
2019 Rhif 1269 (Cy. 220)
Llywodraeth Leol, Cymru
Gorchymyn Awdurdodau Lleol (Newid Blynyddoedd Etholiadau Cyffredin) (Cymru) 2019
Gwnaed 17 Medi 2019
Gosodwyd gerbron Cynulliad Cenedlaethol Cymru 20 Medi 2019
Yn dod i rym 6 Tachwedd 2019
Mae Gweinidogion Cymru yn gwneud y Gorchymyn a ganlyn drwy arfer y pwerau a roddir i Gynulliad Cenedlaethol Cymru gan adrannau 87, 105(2), (3), (4)(c) a 106(1) o Ddeddf Llywodraeth Leol 2000 ac a freiniwyd bellach ynddynt hwy.
Enwi, cychwyn a dehongli
1 

(1) Enw’r Gorchymyn hwn yw Gorchymyn Awdurdodau Lleol (Newid Blynyddoedd Etholiadau Cyffredin) (Cymru) 2019.
(2) Daw’r Gorchymyn hwn i rym ar 6 Tachwedd 2019.
(3) Yn y Gorchymyn hwn, ystyr “Deddf 1972” yw Deddf Llywodraeth Leol 1972.
Awdurdodau lleol penodedig
2 

(1) Mae pob awdurdod lleol sy’n dod o fewn disgrifiad o awdurdod lleol ym mharagraff (2) yn benodedig at ddibenion y Gorchymyn hwn.
(2) Y disgrifiadau o awdurdod lleol yw—
(a) cyngor ar gyfer sir neu fwrdeistref sirol yng Nghymru;
(b) cyngor ar gyfer cymuned yng Nghymru.
Newid blynyddoedd etholiadau cyffredin
3 

(1) Mae’r blynyddoedd pryd y cynhelir etholiadau cyffredin cynghorwyr i’r awdurdodau lleol a bennir yn erthygl 2 wedi eu newid gan y diwygiadau a ganlyn i Ddeddf 1972.
(2) Yn adran 26(1) o Ddeddf 1972 (ethol cynghorwyr), yn lle “2017”, ym mhob lle y mae’n digwydd, rhodder “2022”.
(3) Yn adran 35(2) o Ddeddf 1972 (cynghorwyr cymuned), yn lle “2017” rhodder “2022”.
Cyfnod swydd cynghorwyr presennol
4 
Yn unol â hynny, mae cyfnod swydd cynghorwyr presennol o dan adran 26(2) ac adran 35(2A) o Ddeddf 1972 wedi ei estyn gan un flwyddyn.
Dirymu
5 
Mae Gorchymyn Etholiadau Awdurdodau Lleol (Cymru) 2014 wedi ei ddirymu.
Julie James
Y Gweinidog Tai a Llywodraeth Leol, un o Weinidogion Cymru
17 Medi 2019