
2019 Rhif 120 (Cy. 31)
Ymadael Â’r Undeb Ewropeaidd, Cymru
Cydraddoldeb, Cymru
Rheoliadau Deddf Cydraddoldeb 2010 (Dyletswyddau Statudol) (Cymru) (Diwygio) (Ymadael â’r UE) 2019Gofynion sifftio wedi eu bodloni14 Ionawr 2019
Gwnaed 28 Ionawr 2019
Gosodwyd gerbron Cynulliad Cenedlaethol Cymru 30 Ionawr 2019
Yn dod i rym yn unol â rheoliad 1

Mae gofynion paragraff 4(2) o Atodlen 7 i Ddeddf yr Undeb Ewropeaidd (Ymadael) 2018 (sy’n ymwneud â’r weithdrefn graffu briodol ar gyfer y Rheoliadau hyn) wedi eu bodloni.

Mae Gweinidogion Cymru yn gwneud y Rheoliadau a ganlyn drwy arfer y pwerau a roddir iddynt gan adran 11 o’r Ddeddf honno, a pharagraff 1(1) o Atodlen 2 iddi.
Enwi a chychwyn
1 
Enw’r Rheoliadau hyn yw Rheoliadau Deddf Cydraddoldeb 2010 (Dyletswyddau Statudol) (Cymru) (Diwygio) (Ymadael â’r UE) 2019 a deuant i rym ar y diwrnod ymadael.
Diwygio Rheoliadau Deddf Cydraddoldeb 2010 (Dyletswyddau Statudol) (Cymru) 2011
2 
Yn rheoliad 18 (caffael cyhoeddus) o Ddeddf Cydraddoldeb 2010 (Dyletswyddau Statudol) (Cymru) 2011, ym mharagraff (3), yn lle “y Gyfarwyddeb Sector Cyhoeddus”, yn y ddau le y mae’n digwydd, rhodder “Rheoliadau Contractau Cyhoeddus 2015”.
Jane Hutt
Y Dirprwy Weinidog a’r Prif Chwip, o dan awdurdod Gweinidogion Cymru
28 Ionawr 2019