
2019 Rhif 1278 (Cy. 222)
Landlord A Thenant, CymruDaliadau Amaethyddol
Rheoliadau Amaethyddiaeth (Cyfrifo Gwerth Digollediad) (Dirymiadau) (Cymru) 2019
Gwnaed 24 Medi 2019
Gosodwyd gerbron Cynulliad Cenedlaethol Cymru 26 Medi 2019
Yn dod i rym 1 Tachwedd 2019
Mae Gweinidogion Cymru yn gwneud y Rheoliadau a ganlyn drwy arfer y pwerau a roddir gan adran 66(2) o Ddeddf Daliadau Amaethyddol 1986.
Enwi, cymhwyso a chychwyn
1 

(1) Enw’r Rheoliadau hyn yw Rheoliadau Amaethyddiaeth (Cyfrifo Gwerth Digollediad) (Dirymiadau) (Cymru) 2019.
(2) Mae’r Rheoliadau hyn yn gymwys o ran Cymru.
(3) Daw’r Rheoliadau hyn i rym ar 1 Tachwedd 2019.
Dirymiadau
2 
Mae’r Rheoliadau a ganlyn wedi eu dirymu—
(a) Rheoliadau Amaethyddiaeth (Cyfrifo Gwerth Digollediad) 1978;
(b) Rheoliadau Amaethyddiaeth (Cyfrifo Gwerth Digollediad) (Diwygio) 1980;
(c) Rheoliadau Amaethyddiaeth (Cyfrifo Gwerth Digollediad) (Diwygio) 1981;
(d) Rheoliadau Amaethyddiaeth (Cyfrifo Gwerth Digollediad) (Diwygio) 1983.
Lesley Griffiths
Gweinidog yr Amgylchedd, Ynni a Materion Gwledig, un o Weinidogion Cymru
24 Medi 2019