau yn rhydd rhag y pla planhigion hwnnw; neu
(d) eu bod wedi bod yn destun triniaeth effeithiol i sicrhau eu bod yn rhydd rhag Tachypterellus quadrigibbus Say.Pan fo’r dystysgrif ffytoiechydol neu’r dystysgrif ffytoiechydol ar gyfer ailallforio yn cynnwys y datganiad swyddogol y cyfeirir ato ym mharagraff (a), rhaid i’r Comisiwn Ewropeaidd fod wedi ei hysbysu yn ysgrifenedig yn flaenorol ynghylch statws y wlad o ran bod yn rhydd rhag y pla planhigion hwnnw gan y sefydliad gwarchod planhigion cenedlaethol perthnasol.Pan fo’r dystysgrif ffytoiechydol neu’r dystysgrif ffytoiechydol ar gyfer ailallforio yn cynnwys y datganiad swyddogol y cyfeirir ato ym mharagraff (b), rhaid hefyd grybwyll enw’r ardal ar y dystysgrif o dan y pennawd “Additional declaration” a rhaid bod y Comisiwn Ewropeaidd wedi ei hysbysu yn ysgrifenedig amdano yn flaenorol gan y sefydliad gwarchod planhigion cenedlaethol perthnasol.Pan fo’r dystysgrif ffytoiechydol neu’r dystysgrif ffytoiechydol ar gyfer ailallforio yn cynnwys y datganiad swyddogol y cyfeirir ato ym mharagraff (c), rhaid cynnwys gwybodaeth ynghylch olrheiniadwyedd ar y dystysgrif hefyd.Pan fo’r dystysgrif ffytoiechydol neu’r dystysgrif ffytoiechydol ar gyfer ailallforio yn cynnwys y datganiad swyddogol y cyfeirir ato ym mharagraff (d), rhaid hefyd gynnwys manylion data’r driniaeth ar y dystysgrif, a rhaid bod y Comisiwn Ewropeaidd wedi ei hysbysu yn ysgrifenedig yn flaenorol ynghylch y dull trin gan y sefydliad gwarchod planhigion cenedlaethol perthnasol.
22D. Ffrwythau Malus Mill., Prunus L., Pyrus L. neu Vaccinium L., sy’n tarddu o Ganada, Mecsico neu UDA Rhaid i’r ffrwythau ddod gyda datganiad swyddogol:
(a) eu bod yn tarddu o ardal a sefydlwyd gan y sefydliad gwarchod planhigion cenedlaethol yn y wlad y maent yn tarddu ohoni yn unol ag ISPM Rhif 4 yn ardal sy’n rhydd rhag Grapholita packardi Zeller;
(b) eu bod yn tarddu o fan cynhyrchu lle y cynhelir arolygiadau ac arolygon swyddogol ar gyfer presenoldeb Grapholita packardi Zeller ar adegau priodol yn ystod y tymor tyfu, gan gynnwys o leiaf un archwiliad gweledol o samplau cynrychioliadol o’r ffrwythau, a bod hynny wedi dangos bod y ffrwythau yn rhydd rhag y pla planhigion hwnnw; neu
(c) eu bod wedi bod yn destun triniaeth effeithiol i sicrhau eu bod yn rhydd rhag Grapholita packardi Zeller.Pan fo’r dystysgrif ffytoiechydol neu’r dystysgrif ffytoiechydol ar gyfer ailallforio yn cynnwys y datganiad swyddogol y cyfeirir ato ym mharagraff (a), rhaid hefyd grybwyll enw’r ardal ar y dystysgrif o dan y pennawd “Additional declaration” a rhaid bod y Comisiwn Ewropeaidd wedi ei hysbysu yn ysgrifenedig amdano yn flaenorol gan y sefydliad gwarchod planhigion cenedlaethol perthnasol.Pan fo’r dystysgrif ffytoiechydol neu’r dystysgrif ffytoiechydol ar gyfer ailallforio yn cynnwys y datganiad swyddogol y cyfeirir ato ym mharagraff (b), rhaid cynnwys gwybodaeth ynghylch olrheiniadwyedd ar y dystysgrif hefyd.Pan fo’r dystysgrif ffytoiechydol neu’r dystysgrif ffytoiechydol ar gyfer ailallforio yn cynnwys y datganiad swyddogol y cyfeirir ato ym mharagraff (c), rhaid hefyd gynnwys manylion data’r driniaeth ar y dystysgrif, a rhaid bod y Comisiwn Ewropeaidd wedi ei hysbysu yn ysgrifenedig yn flaenorol ynghylch y dull trin gan y sefydliad gwarchod planhigion cenedlaethol perthnasol”;
(vii) ar ôl eitem 45 mewnosoder—“
45A. Cloron Solanum tuberosum sy’n tarddu o unrhyw drydedd wlad ac eithrio’r Swistir Rhaid i’r cloron ddod gyda datganiad swyddogol nad yw’r llwyth neu’r lot yn cynnwys mwy nag 1% o bridd a chyfrwng tyfu o ran pwysau net”;
(viii) ar ôl eitem 50 mewnosoder—“
50A. Ffrwythau Capsicum annuum L., Solanum aethiopicum L., Solanum lycopersicum L. neu Solanum melongena L. sy’n tarddu o unrhyw drydedd wlad Rhaid i’r ffrwythau ddod gyda datganiad swyddogol:
(a) eu bod yn tarddu o wlad y cydnabyddir ei bod yn rhydd rhag Neoleucinodes elegantalis (Guenée) yn unol â’r mesurau a bennir yn ISPM Rhif 4;
(b) eu bod yn tarddu o ardal a sefydlwyd gan y sefydliad gwarchod planhigion cenedlaethol yn y wlad y maent yn tarddu ohoni yn unol ag ISPM Rhif 4 yn ardal sy’n rhydd rhag Neoleucinodes elegantalis (Guenée);
(c) eu bod:
(i) yn tarddu o fan cynhyrchu a sefydlwyd gan y sefydliad gwarchod planhigion cenedlaethol yn y wlad y maent yn tarddu ohoni yn unol ag ISPM Rhif 10 yn fan cynhyrchu sy’n rhydd rhag Neoleucinodes elegantalis (Guenée); a
(ii) yn rhydd rhag y pla planhigion hwnnw fel y dangosir gan arolygiadau swyddogol a gynhelir yn y man cynhyrchu ar adegau priodol yn ystod y tymor tyfu, a oedd yn cynnwys o leiaf un archwiliad gweledol o samplau cynrychioliadol o’r ffrwythau; neu
(d) eu bod yn tarddu o fan cynhyrchu sy’n ddiogel rhag pryfed, a sefydlwyd gan y sefydliad gwarchod planhigion cenedlaethol yn y wlad y mae’r ffrwythau yn tarddu ohoni yn safle cynhyrchu sy’n rhydd rhag Neoleucinodes elegantalis (Guenée) ar sail arolygiadau ac arolygon swyddogol a gynhelir yn ystod y tri mis cyn allforio.Pan fo’r dystysgrif ffytoiechydol neu’r dystysgrif ffytoiechydol ar gyfer ailallforio yn cynnwys y datganiad swyddogol y cyfeirir ato ym mharagraff (a), rhaid i’r Comisiwn Ewropeaidd fod wedi ei hysbysu yn ysgrifenedig yn flaenorol ynghylch statws y wlad o ran bod yn rhydd rhag y pla planhigion hwnnw gan y sefydliad gwarchod planhigion cenedlaethol perthnasol.Pan fo’r dystysgrif ffytoiechydol neu’r dystysgrif ffytoiechydol ar gyfer ailallforio yn cynnwys y datganiad swyddogol y cyfeirir ato ym mharagraff (b), rhaid hefyd grybwyll enw’r ardal ar y dystysgrif ffytoiechydol neu’r dystysgrif ffytoiechydol ar gyfer ailallforio o dan y pennawd “Additional declaration” a rhaid bod y Comisiwn Ewropeaidd wedi ei hysbysu yn ysgrifenedig am hynny yn flaenorol gan y sefydliad gwarchod planhigion cenedlaethol perthnasol.Pan fo’r dystysgrif ffytoiechydol neu’r dystysgrif ffytoiechydol ar gyfer ailallforio yn cynnwys y datganiad swyddogol y cyfeirir ato ym mharagraff (c) neu (d), rhaid cynnwys gwybodaeth ynghylch olrheiniadwyedd ar y dystysgrif hefyd.
50B. Ffrwythau Solanaceae sy’n tarddu o Awstralia, cyfandiroedd America neu Seland Newydd Rhaid i’r ffrwythau ddod gyda datganiad swyddogol:
(a) eu bod yn tarddu o wlad y cydnabyddir ei bod yn rhydd rhag Bactericera cockerelli (Sulc.) yn unol â’r mesurau a bennir yn ISPM Rhif 4;
(b) eu bod yn tarddu o ardal a sefydlwyd gan y sefydliad gwarchod planhigion cenedlaethol yn y wlad y mae’r ffrwythau yn tarddu ohoni yn unol ag ISPM Rhif 4 yn ardal sy’n rhydd rhag Bactericera cockerelli (Sulc.);
(c) eu bod:
(i) yn tarddu o fan cynhyrchu lle y cynhaliwyd arolygiadau ac arolygon swyddogol ar gyfer presenoldeb Bactericera cockerelli (Sulc.) yn y man cynhyrchu ac yn ei gyffiniau agos yn ystod y tri mis cyn allforio;
(ii) wedi bod yn destun triniaethau effeithiol i sicrhau eu bod yn rhydd rhag y pla planhigion; a
(iii) bod samplau cynrychioliadol o’r ffrwythau wedi eu harchwilio cyn allforio; neu
(d) eu bod yn tarddu o fan cynhyrchu sy’n ddiogel rhag pryfed, a sefydlwyd gan y sefydliad gwarchod planhigion cenedlaethol yn y wlad y mae’r ffrwythau yn tarddu ohoni yn fan cynhyrchu sy’n rhydd rhag Bactericera cockerelli (Sulc.) ar sail arolygiadau ac arolygon swyddogol a gynhelir yn ystod y tri mis cyn allforio.Pan fo’r dystysgrif ffytoiechydol neu’r dystysgrif ffytoiechydol ar gyfer ailallforio yn cynnwys y datganiad swyddogol y cyfeirir ato ym mharagraff (a), rhaid i’r Comisiwn Ewropeaidd fod wedi ei hysbysu yn ysgrifenedig yn flaenorol ynghylch statws y wlad o ran bod yn rhydd rhag y pla planhigion hwnnw gan y sefydliad gwarchod planhigion cenedlaethol perthnasol.Pan fo’r dystysgrif ffytoiechydol neu’r dystysgrif ffytoiechydol ar gyfer ailallforio yn cynnwys y datganiad swyddogol y cyfeirir ato ym mharagraff (b), rhaid hefyd grybwyll enw’r ardal ar y dystysgrif o dan y pennawd “Additional declaration” a rhaid bod y Comisiwn Ewropeaidd wedi ei hysbysu yn ysgrifenedig amdano yn flaenorol gan y sefydliad gwarchod planhigion cenedlaethol perthnasol.Pan fo’r dystysgrif ffytoiechydol neu’r dystysgrif ffytoiechydol ar gyfer ailallforio yn cynnwys y datganiad swyddogol y cyfeirir ato ym mharagraff (c) neu (d), rhaid cynnwys gwybodaeth ynghylch olrheiniadwyedd ar y dystysgrif hefyd”;
(ix) yn lle eitem 64 rhodder—“
64. Cyfrwng tyfu, sydd ynghlwm â phlanhigion neu’n gysylltiedig â hwy, a fwriedir i gynnal bywiogrwydd y planhigion hynny, ac eithrio unrhyw gyfrwng tyfu sterilaidd ar gyfer planhigion in-vitro, sy’n tarddu o unrhyw drydedd wlad ac eithrio’r Swistir Rhaid i’r planhigion cysylltiedig ddod gyda datganiad swyddogol:
(a) ar adeg eu plannu, bod y cyfrwng tyfu:
(i) yn rhydd rhag pridd a deunydd organig a heb ei ddefnyddio yn flaenorol i dyfu planhigion neu at unrhyw ddibenion amaethyddol;
(ii) ar ffurf mawn neu ffibr Cocos nucifera L. yn gyfan gwbl a heb ei ddefnyddio yn flaenorol i dyfu planhigion neu at unrhyw ddibenion amaethyddol; neu
(iii) wedi bod yn destun triniaeth effeithiol i sicrhau ei fod yn rhydd rhag plâu planhigion niweidiol;
(b) bod y cyfrwng tyfu wedi ei storio a’i gadw o dan amodau priodol i’w gadw’n rhydd rhag plâu planhigion niweidiol; ac
(c) naill ai:
(i) bod mesurau priodol wedi eu rhoi ar waith ers plannu i sicrhau bod y cyfrwng tyfu wedi ei gadw’n rhydd rhag plâu planhigion niweidiol, gan gynnwys o leiaf ynysu’r cyfrwng tyfu yn ffisegol rhag pridd a ffynonellau halogi posibl eraill, defnyddio dŵr sy’n rhydd rhag plâu planhigion niweidiol a rhoi mesurau hylendid ar waith; neu
(ii) yn y cyfnod o ddwy wythnos cyn allforio:
(aa) bod y cyfrwng tyfu (gan gynnwys, pan fo’n briodol, unrhyw bridd) wedi ei symud ymaith yn llwyr drwy olchi â dŵr sy’n rhydd rhag plâu planhigion niweidiol; a
(bb) pan fo’r planhigion cysylltiedig wedi eu hailblannu, bod y cyfrwng tyfu wedi bodloni’r gofynion a bennir ym mharagraff (a) ar adeg eu hailblannu a bod mesurau priodol wedi eu rhoi ar waith ers ailblannu i sicrhau bod y cyfrwng tyfu wedi ei gadw’n rhydd rhag plâu planhigion niweidiol yn unol ag is-baragraff (i).Pan fo’r dystysgrif ffytoiechydol neu’r dystysgrif ffytoiechydol ar gyfer ailallforio yn cynnwys y datganiad swyddogol y cyfeirir ato ym mharagraff (a)(iii), rhaid hefyd grybwyll manylion data’r driniaeth ar y dystysgrif o dan y pennawd “Additional declaration””;
(x) ar ôl eitem 64 mewnosoder—“
64A. Bylbiau, cormau, rhisomau neu gloron, a fwriedir ar gyfer eu plannu, ac eithrio cloron Solanum tuberosum, sy’n tarddu o unrhyw drydedd wlad ac eithrio’r Swistir Rhaid i’r bylbiau, y cormau, y rhisomau neu’r cloron ddod gyda datganiad swyddogol nad yw’r llwyth neu’r lot yn cynnwys mwy nag 1% o bridd a chyfrwng tyfu o ran pwysau net
64B. Gwreiddlysiau neu lysiau cloron sy’n tarddu o unrhyw drydedd wlad ac eithrio’r Swistir Rhaid i’r llysiau ddod gyda datganiad swyddogol nad yw’r llwyth neu’r lot yn cynnwys mwy nag 1% o bridd a chyfrwng tyfu o ran pwysau net
64C. Peiriannau neu gerbydau sydd wedi eu gweithredu at ddibenion amaethyddol neu goedwigaeth a fewnforiwyd o unrhyw drydedd wlad ac eithrio’r Swistir Rhaid i’r peiriannau neu’r cerbydau ddod gyda datganiad swyddogol eu bod wedi eu glanhau a’u bod yn rhydd rhag pridd a gweddillion planhigion
64D. Peiriannau neu gerbydau sydd wedi eu gweithredu at ddibenion amaethyddol neu goedwigaeth, a fewnforiwyd o’r Swistir Rhaid i’r peiriannau neu’r cerbydau ddod gyda datganiad swyddogol:
(a) eu bod wedi eu hallforio o ardal a sefydlwyd gan sefydliad gwarchod planhigion cenedlaethol y Swistir yn unol ag ISPM Rhif 4 yn ardal sy’n rhydd rhag Ceratocystis platani (J.M. Walter) Engelbr. a T.C. Harr.; neu
(b) yn achos unrhyw beiriannau neu gerbydau a allforir o ardal sydd wedi ei heigio â Ceratocystis platani (J.M. Walter) Engelbr. a T.C. Harr., eu bod wedi eu glanhau a’u bod yn rhydd rhag pridd a gweddillion planhigion cyn allforio”;
(xi) yn ail golofn eitem 68, ar ôl “Orchidaceae” mewnosoder “sy’n tarddu o unrhyw drydedd wlad, ac eithrio Gwlad Thai;”;
(xii) ar ôl eitem 93 mewnosoder—“
93A. Blodau Orchidaceae wedi eu torri sy’n tarddu o Wlad Thai Rhaid i’r blodau wedi eu torri ddod gyda thystysgrif ffytoiechydol neu dystysgrif ffytoiechydol ar gyfer ailallforio sy’n cynnwys datganiad swyddogol o dan y pennawd “Additional declaration” eu bod:
(a) wedi eu cynhyrchu mewn man cynhyrchu y canfuwyd ei fod yn rhydd rhag Thrips palmi Karny o gynnal arolygiadau swyddogol yn fisol o leiaf yn ystod y tri mis cyn allforio; neu
(b) wedi bod yn destun, fel llwyth cyn allforio, i driniaeth fygdarthu briodol i sicrhau eu bod yn rhydd rhag thysanoptera.Pan fo paragraff (b) yn gymwys, rhaid i fanyleb y driniaeth fygdarthu fod wedi ei chynnwys hefyd ar y dystysgrif o dan y pennawd “Disinfestation and/or disinfection treatment”.”
(xiii) hepgorer eitem 95 a mewnosoder (fel cofnod dilynol)—“
95A. Hadau Solanum lycopersicum L., sy’n tarddu o unrhyw drydedd wlad Rhaid i’r hadau ddod gyda thystysgrif ffytoiechydol neu dystysgrif ffytoiechydol ar gyfer ailallforio sy’n cynnwys datganiad swyddogol o dan y pennawd “Additional declaration” eu bod wedi eu cael drwy ddull echdynnu ag asid priodol ac:
(a) eu bod yn tarddu o ardal lle y gwyddys nad yw Firws amryliw pepino yn bresennol;
(b) na welwyd unrhyw symptomau Firws amryliw pepino ar y planhigion yn y man cynhyrchu yn ystod eu cylch llystyfiant cyflawn; neu
(c) eu bod wedi bod yn destun profion swyddogol ar gyfer Firws amryliw pepino ar sampl gynrychioliadol a chan ddefnyddio dulliau priodol, a bod y profion hynny wedi dangos eu bod yn rhydd rhag Firws amryliw pepino.”
(xiv) hepgorer eitem 104;
(xv) ar ôl eitem 105 mewnosoder—“
105A. Planhigion penodedig o fewn ystyr Erthygl 1(b) o Benderfyniad (EU) 2018/638 Rhaid i’r ffrwythau ddod gyda thystysgrif ffytoiechydol neu dystysgrif ffytoiechydol ar gyfer ailallforio sy’n cynnwys datganiad swyddogol yn unol ag Erthygl 3(b) o Benderfyniad (EU) 2018/638.
105B. Planhigion penodedig o fewn ystyr Erthygl 1(b) o Benderfyniad (EU) 2018/1503 sy’n tarddu o unrhyw drydedd wlad lle y gwyddys bod Aromia bungii (Faldermann) yn bresennol Rhaid i’r planhigion ddod gyda thystysgrif ffytoiechydol neu dystysgrif ffytoiechydol ar gyfer ailallforio sy’n cynnwys:
(a) datganiad swyddogol o dan y pennawd “Additional declaration” eu bod yn bodloni’r gofynion a bennir ym mhwynt (a), (b) neu (c) o Erthygl 11 o Benderfyniad (EU) 2018/1503; a
(b) pan fo pwynt (a) o’r Erthygl honno yn gymwys, enw’r ardal sy’n rhydd rhag plâu o dan y pennawd “place of origin”;”
(xvi) ar ôl eitem 106 mewnosoder—“
107. Planhigion, ac eithrio hadau, Rosa sp., sy’n tarddu o Ganada, India, Mecsico neu UDA Rhaid i’r planhigion ddod gyda thystysgrif ffytoiechydol neu dystysgrif ffytoiechydol ar gyfer ailallforio sy’n cynnwys datganiad swyddogol:
(a) eu bod wedi eu tyfu drwy gydol eu bywyd mewn ardal a sefydlwyd gan y sefydliad gwarchod planhigion cenedlaethol yn y wlad y mae’r planhigion yn tarddu ohoni yn unol ag ISPM Rhif 4 yn ardal sy’n rhydd rhag Firws roséd rhosynnau a Phyllocoptes fructiphilus (Keifer 1940); a
(b) eu bod wedi eu pecynnu mewn ffordd sy’n atal heigio gan Phyllocoptes fructiphilus (Keifer 1940) wrth eu cludo.Pan fo’r dystysgrif ffytoiechydol neu’r dystysgrif ffytoiechydol ar gyfer ailallforio yn cynnwys y datganiad swyddogol y cyfeirir ato ym mharagraff (a), rhaid hefyd grybwyll enw’r ardal ar y dystysgrif o dan y pennawd “Additional declaration”
108. Planhigion mewn meithriniad meinwe Rosa sp., sy’n tarddu o Ganada, India, Mecsico neu UDA Rhaid i’r planhigion ddod gyda thystysgrif ffytoiechydol neu dystysgrif ffytoiechydol ar gyfer ailallforio sy’n cynnwys datganiad swyddogol eu bod wedi eu cynhyrchu o blanhigion tarddiol a brofwyd ac y canfuwyd eu bod yn rhydd rhag Firws roséd rhosynnau”;
(b) yn Rhan B—
(i) ar ôl eitem 4 mewnosoder—“
4A. planhigion, ac eithrio hadau, Juglans L. neu Pterocarya Kunth, a fwriedir ar gyfer eu plannu Rhaid i’r planhigion ddod gyda datganiad swyddogol:
(a) eu bod wedi eu tyfu drwy gydol eu bywyd, neu ers eu cyflwyno i’r Undeb Ewropeaidd, mewn man cynhyrchu mewn ardal a sefydlwyd yn unol ag ISPM Rhif 4 yn ardal sy’n rhydd rhag Geosmithia morbida Kolarik, Freeland, Utley a Tisserat a’i fector Pityophthorus juglandis Blackman;
(b) eu bod:
(i) yn tarddu o fan cynhyrchu lle nad yw symptomau Geosmithia morbida Kolarik, Freeland, Utley a Tisserat na’i fector Pityophthorus juglandis Blackman, neu bresenoldeb y fector, wedi eu gweld yn ystod arolygiadau swyddogol o’r man cynhyrchu a’i gyffiniau (sef, o leiaf, yr ardal o fewn radiws o 5km i’r man cynhyrchu) a gynhelir yn y cyfnod o ddwy flynedd cyn eu symud;
(ii) y cynhaliwyd arolygiad gweledol ohonynt yn union cyn eu symud o’r man cynhyrchu; a
(iii) eu bod wedi eu trin a’u pecynnu mewn ffyrdd sy’n atal eu heigio ar ôl iddynt adael y man cynhyrchu; neu
(c) eu bod:
(i) yn tarddu o fan cynhyrchu sydd wedi ei ynysu yn ffisegol yn llwyr;
(ii) wedi eu harolygu yn weledol yn union cyn eu symud o’r man cynhyrchu; a
(iii) eu bod wedi eu trin a’u pecynnu mewn ffyrdd sy’n atal eu heigio ar ôl iddynt adael y man cynhyrchu”;
(ii) ar ôl eitem 44 mewnosoder—“
44A. Peiriannau neu gerbydau sydd wedi eu gweithredu at ddibenion amaethyddol neu goedwigaeth Rhaid i’r peiriannau neu’r cerbydau:
(a) bod wedi eu symud o ardal a sefydlwyd yn unol ag ISPM Rhif 4 yn ardal sy’n rhydd rhag Ceratocystis platani (J.M. Walter) Engelbr. a T.C. Harr. neu barth gwarchod a gydnabyddir yn barth gwarchod ar gyfer Ceratocystis platani (J.M. Walter) Engelbr. a T.C. Harr.); neu
(b) yn achos unrhyw beiriannau neu gerbydau a symudir allan o ardal sydd wedi ei heigio â Ceratocystis platani (J.M. Walter) Engelbr. a T.C. Harr., wedi eu glanhau ac yn rhydd rhag pridd a gweddillion planhigion cyn eu symud allan o’r ardal”;
(iii) ar ôl eitem 45 mewnosoder—“
45A. Hadau Solanum lycopersicum L. Rhaid i’r hadau ddod gyda datganiad swyddogol eu bod wedi eu cael drwy ddull echdynnu ag asid priodol ac:
(a) eu bod yn tarddu o ardal lle y gwyddys nad yw Firws amryliw pepino yn bresennol;
(b) na welwyd unrhyw symptomau Firws amryliw pepino ar y planhigion yn y man cynhyrchu yn ystod eu cylch llystyfiant cyflawn; neu
(c) eu bod wedi bod yn destun profion swyddogol ar gyfer Firws amryliw pepino ar sampl gynrychioliadol a chan ddefnyddio dulliau priodol, a bod y profion hynny wedi dangos eu bod yn rhydd rhag Firws amryliw pepino.”
(iv) hepgorer eitem 46;
(v) ar ôl eitem 57 mewnosoder—“
57A. Planhigion penodedig o fewn ystyr Erthygl 1(b) o Benderfyniad (EU) 2018/1503 sy’n tarddu o ardal a sefydlwyd yn unol ag Erthygl 5 o’r Penderfyniad hwnnw, neu a gyflwynwyd i fan cynhyrchu mewn ardal o’r fath Rhaid i’r planhigion ddod gyda datganiad swyddogol:
(a) yn achos planhigion sy’n tarddu o ardal a sefydlwyd yn unol ag Erthygl 5 o Benderfyniad (EU) 2018/1503, eu bod wedi eu tyfu yn ystod cyfnod o ddwy flynedd o leiaf cyn eu symud, neu yn achos planhigion sy’n iau na dwy flynedd, drwy gydol eu bywyd, mewn man cynhyrchu sy’n bodloni’r gofynion a bennir yn Erthygl 7(2) i (5) o’r Penderfyniad hwnnw;
(b) yn achos planhigion a gyflwynwyd i fan cynhyrchu mewn ardal a sefydlwyd yn unol ag Erthygl 5 o Benderfyniad (EU) 2018/1503, bod y man cynhyrchu yn bodloni’r gofynion a bennir yn Erthygl 7(2) i (4) o’r Penderfyniad hwnnw”;
(c) yn Rhan C—
(i) yn eitem 2, yn y cofnod yn yr ail golofn, ar ôl “hadau,” mewnosoder “Cedrus Trew neu”;
(ii) ar ôl eitem 8 mewnosoder—“
8A. Planhigion Euphorbia pulcherrima Willd., a fwriedir ar gyfer eu plannu, y ceir tystiolaeth o’u deunydd pecynnu neu o ddatblygiad eu blodau neu drwy ddulliau eraill eu bod wedi eu bwriadu ar gyfer eu gwerthu yn uniongyrchol i gwsmeriaid terfynol nad ydynt yn ymwneud â chynhyrchu planhigion yn broffesiynol, ac eithrio:
— hadau, neu
— toriadau wedi eu diwreiddio Rhaid i’r planhigion ddod gyda datganiad swyddogol eu bod wedi eu harolygu yn swyddogol ac y canfuwyd eu bod yn rhydd rhag Bemisia tabaci Genn. (poblogaethau Ewropeaidd) yn union cyn eu symud”;
(iii) yn eitem 9—(aa) yn y cofnod yn yr ail golofn, ar ôl “hadau,” mewnosoder “Ajuga L., Crossandra Salisb.,”;(bb) yn y cofnod yn y drydedd golofn, ym mharagraff (c), ar ôl “cynhyrchu”, yn y lle olaf y mae’n digwydd, mewnosoder “(rhaid bod yr olaf ohonynt wedi ei gynnal yn union cyn eu symud)”.
Atodlen 5
8 
Yn Atodlen 5, yn Rhan A—
(a) ym mharagraff 3—
(i) yn lle is-baragraff (i) rhodder—“
(i) canghennau wedi eu torri Fraxinus L., Juglans L., Ulmus davidiana Planch. neu Pterocarya L., gyda deiliant neu heb ddeiliant, sy’n tarddu o Ganada, Tsieina, Gweriniaeth Ddemocrataidd Pobl Korea, Japan, Mongolia, Gweriniaeth Korea, Rwsia, Taiwan neu UDA;”;
(ii) ar ôl is-baragraff (i) mewnosoder—“
(ia) Convolvulus L., Ipomoea L. (ac eithrio cloron), Micromeria Benth neu Solanaceae sy’n tarddu o Awstralia, cyfandiroedd America neu Seland Newydd; neu”;
(b) ym mharagraff 5—
(i) yn is-baragraff (a), yn lle “, Solanum lycopersicum L. neu Solanum melongena L.” rhodder “neu Solanaceae”;
(ii) yn lle is-baragraff (b) rhodder—“
(b) Actinidia Lindl., Annona L., Carica papaya L., Cydonia Mill., Diospyros L., Fragaria L., Malus L., Mangifera L., Passiflora L., Persea americana Mill., Prunus L., Psidium L., Pyrus L., Ribes L., Rubus L., Syzygium Gaertn., Vaccinium L. neu Vitis L.;”;
(iii) hepgorer is-baragraff (c);
(c) hepgorer paragraff 7;
(d) yn lle paragraff 8 rhodder—“
8. 
Cyfrwng tyfu, sydd ynghlwm â phlanhigion neu’n gysylltiedig â hwy, a fwriedir i gynnal bywiogrwydd y planhigion hynny, sy’n tarddu o unrhyw drydedd wlad ac eithrio’r Swistir.”;
(e) ar ôl paragraff 8 mewnosoder—“
8A. 
Peiriannau neu unrhyw gerbyd, a fewnforiwyd o unrhyw drydedd wlad, sydd wedi eu gweithredu at ddibenion amaethyddol neu goedwigaeth ac sy’n bodloni un o’r disgrifiadau a bennir ym mhwynt 7.1 o Atodiad 5, Rhan B, Adran 1 i Gyfarwyddeb 2000/29/EC.”;
(f) hepgorer paragraff 11;
(g) hepgorer paragraff 14 a mewnosoder (fel cofnod dilynol)—“
14A. 
Planhigion penodedig o fewn ystyr Erthygl 1(b) o Benderfyniad (EU) 2018/638.”
(h) ar ôl paragraff 15 mewnosoder—“
15A. 
Planhigion, ac eithrio hadau, Rosa sp., sy’n tarddu o Ganada, India, Mecsico neu UDA.”.
Atodlen 6
9 
Yn Atodlen 6—
(a) yn Rhan A—
(i) ym mharagraff 7(a)—(aa) ar ôl “Impatiens L.,” mewnosoder “Juglans L.,”;(bb) ar ôl “Pseudotsuga Carr.,” mewnosoder “Pterocarya L.,”;
(ii) hepgorer paragraff 10;
(iii) ar ôl paragraff 18 mewnosoder—“
18A. 
Planhigion penodedig o fewn ystyr Erthygl 1(b) o Benderfyniad (EU) 2018/1503 sy’n—
(a) (tarddu o drydedd wlad lle y gwyddys bod Aromia bungii (Faldermann) yn bresennol; neu
(b) tarddu o, neu wedi eu cyflwyno i, fan cynhyrchu mewn ardal a sefydlwyd yn unol ag Erthygl 5 o Benderfyniad (EU) 2018/1503.”;
(b) yn Rhan B, ym mharagraff 20, ar ôl “hadau,” mewnosoder “Cedrus Trew,”.
Atodlen 7
10 
Yn Atodlen 7—
(a) yn Rhan A—
(i) ym mharagraff 7(a)—(aa) ar ôl “Impatiens L.,” mewnosoder “Juglans L.,”;(bb) ar ôl “Pseudotsuga Carr.,” mewnosoder “Pterocarya L.,”;
(ii) hepgorer paragraff 10;
(iii) ar ôl paragraff 18 mewnosoder—“
18A. 
Planhigion penodedig o fewn ystyr Erthygl 1(b) o Benderfyniad (EU) 2018/1503 sy’n—
(a) tarddu o drydedd wlad lle y gwyddys bod Aromia bungii (Faldermann) yn bresennol; neu
(b) tarddu o, neu wedi eu cyflwyno i, fan cynhyrchu mewn ardal a sefydlwyd yn unol ag Erthygl 5 o Benderfyniad (EU) 2018/1503.”;
(b) yn Rhan B, ym mharagraff 21, ar ôl “Beta vulgaris L.,” mewnosoder “Cedrus Trew,”.
Lesley Griffiths
Gweinidog yr Amgylchedd, Ynni a Materion Gwledig, un o Weinidogion Cymru
24 Medi 2019